Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Y GOGLEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GOGLEDD. Bwriedir gwario dros ddwy fil o bunnau ar y Ty i Blant Amddifaid sydd yn Bontnewydd, ger Caernarfon. Bydd i Mr. Lloyd George, A.s., lywyddu yn ngwledd flvnyddol Cymdeithas y Cym- mrodorion yn Llundain, Rhagfyr lOfed. Cyfarfyddodd Mr. Dingad Davies, prif- athraw Ysgol De'niol, Bangor, a'i farwolaeth, mewn modd sydyn, tra ar ymweliad yn Rhyl, Y mae y brenin wedi cyflwyno gafr o'i ddeadell yn Windsor i Filisia Caernarfon a Meirionydd (4ydd Gatrawd o'r Royal Welsh Fusiliers). Yn nghyfarfod blynyddol Eglwysi Rhydd- ion Gwrecsam nos Fawrth, ail bennodwyd Mr. John Francis yn gadeirydd; a Mr. J. Hopley Pierce yn is-gadeirydd. Codwyd tua 1,000p. er budd Cartref G'walia i Forwynion Cymreig, mewn nodach- fa a gynnaliwyd am bedwar diwrnod yn Liverpool, yr wythnos ddiweddaf. Dywenydd genym longyfarch Mr. Caradoc Roberts, Rhos, ar ei waith o ennill y radd o Musical Bachelor. Deallwn i'r arholiad gael ei dwyn yn mlaen yn Rhydychain. Agorwyd capel newydd i'r Wesleyaid Cym- reig, yn lie yr hen 'Soar,' gan Mrs. J. Edwards, Penybont, Bagillt, dydd Mercher. Costiodd y capel newydd tua 700p. Cafodd cyfarfod o eglwysi Presbyteriaid Saesnig sir Foil, sir Gaernarfon, a sir Ddin- bych, ei gynnal yn Llandudno dydd Iau, o dan lywyddiaeth Mr. R. W. Roberts, Porth- aethwy. Gosodwyd organ newydd i fyny yn nghapel Bethesda '(M.C.), Wyddgrug, yr hon oedd wedi costio 500p. Cymmerwyd rhan yn y rhaglen gerddorol nos Lun gan Mrs. Ellis Griffith, Llundain. Y mae symmudiad ar droed, ac yr oedd yn debyg o gael cefnogaeth, yn ffafr cyfuno llysoedd man-ddyledion Dinbych a Rhuthyn. Chi cerir hyn allan cynnelir llysoedd misol yn mhob tref, bob yn ail, yn lie bob dau fie, fel yn bresennol. Cydsyniodd y Parch. Canon Evan Thomas Davies (Dyfrig), yr hwn oedd wedi bod yn ficer Pwllheli, am un mlynedd ar bymtheg, i fod yn rheithor y Gaerwen, sir Fon, yr hon oedd wedi myned yn wag trwy farwolaeth y Parch. W. G. Griffiths. Cwynai Cynghor Plwyf Helygen fod gor- mod o dafarndai yn y rhanbarth hwnw i at- teb i'r boblogaeth a phenderfynasant alw aylw pwyllgor heddgeidwaid sir Fflint at y Haith, gan ddisgwyl iddynt hwy fabwysiadu rhyw gynllun i'w lleihau. Yn Llanerchymedd dydd Mercher, tra- ddodwyd Owen Parry, chwegnwyddwr o Gwalchmai, i sefyll ei brawf, ar y cyhuddiad o archolli Richard Griffith, o'r un pentref. Yn ol y dystiolaeth, yr oedd y ddau ddyn wèdi bod yn cweryla; ac yn yr ymladdfa, trywanwyd Griffith o dan ei glust. Nos Fawrth, yn Nolgellau, bu farw Mr. Robert Jones Griffiths, mab Mr. Edward Griffiths, Dolgellau. Efe oedd clerc y Cy- nghor Dosbarth Gwledig, y Corph o Lyw- iawdwyr Sirol, Pwyllgor Addysg Lleol, a Chwmni Nwy Dolgellau. Nid oedd ei iechyd wedi bod yn gryf er's tro. Cynnaliwyd cyfarfod yn nghapel Annibyn- 01 Markham Square dydd Iau, i gydnabod y Parch. T. Mardy Rees, gynt o Bwcle, yn weinidog yr eglwys, pan y pregethodd y Parch. Dr. Campell Morgan yn y