Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
or 11 N WFA SID.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
or 11 N WFA SID. Y Gyfrattb » 2 C*stellnewydd Bmlyn aVOylohoedd. 2 Nodlon ar y Mcaur Addysg 3 Llythyr Lluodain 4 Debeudir Cymru 4 Llythyr Sylwelydd L'angollen 4 Vobt,l Stryd'ion Deheudir Cym-ru 4 CydraddOldeb Ortfyddol Gymro 5 Y Drygh' 5 D'nbyeh 5 Tregtiriog 5 Htlyien 5 Y Senedd 6 Ystadan Arglwydd N«wbo ocgb 6 Brttwdlys Slrbedd C& t'yrddln, Pen fro. ec Aberteifi 6 Trons,idau 6 Llofru ldio Dan o Blant yn L'nndftln 6 tJeiryddJon O^efyodo! — 7 Llythyr cd ilwrth M< Ev3n Roberts 7 Liverpool. 7 A'erhoitm 7 Llanymddyfri 7 Oonwy 7 Bwr M Oanolog Gymm 7 Pont Robert ? 7 T>n.{e<J y Me?tr Aldyug 7 Newyddion Dlweldaf 8 Dig *yadiftd»a 8 Prif lf»4hvglau 9 Y Golofn Lenyddot 9 Newyddlon Oymretif .„ 10 O Yn.v» EnHi • G ff an 10 Aufodwaith Amrohiald 10 Rhosllauerohrugog &'z Cytchoedd ij Ba -ddoalaeth ] 1 Llaneantffrald GI, n Conwy 11 L, offloci Addysi 12 Tregaron 12 No iioo o Btitbesda .n 12 1 l*m 12 umienmswr 12 Gen — 12 flswyddloa Tramor 13 Rtaaddkn. 13 0< lwyn 13 Daii<welni»n' I 13 Msrctmadosdd 13 G«hablaeth»u 14 Ovfarfodydd Mlsol — 14 S >ioo o Nai.t Conwy « 14 Go! won 151 Wydd.ru« I M'frnwjT Goglecd Cymru 15 Hya>»y*iadaa 6 =-
Tameidyn wrth fodd y Darllenydd
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Tameidyn wrth fodd y Darllenydd sydd genym i'w gynnyg yn gyntaf dim heddyw. Mae y Llywodraeth a'r Swyddfa Addysg wedi dadgan eu barn yn y modd mwyaf digel ar holl waith yr arglwyddi ar y mesur, trwy enau Mr. Birrell ei hun. A'r farnhono yn bob peth y buasem yn dymuno iddi fod. Ni ddarllenasom araeth a'n boddhaodd yn mhob peth yn fwy er's llawer o amser. Aeth y Gweinidog Addysg i lawr i Fryste nos Fawrth, wythnos i'r diwedd- af. Un o'r aelodau dros y ddinas hono yw efe. Yn ol eu harfer er's llawer a amser tua'r adeg hon ar y flwyddyn, ar- fera Rhyddfrydwyr a Thoriaid Bryste gynnal gwleddoedd, a gwahodd rhai o brif ddynion eu pleidiau i areithio iddynt.. Yr hen bererin galluog a mympwyol oedd yn Arglwydd Ganghell- ydd iddynt, Arglwydd Halsbury, a wa- hoddwyd gan y Toriaid, a chawsant gan- ddo yr oil a ddisgwylient. Ond Mr. Birrell oedd gwahoddedig y Rhyddfryd- wyr, a chawsant hwythau yr hyn a ddis- gwylient—a chwaneg. Da iawn ydoedd eu gwaith, yn yr argyfwng presennol yn arbenig, yn rhoddi eu gwahoddiad i'w cynnrychiolydd; yn benaf er mwyn iddo gael cyfleusdra i ddyweyd gair, nid yn unig wrthynt hwy, ond, hefyd, wrth y blaid Ryddfrydig a'r wlad yn gyffredin- ol: ac, yn enwedig, dyweyd gair wrth Dy yr Arglwyddi. Nid a wrendy y pen- defigion a'r esgobion anghyfrifol ar ei leferydd ydyw y pwngc pwysicaf yn ein golwg, eithr, yn hytrach, fod y gair- a'r fath air!