Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
22 erthygl ar y dudalen hon
MARWOLAETH MR. JOHN WILLIAMS.
MARWOLAETH MR. JOHN WILLIAMS. Gofidus genym hysbysu am farwolaeth Mr. John Williams, gynt o 3, GIasfryn Terrace, Henllan Street, o'r dref hon, yr hyn a gym- merodd le boreu ddydd Mawrth, mewn can- elyniad i ddamwain a'i cyfarfu ychydig ddyddiau yn ol, yn chwarel Llandebie, De- heudir Cymru. Yr oedd yr ymadawedig, yn mysg eraill, wedi gadael Dinbych, i weithio yn y chwarel a enwyd, rai misoedd yn ol; ac yr oedd ei deulu, hefyd, wedi symmud yno. Achoswyd cryn ofid pan ddaeth y newydd am y ddamwain i'r dref; ac ychydig obaith a goleddid o'r dechreu am ei adferiad. Gell- ir chwanegu mai hon yw yr ail farwolaeth a ddigwyddodd i bersonau o'r dref hon yn y chwarel a nodwyd, o fewn ychydig amser i'w gilydd. Brodor o sir Fon oedd yr ymadawedig; ond yr oedd wedi trigiannu yn Ninbych am lawer o flynyddoedd, a bu yn gweithio yn Chwarel y Griag. Gadawodd y trangcedig—yr hwn oeddi yn 59ain mlwydd oed-weddw, pedair o ferched, tri o feibion, a lliaws o berthynasau eraill, mewn galar ar ei ol. Cymmer ei gladdedigaeth le heddyw (dydd Sadwrn), yn mynwent yr Eglwys Wen.
CYNGHOR DOSBARTH GWLEDIG LLANELWY.
CYNGHOR DOSBARTH GWLEDIG LLANELWY. CAFODD cyfarfod misol y cynghor hwn ei gynnal dydd Gwener. Llywyddid y gweith- rediadau gan Mr. Bennett Jones, Wedi i'r cadeirydd ddiolch i'r cynghor am ei ail ethol ef, yn ei absennoldeb, i fod yn gadeirydd y cynghor, rhoddodd dderbyniad gwresog i'r Parch. C. F. Roberts, olynydd y diweddar Mr. Mark Cross, fel cynnrychiolydd Llanddulas. Diolchodd Mr. J. D. Jones, yr is gadeirvdd, hefyd, am i'r cynghor ei ail ethol i'r swydd hono. Hysbysodd y clerc nad oedd y cwestiwn o echwyn at y cyflenwad o ddwfr i Llanfair wedi cael ei gymmeryd i fyny, a gwelwyd y byddai yn angenrheidiol codi echwyn chwanegol o 200p. Yr oedd yn disgwyl at- tebiad Bwrdd y Llywodraeth Leol cyn gohebu a'r Bwrdd Echwyn Cyhoeddus ar y tnater. Rhoddwj^d ar ddeall fod y gwaith yn cael ei gario yn mlasn yn foddhaol. Penderfynwyd caniatau cais Clwb Bechgyn Salford i gael cyflenwad o ddwfr i'w gwersyll yr Llanddulus, yn ystod wythnos y Sulgwyn, ar yr un telerau a'r flwyddyn ddiweddaf. Darllenwyd llythyr oddi wrth Gynghor Dinesig Abergele, yn gofyn i'r cynghor gym- meryd cwrs i ddarparu seddau yn y lonydd gwledig- oedd yn amgylchynu eu rhan- barth, ar gyfer dyeithriaid, ac eraill. Ar gynnygiad Mr. Thomas Evans cyttun- wyd nad oedd un gwrthwynebiad yn cael ei wneyd i hyny, ar y dealltwriaeth fod y Cyn- ghor Dinesig ei hun yn gosod y seddau i fyny. Gwnaeth Samuel Roberts, Hafod Bach, Llanfair, gais am ad-daliad mewn canlyniad i ddamwain tra yn gweithio mewn chwarel leol o dan y cynghor. Penderfynwyd talu ei gyflog iddo tra yr oedd yn analluog i weith- io. Gwnaeth Cynghor Plwyf Llanfair gais am ledu y ffordd wrth ymyl Petrual, uwch law Melai. Cyttunai y cynghor fod y cais yn un rhe- symol; ond cyn ymgymmeryd a'r gwaith pen- derfynwyd fod y cynghor, yn gyntaf oil, yn cael alhn pa un a oedd y tirfeddiannwyr yn foddlawn i roddi y tir angenrheidiol i'r am- can.