prydnawn. Yn yr hwyr cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus, o dan lywyddiaeth y Parch. H. J. Shirley, Fulham. Cymemrodd claddedigaeth y diweddar Mr. Charles Glascodine, yr hwn oedd wedi bod mewn cyssylltiad a llysoedd man-ddyledion Gwrecsam, Llangollen, a Rhiwabon, am 54 o flynyddoedd, le yn nghladdfa Gyhoeddus bwrdeisdref Gwrecsam, dydd Mercher. Gweinyddid gan y Parchn. Lewis Pryce a W. S. Probert. Torodd tan allan dydd Mercher yn Wean- llys, Llanfyllin, pan y llosgwyd Mrs. Edward Lloyd, yn ei chartref. Digwyddai y tad a'r mab fod wrth eu gwaith ar yr adeg, ac yr oedd yr hen foneddiges, 72ain mlwydd oed, wedi ei gadael yn y ty ei hun. Cymmerodd ei gwisg dan; a derbyniodd niweidiau a drodd yn angeuol iddi. Cafwyd dadl yn nghyfarfod agoriadol cym- deithas lenyddol capel Tegid, Bala, ar 'A ddylid estyn yr etholfraint i Ferched?' Agorwyd ar yr ochr gadarnhaol gan Mr. Gwilym Evans, Arenig Street; a'r nacaol, gan Mr. W. T. Jones, Fronawel. Ar yr ym- raniad pleidleisiodd y mwyafrif yn erbyn caniatau pleidleisiau i ferched. Talodd dirprwyaeth o wyr addysg sir I -y Ddinbych ymweliad a Thy y Cyffredin nos Fawrth, ac yn eu mysg Mr. W. G. Dodd (Llangollen), Mr. D. S. Davies (Dinbych), Mr. J. E. Powell (Gwrecsam), a Mr. J. C. Davies, y swyddog addysg. Buont mewn ymgynghoriad a Mr. Herbert Roberts a Mr. Clement Edwards ynghylch materion Ileol o gryn bwys. Yn llys yr ynadon yn Croesoswallt, dydd Mawrth, cyhuddwyd Joseph Evans, casglwr Ileol yn ngwasanaeth Cwmni Yswiriol y 'Pearl,' ar ddwy wys, o gelcio symiau oedd yn cyrhaedd lp. 10s. 5c., eiddo ei feistriaid. fcafodd y diffynydd, yr hwn a blediodd ei euogrwydd, ac a daflai ei hun ar drugaredd y llys, ei rwymo o dan Gyfraith y Trosedd Cyntaf a gorchymynwyd iddo dalu y costau. Bu. Cynghor Trefol Gwrecsam, dydd Mer- cher, yn ystyried planiau i adeiladu bangc newydd yn High Street, i Fangc Liverpool; a chawsant eu mabwysiadu. Pasiwyd plan- iau, hefyd, i wneyd pedair o heolydd newydd- ion ar ran o ystad Syr Foster Cunliffe, Bar., ac yr oedd y tir i gael ei osod allan at adeil- adu, yr hwn a orweddai rhwng Chester Road, a phentref Rhosnessney. Yn nghyfarfod misol Methodistiaid Cal- finaidd Gorllewin Meirionydd, yr hwn a gyn- naliwyd yn Blaenau Ffestiniog dydd Mawrth, penderfynwyd Fod y cyfarfod hwn yn cofnodi ei anfoddlonrwydd o weithrediadau y Ddirprwyaeth ar yr Eglwys yn Nghymru, yn neillduol y rhagfarn cryf a'r pleidgarwch amlwg a arddangosid gan y cadeirydd, yr Arglwydd Farnwr Vaughan-Williams, wrth ymwneyd a'r tystion.' Cynnaliwyd ymchwiliad gan yr Uchgadben J. Stewart, ar ran Bwrdd y Llywodraetli Leo], yn Colwyn Bay, ddydd Mercher, i gais a wnaed gan y cynghor am ganiatad i godi echwyn am amryw symiau o arian, i wneyd i fyny ddiffygion yn y swm a fenthyciwyd i adeiladu y Neuadd Drefol, prynu coedwig- oedd Pwllycrochan, a phrynu y gladdfa gy- hoeddus a Brollynant. Y symiau a ofynid fel echwvn ydoedd 178p. ar y Neuadd Drefol a'r Bwyddfeydd oyhoeadua; 27op. at fcrynu i Coedwig Pwllycrochan; a 225p. mewn