Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR ODDJ WRTH MR. EVAN…

LIVERPOOL.

Y CYMDEITHASFAOEDD CYNTAF…

ABERHOSAN.

LLANBRYNMAIR.

CONWY.

j BWRDO CANOLOC CYMRU. j

Adroddiadau Preifat. [

Adroddiad y Prif Arolygydd.…

Hawiiau Cymry.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Hawiiau Cymry. Mr. J. H. Davies, cofrestrydd Coleg Prif- ysgol Aberystwyth, a gynnygiodd fod y llyw- odraethwyr yn cael eu hargymmhell i weled fod y plant yn cael eu haddysgu yn yr Ys- grythyrau yn Gymraeg. Y cadeirydd a ddywedodd y byddai i'r cyf- newidiad ddyfod yn mlaen yn well, pan y byddent yn ymwneyd a'r attodleni yn Mai. Y Parch. Towyn Jones a wrthdystiodd yn wresog yn erbyn absennoldeb y Gymraeg o'n hysgolion eilraddol. Yr ysbryd cenedl- aethol oedd wedi creu yr ysgolion eilraddol; ac etto, yr oedd tuedd ynddynt i ladd yr iaith Gymraeg. Yr oeddynt yn benderfynol i'r Gymraeg gael ei dysgu yn eu hysgolion eilraddol (clywch, clywch). Mrs. Humphreys Owen a dybiai fod yr hyn a wneid gan yr Ysgolion Sul gyda golwg ar ddysgu yr Ysgrythyr yn Gymraeg yn ddigon, ac y byddai yn resyn i'r plant golli y budd o ddysgu yr Hen Destament a'r Newydd yn yr iaith Saesneg yn eu hysgolion canolraddol. Y cadeirydd a ddywedodd fod y bwrdd, ar hyd yr holl amser, wedi bod yn ffafr dysgu Cymraeg yn eu hysgolion; a'u bod wedi gosod pwysigrwydd ar hyny y naill dro ar 01 y llall.

Ysgolheigion Cymreig a'r Cwasanaeth…

PONT ROBERT.

[No title]

_.. TYNGED Y MESOR ADDYSG.