--' SIR ABERTEIFI.
SIR ABERTEIFI. CAFODD brawdlys sir Aberteifi ei chynnal yn Neuadd Drefol Llanbedr-pont-Stephan, dydd Sadwrn, ger bron y Barnwr Bernard John Seymour (Arglwydd Coleridge). Yn ei anerchiad i'r uchelreithwyr sylwodd ei arglwyddiaeth fod y rhaglen o droseddau, yn ffodus, yn un ysgafn, ac yn cynnwys dim ond dau achos
CYHUDDIAD 0 DYNGU ANUDON.
CYHUDDIAD 0 DYNGU ANUDON. Cyhuddwyd John Oliver Davies, saer ieu- angc, o Plasnewydd, Cellan, ger Llanbedr- pont-Stephan, o dyngu anudon yn ei dystiol aeth fel tyst, ar ei ran ei hun, yn llys yr yn- adon yn Llanbedr pont-Stephan, ar y 24ain o Ebrill diweddaf. Mr. Lloyd Morgan, K.C A.S., a ddywedodd fod y carcharor, ar ei gyfarwyddyd ef. wedi pledio ei euogrwydd. Yna aeth yn mlaen i ddyweyd yr amgylchiadau o dan ba rai yr oedd wedi rhoddi ei dystiolaeth. Yr oedd y carcharor wedi myned i'r llys i amddiffyn ei hun, heb un bwriad i roddi tystiolaeth i gefn- ogi' ei achos. Ond galwyd ef yn mlaen i gefn ogi ei achos; a diau iddo, wrth gael ei groes- holi, fyned dros y terfynau. Yna aeth yn mlaen i ddyweyd fod y carcharor yn ddyn ieuangc o gymmeriad rhagorol, ac os anfonid ef i garchar y byddai yr archeb i dalu 3'. yn yr wythnos tuag at gadwraeth y plentyn yn aros wrth ei ben; ae, wrth gwrs, nis gallai weithio i ennill dim tuag at dalu yr arian. Ac wedi iddo ddyfod allan o'r carchar, y byddai yr oil o'r ddyled o dan yr archeb yn ei erbyn, yr hyn a allai arwain i garchariad wedi hyny. Y barnwr, wrth anerch y carcharor, a ddy- wedodd ei fod wedi pledio ei euogrwydd o dyngu anudon, ac yr oedd hyny yn drosedd difrifol. 0 dan yr amgylchiadau y cyfeir- iwyd atynt, yr oedd ei achos yn wahanol i un oedd, mewn modd pwyllog, yn trefnu i gam- arwain y llys trwy roddi tystiolaeth dwyll- odrus. Ac yr oedd wedi dyfod i'r pendertyn- iad i beidio ei anfon i garchar; ac yr oedd yn foddlawn iddo gael ei rwymo ei hun i'r swm o 50p. i ddyfod i fyny i dderbyn ei ddyfarn- iad pan elwid arno. Cydsynioddy diffynydd yn union, a dyg- wyd gweithrediadau y frawdlys i derfyniad.
Lladrad o Capel.
Lladrad o Capel. Mary Ann Evans, 46ain mlwydd oed, hur- wraig, a blediodd ei heuogrwydd o ladrata o gapel cenhadol Breton, Llanrwst, 'set I o glychau, eiddo Dr. Mostyn esgob Menevia, ac eraill, Ebrill 25ain. Piediodd ei heuog- rwydd, yn mhellach, hefyd, o ladrata tepot, eiddo Jonathan Jones a Grace Thomas yn Llanrwst, yr un diwrnod. Cafodd y gar- chares, yr hon a gospwyd amryw weithiau am ladrad yn ystod y ddwy flynedd ddiwedd- af, ei hanfon i garchar am chwe' mis.