—wedi ei ddyweyd mewn lie ag y bydd ei adlais yn sicr o'u cyrhaedd. A phe dywedem na fu er's cryn. amser arawd ag y disgwylid mwy am dani na bon, ni chyfeiliornem. Er's mwy na thair wythnos y mae Ty yr Arglwyddi wedi bod yn ddyfal yn Gweddnewid y Mesur mewn. modd nad ydyw yn ddichonadwy ei adnabod, erbyn hyn, fel y mesur a an- fonwyd iddynt o Dy y Cyffredin, ac a ail ddarllenwyd ganddynt hwy eu hun- ain. Heddyw nid oes ond ei weddill- ion a'i olion yn aros. A phrin y gwel- wyd mwyifrif Ty y Pwyllgor mawr j Toriaidd yn fwy erioed wrth ei fodd na phan yn gwneyd gwaith cigyddion arno. Pwyent, dirdynent, a darnient ef wrth eu hewyllys; ac nid oedd gan yr ychyd- ig Ryddfrydwyr sydd yno ddim i'w wneyd ond sefyll ac edrych.' Pob Ie ynddo a droent yn Na,' a phob Na yn Ie;' a'r gair gall a wneid yn y fan yn rhaid;' ac i'r gwrthwyneb. Ond i ba beth y manylwn ar ystori sydd yn rhwym o fod erbyn hyn yn ddiflas gan y darllenydd? Trown, yn hytrach, at yr hyn oedd gan Mr. Birrell i'w ddy- wreyd am eu gwaith. Nid pa beth a wnaed gan yr anrheithwyr blonhegog hyn sydd o ddawr i ni. Pa beth y bwr- iada y Llywodraeth ei wneyd, yn hytrach o lawer. Mewn ychydig frawdd- egau cryno—miniog rai; brathog eraill -y traethodd awdwr yr 'Obiter Dicta' olygiadau y Llywodraeth ar waith cy- wilyddus y dynion ag y mae yn rhaid Dyfeisio rhyw Foddion i'w galw i gyfrif am eu gweithredoedd. Rhoddodd Mr. Birrell ar ddeall, yn y modd mwyaf di- ammwys, fod y mesur fel y traws-ne- widir ac y traws-ffurfir ef gan y boblach hyn, yn waeth—ac yn waeth o lawer- hyd yn oed nag ydoedd hen fesur Mr. Balfour, bedair blynedd yn ol. Wrth wneyd a Dhasio eu haneirif welliantau ynddo, ai tybed fod archesgob Caergaint a'i ganlynwsr yn ddigon ehud a fiol i dybio am funydyn y derbyniasid eu bath gan Dy y Cyffredin, y wlad, a'r Llywodraeth? Mae yn debyg eu bod. Hawdd genym gredu y coleddant y fath uchel feddyliau am danynt eu hunain nes tybio yr yswatia pawb ger eu bron. Wedi arfer cael gwarogaeth ddigwestiwn gan eu ffwtmyn, gyriedyddion eu cer- bydau, a'u morwynion, tybiant fod pawb yn myned i lyfu y llwch ger eu bron. Pa beth yn amgen yw dyledswydd is- raddolion o flaen eu huchraddolion ? Addefwn mai goruchwyliaeth chwerw i'w balchder a'u hunanoldeb fydd gor- uchwyliaeth diwrnod du y didwyllo. Ond hwnw sydd yn eu haros. Ac iddynt hwy eu hunain y maent i ddiolch am dano. Yn ei areath yn Mryste, dywed- odd Mr. Birrell, mewn geiriau nad yw yn bossibl camddeongli eu hystyr, fod Mesur yr Arglwyddi i gael ei wrthod! I