Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
10 erthygl ar y dudalen hon
YR AILODAU CYMREIG A DADGYSSYLLTIAD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR AILODAU CYMREIG A DADGYSSYLLTIAD. YMGYNNULLODD aelodau y Blaid Seneddol Gym- reig yn y Devonshire Club, St. James's, pryd- nawn dydd Llun, i ystyried safle y blaid ynglyn & cbweatiwn Dadgyssylltiad, yn ngwyneb y cyf- newidiad Gweinyddiaeth sydd bellach wedi cym- meryd lie. I'r bobl hyny sydd yn hoff o chwilio am gynnen lie nad ydyw, hwyrach nad anfudd- iol fyddai i mi gofnodi y flaith fod cadeirydd y blaid a'r Gwir Anrhydeddus D. Lloyd-George (o blegid dyma ei deitl priodol yn awr) yn hollol gyttuno o bertbynas i'r doetnineb o alw y cyfar- fod. Yr oedd yn bresennol, Syr Alfred Thomas (yo y gadair), Y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd- George, y Mri. Herbert Lewis, Herbert Roberts, Ellis Griffith, Samuel Moss, William Jones, Bryn Roberts, Vaugban Davies, Wynford Phil- lipps, Brynmor Jones, Frank Edwards, a Reginald McKenna. Y petb cyntaf a wnaetbpwyd ydoedd pasio pleidlais o gydymdeimlad 3, Mrs. Humphreys Owen, a'r teulu, o blegid marwolaeth y diweddar aelod dros Faldwyn, Cyflwynwyd o'r gadair, a phasiwyd yn unfrydol, benderfyniad o longyf- archiad calonog i Syr Henry Gampbell-Banner- man ar ei bennodiad yn Brifweinido?, ac ar ei waith yn ffurfio Gweinyddiaeth Ryddfrydig gref. Llongyfarchwyd, hefyd, yn y modd mwy- af gwresog, Mr. Lloyd-George ar ei bennodiad yn Llywydd Bwrdd Masnach. Yna aethpwyd yn mlaen i drafod pwngc arbenig yr ymgyfar- fyddiad. Da genym ddyweyd fod cyd-ddeallt- wriaeth unfrydol wedi ei gyrhaeddyd ar y mater, ac y mabwysiedir moddion ar unwaith i gy- hoeddi polisi cenedlaethol Cymr3ig mewn cyn- nadledd gyffredinol i gael ei chynnal yn Nghaer- narfon ar yr 28ain o'r mis presennol. Ystyr yr hyn ydyw, o ddarllen rhwng y llinellau, fod y Blaid Gymreig wedi derbyn sicrwydd boddhaol ar bwngc Dadgyssylltiad gan y Prifweinidog. Yr ydym yn deall na bydd eisieu etholiad acblysurol ynglyn & phennodiad Mr. Lloyd- George, ac eraill o aelodau y Weinyddiaeth, ond yr ettyb y frwydr gyffredinol y tro.
ARGLWYDD ROSEBERY AR Y LLYWODRAETH…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ARGLWYDD ROSEBERY AR Y LLYWODRAETH NEWYDD. WRTH anerch Cyngbor y Cynghrair Rhyddfryd- ig yn Llundain dydd Llun, cyfeiriodd Arglwydd Uosebery at y eyfnewidiad yn y Llywodraeth. Llongyfarchodd y Prifweinidog ar y safle oedd efe wedi ei hennill-safle oedd yn ddyledus yn hollol i'w ffyddlondeb a'i ymroddiad parhaus ar ran y blaid Ryddfrydig. Llongyfarch- odd, hefyd, y gwaed newydd oedd yn y Llywodraeth, ac yn neillduol felly bedwar is lywydd y Cynghrair ar eu gwaith yn cael eu pennodi yn aelodau o'r Weinyddiaeth. Yr oedd yn parhau i lynu at ei esboniad ef ar araeth Syr Henry Campbell-Bannerman yn Stirling, a dadl- euai, os oedd yna unrhyw gamgymmeriad ar ei ran ef y gallasai yr arweinydd Rhyddfrydig yn rhwydd glirio y ffordd. Dangosai presennoldeb pedwar Is-lywydd y Cynghrair yn y Weinydd- iaetb, modd bynag, eu bod wedi derbyn sicr- wydd ar y pwynt; a chan ysgubo araeth Bodmin ymaith yn hollol, gwnaeth appol at holl aelodau y blaid i wneyd pob ymdrech i sicrhau i'r Llywodraeth bresennol y cyfryw fwyafrif yn yr etholiad agoshaol ag a'i gwnai, nidyii unigyn annibynol ar y blaid Wyddelig, ond un a sicr- haai fuddugoliaeth gyflawn a therfynol i achos Masnach Rydd.