Achos o Ymosodiacf o Rhiwabon.
Achos o Ymosodiacf o Rhiwabon. Plediodd Edward Richards, 45ain mlwydd oed, glowr, o Rhiwabon, ei ddieuogrwydd o archolli William Lloyd, Mai 8fed. Ymddangosai Mr. Artemus Jones (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr. Kendrick, Rhiw- abon), i erlyn, a Mr. T. H. Parry (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr. A. O. Evans), i am- ddiffyn y carcharor; a chaniatawyd cyn- northwy cyfreithiol iddo, o dan Gyfraith Amddiffyniad Carcharorion Tlawd. Yr oedd y dystiolaeth mor groes i'w gil- ydd fel y sylwodd y barnwr nad oedd yr oil o'r gwirionedd wedi ei gael gan un o'r ddwy ochr. Cafodd y rheithwyr y carcharor yn ddi- euog; a gollyngwyd ef yn rhydd.
-.--------LLANYMDDYFRI.
LLANYMDDYFRI. EISTEDDFOD CWMSARNDDU. Cynnaliwyd yr eisteddfod uchod: y pryd- nawn Iau olaf o Fai, pryd y llywyddwyd gan Mr. A. Field, Cilycwm. Yr arweinydd oedd y 1 arch. H. Ivor James, Llanymddyfri. Y gerddoriaeth, Mr. W. Dunn Williams, Caerfyrddin; y farddoniaeth, Mr., Lewis Rodrick, Cilycwm; trysorydd, Mr. Tl Powell, Cefntrenfa a'r ysgrifenydd, Mr. W. Price, Cilpost. Caed araeth agoriadol gan y llywydd dysg- edig, ac er mai Sais hollol ydyw, o ran iaith, beth bynag er fod rhai o nodweddion y Cymro i'w gweled ynddo-etto, ar ol iddo draethu ychydig eiriau yn Saesneg, trodd i siarad Cymraeg, a chafwyd araeth wir allu- °? ga?(],do'. nes gwefreiddio y gynnulleidfa, a l boddloni yn fawr iawn. Athraw ydyw y dysgedig Mr. Field i'r yswain ieuangc, Mr. Campbell Davys, Neuadd Fawr. Yr oedd cadeirydd y pwyllgor, Mr. Harries, Bryndor, wedi dadgan wrth ei gynnyg i lywyddu, eu bod yn wir falch o'r fraint o gael i'w mysg Sais o'r fath nodwedd ragorol a brawdol. Yna aed yn mlaen gyda'r rhagJen ranlyn- 01:- Adrodiad i blant 12 oed, o Llawlyfr Mol- iant '-1, Annie; 2, Maggie a Myrddin yn gyfartal. Unawd i blant 13eg oed—1, Miss Davies. Glancrouddwr j 2, rhwng Gwladvs ac Isaac, Adrodd Yr esgyd sydd yn gwasgu '—1, T. T. 2, un o'r Porth. Unawd i rai 50ain oed, ac i bob un ddewis ei don ei hun o 'Lawlyfr Moliant. Daeth tri yn mlaen. Canodd y cyntaf, Mr. M. S. Morgan, Hosana,' ar eiriau y bardd Llifon Glan Y sbryd Duw ollvngir, a'r ddaear ad newyddir yr ail, Mr. J. Davies, Rhyddid ar y geiriau, Calfafi gaiff ei gofio-' a'r trydydd, Mr. J. Morgan, y don American- aidd, 'A welsoch chwi Ef ;y rhanwyd y wobr rhwng y ddau olaf. Am yr englyn goreu i'r Bladur '—Cyd- fuddugol, Mr. Daniel Jones, Cwmtofach, a Mr. D. H. Davies, Tynewydd, Cilycwm. Unawd i rai na fu'n fuddwgol ond unwaith1 -Gore-Li, Cymro bach. Unawd soprano, Peidiwch gofyn i mi ganu '—Goreu, Miss Bessie Evans, Cylch-y- berllan, Llanymddyfri. Unawd