Nis gallai yr areithydd hyawdl ddy- chymygu am unrhyw amgylchiadau o dan ba rai y bydd yn bossibl i'r Llyw- odraeth dderbyn gwelliantau yr esgobion a'r arglwyddi lleyg. Os mai glynu wrth eu penderfyniadau a wnant hwy, wrth gwrs, ni bydd dim i'w wneyd ond ym- ladd y frwydr hyd i'w therfyn eithaf. Ac os i hyny y myn y Dr. Davidson, 'Ar- dalydd Landowne, a'u canlynwyr yru pethau, dylent gofio mai nid y Mesur Addysg hwn nac arall fydd yn y glorian y pryd hwnw. Daw bodolaeth deddf- wrfa etifeddol yn brif gwestiwn yn y fan. A ydyw ychydig gannoedd o ddyn- ion nad ydynt gyfrifol i neb ond iddynt hwy eu hunain i gael eu goddef i aros, a pharhau mewn cyfleusdra i ddinystrio a dirmygu barn a theimlad y wlad fydd yr holiad yn ngenau pawb y dwthwn hwnw. A phed ymollyngem i bro- phwydo, ni phetrusem ddyweyd mai nid addysg enwadol yn ysgolion yr Eglwys a'r Babaeth yn unig fydd yn cael ei yru dros ddibyn difancoll. Aeth y Gwein- idog Addysg yn syth at wreiddyn y pwnge pan y dywedodd mai nid pasio nifer o welliantau ar Fesur y Llywodr- aeth oedd y Toriaid arglwyddaidd wedi ei wneyd. Ei ddinystrio a wnaethant. Ac yn ei le gwneyd mesur newydd, holl- ol wahanol yn ei natur, ei ysbryd, a'i amcan, gan ddisgwyl i'r Llywodraeth a Thy y Cyffredin dderbyn hwnw yn hytrach na'r un y llafuriasant gymmaint arno. Dim Perthynas rhwng, y ddau Fesur. Rhwng y mesur a anfonwyd gan Dy y Cyffredin i Dy yr Arglwyddi a'r mesur a anfonir gan Dy yr Arglwyddi i Dy y Cyffredin nid oes y teoygrwydd, ac hyd yn oed y berthynas leiaf. Nid annheb- yg y naill i'r llall, yn unig yw y ddau, eithr fel yr awgrymwyd, hollol groesion yn mhob peth i'w gilydd. Gonestach filwaith yn yr arglwyddi a fuasai ei daflu allan yn ddiseremoni ar y darlleniad cyntaf. Ac, wedi hyny, myned yn mlaen yn ffurfiol i luniaethu mesur new- ydd, yn lie rhagrithio gwella hen fesur y Llywodraeth. Oddi ar dir y Cyfansodd- iad Gwladol ni fuasai genym ddim i'w ddadleu yn erbyn iddynt weithredu felly. Dywed Ty y Cyffredin fod y wlad yn galw am benderfynu y ewestiwn yn y modd y penderfynwyd ef yn ei fesur ef. Cymmer yr arglwyddi arnynt bro- ffesu credu mai am eu cynllun hwy y mae y wlad yn galw » Gan ba un o'r ddau y mae y gwir? Nid oes eisieu ond gofyn y ewestiwn i'w atteb. Gan Dy y Cyffredin, wrth gwrs. Y Cyffrediniaid ydynt yn ffres o'r wlad,' wedi bod o flaen yr etholwyr, a chael gwybod eu barnau a'u teimladau, a'u gyru i'r Ty yn fwyafrif dros, ben yr hyn a gafodd unrhyw Lywodraeth erioed i'w galluogi i ddwyn y trefniant addysg- ol hwn yn arbenig i weithrediad, ynghyd a diwygiadau pwysig a gwerthfawr eraill. Mae y syniad am Dy yr Argl- wyddi