Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

NIFIK TR IHTTinWVIi,

CYMDEJTHAS RYDDFRYDIG CEREDIGION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMDEJTHAS RYDDFRYDIG CEREDIGION. CYNNALIODD y gynadeithas uchod gyfarfod neiH- duol ac arbenig yn Llaribedr dydd lau cyn y diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. William Thomas, cyn-faer Aberystwyth, amcan pl un ydoedd ethol ymgeisydd Rhyddfrydig ar gyfer yr etholiad cyffrediriol sydd yn awr wrth y drws. Yr oedd nifer y cynnrychiolwyr oedd yn bresen- nol o'r gwahanol leoedd drwy y sir yn rhifo dros drigain, a gallent fod lawer dros gant a banner pe byddai y cylchlythyrau a ddanfonwyd allan gan yr ysgrifenydd wedi cyrhaedd yn brydiawn y gwahanol bwyllgorau yn y gwahanoi ddos- barthiadau polio. Wedi cael araeth agoriadol gan y llywydd, a hono yn llawn tân, nes cvnnyrchu brwdfrydedd a dylanwad rhyfedd yn mynwes pawb oedd yn y cyfarfod, nes fel pe byddent. wedi ymdycghedu i wisgo am danynt eu dillad milwrol, acymladd fel yn y dyddiau gynt o blaid eu hawliau gwladol a chrefyddol-pasiwyd amryw o ben- derfyniadau ac yn mysg eraill pleidlais o ym- ddiriedaeth yn Syr Henry Campbell Bannerman fel ein Prifweinidog newydd, ac hefyd pleidlais 0 longyfarchiad calon i Mr. D. Lloyd George ar ei waith yn cael ei ddewis yn un o'r rhai sydd i wneyd l fyny Cyfringynghor (Cabinet) Pryd- ain Fawr, Y mae hyn yn beth hollol newydd yn hanes ein gwlad ac fel y dywedai rhai yn y cyfarfod, yr oedd y Prifweinidog wedi gosod anrhydedd ar ein gwlad a'n cenedl drwy ddewis Cymro i fod yn y Weinyddiaeth. Ar ol hyn aed at brif amcan yr ymgynnulliad, sef, fel y dywedais o'r blaen, dewis ymgeisydd Rhyddfrydig dros y sir hon. Galwyd ar Mr. Vaughan-Davies, y cyn-aelod, yr hwn oedd yn bresennol, i ddyweyd ychydig o hanes y senedd ddiweddaf, yr hyn a wnaed ganddo yn dra dyddorol a chymmeradwyol gan bawb yn ddi- eithriad. Yna cododd y cadeirydd ar ei draed mgwn bwyl ddoniol, ac yn effeithio fel trydan ar ei wrandawyr. Cynnygiodd eu bod hwy fel Cym- deithas Ryddfrydig y sir hon yn dymuno galw ar Mr. Vaughan Davies i gymmeryd ei etbol y drydedd waith fel ein cyncrychiolydd seneddol. Nid oedd ef, y cynnygydd, yn credu ei bod yn bossibl o gwbl cael ei well na'i ragorach in cyn- nrychioli yn y senedd. Credai ef fod Mr. Vaughan Davies yn sefyll heddyw yn llawer mwy poblogaidd ac anwyl yn marn a theimlad y mwyafrif mawr o etholwyr yn y sir nag y bu ef erioed o'r blaen. Y mae y dull y mae ef wedi cyflawni ei ddyledswyddau fel aelod geneddol yn gyfryw ag y carai pawb o honynt ei weled af yn parhau i'n cynnrychioli etto am flynyddoedd lawer. Eiliwyd a chefnogwyd y penderfyniad gan amryw o bob pen i'r sir, a phasiwyd ef trwy i bawb godi ar en traed a churo e'1 dwylaw. Ar hyn cododd Mr. Davies ar ei draed, a diolcbodd yn gynijes iddynt un ac oil am eu teimlad cynnes a