bass, 'Y bachgen dewr '-Goren, y bardd-gerddor, L. Rodrick, Cilycwm. Corau meibion, yn canu Awn tua'r cad- taes —Dau yn cvnnyg, cor Rhandirmwyn rarwemydd, Mr. Morgan James, New Inn Shop), a chor Cilycwm (arweinydd, Mr. L. Rodrick. Buddugol, y blaenaf ganodd. Ar y pennillion coffadwriaeth i Mrs. Har- ries, Bryndor '-Y goreu oedd Mr. Daniel Jones, Cwmtofach, Porthyrhvd. Unawd tenor, Yr hen gerddor 'GOI'eU, Mr. D. Davies, Rhydfelen, Llanfair-ar-y- bryn. J Pedwarawd, Meersbrook (yr awdwr, T. Thomas, gorsaf-feistr)—1, Parti Mr. L. Rodrick, Cilycwm. Canu unawd (agored i'r campwyr)—Goreu Miss Bessie Evans, Cylch-y-berllan, Llanym- ddyfri. Y prif adroddiad, Ples,erfad y Niagra 1, Mr. W. Lloyd Williams, LIanymddyfri. Y orif ddarn, sef, y don Llanymddyfri' (1. Thomas)—Un cor vn cynnyg, sef, cor Cilycwm, ac yn deilwng o'r wobr.
ANGLADD MR. T. HARRIES. GWYNFAES.
ANGLADD MR. T. HARRIES. GWYNFAES. Cymmerodd angladd y gwr rhagorol hwn, y crybwyllwyd am ei angau yn ein diwedd- af, leddydd Iau. Yr oedd yn angladd llios- og iawn. Gwasanaethwyd gan y Parch T Phillips, Siloh, a Dr. T. E. Thomas, Llan- ymddyfri. Aed a'i weddillion i orphwys i fynwent hynafol Ystradffin, lie yr oedd ei an- wyl briod yn gorphwyso, wedi ei ragflaenu er s lIawer o flynyddoedd. Dyddaned yr lor ei blant anwyl sydd ar ol, ynghyd a'i lu per- thynasau eraill. Boed hedd i'w Iwch hvd v boreu J Y bydd dorau beddau'r byd Ar un gair yn agoryd.' Dyfri Ap Tywi.
-------------DIANGFA HYNOD…
DIANGFA HYNOD BISYELWR ODDI WRTH FARWOLAETH. Yn ystod ei wyliau aeth Mr. C. E. Curtis, 648, Chatsworth Road, Chesterfield, gydag ,telodau Bywyd fad Brampton, ar fisycl i Buxton. Pan yn dynesu at y dref yr oedd- ynt yn disgyn i lawr gallt gyda chyflymder mawr, pan, mewn troad sydyn, y rhuthrodd Mr.i Ourtis i'r mur, tra y darfu i'w beiriant wrthneidio ar draws y ffordd, a chael ei chwilfriwio. Yn ffodus, yr oedd gan gyfeill- ion Mr. Curtis Zam-Buk gyda hwy, yr hwn y darfu iddynt ei roddi dros y lliaws toriad- au, cleisiau, a'r archollion gwaedlyd ar y pen, yr ysgwyddau, a'r gwyneb. A thrwy hyny esmwythaodd y poenau, a chadwyd yr archollion yn lan. Y diwrnod dilynol,' ys- grifena Mr. Curtis, 'gwelais fod pob perygl o grameniad a gwaed-wenwyniad wedi cael ei osgoi, ac yr oedd yr archollion yn dechreu iachau. Aeth yr ammhlygrwydd a'r toster ymaith, ac yn mhen pythefnos ar oly ddam- wain-yr oedd Zam-Buk wedi fy ngwella i fyny mor hynod fel, er syndod i'm cyfeill- ion, yr oeddwn yn alluog i ddycbwelyd at fy ngwa ith.' Gwers profiad Mr. Curtis ydyw, na ddylai un bi-yclwr gychwyn allan heb fod ganddo flwch o Zam-Buk yn ei feddiant. Y feddyg- iniaeth gyntaf fwyaf ragorol ydyw.