yn gwybod dim am farn a theim- lad y wlad yn chwerthinllyd i'r eithaf. Poblaeh yn byw yn y cymmylau yn gwybod am helyntoedd teulu y ddaear! Na, dim o gwbl! Nid oedd yn bossibl i'r wlad ddadgan ei llais yn gliriach nag y gwnaeth hi. Ond pe cyfodai un oddi wrth y meirw, nid argyhoeddid Ty yr Arglwyddi. Os na roddodd y wlad ei gorchymyn i'w chynnrychiolwyr y tro diweddaf, yn ofer y soniwn am orch- ymyn gwlad byth mwy. Chwareu a geiriau ydyw son am yr arglwyddi yn cario llais y wlad allan, gan hyny. Gwyddant eu bod yn rhagrithio. Nid yw eu dadwrdd ynghylch mai gyda hwy y mae y wlad namyn clog rwyd-dyllog dros eu hanfadrwydd, ac ymgais i daflu llwch i lygad yr ehud a'r hygoelus. Am addysg rydd ac anenwadol y mae y werin. Hwy a'r parsoniaid sydd am yr addysg sectaraidd. A'r hyn sydd yn wir ddychrynllyd ydyw, eu bod yn mynu gwneyd hyn oil yn enw cyssegredig crefydd— Crefydd—waeth genyf fi pa Grefydd!' ebai Ardalydd Londonderry. Y fath ragrith! A galw pawb a ddywedant air yn eu herbyn yn annuwiolion.' Rhodd- wn her i Annwn gynnyrchu Phariseaeth fwy drygsawrus Rhaid dysgu crefydd bob dydd o'r wythnos yn mhob ysgol!' meddant. Ond nid yw o bwys pa gref- ydd fydd hi. Os bydd yr enw cref- ydd' arni, gwna y tro. Effaith y mawr sel rhagrithiol hwn dros grefydd ydyw troi miloedd o bobl o newydd i godi eu lief dros wahardd hyd yn oed y Beibl i'r ysgolion dyddiol; a chaniatau ynddynt ddim ond. addysg fydol. Pan y mae pobl yn prysur ddyfod i weled mai yr hyn a olyga yr esgobion a'r arglwyddi uchel-Eglwysig a Phabaidd wrth gref- ydd ydyw, nid darllen y Beibl, ond dysgu eu hathrawiaethau sacramentar- aidd hwy, pa ryfedd fod y bobl yn gwel- ed trwy eu rhagrith; ac er mwyn hedd- wch, yn dechreu gwaeddi am ddim ond addysg fydol. Yr ydys yn dyweyd yn bwyllog, os troir y BeibI allan o'n holl ysgolion elfenol mai ar yr esgobion y bydd y bai. Bydded y cyfrifoldeb ar- nynt. Yr ydym yn ei osod yn ddibet- rus ar eu hysgwyddau hwy. Yr ydym yn foddlawn i Lyfr y Llyfrau gael ei ddarllen, heb nod nac esboniad arno gan nac athraw, parson, nac offeiriad Rhuf- einig. Gan na fyn yr esgobion mo'r Beibl beb eu baeth eu hunain, hefyd —dysgu eu hofergoelion ar draul y wladwriaeth I-nid oes dim i'w wneyd r ond troi yn syml at addysg fydol; a nin- nau, Ymneillduwyr Cymru a Lloegr, a ofalwn yn ffyddlawn am ddysgu ein plant yn egwyddorion sylfaenol ein Hymneillduaeth, ein Protestaniaeth, a'n Cristionogaeth, heb gymmysgedd o bag- aniaeth nac Iuddewiaeth; ac a wnawn hyn oil yn siriol ac yn wirfoddol ar ein ttfaul ein hunain. Beth fydd yr atteb i'r Arglwyddi? Nid attebodd Mr. Birrell mo'r cwest- iwn hwn yn