Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
20 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
20 erthygl ar y dudalen hon
YMWELIAD A CHANADA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YMWELIAD A CHANADA. (Can y Parch. H. W. Griffith, Cincinnati). Gadewais Cincinnati, Ohio, boreu ddydd Llun, Gorphenaf 30ain, 1906, tua Chicago; oddi yno aethum ar y 'C. M. St. Paul R. R.' tua St. Paul, Minnesota; wedi teithio trwy y nos trwy Wisconsin, cyrhaeddais yno dydd Mawrth; gadewais St. Paul yr un diwrnod ar y Great Northern R. R. ac wedi teithio trwy nos Fawrth, cyrhaeddais Winnipeg, Canada, boreu ddydd Mercher, Awst laf. Gallaf ddyweyd am y daith hyd yma, na welais well gol wg ar gynnyrch y ddaear, yr oedd cropiau ardderchog i'w gweled yn mhob man ar hyd y ffordd (pellder o 1,213 o fill- diroedd). Sylwais ar hyn o wahaniaeth, yr oedd y corn yn ei ogoniant, a helaethrwydd mawr o hono yn Ohio, Indiana, ac Illinois, yr yd yn cael ei gario a'i ddyrnu yn Wiscon- sin, ac wedi croesi y Mississipi, y corn yn debyg, y gwenith, haidd, a'r ceirch yn gwella, yn edrych yn rhagorol, ac yn cael ei dori; fel yr oeddwn yn myned tua gogledd Minnesota, ac yn croesi y terfyn i ddeheubarth Manitoba, Canada, yr oedd y corn yn lleihau nes darfod yn holitJ yn Canada, ond ni welais erioed well cnwd o wenith, haidd a cheirch, yr oedd ei liw yn dechreu troi, a'r amaethwyr yn prysur baro- toi eu peiriannau ac yn dechreu ei dori mewn manau. Winnipeg yw y ddinas fwyaf a phwysicaf yn Canada Orllewinol, saif ar y Red River, tua 70 o filldiroedd i'r gogledd o'r terfyn rhwng Canada a'r Unol Dalaethau ar gyfer North Dakota; bernir fod ei phoblogaeth yn awr tua chan mil, ac y mae y ddinas fwyaf gynnyddol yn y byd (Ed. Independ- ant Sep. 6, 1906). Bernir y bydd yn fuan y ddinas fwyaf poblog yn Canada y mae ei safle yn fanteisiol i'w chynnydd, saif yn yr adwy rhwng dwyreinbarth a gorllewinbarth Canada, ac y mae y drafnidiaeth rhwng y ddwy wlad fawr yma yn rhedeg trwyddi; y mae yr oil o ffyrdd halarli Canada, sydd yn cyssylltu Mor y Werydd a'r Mor Tawelog yn rhedeg trwyddi. Adeiledir yno yn awr westty a gorsaf yn gyssylltiedig a'u gilydd gan y Canadian Pacific R. R. fydd yn werth 2,000,000 o ddoleri (400,000p.) a bwriada y Grand Trunk Pacific R. It., mewn undeb a'r Canadian Pacific R. R. wneyd adeilad- au cyffelyb fydd yn werth 3,000,000 o ddoleri (tros 600,000p.). Y mae yno adeiladau newydd, a rhai o honynt yn uchel fel rhai sydd yn mhrif ddinasoedd yn Unol Dalaeth- au yn cael eu gwneyd, a heolydd newyddion yn cael eu hagor yn mhob cwr o'r ddinas. Yr oedd y ddinas yn llawn o ymfudwyr ac ymwelwyr o Ewrop, a'r Unol Dalaethau, y mwyafrif o honynt ar eu ffordd i'r Gorllew- in. Yr oedd yno alw mawr am bob math o weithwyr, yn enwedig gweithwyr i'r cynhau- af; gwelais yno hysbysleni mawrion yn cyn- nyg dwy ddoler y dydd neu 45 o ddoleri y mis, ynghyd a bwyd a Iletty i weithwyr yn y cynhauaf. Dywedwyd wrthyf ar awdurdod dda fod chwe mil o weithwyr cynhauaf wedi myned trwy Winnipeg yr un diwrnod ar y 'Cadadian Pacific,' a'r mwyafrif o honynt o Detroit, a Toledo, U. D. Yr oedd dyn ieuangc o Ffestiniog, Gogl- edd Cymru, o'r enw Mr. David Williams, yr hwn sydd yn cymmeryd dyddordeb dwfn yn achos Crist yno, wedi dyfod i fy nghyfarfod i orsaf y Canadian Northern R. R. Wedi cael boreufwyd a lie i lettya, aethom ein dau i ymweled a Chymry y ddinas. Yn nghwrs fy ymddiddan a'r cyfaill ieuangc hwn, ac eraill; arhosa rhai o honynt yno, aiff eraill nag oeddwn wedi dvbied, a bod yno rai yn dyfod agos bob dydd o Gymru, a lleoedd eraill, arhosa rhai o honynt yno, aiff eraill o honynt yn mlaen tua'r Gorllewin, lie mae pob dyn uwch law 21ain oed yn cael 10 o aceri o dir am ddim gan y Llywodraeth, ar ammodau neillduol. Nid oes gan y Cymry yno eglwys Gymraeg, addoldy, na phregethu Sabbothol, ond y maent yn teimlo angen ac awydd mawr am y tri. Deallais eu bod yn cynnal Ysgol Sab- bothol a chyfarfodydd gweddiau wythnosol yno er's amser, a'u bod yr wythnos hono wedi symmud yn mlaen a chymmeryd dwy ystafell yn y Winnipeg Business College at gynnal moddion Sabbothol ac wythnosol. Y