cys- | sylltiad a'r gladdfa gyhoeddus. Eglurodd | Mr. Amphlett pa faint oedd wedi cael ei I godi eisoes mewn ffordd o echwyn gan y I cynghor. Y mae y Parchn. John Williams, Bryn- siencyn; T. Charles Williams, Porthaeth\vy a Charles Jones, Drefnewydd; wedi ymgym- meryd a'r gwaith o ddwyn allan Gofiant i'r diwedadr Barch. D. Lloyd Jones, Llan- dinam, yn gystal a chyfrol o'i bregethau, i'r diwedadr Barch. D. Lloyd Jones, Llan- dinam, yn gystal a chyfrol o'i bregethau, I mor fuan ag y bydd yn bossibl. 1 Mewn cyfarfod o Gynghor Plwyf Llanasa, y noson o'r blaen, cynnygiodd y Parch. Edward Pierce Trelogan, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ei fod yn ystyried y byddai yn fantais i'r plwyf yn foesol a chrefvddol i roddi i fyny ranu llythyrau ar y Sabbath. Cafodd y penderfyniad ei gefn- ogi, a'i gario. Galwyd Llanberis, sir Gaernarfon, yn I Baradwys y Tlawd.' Plwyf bychan ydyw, gyda phoblogaeth o tua 3,000; ac y mae yna gofnodiad i'r swm o 550p. gael ei ranu yn mysg y tlodion yno mewn un flwyddyn; yn chwanegol at yr hyn oedd yn cael ei roddi o'r trethi i rai a dderbynient gynnorthwy plwyfol. Sicrhawyd yr arian trwy gyngherddau, dar- lithiau, &c. Dvgwyd Ernest Rock, yr hwn, hyd yn ddi- weddar, oedd yn gwasanaethu yn St. Ann's Mansions, Abermaw, o flaen yr ynadon yn y dref hono, dydd Mercher, ar y cyhudd- iad a ladrata darn o garped Wilton, gwerth 2p., o St. Ann's Mansions. Dirwywyd ef i 3p., gan gynnwys y costau, yn niffyg hyny, yr oedd i fvned i garchar am fis. Cafodd yr arian eu talu. Y mae heddgeidwaid sir Fon yn ceisio cael allan i ba le yr oedd Miss Grace Hixley Wil- liams, yr hon a fu yn cadw ysgol breifat yn Nghaergybi, ond yr hon, yn ddiweddar, oedd yn Nhlotty y Valley, wedi myned. Rhyw bythefnos yn ol cafodd ganiatad i dreulio diwrnod gyda chyfeillion yn Nghaergybi; ac nid oes dim o'i hanes wedi ei gael, pan yr ydym yn ysgrifenu, er hyny. Cynnaliodd Annibynwyr Saesnig sir Dref- aldwyn eu cyfarfod blynyddol yn Trallwm dydd Iau, o dan lywydiaeth Mr. A. H. Jones, Trallwm. Pasiwyd penderfyniad yn amlygu boddhad y cyfarfod ar ddadganiad Llywydd Bwrdd Addysg nad oedd y Llyw- odraeth yn bwriadu derbyn unrhyw un o welliantau yr Arglwyddi ar y Mesur Addysg; ac yn annog y Llywodraeth i lynu yn ben- derfynol wrth ei mesur gwreiddiol. Mewn cyfarfod o gynnrychiolwyr glofeydd yr Hafod, Vauxhall a Bersham, a gynnal- iwyd yn y Neuadd Gyhoeddus, Rhos, nos Wener, o dan lywyddiaeth Mr. Thomas Hughes, cadeirydd Cynghrair Mynwyr Gwyn- edd, pasiwyd yn unfrydol i wneyd cais am gynnrychiolydd Llafur dros y Rhos a'r cylch ar y Faingc Ynadol yn Rhiwabon. Enwyd dau neu dri o'r gweithwyr fel rhai yn meddu cymmhwysderau i lenwi y salle bwysig ac anrhydeddus. Darllenwyd llythyr yn nghyfarfod Cynghor Dinesig Caergybi dydd Iau, oddi wrth Gym- deithas y Trethdalwyr Lleol, yn gofyn am ganiatad i ddirpnvyaeth dalu ymweliad a'r cynghor, gyda'r amcan o alw eu sylw at y golled fawr ynglyn a'r goleuni trydanol. Penderfynwyd derbyn y ddirprwyaeth yn breifat. Cyflwynwyd