Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR ODDJ WRTH MR. EVAN…

LIVERPOOL.

Y CYMDEITHASFAOEDD CYNTAF…

ABERHOSAN.

LLANBRYNMAIR.

CONWY.

j BWRDO CANOLOC CYMRU. j

Adroddiadau Preifat. [

Adroddiad y Prif Arolygydd.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Adroddiad y Prif Arolygydd. Yn yr adroddiad cyffredinol ar arolygiad ac archwiliad ysgolion y sir, dywedai y prif arolygydd (Mr. Owen Owen), fod yna gyn- j nydd o 1,164 yn yr ysgolheigion; sef, o 10,413, i 11,577--cynnydd o 11 y cant. Er y flwyddyn 1897, pan y cyhoeddwyd yr ad- roddiad cyntaf, yr oedd cynnydd o 5,150 yn yr ysgolheigion; sef, o 6,427 i 11,577, yr hyn oedd yn gyfartal i 80 y cant. Mewn canlyn- iad i'r cynnydd yn ystod y tair blynedd di- weddaf, yr oedd yr ysgolion yn gorfod cyfar- fod ag anhawsderau yn y trefniadau, yr hyn oedd yn digwydd mewn canlyniad i ddylifiad sydyn ysgolheigion newydd. Yr oedd yna arwyddion, nad oedd y cynnydd yn yr ys- taff parhaus yn cadw i fyny a'r nifer yn nifer yr ysgolheigion. Yr oedd y cwestiwn o gyf- leusderau chwanegol wedi dyfod yn un o gryn bwysigrwydd mewn nifer o ysgolion. Yr oedd yr arosiad yn yr ysgolion, ar gyfar- taledd, yn gwella yn raddol; ond os am well- iant sylweddol, yr oedd yn rhaid i'r cyfar- taledd o ysgolheigion dderbynid o dan 12 mlwydd oed wella. Yn ystod y flwyddyn yr oedd 2,730 o ysgolheigion wedi derbyn addysg yn yr iaith Gymraeg—cynnydd er 1904 o 902 yn nifer yr ysgolheigion, a 11 yn nifer yr ysgolheigion. Yn ystod yr un am- ser yr oedd yna gynnydd o 51 y cant yn nifer yr ysgolheigion gyflwynwyd i gael eu harholi yn y pwngc. Awgrymodd Mr. Owen, mai un ffordd effeithiol i wella sefyllfa yr iaith Gymraeg yn y rhaglen o addysg, fyddai ei defnyddio fel cyfrwng addysg yn yr Ys- grythyr.

Hawiiau Cymry.

Ysgolheigion Cymreig a'r Cwasanaeth…

PONT ROBERT.

[No title]

_.. TYNGED Y MESOR ADDYSG.