mae yr ystafell yn costio iddynt 12.50 doler (tua 2p. 10s.) y mis o ardreth, ac y maent yn cael gwres a goleu at eu gwasanaeth yn yr ystafelloedd am y pris a nodwyd; y maent yn gwneyd casgliadau Sabbothol at y treuliau; y mae yr ystafelloedd hyn yn hynod gyfleus mewn amryw bethau i gynnal gwas- anaeth, ac y mae eu safle yn y ddinas yn neillduol felly. Saif y Winnipeg Business College yn nghanol y ddinas y mae y Queens, un o westtai parchusaf y ddinas, ar yr cchr arall i'r heol gyferbyn ag ef y mae y mwy- afrif, os nad yr oil o street cars y ddinas yn dyfod yn agos. iddo, yr hyn a bar ei fod mor gyfleus i bawb a'u gilydd o'r Cymry sydd ar wasgar tros y ddinas. Y mae, hefyd, yn gyfleus iawn i'r ymwelwyr ac ymfudwyr Cymreig ddaw i'r ddinas. Y mae y rhai hyn yn bwysig am fod cymmaint o honynt, a bod llawer o honynt yn awyddu am fodd- ion gras yn eu hiaith, ac am gymdeithas a'u cydgenedl mewn gwlad estronol, tra yn aros yn y ddinas. Y mae cyfeillion y lie wedi nodi un i ofalu am roddi rhybudd o'r cyfarfodydd eyhoeddus yn y papyrau dyddiol yn rheolaidd bob wythnos, ac y maent yn tynu llawer atynt yn y modd yma na fuas- ent yn gwybod dim yn eu cylch. Aeth Mr. David Davies, A.s., Llandinam, trwy y ddinas tua'r Gorllewin ddechreu mis Awst, ac addawodd roddi ei bresennoldeb gyda hwynt wrth ddychwelyd yn ol. Galwodd dau frawd arall, hefyd, gyda hwynt tua'r un adeg; sef, Mr. Edwards, Laurels, Aberystwyth, D. C., un o flaenoriaid Siloh, a'i frawd; yr oedd yn dda gan y frawdoIiaeth eu gweled, a gallaf ddyweyd yma y bydd yn dda ganddynt weled pob Cymro a Chymraes ddaw i'r ddinas yn troi i mewn atynt, a byddant yn barod i roddi pob cymmhorth a chyfarwyddyd allant iddynt. (I barhau.).
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y mite dros 152,OOO,000p. yn Mangciau Cyn- nilo y Llythyrdy. Cynnyrcha China a Japan rhyngddynt 12,500 o dynelli o sidan yn flynyddol. Cyfanswm ein masnach ydyw 972,500,OOOp. yn fiyftyddo1, neu 22p. 10s. Ie. y pen.
Trigo o Frodyr ynghyd.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Trigo o Frodyr ynghyd. Yr ydym yn teimlo y dylid llongyfarch Cymdeithas y Cymmrodorion ar y modd y Ilwydda i ddysgu'r wers mai gweddaidd yw, o dro i dro, i frodyr drigo ynghyd. Y mae gormod o bethau i achosi ymraniadau yn ein plith fel mai da yw anwesu pobpeth sydd a thuedd ynddo i uno. Cymdeithas gyffredin- ol, yn cael ei gwneyd i fyny o bigion pob plaid a phob dosbarth, yw'r Cymmrodorion, fel nad ydyw y digwyddiad a gofnodir yma mewn un modd yn beth i'w ryfeddu ato. Ar yr un pryd, y mae yn ddigon anghyffred- in i gyfiawnhau cymmaint a hyn o sylw iddo. Ar y lOfed o'r mis nesaf ymgyfer- fydd aelodau'r gymdeithas i gynnal eu gwledd flynyddol yn y Whitehall Rooms. Llywydd y dydd fydd y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, A.S., ac ar ei law dde fel gwesttywr arbenig y gymdeithas bydd ei hen wrth-ymgeisydd, Syr John H. Puleston. Nid oes eisieu dyweyd mai nid daliadau gwleidyddol y naill na'r llall sy'n cyfrif am eu presennoldeb yn y wledd Gymmrodorol, eithr, yn hytrach, eu Cymreigyddiaeth a'u cenedlgarwch. Y mae y naill a'r llall, pob un yn ei ffordd ei hun, yn caru Cymru, ac o blegid hyny y dymunir ar yr amgylch- iad hwn ei anrhydeddu. Y mae bellach dros 33 mlynedd er pan rocldwyd bywyd adnew- yddol yn Nghymdeithas y Cymmrodorijn gan Gymry twymngalon y Brifddinas. Yn y pwyllgor a bennodwyd i ddwyn hyn oddi am- gylch Syr John Puleston oedd y cadeirydd. Gydag ef yr oedd Syr Hugh Owen, Stephen Evans, Brinley Richards, Robert Jones, Rotherhithe; John Griffith (y Gohebydd), Hwfa Mon, ac amryw eraill y mae eu henw- au yn dra adnabyddus drwy Gymru oil. Erbyn hyn y maent oil, oddi gerth Syr John, wedi croesi'r gorwel. Tra efe etto gyda ni, da y gwna y Cymmrodorion i dalu parch iddo yn y ffordd a fynegwyd yn barod. Teil- wng o Mr. Lloyd George, hefyd, ydyw ei wrthwynebydd gwleidyddol ar Iwyfan redinol cenedlgarwch. Yr ydym yn dra s;cr na bydd neb yn fwy parod i dalu y gair ang- enrheidiol o gymmeradwyaeth i'r hen gen- edlgarwr na'r gwladweinydd ieuangc a'i cadwodd o Dy y Cyffredin, ddwsin a rhagor o flynyddoedd yn ol.