ffurfiol. Nid yw y Llyw- odraeth, yn dcTiau, wedi bod uwch ei ben etto. Mae y llwybr yn glir i ninnau ddyfalu, gan hyny. Yn y lie cyntaf, dywedwn nad yw yn debygol o gwbl y bydd iddi appelio at y wlad os bydd yr arglwyddi yn nacau euro danodd.' Byddai yn chwith genym ei gweled yn gwneyd dim o'r fath cyn pen ei blwydd. Yn hytrach, hi a ollynga y mesur new- ydd o'i. dwylaw, ac a garia waith y Swyddfa Addysg a'r ysgolion elfenol yn miaen o dan hen fesur Mr. Balfour. A hyny mewn ysbryd ag y bydd parson- iaid Cymru a Lloegr yn rhwym o deimlo ei fod ef yn un tra gwahanol i ddim ag y maent hwy wedi cynnefino ag ef. A beth os bydd dyfarniad Ty yr Arglwyddi yn achos appel y West Riding yn cad- arnhau dyfarniad Meistr y Rholiau a'r Arglwydd Farnwr Farwell? Bydd eg- wyddor sylfaenol y mesur newydd yn gwbl at eu gwasanaeth. Heb law hyn hi a ddefnyddia ei mwyafrif cryf i ddar- par dognau cryiion yn chwanegol i Dy yr Arglwyddi. Y mae genym eisieu mesur tir: geilw y wlad am dano. Hefyd, dadgyssylltiad a dadwaddoliad yr Es- trcnes yn Nghymru. Dyhea y Dywys- ogaeth am dano, a dangosodd hyny trwy anfon pedwar ar deg ar hugain o gyn- nrychiolwyr i Dy y Cyffredin i'w hawlio, gan ommedd cymmaint ag un yno i ddy- weyd gair yn ei erbyn. Yn mhellach, geilw yr holl deyrnas am osod y Fasnach Feddwol mewn caethiwed, ac attal ei rhwysg ofnadwy. Yr un modd yr ydys wedi llanw Ty y Cyffredin a phleidwyr diwygio ein trefniadau etholiadol; gwella sefyllfa y gweithwyr a'r tlodion, yn eu hamgylchiadau a'u hanneddau. Yr holl bethau hyn, ac eraill, yr ydys yn dis- gwyl yn hyderus am weled Ty y Cyff- redin, fel y cyfansoddir ef yn awr, yn eu pasio yn galonog, cyn i etholiad cyffred- inol arall ddyfod ar ein gwarthaf. An- fonir hwy oil i Dy yr Arglwyddi. Caiff yntau gyfleusdra i'w derbyn neu i'w gwrthod. Os parha yn ei dymmer presennol, eu gwrthod a wna, fel y gwrthoda y Mesur Addysg yn y dyddiau presennol. A pha beth wed'yn? A raid petruso atteb? Codi Cri Gwlad yn erbyn yr Arglwyddi! A phan y digwydda hyny, ni raid pet- ruso darogan pa beth a fydd y canlyn- iad chwaith. Brwydr hyd derfyn arni rhwng gwlad a chwmni bychan a ddeill- ion i arwyddion yr amseroedd,' a'u bryd ar gadw iddynt eu hunain yn unig ragorfreintiau nas cydweddant ond ag ysbryd y canoloesoedd! Ond, ar yr un pryd, teg ynom ydyw crybwyll ei bod yn amlwg oddi wrth areth Mr. Birrell, y caniateir Lie i Edifeirwch i'r esgobion a'r arglwyddi ar y mesur presennol. Gofyna y Llywodraeth idd- ynt dynu yn ol y mwyafrif o'u pender- fyniadau. Rhoddir mantais iddynt i wneyd encil er mwyn eu diogelwch eu hunain. Os gwnant hwy hyny, gall y mesur