MARWOLAETH MR. HUMPHREYS OWEN,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARWOLAETH MR. HUMPHREYS OWEN, A S. DRWG genym gofnodi marwolaeth Mr. ■ Arthur Charles Humphreys-Owen, yr AS. dros sir Drefaldwyn, yr hyn a gymmerodd le prydnawn dydd Sadwrn, yn Glansevern-ei balas yn sir Drefaldwyn. Yr oedd Mr. Humphreys-Owen yn un o'r aelodau Rhyddfrydig mwyaf adna- byddus yn Nghymru, ac yr oedd wedi cymmer- yd rhan flaenllaw ynglyn ag addysg yn Nghymru er'a llawer o flynyddoedd. Cyfar- fyddodd yi aelod anrhydeddus a damwain yn Llundain yn ystod y rhan gyntaf o'r senedd- dymmor diweddaf; ac ni cbymmerodd ond ych ydig ran mewu gwaith cyhooddua o'r arn&er hwnw. Ganwyd Arthur Charles Humphreys ar y 9fed o Dacbwedd, 1836. Yr oedd yn fab i Mr. Erskioe Humphreys, bargyfreithiwr, ac Eliza, merch Dr. Edward Johnes, Qarthmyi. Derbyn- iodd ei addysg yn Harrow ac vn Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lie y graddiodd ar ol hyny yn M A. Galwyd ef yr fargyfreithiwr yn Lincolns Inn yn 1864, a bu yn dilyn yr alwed- igaeth hwnw am ryw gyrnmaint o amser yn y Canghell lys. Yn y flwyddyn 1875 priododd Maria, merch y diweddar Mr. James Russell, Q a., yr hon sydd yn awr yn fyw. 0 dan waddol gan y ddiweddar Mrs. Ann Warburion Owen, percheno^es yst&d Glausevarn, yn cynnwys agos i 8,000 o erwau yn mhlwyfi Berriew, Castel] Caereinion, a Llavgurig, daeth yn bsrchecog yr eiddo; ac yn 1876, cymmerodd yr enw Owen, yn unol A. darpariaethau y gwaddol. Yn 1894 safodd yn ymgeisydd Rhyddfrydig dros sir Dref aldwyn, ar ddyrchafiad yr aelod y pryd hwnw (Mr. Stuart Rendel) i Dy yr Arglwyddi, pan y dychwelwyd 6f; ac y mae wedi cynnrychioli y air byth er hyny. Ar sefydliad y cynghorau sirol yn 1888, etholwyd ef yn gadeirydd cyotaf y corph hwnw ac y mae wedi cael ei ail ben- nodi bob blwyddyn byth er hyny; tra yr oedd wedi bod yn Ilenwi y swydd o ddirprwy gadeir- ydd brawdlys chwsrterol y sir am nifer o flynyddoedd, fel olynydd i Mr. C. W. W. Wynn. Rai blynyddoedd yn ol etholwyd ef yn gyfar- wyddwr Cwmni Ffordd Haiarn y Cambrian,' a daeth yn gadeirydd y cwmoi hwnw wedi hyny, yn gyatal a Chwmni Ffordd Haiarn Canolbarth Cymrn. Rhoddodd y swydd o gadeirydd y cwmni i fyny yn ystod yr hfif diweddaf, ond parhaodd i fod yn un o gyfarwyddwyr y cwmDi. Cymmerodd Mr. Humphreys Owen ran mewn bywyd cyhoeddus am lawer o flynyddoedd. Gwnaeth wasanaeth rha-gorol ynglyn ag addysg yn Nghymru. Yr oedd yn wrthwynebydd pybyr i Gyfraith 1902. Yr oedd yu llywodr- aethwr Coiog Aberystwytb, ac yn aelod o Lys Prifysgol Cymru. Nid ydyw yn debyg y cymmer etholiad ach- lyaurol Ie am y s6id wag a achoswyd trwy farw- olaeth Mr. Humphreys Uwen.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Gellir anfon llythyr i'r Aipht a Soudan am geiuiog ar ol y 15fed o Ragfyr.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Trwst dynesiad yr etholiad cyffredinol.-Nid oes ammheuaeth erbyn hyn na fyddwn yn nghanol berw etholiad cyffredinol ar fyrder; mae nerth trwst ei ymdaith ar ein clustiau yn brawf digonol ei fod wedi dyfod yn lied agos atom. A'r ymofyniad yn meddwl pawb yn awr ydyw, Beth lydd y canlyniad ? Gan nad pa mor ddisglaer hynag oedd rhagolygon y blaid Ryddfrydig rai wythnosau yn ol, tueddu i gym- mylu y maent fei yr ydym yn myned rhagom. Barn llawer ydyw mai y peth doethaf i Syr H. Campbell-Bannerman fuasai gwrthod derbyn swydd Prifweinidog, nac ymgymmeryd a ffurfio gweinyddiaeth, heb gael dadgorphoriad ac ethol- iad cyffredinol yn gyntaf, ac y mae y llwybr a gymmerwyd gan Mr. Balfour yn eu cadarnhau yn nghywirdeb y farn hono ond bydded a fyddo am hyny, derbyn y swydd a wnaeth C. B., gan gredu, yn ddiau, mai hyny oedd oreu er ei les. Myn y rhai y cyfeiriais atynt na fydd yn hir cyn cael ei argyhoeddi ddarfod iddo wneuthur cam- gymmeriad. Achwyn arno a glywir hefyd o'r un cyfeiriad am ail godi bwgan yr Ymreolaeth Gwyddelig, canys efe a gyll lawer trwy hyny, heb ennill dim. Ond camachwyn ydyw hwnw. Mae ei ddistawrwydd ef, yn gystal ag eraill o flaenoriaid y blaid Ryddfrydig, ar bwngc Dad- sefydliad a Dadwaddoliad yn Nghymru yn peri i ni y ffordd yma ofni nad oes fwriad i wneuthur nemawr ddim i Hen Wlad y Bryniau yn amgen na'i gosod i eiatedd o'r bu cefn, a pheri iddi fod yn ddistaw am ei hachos, cyhyd ag y byddo gwaitb arall yn cael ei ddwyn yn mlaen. Mau rhoddi swydd i Mr. Lloyd-George o fewn y Weinyddiaeth ei hun yn ddigon o atteb I'r en- syniad hwn. Ond afreidiol ydyw manylu ar bethau heddyw. Nid ydyw y sibrwd fod cyn- nrychiolwyr Llafur yn amcanu encilio yn llwyr oddi wrth y blaid Ryddfrydig, ynghyd Ar am- rywiaeth barn hbnedig yn mhlith gwyr blaenaf y blaid, yn meddu nemawr sail, os dim, sôn am argoelion amlwg nad oes genym sail i ddiagwyl rhyw lawer oddi wrth y Llywodraeth nesaf etto, er iddi fod yn Llywodraeth Ryddfrydig. Yn wir, yn hytracb, diagwylir llawer, hyd yn oed i Gymru, oddi wrth Lywodraeth mor gref a'r newydd hon. Ond rhaid caniatau amser iddi. Rhaid penderfynu Cwestiwn Addysg yn Nghymru, er engbraifft, yn gyntaf. Nid wyf yn cael fod y brwdfrydedd a'r aiddgarwch yn fawr yn y parthau hyn etto. Dichon fod rhe- swm neillduol am dawelwch y Rhyddfrydwyr yn y darn hwn o'r wlad sef, cyflwr di-obaith y Toriaid i allu gwneuthur dim o honi yn yr etholiad nesaf. Y sefyllfa yn Gower.