[No title]
Disgwylir Ardalydd ac Ardalyddes Bute i Gaerdydd tua chanol y mis hwn. Wedi ail dori allan y mae y pla yn Hong Kong, yn China. Mewn un diwrnod torodd saith a deugain o achosion newyddion allan. Ond, dechreu yr wythnos hon y tarawyd yr Ewropead cyntaf gan yr haint. Mae eyf- artaledd y rhai sydd yn meirw o hono yn an- arferol o uchel Profa hyn fod y pla yn ffynu mewn ffyrnigrwydd mawr yno. Gwneir pob ymdrech i attal ei ymlediad.
Y GOGLEDD.
Y GOGLEDD. Cynnaliodd yr Archddiacon Evans ei ym- weliad blynyddol yn Rhuthyn dydd Llun. Yr wythnos ddiweddaf darllenodd y Pro- ffeswr W. Lewis Jones, o Goleg Prifysgol Bangor, bapur o flaen Cymdeithas y Cym- mrodorion, ar 'Berthynas Dafydd ap Gwilym a llenyddiaeth.' Yn Nghaernarfon, dydd Llun, cafodd Tho- mas Holden, yr hwn oedd yn dyfod o Bolton, &'r hwn oedd wedi cael ei gospi yn flaenorol, o dan enw arall, ei anfon i garchar am fis, am iddo ladrata dillad ei gyd-lettywr. Cyfarfyddodd cerbyd modur o Kingston-on- Hull a damwain ddifrifol rhwng y Waen a Llangollen, dydd Llun. Derbyniodd un neu ddau o'r personau oedd ynddo niweidiau i'w penau, tra y cafodd y modur ei wneyd yn chwilfriw. Tra yr oedd hociwr pysgod, o'r enw Ed- ward Gannon, Porthmadog, yn eistedd o'r ta allan i'w dy, nos Sabbath, yn ystod yr ystorm daranau, tarawyd ef a dychryn wrth weled mellten ddisglaer, a'r foment nesaf syrthiodd i lawr yn farw. Nid oedd ond 43ain mlwydd oed. Gadawodd weddw a naw o blant. Y mae Mr. Ellis W. Davies, A.S., yn gefn- ogwr heddwch, ond creda yn nghynllun y Fyddin Dirioga ethol; ac wrth anerch cyfar- fod yn Nghaernarfon, dywedodd nad oedd Cymru wedi chwareu rhan mewn hanesydd- iaeth milwrol Prydeinig yn unig, ond mewn milwriaeth dramor; o blegid, os byddai idd- ynt ddilyn hanesyddiaeth yn fanwl, canfydd- ent enwau Cymry gwrolfrydig yn gyssyllt- iedig a'r rhan fwyaf o frwydrau o bwys ar Gyfandir Ewrop. Yn llys yr ynadon yn Mangor, dydd Sad, wn, cyhuddwyd Elizabeth Williams, Valley, a Mary Riley, Bodedern, o fod wedi cael ooèl gan un o'r enw Ada Heap, trwy dwyll- honiadau. Gan nad oedd Williams yn barod i dalu dirwy o 10s. a'r costau, anfonwyd hi i garchar am bedwar diwrnod ar ddeg, gyda llafur caled. Methai Riley, hefyd, yr hon yr oedd ganddi blentyn yn ei breichiau, a thalu y ddirwy, ac anfonwyd hithau i gar- char, yn yr ail ddosbarth. Dydd Llun bu farw yr Henadur Robert Thomas, Liverpool, a Cardigan House, Cric- cieth, yn Liverpool. Yr oedd yn Rhydd- frydwr selog, ac yn aelod blaenllaw o Gym- deithas Ryddfrydig Bwrdeisdrefi Caernarfon. Bu yn aelod o Gynghor Sirol sir Gaernarfon am lawer o flynyddoedd, a llanwodd amryw ewyddi pwysig, ac yn eu mysg yr un o gad- eirydd. Gwnaed ef yn ynad heddwch dros sir Gaernarfon 14eg mlynedd yn ol. Yr oedd yn