ddyfod yn gyfraith. Ond, ysy- waeth, yr ydym yn rhwym o ail ddy- weyd mai ychydig debygolrwydd sydd y gwnant ddim o'r fath. Nid gyda hwy y mae doethineb yn cartrefu. Y syniad yw, mai glynu yn dyn wrth y nifer lios- ocaf o'u gwelliantau a wnant; a thrwy hyny peri fod y mesur yn cael ei golli am y flwyddyn hon. Possibl yw na syl- weddolir mo'r dyfaliadau hyn. Possibl yw y gwelant ynfydrwydd y cyfryw gil- dynrwydd a'r perygl y gosodai hwy a'u Ty ynddo. Ond hyd yn oed er gwneu- thur o honynt eu gwaethaf, yr ydym yn dymuno gosod pwyslais unwaith yn rhagor ar y ffaith na bydd y byd ar ben hyd yn oed pe gwnaent hyny. Nid oes neb yn gwybod yn well na'r argl- wyddi eu hunain y bydd eu gwaith hwy yn dwyn oddi amgylch fethiant y Mesur Addysg yn creu agwedd newydd ar y ddadl; ac mai canlyniad anocheladwy hyny fydd drygu buddiannau y rhai y myn yr arglwyddi ddwyn manteision ar- benig i'w dwylaw, heb law y bydd y cwestiwn eangach yr ydys wedi cyfeirio ato, sef, Pa un o'r dau Dy sydd i Ddeddfu i'r Wlad? yn rhwym o godi. Er ei bod yn hawdd i archesgob Caergaint ac Ardalydd Salisbury arwain Ardalydd Lansdowne yn mron fel y mynant, etto nis gallant hwythau hyd yn oed gau ei lygad ef ar yr enbydrwydd hwn. I ochel hwn, y mae yn bossibl, er nad yn debygol, y bydd iddo arfer ei awdurdod fel arwein- ydd, a cheisio cael gan ei ganlynwyr droi yn eu holau. Os na wneir hyn, ni bydd dim i'w wneyd ond cymmeryd y cwrs arall y soniasom am dano, a gwein- yddu Deddf 1902 mewn ysbryd gwahan- ol iawn i'r un y gweinyddid hi ynddo pan oedd pendefig eiddil ac egwan fel Ardalydd Londonderry yn benllywydd yn y Swyddfa Addysg. Yn mysg peth- au eraill, cyfeiriasom at Ddadgorphoriad y Senedd fel peth nad yw yn debyg o gymmeryd lie, gan nad beth a wna yr arglwyddi. Ni chydnabydda y Llywodraeth am fo- ment fod gan Dy yr Arglwyddi hawl i ddwyn dadgorphoriad oddi amgylch. Nid oes gronyn o sail, gan hyny, i'r ys- tori ynghylch etholiad cyffredinol yn y gwanwyn nesaf. Ffolineb penaf Arglwydd Lansdowne, neu, yn hytrach, dylem ddyweyd, ei gamgymmeriad, ynglyn a'i driniaeth fel arweinydd y Toriaid ar y mesur, ydoedd gosod ei hun yn ormodol yn nwylaw Ar-i dalydd Salisbury. Ychydig astudiaeth y mae yr arweinydd wedi ei roddi i'r mesur, tra y mae y llall yn dra chyfar- wydd ag ef. Ond nis gallai Arglwydd Lansdowne osod ei hun mewn dwylaw mwy anniogel, am fod Ardalydd Salis- bury mor benboeth ei sel dros addysg uchel-Eglwysig. Yn yr ystyr hwn y mae efe yn fwy eithafol hyd yn oed nag archesgob Caergaint, ac yn chwerwach ei ysbryd hyd yn oed na'r .Esgob Gore. Nis gallasai yr Arweinydd Toriaidd gael arweinydd gwaelach