- Mae yn argoeli bod yn ymdrechfa galed yn Rhanbarth Gower rhwng yr ymgeisydd Bhyddfrydig a'r ymgeisydd Llafur ac fe ddywedir yn awr fod Mabon, ar ol deall pob peth ynglyn a'r sefyllfa, wedi addaw gwneuthur yr oil a fedro efe o blaid y Llafurwr yn erbyn y Rhyddfrydwr. 0 ran y ddau ym- geisydd sydd eisoes ar y maea, tebygwyf na fydd o nemawr bwys i'r wlad pa un o honynt a ddy- chwelir, gan fod y naill a'r Hall wedi eu gwneu- thur o'r un priddyn ond fe all y ffrwgwd rhyngddynt demtio Tori i ddyfod i'r maes, a rhoddi cyfleusdra iddo lithro i mewn rhwng y ddau. Toriaid Abertawe yn chwilio am ymgeisydd. -Mae Torlaid tref Abertawe yn brysur iawn yn chwilio am ymgeisydd i wrthwynebu Syr George Newces. Y blaenaf a fynent gael ydyw Syr Griffith Thomas, cadeirydd yr Harbour Trust; ac os methant gydag ef, y maent yn meddwl am y Milwriad Wright, cadeirydd Doc- iau Aberafan (Port Talbot). Dichon fod gwell siawns i Dori yn nhref Abertawe nag sydd mewn llawer o etholaethau yn y Deheudir. Plaid Llafur yn achosi blinder yn Nghas- newydd.-Mae tebygolrwydd yr awrhon y bydd ethoiiad tri-chornel yn Nghasnewydd, o her- wydd fod plaid Llafur yn dwyn allan un Mr. Winstone i wrthwynebu y ddau ymgeisydd sydd eisoes ar y maes. Os a Mr. Winstone, yr ym- geisydd Llafur i'r pdl, efe a berygla yn fawr ddy- chweliad Mr. Lewis Haslam, yr ymgeisydd Rhyddfrydig. Nid llawer o'r -gweithwyr sydd yn Doriaid yn Nghymru a'r cyffiniau, a'r ychyd- ig sydd y maent yn weddol sicr o sefyll at eu hochr. Y Rbyddfrydwyr a gaiff y niwed mwyaf oddi wrth y Llafurwyr Annibynol. Yr ymgeisydd Ceidwadol yn Mwrdeisdrefi Penfro wedi ymddiswyddo. Dydd Mawrth derbyniodd Pwyllgor Gweithiol Cymdeithas Geidwadol Bwrdeisdrefi Penfro ymddiswyddiad Mr. R. Mainwaring, eu hymgeisydd ar gyfer yr etholiad nesaf. Fe ddywedir na fu Mr Main- waring ar unrhyw adeg yn ymgeisydd cryf ac mewn canlyniad i rhyw ddadganiad annoeth a wnaeth efe yn Ninbych-y-Pysgod beth amser yn ol, am bolisi y Llywodraeth mewn perthynas i'r Dock Yard, yr oedd yn amlwg y byddai pleidlais yr iard hono yn lied gyfan yn ei erbyn ef. Felly, efe a farnodd mai y peth goreu iddo oedd ymddiswyddo a thebygol fod y pwyllgor yn falch o gael cyfleusdra i dderbyn ei ymddi- swyddiad. Etholaeth anwadal ei gwala ydyw Bwrdeisdrefi Penfro wedi arfet bod ond y mae y Toriaid ynddi ar hyn o bryd mewn cyflwr digon digalon i feddwl am sefyll brwydr. Yr olwg gyffredinol ar bethau yn y Deheudir. —Ni wyddom beth a fydd yfory mat un dydd weithiau yn esgor ar gyfaewidisdau mawrion. and cyn belled ag y geUir barnu oddi wrth yr olwg ar bethau yn bresennol, caiff nifer mawr o'r Rhyddfrydwyr yn Neheudir Cymru, ac fe allai y nifer mwyaf o honynt, eu dychwelyd yn ddiwrthwynebiad, Nid oes dim argoel y bydd un ymdrechfa etholiadol yn sir Gaerfyrddin, na chwaneg na hyny o argoel y bydd ymdrechfa yn yr oil o etholaethau Morganwg. Ymddengys fod y Ceidwadwyr dan ddyltnwad crediniaeth mai eu nerth hwy am y tro hwn ydyw bod yn llonydd. Eithr fel y dywedwyd, nid da bod yn sicr cyn yr amser, gan na wyddis beth a ddichon ddyfod i'r golwg ar yr unfed awr ar ddeg. Hanes blin o Nantyffyllon.-Yn Nantyffyllon, Maeateg, yn bwyr dydd Gweoer, cafwyi Eliza- beth Barnes, 26ain mlwydd oed, gwraig Charles Barnes, Heol tonna, glowr, yn farw ar y gwely. Yr olaf a'i gwelodd hi yn fyw oedd ei gwr, pan aeth efe allan i'w waith am chwech o'r gloct y boreu hwnw wedi iddo fyned allan hi a glddd y drws at ei ol ef. Pan ddychwelodd yn yr bwyr, a chael y drws yn ngblô, a methu o hono gael attebiad, efe a wthiodd y drws yn agored. Wedi myned i mewn cafodd ei wraig wedi ym- wisgo yn gyflawn, ac yn gorwedd yn farw ar y gwely. Dywedai Dr. Poterfield, pan ddaeth i'w I gweled, y rhaid ei bod wedi marw er's deng awr neu chwaneg na hyny. Yn llechu wrth ei hochr yr oedd baban saith mis oed, a baban arall dwy flwydd oed yn cysgu yn y gwely. Gan na sylw- odd neb o'r cymmydogion fod dim allan o le bu y rhai bychain heb ddim gofal drostvut, ac heb ddim bwyd, trwy ystod y dydd.