adroddiad yr archwil- iwr, yr hwn a ddangosai golled o l,047p. mewn cyssylltiad a'r goleuni trydanol am y flwyddyn ddiweddaf. Hysbysir fod Mr. William Jones, yr A.S. dros Arfon, gyda chydsyniad Cymdeithas Ryddfrydig ei ranbarth, a chefnogaeth ei ar- weinwyr yn Nhy y Cyffredin, wedi derbyn gwahoddiad i fyned gyda Mr. Samuel Smith, ar fordaith i India. Bwriada Mr. Jones adael y wlad hon ar y 23ain o'r mis hwn; ac yr oedd yn disgwyl cyrhaedd adref erbyn y bydd y senedd yn agor y flwyddyn nesaf. Ar ei ffordd adref, arfaetha dalu ym- weliad arbenig a'r Aipht. Y mae Mrs. Anne Edwards, Brenhines Sipsiwn sir Drefaldwyn,' fel y'i gelwid, wedi marw, yn 90 oed, yn y Bettws. Ann Siwgwr,' ydoedd ei llys-enw; ac yr oedd yn hen wreigan hynod ar lawer ystyr. Yr oedd yn un o ugain o blant; ac yr oedd ei gwr, a briododd hi pan yn lodes 17eg oed, yn un o dylwyth o 19 o blant. Yr oedd ei rhieni yn hynod am eu hirhoedledd. Ennillai ei thamaid drwy hawkio nwyddau mewn trol a mul hyd y wlad am hanner can milldir o gylch. Boddodd cadben yr ysgwner Gymreig Catherine a Margaret,' yr hon oedd yn masnachu rhwng Liverpool a Chaernarfon, yn y Ferswy, dydd Iau. Yr oedd ef a bach- gen ieuangc yn cyfeirio at y lan mewn cwch rhwyfo, tra yr oedd y Ilanw yn gryf, a thybir i'r cadben golli un o'r rhwyfau; ac wrth iddo wneyd cais i'w gael, iddo syrthio i'r dwfr, a chafodd ei gario maith. Clywyd gwaedd- iadau y bachgen am help gan gadben un o'r badau yn y borthfa, a chymmerwyd y bach- gen ar y bwrdd. Yn ystod ystorm drom a dorodd dros sir Drefaldwyn, prydnawn dydd Iau, llwydd- wyd i osgoi damwain a allasai droi allan yn ddifrifol ar brif linell y Cambrian.' Yr oedd tryc Ilwythog wedi cael ei adael ar fan- llawr Junction Moat Lane, i ddisgwyl y tren cyflym o Aberystwyth, i fyned i lawr. Yn mron cyn i'r tren gyrhaedd, dymchwel- odd y tryc a'r cludgelfi, gan ruthr sydyn o wynt. Trwy weithrediad dioed amryw o'r dynion yn yr orsaf, cliriwyd y llinell yn mron mewn pryd; ac felly, ni wnaed unrhyw ddifrod. Cymmerodd priodas le yn nghapel yr Annibynwyr Cymreig, Grove Street, Liver- pool, dydd Mercher, rhwng Mr. J. Jones Morris, pedwerydd mab y diweddar Mr. W. E Morris a Miss Helena J. Hughes, merch hynaf y diweddar Gadben William Hughes, Ceylon Villa, Porth Madog. Y mae y priod- fabyn gyfreit'hiwr tra adnabyddus yn Ngogl- edd Cymru, ac yn llenwi amryw swyddi cy- hoeddus yn sir Gaernarfon. Cyflawnwyd y seremoni gan y Parch. D. Adams, yn cael ei gynnorthwyo gan y Parch. John Roberts, gweinidog capel David Street (M.C.), Liver- pool, brawd-yn-nghyfraith y briodferch. Yn y prydnawn aeth Mr. a Mrs. Morris ar daith i'r Glanau Deheuol, lie y bwriadant dreulio eu mis mel. Yr oedd yr anrhegion yn llioso"; a drudfawr.

Y D E H E U .

0 YNYS ENLLI I YNYS GIFFTAN.

TYDDYNOD AFIACH.

HELYNTION BLIN GWR A GWRAIG.

SUL Y MAER, PWLLHELI.

DARLITHOEDD GILCHRIST.

ATTAL GWASTRAFF.

DWFR GYFLENWAD TRAWSFYNYDD.

Family Notices

CANON DAVIES.

ARCHDDIACONIAETH MEIRIONYDD.

ANFADWAITH ANAROFTfA [ n.

[No title]