Cyngherddau.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cyngherddau. Y mae nifer y cyngherddau a gynnelir y dyddiau hyn yn ngwahanol gylchoedd Cym- reig y Brifddinas mor ami fel mai blinder fyddai eu cyfrif. Nis gallwn gerdded ar eu hoi na'u cofnodi, o blegid blinder fyddai hyny, hefyd, gan mor gyffelyb ydynt i'w gilydd. Crybwyllwn yn unig ddau o'r cy- ngherddau a gynnaliwyd yr wythnos ddi- weddaf, yn unig am iddi ddigwydd ein bod yn bresennol ynddynt. Cynnaliwyd y cynt- af er budd yr achos yn Walham Green, y dan lywyddiaeth Mr. Lloyd George. Yr ydym yn rhy chwannog o lawer i redeg ar ddyn poblogaidd fel Llywydd y Bwrdd Mas- nach i lenwi pob math o gadair, ac y mae ei awyddfryd yntau i wasanaethu ei gyd- genedl yn caniatau gosod pob math o feich- iau ar ei ysgwyddau. Ond er teimlo ein bod yn gofyn gormod ganddo, y mae yn dda genym bob amser ei weled, ac yn enwedig ei weled mewn cyfarfod Cymreig, lie yr ym- ddengys yn wastad yn fwy cartrefol nag mewn un man arall. Yn Walham Green traddododd anerchiad byr, cynnwysfawr, ar yr achosion Cymreig yn Llundain a threfydd mawrion eraill, fel lleoedd i feithrin cenedl- garwch o'r radd uchaf, ac ar eu dylanwad yn ffurfiad cymmeriad ein pobl ieuaingc. 0 dan nawdd Cymdeithas Ddiwylliadol Castle Street y cynnaliwyd yr ail gyngherdd, a Mr. Timothy Davies, cynnrychiolydd seneddol Fulham oedd yn y gadair. Yr ydym yn cofio yn dda am Mr. Davies yn cychwyn ei yrfa yn y Brifddinas, ac wedi gwylio gyda llawer o bleser a dyddordeb ei esgyniad i'r sefyllfa y mae ynddi yn awr. Y mae ei fyw- yd a'i gynnydd yn esiampl i liaws ieuengc- tyd Cymru sydd yn dyfod yma o dan gyffelyb amgylchiadau. Traddododd anerchiad add- ysgiadol ar ddylanwadau daionus cymdeith- asau diwylliadol, a chafodd dderbyniad cyn- nes gan ei gydwladwyr yn Heol y Castell.
Mesur Cyntaf Mr. Lloyd-Ceorge.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mesur Cyntaf Mr. Lloyd-Ceorge. Tra y mae y cwn yn cyfarth ei sodlau— fel y byddo arfer cwn pan byddo rhywun yn esgyn—mae Mr. Lloyd George wedi cario ei fesur cyntaf drwy y pwyllgor yn Nhy y Cyffredin. Mesur ydyw a'i amcan i wella y rheolau a'r deddfau sy'n llywodraethu ein trafnidiaeth forawl a'r llongau a'r llongwyr a ddefnyddir i gario y drafnidiaeth yn mlaen. Yr oedd llawer iawn o anhawsderau ynglyn a'r mesur, anhawsderau yn gofyn am fesur helaeth o bwyll, o amynedd, ac o ddoethineb ta hwnt i'r cyffredin. Ar y naill law, yr oedd dosbarth cryf a dylanwadol y llongfedd- iannwyr a'r masnachwyr sy'n cydweithio a hwy; ar y llaw arall, ceid Mr. J. Havelock Wilson, cynnrychiolydd Llafur yn Nhy y Cyffredin, y rhai sydd yn wastad a'u llygaid ar bob rheol a gyfynga rhywfaint ar ryddid a breintiau y gweithiwr, gan nad i ba ddos- barth y perthyn. Rhwng y ddwy blaid yr oedd dynion call yn amcanu gwneyd tegwch a'r naill ochr a'r llall, dynion ymyrgar sy'n hoffi rhoddi eu bys yn mhob brywes,' a dynion ceclyd a'u bryd a'u pleser ar wrieuth- ur drwg a rhwystro yr olwynion i droi. Cyf- arfyddodd Mr. Lloyd George y gwahanol an- hawsderau mewn dull hynod o fedrus, ac nid oes ammheuaeth ei fod yn teilyngu y lli- aws llongyfarchiadau a syrthiodd i'w ran prydnawn dydd Gwener pryd y gorchymyn- wyd y mesur i'w drydydd darlleniad.