Y WEINYDDIAETH NEWYDD.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Y WEINYDDIAETH NEWYDD. CYMMERADWYAETH Y BRENIN. SWVDDI I MR. LLOYD GEORGE A MR JOHN BURNS. Y MAE Syr Henry Campbell Bannerman wedi llwyddo i lenwi yr holl swyddl yn y Weinydd- iaeth j ac y mae wedi dechreu ar y gwaith o leowl swyddi Hal pwyaig yn y Llywodraeth. Darfa i'r brenin, y Sabbath, arwyddo ei gym- meradwyaeth o'r enwau a osodwyd ger el fron gan y Prifweinidog. Hysbyswyd yn swyddogol fod y pennodiadau CMlynol wedi cael eu gwneyd :— Y WEINYDDIAETH. Prifweinidog a Phrif Arglwydd y Trysorlys Syr Henry Campbell Bannerman (5,000p). Arglwydd Ganghellydd-Syr Robert Reid (lO.OOOp.). Arglwydd Lywydd y Cynghor-Isrll Crewe (2,000p.). Arglwydd y Gyfrins^l—Ardalydd Ripon (2,()OOp.). Yegrlfenydd Cartrefol-Mr, H. J. Gladstone (5,000^.). Ysgrifenydd Tramor-Syr Edward Grey (5,000p.). Yagr fenydd Trefedigaethol-lirli Elgin (5,000/3.). "Ysgrifenydd Rhyfel-Mr. R. B. Haldane (5,000p.). Ysgrifenydd India- Mr. John Morley (5,000p,). Ganghellydd y Drysorfix-Mr. H. H. Asquith (5.000p. ). Prlf Arglwydd y Morlys-Arglwydd Tweed. mouth (4,500p.). Ysgrifenydd Yogotland-Mr. John Sinclair (2,000p.). Llywydd Bwrdd Masnach-Mr. D. Lloyd George (2,000p.). Llywydd Bwrdd y Llywodraeth Leal-Mr. John Burns (2,000p.). Llywydd Bwrdd Amaethyddlaeth- Iarll Carrington (2.000p.). Llywydd Bwrdd Addyag-Mr. Augustine Birrell, K. C. (2.000p.). Póstfelstr Cyffredlnol-Mr. S. H. Buxbon (2,500p.). Ganghellydd Duciaeth Lancaster—Syr H. H. Fowler (2,OOOp.). Prif Ysgrifenydd yr Iwerddon-Mr. James Bryce (4,525p.). HEB FOD YN Y WEINYDDIAETH. Arglwydd Raglaw yr lwerddon-Iarll Aber. deen (20,OOOp ). Arglwydd Ganghellydd yr lwerddoti-Argl. wydd Farnwr Walker (8,000p.). Prif Ddirprwywr y Gweithlan-Mr. L. V. Harcourt (2,000/?.).
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yn y Llywodraeth Ryddfrydig ddiweddaf nid oedd dim ond 16 o weinidogion yn y Wein- yddiaeth. Yn y Llywodraeth Undebol ddl. weddar yr oedd yna 18 yn ystod y blynyddoedd diweddar, tra yr oedd y nifer yn 19 cyn marw- olaeth Arglwydd Salisbury. Yn y mater o lenwi y awyddi yn y Weinyddiaeth yr unig wahaniaeth rhwng y WeinyddiaeSh Ryddfrydig newydd a'r Weinyddiaeth Undebol ddiweddar ydyw, fod yr Arglwydd Gangbellydd dros yr Iwerddon yn esel ei gynnwys gan yr Undeb- wyr, ac yn cael ei gau allan gan y Rhyddfryd- wyr, fod Syr Henry Campbell-Bannerman yn derbyo i'r Weinyddiaeth Canghellydd y Dduc faeth, tra nad oedd Mr. Balfour yn gwneyd, a bod Arglwydd Londonderry yn lienwi dwy swydd; sef, Llywydd y Cynghor, a Llywydd Bwrdd Addysg, tra yr oedd Syr H, Campbell Bannerman wedi pannodi gweinido-,ion gwa- hanol i'r swyddi hyn.
