Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

-..-CYNRWYSIAD. I

. H A N E S Y PUM MLYNEDD…

CENADWRI ARBENIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CENADWRI ARBENIG. AT DRYSORYDDION, AC YSGRIFENYDDION SIROL, A BLAENüRIAID YR EGLWYSI. Y MAE y Symmudiad Ymosodol mewn cyfwng difrifol S Hysbysa y trysorydd cyffredinol nad oes dim arian mewn llaw at dalu y 300p. grants am Tachwedd sydd i'w talu ar y 15fed o Ragfyr, na dim at dalu y 300p. wed'yn ar y 15fed o Iocawr, ac yn yr un cyflwr at y 15fed o Chwefror. Felly, bydd 900p. yn eisieu cyn y daw casgliadau dechreu 1906 i law. Taer erfynir arnoch gael cyfran o gasgl- iadau blynyddol yr WYTHNOS WEDDIO i law i'w hanfon i'r trysorydd erbyn y 15fed o Ionawr, er mwyn talu yr over-draft am y mis hwn i'r bangc. Gwrthnaws hollol, ac anfoddlawn iawn ydym i fenthyca o'r bange i Iesu Grist, at achubiaeth eneidiau Y mae hwn yn achos rhy dynerol ac agos at feddwl ein Gwaredwr i commercial transaction o'r fath yna, Gwnai pin cyfeillion cyfoethog, y rhai y mae Duw wedi bod ac yn bod mor dda wrthynt, yn dda i beidio gadael i'r fath tran- saction gymmeryd lie yn eu hanes hwy a benthyca o'r bangc. Gwnai ein cyfeillion anwyl sicrhau iddynt eu hunain gyfathrach anwyl a'r Gwaredwr trwy anfon eu rhodd- ion, nid gweddill o'u rhan o'r da,' i'r Trysor- ydd, Lewis Ellis, neu i Dr. Pne;h—sydd heddyw mewn gwaeledd mawr, dan bryder dirfawr ar yr achos hwn; a bydd rhaid iddo fyned o'r wlad am adferiad iechyd ac arbed- iad bywyd ar frye. Dyna'r genadwri arbenig ger eich bron. I Y neb sydd ganddo glustiau, gwrandawed.' Caiff enwau y cyfroddwyr ymddangos yn y FANER a'r Torch,

[No title]