Y Prifathro Rhys a'r Wyddor…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y Prifathro Rhys a'r Wyddor Ogamaidd. Yn nghyfnodau cyntaf llenyddiaeth Gelt- aidd, a chyn-Geltaidd, y mae y Prifathro John Rhys, o Rhydychain, yn hoffi llafurio. Nos Sadwrn diweddaf bu yn goleuo y Gym- deithas Lenyddol Wyddelig gyda golwg ar arwyddion y wyddor Ogamaidd. Disgwylid Syr Norman Lockyer. Yn y cwrdd yr oedd ond lluddiwyd ef, a chmmerwyd ei le gan Syr Norman Lockyor. Yn y cwrdd, yr oedd lliaws o ddysgedigion Celtaidd, yn eu plith Dr. Douglas Hyde, llywydd y Cynghrair Gaelig; Mrs. John Richard Green, gwraig yr hanesydd adnabyddus; Mr. A. Percival Graves, casglydd Caneuon Gwerin ein gwlad ni yn gystal a'i wlad ei hun, yr Iwerddon; Mr. Alfred Nutt, Dr. Alfred Daniell, Mr: William Evans (Bwrdd Masnach), ac eraill. Ymddengys mai darnau o bren ydoedd y defnyddiau cyntaf a arferid i ysgrifenu ar- nynt yr arwyddion Ogamaidd. Yr oedd gan y darlithydd amryw o gyfeiriadau allan o hen lenyddiaeth Wyddelig yn myned i brofi hyny. Aeth yn mlaen i ddangos fod llineIl- au yr Organ wedi eu seilio ar rhyw fath o gyfundrefn rifyddol; yr anhawsder i ddyfod o hyd i'r allwedd rifyddol a barodd, y mae r yn debyg, i'r gramadegydd golli y ffordd wrth geisio esbonio y cynllun. Credai y I Prifathro fod dylanwad Celtaidd rhanau canolog a Gorllewinol Gaul i'w ganfod yn sillebiaeth yr ysgrifiadau Ogamaidd, ac aw- grymodd y gallai fod y dull hwn o ysgrifenu wedi ei ddyfeisio rhywbryd tua rhan olaf y drydedd ganrif yn Neheubarth yr Iwerddon gan y Dessi, y rhai a ymsefydlasant wedi hyny yn Nyfed a rhanau de orllewinol Cymru. Creodd dyfaliadau dyddorol y darlithydd lawer o gywreinrwydd yn mynwesau y Celt- wyr oedd yn bresennol, a chafwyd ym- ddiddan bywiog ar wahanol bwyntiau ar y diivedd.
Byr-Nodion.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Byr-Nodion. Y mae cyrddau blynyddol y gwahanol gapeli yn dirwyn eu cwrs o wythnos i wyth- nos. Ddoe yr oedd Methodistiaid Calfinaidd Charing Cross Road, a Methodistiaid Wes- leyaidd y City Road, yn cynnal eu huchel- wyliau. Yn y nail] gwasanaethid gan y Parchn. W. Prydderch, Abertawe; a T. Charles Williams, Menai Bridge; ac yn y llall gan y Parchn. Edward Humphreys, Birkenhead; a Herbert Morgan, Castle Street. Yr wythnos ddiweddaf ymwelwyd a Thy y Cyffredin ac a'r Swyddfa Addysg gan bed- warawd o wyr crylion sir Ddinbych sef, Mr. D. S. Davies, o Bias Castell, Dinbych J Mr. W. G. Dodd, o Llangollen; Mr. John E. Powell, o Wreesam; a Mr. J. C. Davies, yr arolygydd sirol. Mater preifat ynglyn ag addysg oedd baich eu neges, ac y mae yn dda genym ddeall, er nas gallwn fanylu arno, fod yr ymweliad wedi bod yn un bodd- haol.
LLYTHYR SYLWEDYDD LLANGOLLEN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYTHYR SYLWEDYDD LLANGOLLEN. Rhoddodd aelodau Rhyddfrydig Ty y Cyffredin dderbyniad tywysogaidd a brwd- frydig i Mr. Birrell ychydig ddyddiau yn ol, pan yn dyfod i mewn ar ol yr araeth fawr oedd newydd draddodi yn Bristol ar waith yr Arglwyddi yn dryllio y Mesur Addysg bob yn rhan a rhan, nes ei wneuthur yn ber- ffaith ddiwerth i gyfarfod a gofynion yr etholwyr. Fel y gwyr eich darllenwyr, Mr. Birrell oedd yn gofalu am y mesur yn y Ty Isaf, ac fe lwyddodd i wneyd hyny mewn modd meistrolgar, drwy Dy y Cyffredin, nes cyrhaedd y porthladd yn ddiangol, ac yr oedd y derbyniad tywysogaidd gafodd yn y Ty Isaf yn eglur brofi fod gagendor fawr yn bodoli cyd-rhwng y ddau Dy-gagendor sydd yn gwneuthur deddfu yn y Ty Isaf yn unol a gofynion y wlad yn bethau ammhos- sibl i'w cyflawni; ac fel y eyfeiriwyd adeg yn ol, yr wyf yn credu mai goreu po gyntaf y daw y wlad i sylweddoli y sefyllfa, ac i gymmeryd y cwestiwn i'w hystyriaeth yn y modd mwyaf difrifol; sef, beth a wneir i gyf- arfod a'r anhawsderau hyn. Fel y cyfeir- iais adeg yn ol, yr wyf yn credu y dylai 5 ddau Dy-sef, Ty yr Arglwyddi a Thy y Cyffreclin-gael eu dewis gan y wlad yn gyffelyb, fel y gwneir yn yr Unol Dalaethau. Y mae ganddynt hwy ddau Dy, ac Arlywydd ond y mae y ddau Dy yn eael eu dewis mewn canlyniad yn cyd-weithio yn berffaith unol canlyniad y ncyd-weithio yn berffaith unol a'u gilydd, fel rheol. Y mae yr hyn ydym wedi ei weled yn Nhy yr Arglwyddi yr wyth- nosau diweddaf yn eglur brofi na welwn byth undeb a chydgordiad yn bodoli yn ein senedd- au tra y byddo arglwyddi ac esgobion yn arglwyddiaethu ac yn dinystrio mesurau y Ty Isaf, heb eu bod hwy yn gyfrifol i neb am eu gweithrediad. Dyma sylwadau Mr. Birrell yn Bristol ar welliantau yr Arglwyddi ar y Mesur Addysg —' Nid wyf yn petruso dyweyd na buasai Mr. Balfour yn ei ddyddiau mwyaf hafaidd, pan yr oedd ei fwyafrif yn ei alluogi i gario pob peth o'i flaen-ni buasai, meddai, yn cynnyg y fath fesur a'r un oedd wedi ei ail gyfodi gan yr arglwyddi yn yr wthnosau diweddaf ar y Mesur Addysg. 'Yr oedd y mesur aeth i fyny i Dy yr Arglwdydi,' meddai, yn fesur anenwadol, oddi eithr nifer fechan o adraniadau bychain eglur a boddhaol; ond y mae yr arglwyddi yn eu gwelliantau hwy wedi gwneuthur pob peth yn eu gallu i gynnal i fyny enwadaeth, i amddiffyn enwadaeth, a gwaddoli enwad- aeth perthynol i un sect, mor belled ag y gall- ant, allan o drethi y wlad, Ac,' meddai Mr. Birrell yn mhellach, y mae yn eglur na dderbynia Ty y Cyffredin mo'r gwelliantau o gwbl, oddi eithr nifer fechan o rai dibwys a'r tebygolrwydd yw os na wel yr arglwyddi eu ffordd i adael allan bron yr oil o'r gwell- iantau, y bydd y mesur yn cael ei daflu allan ar gyfrifoldeb yr arglwyddi.