Y PRIFWEINIDOG A'R BRENIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PRIFWEINIDOG A'R BRENIN. Cychwynodd y Prifweinidog o Belgrave Square am cbwarter wedi chwech nos Sabbath, i fyned i Balas Buckingham. Yr oedd ei ysgrifenydd prelfat- y Cadben Sinclair-elsoes wedi gwneyd y trefniadau angenrheidiol ar gyfer yr ymwellad. Cyrhaeddodd y Prifwein- idog i Balas Buckingham am ngain mnnyd wedi chwech. Yr oedd nifer o beraonau wrth y pyrth oedd yn arwain i'r palas, ond yr oedd yna niwi trwchus yn digwydd bod ar yr adeg. Ychydig, mewn cymmhariaeth, ddarfu adnabod Syr Henry, ae nid oedd yna unrhyw arddang- oslad, fel yr un a gymmerodd le ar ei ymadaw- iad o'r palas, dydd Mawrth, ar ol iddo ymgymmeryd a'r gwaith o ffurfiol Llywodr- aeth. Yn yr ymsrynghoriad blaenorol yr oedd yr Arglwydd a'r Marchwas Disgwyl gyda'r brenin ond no Sabbath yr oedd Arglwydd Kenyon a Syr Condie Stephen wedi myned o'r palas rhyw ychydig cyn i Syr Henry gyrhaedd. Derbyniwyd y Prifweinidog gan Arglwydd Knollys, ysgrifenydd preifat y brenin, ac arweiniwyd ef yn ddioed yn mron i'r presennol- deb brenhinol. Gellir dyweyd, yn ymarierol, fod yr holl amser a dreullwyd yn y Palas wedi cael el gymmeryd i fyny mewn ymgynghoriad. Tra yr oedd Syr Henry yn gyru o'r palas am ddeng munyd wedi saith, darfu i rhyw nifer o wyr helog oedd wedi aros yno i ddisgwyl dorl allan i roddi cymmeradwyacth galonog iddo, Gyrodd yn ol i Belgrave Square, a gwnaed yn hysbys yn fuan ar ol hyny fod y brenin wedi rhoddi ei gymmeradwyaeth derfjmol i'r rhestr o aelodau oedd i ffnrfio y Llywodraethi
Y GWEINIDOGION NEWYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GWEINIDOGION NEWYDD. Y PRIFWEINIDOG. Y mae Syr Henry Campbell Bannerman, Llywodraeth newydd yr hwn sydd wedi derbyn cymmeradwyaeth y brenin, wedi bod yn cynnrychioli rhanbarth Stirling er 1868, ac wedi bod yn arwainydd y blaid Rydd- frydig yn Nhy y Cyffredin er Chwefror, 1899. Ganwyd ef yn 1836, a mab ieuengaf y diweddar Syr Henry James Campbell ydyw. Derbyniodd ei addysg yn Mhrifysgol Glasgow, a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Y mae wedl bod yn dal swydd fel Ysgrifenydd Cyllidol i'r Swydofa Rhyfel, 1871 i 1874, ac o 1880 f 1882; Ysgrifenydd y Mor lys, o 1882 i 1884; Prif Ysgritenydd yr Iwerddon, 1884 I 1885 Ysgrif. enydd Rhyfel, 1886, a. thrachefn vn 1892 i 1895. Cymmerodd yr enw chwanegol Bannerman o dan ewyllys ei ewythr, y diweddar Henry Bannerman, Honton Court, Kent. ARGLWYDD GANGHELLYDD. Ganwyd Syr Robert Thresie Raid, K. c., yn Corfu, yn 1846, a dychwelwyd ef yn aelod dros Henffirdd yn y flwyddyn 1880, Yn etholiad cyffredinol 1885 safodd dros sir Dam barton, ond gorchfygwyd ef Y flwyddyn ganlynol, modd bynag, dychwelwyd ef yn aelod seneddol drachefn dros ranbarth Dumfries, ac y mae wedi bod yn cynnrychloli yr un rhanbarth byth er hyny. Galwyd ef i fod yn fargyfreith- iwr, Inner Temple, yn 1871, a dyrchafwyd ef i'r faingc farnol yn mhen un mlynedd ar ddeg ar ol hyny. Daeth Syr Robert i Weinyddiaeth Rosebery yn 1891 fel Gyfreithlwr Cyffredinol. Ni ddahodd y swydd hon ond am ychydig o fisoerid; yr un flwyddyn pennodwyd ef yn Ddadieuydd Cyffredinol, fel olynydd i Syr John R gby. Gwnaed ef yn farcbog ya 1894, a daeth yn G. C. M G ya 1899, am ei wasanaoth yn achos cylafareddiad terfyndir Venezuela. YR YSGRIFENYDD CARTREFOL. Y mae Mr. Herbert J. Gladstone, pedwerydd raab y gwladwainydd Rhyddfrydig enwog, yn 51ain ml vydd oed, ac y mae wedi bod yn un o gynnrychiolwyr Leeds er y flwyddyn 1880. Ba yn ysgrifenydd preifat i'w dad, 1880-1; Argl wydd Ieuengaf y Trysorlys, 1881-5; Dirprwy Ddirprwywr Bwrdd y Gweithiau, 1885; VB. grifenydd Cyllidol y Swyddh Rhyfel, 1886 Ia-ysgrifenydd Cartrefol, 1892-4; a Phrif Ddirprwywr y Gweithiau. 