charedig tuag ato ef. Yr oedd ef gyda'r pieser mwyaf yu dymuno dyweyd wrthynt ei fod ef yn hollol barod i ymgymmeryd &'r gwaith o'u cynnrychioli yn y senedd etto fel yr ydoedd wedi gwneyd yn ystod y deng mlyn- edd diweddaf. Gallai ef eu sicrhau ei fed wedi bod ar ei oreu yn ceisio gwylio eu buddiannau yn mhob modd yr oedd hyny yn alluadwy iddo ef. Yr oedd ef yn gobeithio y byddai i Syr Henry Campbell Bannerman gyda'i weinydd- iaeth newydd i allu llawer o bethau fyddai yn Ilesiant uniongyrchol i'r wlad yn gyffredinol. Yr oedd yn teimlo yn aiddgar dros gael gweled y Ddeddf Addysg yn cael ei diddymu neu ei newid, a bod llywodraeth yr ysgolion yn cael ei gosod yn llaw y trethdalwyr, yn lle fel y mae yn awr, yn nwylaw yr Eglwyswyr a'r Pabyddion. Yr oedd ef yn bleidiwr gwresog dros Ddad- gyssylltu a Dadwaddoli yr Eglwys Wladol yn Nghymru a thrwy y deyrnae. Yr oedd yn dda ganddo weled yn y newyddiaduron fod y Llyw- odraeth yn bwriadu dyfod & mesurau i mown i'r senedd yn ystod y tymmor neaaf fyddo yn ym- wneyd yn uniongyrchol a buddiannau yr am- aethwyr, yn ogystal ag eiddo y gweithwyr. Yr oedd ef o'r farn fod y ddau ddosbarth hyn wedi bod yn dioddef yn rby bir o lawer. Y mae awr eu gwaredigaeth yn ymyl. Gyda hyn enciliodd y boneddwr anrbydeddus i'w eisteddle yn nghanol bloeddiadau byddarol o gymmeradwyaeth. Piti mawr oedd na buasai Balfour a Chamberlain yn digwydd bod yn y cyfarfod ar y pryd. er iddynt gael gweled a chlywed pa beth ydyw barn Rhvddfrydwyr sir Aberteifi am danynt ill dau. Gobeithio mai fel hyn y mae pethau yn myned yn mlaen yu holl siroedd eraill Cymru, ac mai canlyniad yr etholiad nesaf fydd, fel yr hiraetbai y diweddar Mr Henry Richard, A.S., yn ogystal a'r diweddar Mr. Thomas Gee ei weled, fod yr holl aelodau geneddol dros Gymru i gyd yn Rhyddfrydwyr pybyr, gwrol, a difloesgni. Hyd yn hyn nid ydym wedi clywed y si leiaf fod y Toritdd, neu dyweder y dyrnod bychan sydd yn cymmeryd arnynt. mai hwy ydyw enaid y blaid Donaidd yn y sir hon, wedi llwyddo i ddarbwyllo neb i ymgymmeryd &g arwain eu byddin i faes eu gwaed, yr hyn a fyddai yn sicr o brofi yn fath o Aceldama iddynt hwy ac i'w hachos. Nid oes yr un etholiad wedi cael paaio yn sir Aberteifi er 1865, os wyf yn cofio yn iawn, heb ein bod yn cael ein gorfodi i ymladd a'r Toriaid, er ein bod wedi eu gorchfygu bob tro. Ond y mae'n ymddangos heddyw nad oes dim bwrw arfau i fod y tro hwn. Gwelais Mr. William Davies, cyfreithiwr, Aberystwytb, yn y cyfarfod. Efe oedd yn gweithredu fel goruchwyliwr i Mr. Vaugban Davies yn y ddwy etholiad diweddaf, ac efe, hefyd, fel yr wyf yn deal4 sydd wedi cael ei appwyntio i weithredu yn yr un swydd etto y tro hwn os byddai galw

Advertising

CYFARFOD TORIAIDD BYWIOG YN…

YR ETHOLIAD YN MON. ;

BWRDEISDREFI SIR FFLINT.

ETHOLIADAU CVMRU.I

CARMEL, GER TREFFYNNON.

[No title]

CYMDEJTHAS RYDDFRYDIG CEREDIGION.