LLOEGR A'R ALMAENIAID.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLOEGR A'R ALMAENIAID. Y mae y Tywysog Buelow yn senedd yr Al- maen wedi llefaru yn eglur eu bod hwy am fod ar delerau heddwch a'r wlad hon. Y mae yn y wlad hono, fel yn mhob gwlad, flaenoriaid rhyfelgar, ac y mae o'r Ymher- awdwr i lawi lu o enwogion wedi bod yn teimlo yn gul a drwgdybus am y wlad hon. Y mae Prydain wedi sefyll yn benderfynol yn erbyn i'r Almaeniaid i gael eangu eu ter- fynau tua Morocco, a manau eraill yn Mor y Canoldir; ac erbyn hecldyw, y mae yn eglur fod y teimlad wedi lleddfu drwy y wlad, nid oes ar Bull un awydd i gweryla a'r Almaen- iaid, ond y mae wedi sefyll yn dyn dros wrthod i'r wlad hono eangu ei therfynau er niwed i'r wlad hon; ac y mae yr undeb sydd wedi ei sefydlu rhwng y wlad hon a Ffraingc yn lied sicr o fod yn lfwyddiannus i gadw heddwch y teyrnasoedd yn sicr am dymmor dros Ewrop; ac yr ydym yn mawr obeithio y bydd y galluoedd cyn hir yn dyfod i deimlo y gallant leihau y treuliau milwrol yn gyffredinol.
CARDOTYN 93 MLWYDD OED.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CARDOTYN 93 MLWYDD OED. Taflwyd ynad cyflogedig Bradford i ben- bleth, dydd Mercher, gan achos dyn, 93ain mlwydd oed, yr hwn a ddygwyd ger ei fron, ar y cyhuddiad o gardota. Gwrthodai y dyn fyned i'r tlotty, ac nid oedd am roddi addewid i roddi i fyny cardota, o blegid trwy hyny yr oedd yn gallu byw. Dywedai fod dau o'i frodyr wedi marw yn y tlotty, ac nid oedd ganddo ef eisieu marw yno. Dy- wedodd yr ynad nas gallai orfodi y dyn i fyned i'r tlotty, ac nis gallai anfon dyn 93ain mlwydd oed i garchar. Dywedodd wrth y diffynydd am beidio cardota drachefn, a gohiriodd yr achos am fis.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y mrie gan Canada hanner miliwn o drigolion a anwyd yn y Deyrnas Gyfunol. Ymae y wlad hon yn defnytldiO'll,G00o dynelli o goed yn flynyddol, ar ff u rf 'matches.' Vr oedd o swm o 1,283,nOO,00t>p. wedi cael ei fuddsoddi yn ffyrdd haiarn y wlad hon. Yr oedd 1,381,025 o dai yn y Deyrnas Gyfunol yn cael eu rhentu yn ol 20p. neu drosodd. Yn yr America ceir 25 o filldiroedd o ffyrdd haiarn ar gyfer bob 10,000 o'r boblogaeth. i
Yr Helynt ynglyn S'r Ysgolion…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yr Helynt ynglyn S'r Ysgolion Eglwysig yn Merthyr. Yn nghyfarfod Pwyllgor Addysg Merthyr, dydd Llun, darllenwyd llythyr oddi wrth y Bwrdd Addysg, mewn cyssylltiad ag Ysgol Genedlaethol Dewi Sant, yr hon yr oedd y Pw ylgor Addysg wedi gofyn i'r Bwrdd Addysg beidio ei chydnabod ar ol yr 31ain o Ragfyr. Yr oedd y llythyr i'r perwyl a ganlyn :—Mewn cyfeiriad at eich llythyr dyddiedig Hydref 17eg, 1906, cyfarwyddir fi i ddyweyd, yn gymmaint ag nad yw y llywiawdwyr wedi rhoddi i'r Bwrdd Addysg unrhyw eglurhad am eu pall i wneuthur y gwelliantau gofynol yn yr adeiladau yn yr amser a osodwyd iddynt, na fydd gan y Bwrdd Addysg un gwrthwynebiad i gynnygiad yr awdurdod i beidio parhau cynnaliaeth adranau y merched a'r babanod yn yr ysgolion dywededig uchod ar ol yr 31ain o Ragfyr, 1906. Am hyny, ni fydd yr adranau dan sylw yn cael eu cyd- nabod yn Ysgolion Elfenol cyhoeddus ar ol y dyddiad hwnw. Yr wyf i ymofyn pa lwybr a gynnygia yr awdurdod ei gymmeryd gyda golwg ar adran y bechgyn. Cynnygiodd Mr. Arthur Daniel fod yr holl achos i gael ei gyflwyno i bwyllgor y Llywiawdwyr, eiliwyd hyny gan Mr. F. T. James, a phasiwyd felly. Y mae hyn oil wedi ei orfodi ar y Pwyllgor Addysg gan ystyfnigrwydd y rheithor a'r llywiawdwyr yn gwrthod gwneuthur yr hyn a ofynid iddynt ei wneuthur. Cyst cau yr ysgolion swm mawr i'r trethdalwyr, ond bydd yn lies i addysg, yn gystal ag i rieni y plant, iddynt gael eu cau, gan y daw yr holl addysg yn Merthyr mewn canlyniad i ddwylaw y Pwyllgor Addysg. Dichon y ceir clywed chwaneg am hyn yn y dyfodol.