1894-5. Pennodwyd ef yn Brif Chwip y Blaid Ryddfrydig yn lie y diweddar Mr. T. E. Ellis. YSGRIFENYDD TRAMOR. Syr Edward Grey, wyr Syr George Grey, yr ail farwnig, a gor-nai yr ail Iarll Grey, y gwladwein- ydd enwog, a anwyd yn Llundain 43.iin o flyn- yddoedd yn ol, ac y mae wedi bod yn cynnrych- ioli Berwick-on-Tweed er y flwyddyn 1885. Bu yn It-ysgrifenydd Tramor o 1892-5, a gwnaed ef yn gvfrin-gynghorwr yn 1902. Efe ydyw cadeir- ydd Cwmpeini Ffordd Hatarn y Gogledd Ddwvr- ain, ac y mae yn un o'r chwareuwyr goreu ar tennis. YSGRIFENYDD TREFEDIGAETHOL Y mae Victor Alexander Bruce, y nawfed Iarll Elgin a Kincardine, yn 56ain mlwydd oed, a daeth i mewn i'r teitl yn 1863. Bu yn Drysorydd y Teulu, a Phrit Ddirprwywr y Gweithiau ya 1886, a Rhaglaw India o 1894-9. YSGRIFENYDD INDIA. Y mae enw Mr. John Morley, mewn cyssylltiad a gwleidyddiaeth a llenyddiaetb, mor hysbys fel nad oes angen ond cofnodiad byr am ei fywyd seneddol. Brodor ydyw o Blackburn. Ei ymgais gyntaf i gael ei ddychwelyd yn aelod eeneddol ydoedd fel un o'r aelodau dros Westminster, yn 1880, tra yr oedd yn 42ain mlwydd oed. Tr6dd yr ymgais hono yn un aflwyddiannus; ond yn mhen tair blynedd ar ol hyny dychwelwyd ef dros Casuewydd-ar-Wysg, yr hon etholaeth a gyn- nrychiolodd, am y deuddeng mlynedd nesaf, Wedi iddo gael ei orchfygu yn yr etholiad eyflred- inol yn 1895, dychwelwyd ef dros ranbarth Mont- rose, vn 1896, a thrachefn yn 1900. Efe cedd Prif Ysgrifenydd yr Iwerddon yo nhrydeddgwein- yddiaeth Mr. Gladstone, a chymmerodd yr un swydd drachefn yn 1892. CANGHELLYDD Y DRYSORFA. Brodor o Morley, sir Gaerefrog, ydyw Mr. Herbert Henry Asquith, a chafodd ei eni yn 1852. Dychwelwyd ef i Dy y Oyffredin, i ddeohreu, yn etholiad gyffredinol 1886, ac y mae wedi cyn- nrychioli yr un etholaeth (Dwyrain Fife) byth er hyny. Yr oedd, trwy ei yrfa lwyddiannus yn Rhydychain, a'i lwyddiant fel bargyfreithiwr, wedi gwneyd enw iddo ei hun, cyn iddo gael ei ddychwelyd i'r senedd, ac yr oedd rhagfynegiadau ei gyfeillion gyda golwg ar y marc oedd yn debyg o adael ar y byd gwleidyddol yn cael eu cyfiawn- hau yn brysur. Nid oedd wedi bod yn y senedd ond am chwe blynedd, pan y pennodwyd ef yn Ysgrifenydd Cartrefol yn ngweinyddiaeth olaf Mr. Gladstone, swydd y parhaodd efe i'w dal pan y daeth Arglwydd Rosebery yn Brifweinldog. Ar 01 cwymp gweinyddiaeth Rosebery, ail ymaflodd Mr. Asquith yn ei ddyledswyddau fel bargyf- reithiwr. Cymmerodd ran fywiog yn y dadleuon ar Fesurau Addysg y Llywodraeth ddiweddar 3e y mae ei areithiau diweddar yn y wlad yn erbyn cynnygion cyllidol Mr. Chamberlain wedi chwan- egu llawer at ei enw da. PRIF ARGLWYDD Y MORLYS. Y mae Edward Majoribanks, ail fab Barwn Tweedmouth, yn ei 57&in flwydd o'i oedran. Dychwelwyd ef yn aelod seneddol yn 1890, fel aelod dros sir Berwick. Yr oedd yn Rheolwr y Teulu yn 1886, Ysgrifenydd Seneddol i'r Trysor, lys a Phrif Chwip y Rhyddfrydwyr yn 1892-4- ao Arglwydd y Gyfrin Set, a Changhellydd Duc- iaeth Lancaster, 1894-5. Dyrohafwyd ef i Dy yr Arglwyddi yn 1894. Bydd i Arglwydd Tweedmouth, yn bresennol, ymgymmeryd a'r arweinyddiaeth yn Nby yr Ar- glwyddi, gan fod afiechyd Iarll Spencer, yn an- ffodus, yn ei luddias i gyflawni y ddyledswydd hon. PRIF YSGRIFENYDD YR IWERDDON. Y mae Mr. James Bryce, yr hwn a anwyd yn 1838, wedi bod yn y'senedd er 1880-1 ddeobreu fel aelod dros Tower Hamlets, ac er 1885 dros Aberdeen. Fel Mr. Morley, y mae wedi ennill gryn enw iddo ei hun mewn gwleidyddiaeth a llenyddiaeth. 