iddo ei hun. Hyn, y mae yn debyg, ydyw yr unig esboniad cyflawn ar y modd y collodd Arglwydd Lansdowne bob rheolaeth ar ei blaid, ac y Ilwyr ddinystriodd ei gymmeriad am byth fel arweinydd. Croesaw i Mr. Birrell. Y peth hynotaf yn Nhy y Cyffredin, wythnos i heddyw ydoedd, y croesaw calonog a roddwyd i'r Gweinidog Add- ysg. Adeg y cwestiynau oedd hi. Cod- odd yntau i atteb rhyw gwestiwn a ofyn- id iddo. Yn y fan torodd y Ty allan mewn banllefau o gymmeradwyaeth iddo. Hyny ydyw, yr ochr Ryddfrydig i'r Ty. Croesaw iddo am gyhoeddi rhyfel yn erbyn Ty yr Arglwyddi, y noson flaenorol, oedd hyn. Sibrwd-Yr hyn a wneir. Yr ydym, yn yr erthygl hon, wedi gwrandaw cymmaint ar sibrydon, a gwneyd cymmaint o ddyfaliadau, fel y goddefir i ni chwanegu un arall at y rhestr. Y diweddaraf ydyw hwn:—Pan I y daw y mesur i lawr o Dy yr Arglwyddi i Dy y Cyffredin, cynnygia y Llywodr- I aeth benderfyniad cyffredinol yn dadgan nad ydyw y Ty yn barod i gymmeryd y gwelliantau a wnaed ynddo o dan ystyr- iaeth, a'i bod yn ammhossibl cydsynio a hwy. Anfonir y mesur gwreiddiol yn ei ol i Dy yr Arglwyddi, gyda"r pender- fyniad hwn wrth ei gwt, wedi ei gario gan holl nerth y Blaid Ryddfrydig. Os dyma y llwybr a gymmerir, bydd yn un nas tramwywyd, mo hono erioed or blaen. Ond, dyna, pa waeth am' hyny, y mae yr amgylchiadau yn gyfryw na ddigwyddodd eu cyffelyb erioed or blaen. Amser a brofa pa un ai cywir ai anghywir ydyw y sibrwd. Yr unig beth yr ydys yn sicr o hono ydyw, hyd y gellir darogan ar bwys yr argoelion, fod Cweryl rhwng y ddau Dy yn Anocheladwy. Dywed Mr. H. W. Massingham, go* hebydd seneddol y Daily News,' yn ei lythyr am dydd Gwener, ei fod yn cael ar ddeall nad yw y cwestiwn cyfan- soddiadol a gynnwysir yn ngwaith Ty yr Arglwyddi ar y Mesur Addysg etto wedi bod o dan ystyriaeth y Weinyddi. iaeth fel y cyfryw; ond y mae yn debyg o ddyfod dydd LJun (y diweddaf, beliach).' Yn Nhy y Cyffredin, medd Mr. Massingham yn mhellach, creda-f fod y teimlad yn hollol unfrydol o barth i'r cwrs uniongyrchol y dylid ei gym- meryd; a'r unig beth ag y ffyna dim gwahaniaeth barn arno ydyw y dull yn mha un y dylid ymgymmeryd a'r cwrs hwnw.' Yn ol pob tebyg bydd yn angenrheidiol cael mwy nag un pender- fyniad neu gynnygiad pan y daw y mesur yn ei ol i'r Ty Isaf. Y pender- fyniad cyntaf fydd yr un ynglyn a'r dull o fyned yn mlaen, a'r llall fydd y pen- derfyniad i wrthod y gwelliantau argl- wyddaidd. Ond pa ddull bynag a fab- wysiedir yn arbenig ynglyn a hyn, bydd y cwestiwn mawr ynglyn a Thy yr Ar- glwyddi ei hun yn aros"o hyd. ^Ar hwn dywed Mr. Massingham drachefn:— Oddi wrth yr oil wyf yn ei glywed am