Brawdlys Caerfyrddin.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Brawdlys Caerfyrddin. Agorwyd brawdlys y tair sir Orllewinol, Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro, yn Nghaerfyrddin dydd Mawrth, ger bron y Barnwr Walton. Nid oedd nifer yr achos- ion i'w profi yn lliosog, na'r un o honynt yn eithriadol o bwysig. Yr un a gymmerodd fwyaf o amser y frawdlys oedd achos y ter- fysg a gymmerodd le yn y Tumble, sir Gaer- fyrddin, ar yr 16eg o Fehefin diweddaf. Cyhuddid pedwar o weithwyr glofa y Tumble —John Henry (22), Thomas Lewis (25), Henry L. Evans (21), a Thomas Jones (29) —o greu terfysg, tori ar heddwel-i y pentref, ac ymosod ar dy yr heddgeidwad ar y dydd- iad a enwyd. Yr achlysur oedd fod yr hedd- geidwaid wedi cymmeryd dau ddyn arall mewn dalfa, y rhai y mynai y terfysgwyr iddo eu gollwng yn rhydd, a'r rhai y bu yn rhaid iddo ar y pryd eu gollwng, gan y teiml- ai ei fod mewn perygl am ei fywyd. Ar ol gwrandaw y tystiolaethau, y rhai nid oeddynt yn gwbl gysson a'u gilydd, bu y rheithwyr o'r neilldu am fwy nag awr o amser, a dy- chwelasant gyda'r dyfarniad nad oedd tyst- iolaeth yn eu boddloni fod y cyhuddedigion wedi taflu ceryg at dy y rhingyll, er eu bod yn bresennol yn y dyrfa. Golygai hyn eu bod yn ddieuog, a rhyddhawyd hwy. Yr oedd David James (32), Parceithin, Pen-y-bryn, sir Aberteifi, yn sefyll ei brawf ar y cyhuddiad (1) o saethu ei wraig a re- volver gydag amcan o'i lladd, ac (2) gydag amcan o wneuthur niwed corphorol iddi. Cafodd y rheithwyr ef yn ddieuog o fwriadu gwneuthur niwed i'w wraig, dim ond yn unig ei brawychu. Ond wrth ei gyhoeddi yn rhydd, rhybuddiodd y barnwr ef i fod yn dra gofalus, am y gellid etto ei erlyn am glwyfo yn anghyfreithlawn. Charles Arran (23), a Henry Owens (21), dau lafurwr o Hwlffordd, a gyhuddid o ym- osod ar wraig o'r enw Mrs. Jones, yn Bren- I gast, Hwlffordd, ar yr 17eg o Fedi, a'i hys- beilio o 18p. mewn aur, ynghyd ag oriadur arian. Daeth y rheithwyr i benderfyniad fod I y carcharor Arran yn euog o ysbeilio trwy drais, a bod y carcharor Owens yn euog o gynnorthwyo Arran. Y barnwr wrth gy- hoeddi y ddedfryd a ddywedodd ei fod yn cymmeryd i ystyriaeth ddarfod eisoes gar- charu y ddau garcharor am ddau fis. Nid oedd efe wedi ei argyhoeddi fod Arran wedi cymmeryd oddi ar Mrs. Jones yr oil o'r.swm a ddywedid ganddi ei bod yn ei meddiant; yr oedd yn ddigon possibl ddarfod iddi wario yr arian, a gollwng hyny dros gof. Nid oedd ammheuaeth yn ei feddwl fod y trosedd, yr hwn oedd yn un mawr, wedi ei gyflawni yn benaf gan Arran. Gwnaed yn amlwg nad oedd Mrs. Jones yn sobr ar y pryd, a gwyddai y carcharor hyny, a chymmerodd fantais ami yn y cyflwr hwnw, ac arweiniodd hi yn fwriadol i le unig, dan yr esgus o geisio llety icldi. Dedfrydwyd Arran i chwe mis o lafur caled, ac Owens i dri mis o'r un fath lafur. Alfred Nuget (25), llafurwr, a ddedfryd- wyd i bum mis o lafur caled am ladrata all- weddau ac arian yn Llanddowror. Thomas Page (48), llafurwr, a ddedfrydwyd i dri mis o lafur caled am ddwyn caws yn Llandeilo. Caroline Jones, morwyn deuluaidd yn Llan- elli, a ddedfrydwyd i dri mis o lafur caled am ladrata modrwy. Gorphenwyd gwaith y frawdlys prydnawn dydd Iau.