0 1870 i 1893 bu yn Broffeswr y Gyfraith Wladol yn Mhrifysgol Rhydychain; Yn 1886 y cafodd ef ei brofiad seneddol cyntaf, pan y bu yn Is-ysgrifenydd 'Iramor am bum mis. Yn 1892 gwnaeth Mr. Gladstone ef yn Ganghellydd Daciaeth Lancaster, gyda sedd yn y Weinydd- iaeth; ac yn mhen dwy flynedd ar ol hyny pen- nododd Arglwydd Rosebery ef yn Llywydd Bwrdd Masnach. LLYWYDD BWRDD MASNACH. Y mae Mr. D. Lloyd George wedi gwneyd enw iddo ei hun fel un o'r dadleuwyr seneddol goreu, ac fel areithiwr ar yr esgynlawr. Oafodd ei eni yn Manchester, yn 1863; dygwyd ef i fyny yn hollol yn Nghymru, ac mewn Rhyddfrydiaeth ac Y mneillduaeth Gymreig. Nid oedd ond dwy flwydd ar hugain oed pan y daeth allan fel ym- geisydd, ao yr ennillodd fwrdeisdrefl Caernarfon i'r Rhyddfrydwyr; ao er iddo, mewn etholiadau ar ol hyny, gael ei wrthwynebu gan y gwrthwyn- ebwyr cryfaf a alleaid eu sicrhan, y mae wedi dal y eedd yn barhaus. Gwnaeth Mr. Lloyd George argraph, i ddeohreu, fel dadleuydd di-ofn dros hawliau cenedlaethol i Gymru, yn gystal ag i'r Iwerddon ac Ysgotland; ae y mae yn parhau i ffafrio y cynllun i leihau y gwaith yn Westmin- ster trwy gael cynllun o Ymreolaeth oyflawn. Ar ol marwolaeth Mr. T. E. Ellis, I Parnell Cymru,' daeth Mr. Lloyd George i'r ffrynt, mewn modd Ct flym, fel gobaith newydd y Cenedlaethol- wyr Oymreig. Ni ddarfu iddo modd bynag, gyfyngu ei ddyddordeb i Gymru. Trwy ei bresen- coldeb oysson yn Westminster, a'r astudiaeth fwyaf gofalus o reolau y Ty, daeth yn felstr cyd- nabyddedig mewn cario gwaith seneddol yn mlaen. Yn y wlad, yn ystod y blynyddoedd diweddar, y mae ei enw wedi dyfod i fwy o fri yn barhaus fel dadleuydd dros egwyddorion Rhyddfrydig; ac yn y maea hwn, yn ystod rhai o'i ddyddiau tywyllaf, y mae wedi estyn i'w blaid wasanaeth o'r radd uchaf, Yn ddiweddar y mae wedi rhoddi gryn lawer o'i amser i astudio Cyfreithiau Addyeg y Llywodraeth ac efe oedd yn gyfrifol am drefnu a chyfarwyddo y gwithryfel Cymreig, amcan pa un, trwy weithredu mewn modd medrus, ydoedd attal i vsgolion yr Eglwya gael eu cynnal o'r tretbi. Bedyddiwr ydyw Mr Lloyd Gesage, ao edrychir arno yn y Weinyddiaeth fel yn cyn- nrychioli buddiannau Ymneillduol Saesnig a Ohymre!g. ARGLWYDD LYWYDD. Bydd Arglwydd Creae yn 48ain mlwydd oed ar y 12fed o lonawr nesaf. Mab ydoedd i Arglwydd Houghton, yr ysgrifenwr a'r gwleid. yddwr, a ddygodd y teitl hwnw o 1886 i 1895, pan y crewyd ef yn Iarll Crewe. Yr oedd ei fam yn ferch i ail Farwn Crewe, a daeth Crewe Hall, ger Crewe, yn gystal a'r palas y trigian- nai ei dad yn agos i Fryeton, yn Ngorllewin sir Gaerefrog, yn etifeddiaeth iddo. Y mae yn fab yn nghyfraith i Arglwydd Rosebery; ac yr oedd ei briodas gyda Lady Margaret Primrose yn un o'r digwyddiadau cymdeithaso! yn 1899. Bu Iarll Crewe yn ysgrifenydd preifat cyn. northwyol i Iarll Granville yn 1883 4, tra yr oedd Arglwydd Granville yn Ysgrifenydd Tramor ac yn 1886 yr oedd yn At glwydd Dis. gwyl i'r Frenhines. Yn y Llywodraeth Rydd frydig ddiweddaf yroedd yn Arglwydd Raglaw yr Iwerddon. Y POSTFEISTR CYFFREDINOL. Ganwyd Mr. Sydney Buxton yn 1853. Bu yn aelod o Fwrdd Yegol Llundain o 1876 i 1882. Dychwelwyd ef yn aelod seneddol droa Peterborough ya 1883; gorchfygwyd ef yn etholiad 1885; ac y mae wedi cynnrychioli Poplar er y flwyddyn 1886. Hn yn Is-ysgrifen- ydd y Trefedigaethau ar hyd tymmor y wein- yddiaeth Ryddfrydig ddiweddaf. Gwnaeth enw iddo ei hun yn gynnar yn y byd gwleid- yddol trwy ei Handbook to Political Questions.' LLYWYDD BWRDD ADDYSG. Nid ydyw Mr. Augustine Birrell, K.c., yn y senedd yn bresennoJ; ond disgwylir yn hyder- us y bydd iddo ennill sedd yn Bristol yn yr ethollad gyffredinol. Safodd yn ymgeisydd droa Oerledd-ddwyrain Manchester yn 1900, oud nl chafodd ei ddyehwelyd. Er yr adeg hono y mae wedi estyn gwasanaeth mawr i'w blaid fel cadeirydd y Cynghrair