Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

Y PRIFWEINIDOG YN .JNGWRECSAM.

LLANFYLLIN,

BETTWS, ABERGELE.

COEDPOETH A'R CYLCHOEDD.

CAPEL Y BEDYDDWYR.

CANOLBARTH CEREDIGION.

Y TRYCHINEB YN TALYCAFN.

Advertising

TAL Y DEGWM.

[No title]

Advertising

DINBYCH.

CAERPHILI.

EISTEDDFOD TWRGWYN, CEREDIGION.

Y TRYCHINEB YN TALYCAFN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

clywed, na theimlo dim fel yr oedd yn myned heibio croesffordd y Morfa. Evan Owen, llafurwr ¡yn fferm y Morfa, a gadarnhaodd dystiolaeth aelodau y ty mor bell ag yr oedd ete wedi sylwi, nad oedd yna ddim anghyttundeb rhyngddynt. John Davies, heddgeidwad, Eglwys Bach, a ddywedodd iddo gerdded ar hyd y llinell o orsaf Talycafn gyda Mr. Webb, meistr yr orsaf, ac iddynt ddyfod o hyd i shawl, heb fod yn mhell o'r orsaf, yr hon a gafwyd allan oedd yn eiddo i Margaret Roberts, corph yr hon a welsant yn ochr y ffordd haiarn, rhyw ddwy filldir pellach yn mlaen. Nid oedd un person yn agos iddo ar yr adeg. Ellen Roberts, chwaer y wraig drangcedig, a ddywedodd ei bod hi yn byw yn Ty'n-y-coed, Maenan, heb fodynmhello'r Morfa. Dau fis ynol y gwelodd ei chwaer y trj diweddaf; a dywed- odd ei chwaer yr adeg hono nad oedd hi yn an- nedwydd yn y Morfa, ond yr hoffai hi fyned i'w chartref ei hun. Nid oedd ganddi hoffder at ei mam-yn-nghyfraith, er nad oedd hi wedi dyweyd fod ei mam-yn-nghyf raith yn groes nac yn angharedig wrthi. Wedi i'r rheithwyr fyned i weled y Ilanerch Ile y lladdwyd y fam a'r plentyn, dygasant ddedfryd i'r perwyl nad oeddynt wedi cael digon o dystiolaeth i ddangos pa fodd yr aeth y fam ar y Ilinell, pan y tarawodd y tren hwy. Rhoddasant gerydd, hefyd, i'r teulu, am, ernad oeddynt yn dyweyd nad oedd y dystiolaeth a roddwyd yn wjr, eu bod yn credu nad oedd yn cynnwys yr holl wir.