Mr. Birrell a'r Arglwyddi.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mr. Birrell a'r Arglwyddi. Trwy ei areithiau grymus yn Nghaerodor a Hanley, y mae Mr. Birrell wedi ym- ddyrchafu gryn lawer yn syniad pobl y wlad am dano. 0 herwydd iddo lunio y Mesur Addysg mor ffafriol i'r Eglwyswyr a'r Pab- yddion, yr oedd y bobl wedi colli graddau o'u hymddiried ynddo; ac wrth weled fod Ty yr Arglwyddi megys yn cymmeryd mantais ar ei feddalwch, tybiedig, i gyfnewid y mesur yn ei egwyddorion sylfaenol, yr oedd- ynt yn mron penderfynu y gellid canu yn iach i'r gobaith am gael deddf gyfiawn yn darparu addysg genedlaethol ar draul y bob! 0 lywodraethiad y bobl. Ond yn ei ar- eithiau diweddaf y mae y gWeinidog addysg wedi amlygu nad brwynen o ddyn ydyw, ac na wna efe, na'r Llywodraeth y mae yn aelod o honi, blygu i Archesgob Caergaint, a Thy yr Arglwyddi yn ei gefnogi, a deddfu i'r Lwlad yn groes i ewyllys y. bobl, er mantais i Eglwys Loegr a'i hoffeiriadaeth. Ym- ddengys fod Mr. Birrell yn benderfynol o sefyll at ei fesur, deued a ddel o'r esgobion a'r arglwyddi; ac efe a all anturio sefyll, o blegid y mae y wlad yn sefyll yn dyn wrth ei gefn; ac y mae yr hen ddiareb yn parhau i fod yn wir-' Trech gwlad, nag arglwydd.'
Tan mewn fferm yn Clynceiriog.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Tan mewn fferm yn Clynceiriog. Ynghylch 5 o'r gloch boreu ddydd Mer- cher, pan oedd glowr or enw John Wil- liams yn myned at ei waith, efe a ganfu fod ysgubor Mr. David Davies, Ty'nypant, Glynceiriog, sir Forganwg, ar dan. Brys- iodd i roi gwybod i Mr. Davies, yr hwn pan aeth i'r fan a welodd fod yr adeilad wedi llosgi i'r llawr, a bod y pedair buwch oedd yn nghlo yn yr adeilad wedi llosgi yn ulw. 0 ba Ie y daeth y tan, nid oes gwybodaeth. Tua 10 o'r gloch y nos o'r blaen yr oedd Mr. Davies wedi bod yn edrych yr anifeiliaid, yn cloi yr ysgubor, ac yr oedd ganddo igan- wyll yn ei law, ond efe a gymmerodd hono ymaith gydag ef heb iddi gyffwrdd a dim oedd yn y ty.
Capeli Newyddion.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Capeli Newyddion. Dydd Iau agorwyd capel newydd gan y Wesleyaid yn Briton Ferry, yr hwn sydd I' wedi costio 2,400p., o ba swm y mae I,220p. eisoes wedi eu tanysgrifio neu eu haddaw. Y mae yr adeilad yn yr arddull Gothic, ac yn cynnwys lie i 500 o bobl i eistedd ynddo. Y mae Mr. Carnegie wedi addaw cyfranu 150p. tuag at gael organ iddo. Yr un dydd buwyd yn gosod sylfaeni capel newydd i'r Methodistiaid Calfinaidd yn Glan- amman, sir Gaerfyrddin. Y mae y capel newydd i fod at wasanaeth cangen o egl- wys y Tabernacl, yn yr un lie, ond yn nes i ganol y boblogaeth, ac o'r tu arall i'r afon. Bydd yr adeilad newydd yn werth 3,100p. ac yn cynnwys lie i 700 o gynnulleid- fa. A ydyw y cyfeillion yn Glanamman wedi clywed fod yr Yswain o Bodlondeb wedi marw ?
ETHOLIAD GOGLEDD ARMAGH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ETHOLIAD GOGLEDD ARMAGH. CYMMERODD ymdrechfa etholiadol le yn Ngog. Jedd Armagh, dydd Gwener, er Henwi y sedd wSg achoswyd trwy farwo aeth y Mil. Saunder- son. Yr ymgeiswyr oeddynt, Mr William Moore, K.C., yr hwn oedd wedi cael ei enwi gan yr Undebwyr yn y rhanbarth, a Mr Lindsay Crawford, yr hwn oedd yn sefyll yn ymgeisydtl dros sefydJiad, yr Oreinwy rAnnibynoJ, a sefydl. wyd rai bJynyddoedd yn ol yn Belfast Yr oedd y tywydd yn anffafriol iawn yn yetod y dydd. Cymmerwyd bocses y balot i Liirgan nos Wener; a gwnaed y canlyniad yn hysbys ddvdd Sadwrn:- Moore (U.) 4,229 Crawford (Oreiniwr Anni.) 1,433 Mwyafrif 2,796 Yn yr etholiad gyTredinol yn Ionawr ni chymmerodd un ymdrechfa etholiadol le; cafodd y Mil. Saundevs m ei ddychwelyd yn ddiwrth- wynebiad, hefyd, yn 1892ac 1895. Yn etholiad Hydref, 1900, pan y cymmerodd ymdrechfa le, safai y ffigyrau fel y canlyn :— Mil. T. J. Saanderson (U.) 3,579 Mr.,James Orr (U. Aniii.) 2,468 Mwyafrif 4,111
CLWB CYMREIG YN MANCHESTER.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CLWB CYMREIG YN MANCHESTER. Wrth sylwi ar lwyddiant y Welsh Club yn Llundain teimla ychydig Gymry yn Man- chester, mai nid amser anghmmhwys fuasai y presennol i godi sefydliad yn y dref hon. Dywedir fod cannoedd o feibion yr Hen Wlad yn byw mewn cylchoedd o tua deng neu ugain milldir i Manchester, yn fedd- ygon, clerigwyr, cyfreithwyr, &c., a mas- nachwyr o bob dosbarth, ac nid ydynt yn dyfod dan ddylanwad sefydliadau Cymreig y ddinas. Hefyd, gwyddom fod Manchester yn gyrch- fan teithiol i lu o'n cyd-genedl o Gymru a manau eraill mewn cyssylltiad a masnach. Felly teimlem mai da fuasai sefydlu Clwb Cymreig mewn man canolig yn hollol an- sectyddol a di-boliticaidd i weinyddu fel cyrchfa ragorol i rydd-ymddiddan, gan g'yn- nwys holl gyfleusderau a mwyniant perthynol i sefydlu o'r pfwodywyypmfgwypwk wkm i sefydliad o'r fath. Cyn galw cyfarfod i drafod y mater, bydd- em yn dra ddiolchgar i'r rhai sydd yn teimlo dyddordeb ac yn awyddus i ymuno, pe yr ysgrifenent at- Mr. CARADOC THOMAS, 88, Mosley Street, Manchester. Croesawir unrhyw gynnygiad, ac hefyd, enwau a chyfeiriadau rhai tebyg i ddyfod yn aelodau. A. EMRYS JONES, M.D., U.H., E. MASON POWELL, F. E. HAMER, JOHN DAVIES. Tachwedd 19eg, 1906.