Rhyddfrydig Cenedl. aethol. LLYWYDD BWRDD Y LLYWODRAETH LEOL. Mr. John Burns ydyw yr arweinydd Llafur cyntaf a ddyrchafwyd o'r safle o aelod preifat i fod yn aelod o'r weinyddiaeth. Gwasanaeth- odd el amser fel prenfcis o beiriannwr, ac y mae wedi dilyn ei alwedigaebh mewn gwahanol ranau o'r byd. Cymmerodd ran flaenllaw yn Nghymdelthas Unedig y Peiriannwyr, ac yr oedd yn arweinydd yn streic mawr y doc yn 1889. Y mae wedi bod, hefyd, yn un o aelodau mwyaf blaenllaw Cynghor Sirot Llundain. CANGHELLYDD Y DDUCIAETH. Y mile Syr Henry Fowler, yr hwn sydd yn 75^ mlwydd oed, wedi bod yn cynnrychioli Wolverhampton yn y senedd er 1880. Bu yn Is ysgrifenydd Cartrefol yn 1884 5, ac ya Ysgrifenydd Cyllidol i'r Trysorlys yn 1886. Pan ffurfiwyd y Llywodraeth Ryddfrydig yn 1892, pennodwyd ef yn Llywydd Bwrdd y Llywodraeth Leol, gyda sgdd yn y weinydd- iaeth, ac yn 1894 daeth yn Ysgrifenydd India. YSGRIFENYDD RHYFEL. Galwyd Mr. R. B. Haldane yn fargyfreith- iwr yn 1879, a daeth yn Ddadieuydd y Fren. hines yn mhen un mlynedd ar ddeg ar ol hyny. Yn y cyfamser-yn 1885 -etholwyd ef dros sir Haddington; ac y mae wedi bod yn cynnrychr ioll yr echolaeth hono byth er hyny. YSGRIFENYDD YSGOTLAND. Y mae Mr. John Sinclair yn ysgrifenydd preifat i'r Prifweinidog. Fel dyn ieuangc gwasanaetbodd yn Ngadgyreh Suakim yn 1885, a daeth yn gadben ar y Lancers Gwyddelig Brenhinol. Bn yn gadweinydd i Iarli Aberdeen, pan yr oedd yr olaf yn Arglwydd Raglaw yr Iwerddon, ac yn ysgrifenydd lido, tra yr oedd yr la n ya Rhaglaw Cyffrediriol Canada. Safodd yn ymgeisydd dros Ayr yn 1886, ond nl ddy. chwelwyd ef; ond y mae wed! bod yo cynnrych- ioli air Dumbarton (1892 6), a sir Forfar (er 1897). Ba am dair blynedd yn aelod o Gy nghor Sirol Llurtdaln. Y mae yn un o'r Chwiplan Rhyddfrydig. ARGLWYDD GANGHELLYDD IWERDDON. All ymafla yr Arglwydd Farnwr Walkar yn y swydd o Arglwydd Ganghellydd yr Iwerddon, yr hon a ddaliodd o 1892 1 1895. Nid ydyw y swydd yn awr yn car!o tedd yn y weinyddiaeth tel yr oedd yr Arglwydd Ganghellydd dros Iwerddon yn weinyddiaeth sydd newydd fyned allan o swydd. ARGLWYDD Y GYFRINSEL. Y mae Ardolydd Ripon yn 78ain mlwydd oed. Cafodd ef el ddychwelyd yn aelod seneddol mor bell yn ol a'r flwyddyn 1852; daeth i mewn i r teitl o Iarli Ripon yn 1859, ajjjdyrchafwyd ef yn ardalydd yn 1871. 018M i 1866 bu yn lienwi y swyddi o Is-ysgrifenydd Rhyfel, Is, ysgrifenydd Iodfa, Ysgrifenydd Rhyfel, Ysgrif- enydd India. Yn ngweinyddiaeth Mr. Glad' stone yr oedd yn Argl-ydd Lywydd y Cynghor (1868 73). Ar ddychweliad Mr. Gladstone I awdurdod yn 1880 hl1 yn Rhaglaw India am bedair blynedd. Yn 1886 yr oedd yn Brif Arglwydd y Moriys; ac o 1892 I 1895 ba yn Ysgrifenydd y Trefedigaethau. ARGLWYDD RAGLAW YR IWERDDON. Gwasanaethodd Iarll Aberdeen fel Arglwydd Raglaw yr Iweiddon o dan Lywodraeth Ryddfrydig o lonawr i Mehefin, 1886, Yn 1893 pennodwyd ef yn Llywodraethwr Cyffred" lnol Canada, a daliodd y swydd hono hyd 1898. Y mae yn Arglwydd Raglaw air Aberdeen, a bu yn Uchel Ddirprwywr i'r Gymmanfa Gyffredlno'1 yn Eglwys Ysgotland. Y mae wedi cymmeryd rhan flaenllaw, hefyd, ar yr esgynlawr gyhoeddns. PRIF DDIRPRWYWR Y GWEITHIAU. Y mae Mr. L. V. Harcourt yn fab i'r diwedd' ar Syr W. Harcourt. Y mae wedi cynnrychioli rhanbirth Rosssndale, ar ol ymneillduad Syr William Mather y flwyddyn ddiweddaf; ac y mae wedi gwneyd gwasanaeth da I Ryddfryd* jaeth mewn rhanau eraiil o'r wlad.
TROSGLWYDDO Y SELIAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TROSGLWYDDO Y SELIAU. Y GWEINIDOGION YN MHALAS BUCKINGHAM. CYMMERADWYAETH I JOHN BURNS A LLOYD GEORGE. Boreu ddydd Mawrth. ERBYN :h.yn y mae y Llywodraeth newydd wedi cael el gosod yo ffurfiol mewn awdurdod,