HEN EISTEDDFODAU CNDLAETHOL.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
HEN EISTEDDFODAU CNDLAETHOL. A ganlyn sydd restr o rai o'r prif Eistedd- fodau Genedlaethol cyn yr eisteddfod a gyn- naliwyd yn Llangollen, yn 1858, ynghyd & phyngciau y gadair, a'r bardd cadeiriol:— Yn y flwyddyn 1819, Caerfyrddin; testyn, 'Syr T. Picton;' bardd cadeiriol, Gwallter Mechain. 1820, Gwrecsam testyn, Marwolaeth Sior III. bardd cadeiriol, Bardd Nantglyn. 1821, Caernarfon; testyn, Cerddoriaeth;' bardd cadeiriol, Gwyndaf Eryri. 1822, Aberhonddu; testyn, 'Llywodraeth Sior IV. bardd cadeiriol, Cawrdaf. 1823, Wyddgrug; testyn, 'Maes Gar- mon;' bardd cadeiriol, Alun. v 1824, Trallwm, testyn, Dinystr Jeru- salem bardd cadeiriol, Eben Fardd. 1826, Aberhonddu; testyn, Rhoddiad y Gyfraith ar Sinai;' bardd cadeiriol, Pedr Fardd. 1827, Merthyr Tydfil; testyn, 'Doethincb;' bardd cadeiriol, T. Edwards, Rhymni. 1828, Dinbych testyn, 'Gwledd Belsassar bardd cadeiriol, leuan Glan Geirionydd. 1829, Caerfyrddin; testyn Yr ystorm;' bardd cadeiriol, loan Powys. 1832, Beaumaris testyn, l,longddrylliad, y Rothsay Castle;' bardd cadeiriol, Caled- fryn. 1834, Caerdydd; testyn, Derwyddon;' bardd cadeiriol, Taliesin Ab lolo. 1835, Llanerchymedd; testyn, 'Masnach;' bardd cadeiriol, Gwalchmai. 1836, Bala; testyn, 'Blegwryd Ab Seis- yllt;' bardd cadeiriol, Gwalchmai. 1839, Merthyr Tydfil; testyn, 'Coroni y Frenhines Victoria bardd cadeiriol, Gwalch- mai. 1840, Liverpool; testyn, Job;' bardd cad- eiriol, Eben Fardd. 1842, Llifon, Mon; testyn, Llosgiad y Twr Gwvn;' bardd cadeiriol, Gwalchmai. 1845, Merthyr Tydfil; testyn 'Jonah- bardd cadeiriol, Meiriadog. 1846, Merthyr Tydfil; testyn, Elias a Phrophwydi Baal;' bardd cadeiriol, Meir- iadog. 1849, Aberffraw testyn, 'Y Greadigaeth bardd cadeiriol, Nicander. 1850, Rhucldlan; testyn, Yr Adgyfodiad;' bardd cadeiriol, Ieuan Glan Geirionydd. 1851, Liverpool; testyn, Mordwyaeth bardd cadeiriol, Gwalchmai. 1852, Caerfyrddin; testyn, Cawrdaf bardd cadeiriol,, Gwilym Mai. 1853, Y Fenni; testyn, Dinystr Derwydd- ion Mon;' bardd cadeiriol, Gwalchmai. 1855, Llundain; testyn, Gwladgarwch bardd cadeiriol, Emrys. 1856, Llanelli; testyn, Y Sabbath bardd cadeiriol, Elis Wyn o Wyrfai. 1857, Dowlais; testyn, 'Dyn;' bardd cad- eiriol, Dewi Wyn o Essyllt. Gwrecsam. R. Peris Williams. 1 ..¡
Tameidyn wrth fodd y Darllenydd
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
--c_- y farn gyhoeddus yn y wlad, casglaf fod hon yn casglu nerth gyda chyflymder annirnadwy-cyflymder a nerth na byddai yn syn eu gweled cyn i nemawr fisoedd fyned heibio yn dwyn oddi am- gylch gyfnewidiad trwyadl yn y sefyllfa wleidyddol, a gorfodi y Llywodraeth i fyned yn mlaen ar hyd llinellau pendant ynglyn a c-hyfansoddiad y wladwriaeth.' Ac meddwn ninnau yn ddlbetrus- Goreu yn y byd po Gyntaf. -4--