ddiacon gyda'r Methodistiaid Calfin- aidd yn Seion, Criccieth. Brodor o Nefyn ydoedd yr Henadur Thomas. Gadawodd weddw a saith o blant mewn dwfn alar. Un noson yr wythnos ddiweddaf ymgyfar- fyddodd aelodau pwyllgor dathlu dydd Calanmai yn Llandudno, i ystyried beth fyddai oreu iddynt ei wneyd gyda'r swm o 43p. gweddill oedd ganddynt ar ol y diwr- nod hwnw. Penderfynwyd tanysgrifio 25p. i drysorfa y Gymdeithas er cario Gwelliant- au yn y dref; 5p. i bwyllgor y regatta,' a 5p. i bwyllgor Cymdeithas y Diwydiannau Qymreig, arwerthiant blynyddol yr hon sydd yn cymmeryd lie yn Llandudno mis Medi nesaf. Trefnir i gadw rhyw ychydig mewn Haw gogyfer a chyfarfod costau y cyfryw ddathliad y flwyddyn nesaf. Ystyrid fod yr wyl wedi troi allan yn foddhaol iawn. A ganlyn ydyw yr ymgais olaf i gyfieithu John Anderson my Jo, John,' o waith Burns. Y cyfieithydd ydyw Ehdirfab, o Llanberis „ John Prydderch bach, fy ngwr, John, Tro cyntaf cwrddem ni; Dy wallt oedd eiliw'r fran, John— Mor sionc y cerddet ti; Yn awr mae'th wallt yn wyn, John, A'th gefn yn grwn yn siwr; Ond bendith ar dy goryn llwm, John Prydderch bach, fy ngwr. John Prydderch bach, fy ngwr, John, Dringasom riwiau'r byd; Duw lor a fu ein help, John, Efe a'n daliodd c'yd; Mae'n hwyr, rhaid myn'd i lawr, John- Yn mynwent Min y Dwr, Ceir lie i orphwys ini'n awr, John Prydderch bach, fy ngwr.
.------.-Y DEHEU.
Y DEHEU. Nos Sadwrn daethpwyd o hyd i gorph Kate Davies, Malephant Street, Abertawe, yr hon oedd ar goll er dydd lau, yn y gam- las. Trefna, y Dirprwy Brifgwnstabl J. F. Gid- dings, o heddlu sir Forganwg, i ymneillduo yn fuan, ar ol gwasanaeth o 40 o flynydd- oedd. Dydd Gwener yr oedd Mr. Roberts, meistr gorsaf. Ibercarn, yn ymneillduo, ar ol gwas- anaeth o 50ain o flynyddoedd, 35ain o ba rai dreuliodd yn ngorsaf Abercarn. Wrth i blentyn o'r enw Barker, pedair mlwydd oed, o Cwmbran, chwareu gyda phys caledion, glynodd un yn ei gwddf; ac er pob ymdrech, mygodd mewn byr amser. Boddodd Gilbert Powell, 17eg mlwydd oed. yr hwn oedd yn byw gyda'i neni yn Tranquil House, Oakfield, Cwmbran, tra yn ymdrochi yn Nghamlas sir Fynwy, ger Ty Coch, dydd Gwener. Cynnaliwyd cyngherdd cystadleuol yn Pontardulais, dydd Sadwrn. Dyfarnwyd cor y Pwll, Llanelli, o dan arweiniad Mr. Rufus Rogers, yn oreu yn y brif gystadleu- aeth gorawl. Mown cyfarfod arbenig o Bwyllgor Add- ysg Morganwg, dydd Gwener, etholwyd Mrs. Annie Roberts-Rosser, Pontypridd, a Mr. James Roberts, U.H., Trefforest, yn llyw- iawdwyr Ysgol Sirol Pontypridd. Dywedir i iar, berthynol i Mr. S. Richards, Wyndham Street, Barry Dock, ddeori cywen gyda phedair coes yr wythnos ddiweddaf. Ymddengys fod yr iar yn dangos gofal ar- benig am i'r gywen gael rhan dda o ymborth. Yn Ilys ynadon Merthyr, dydd Gwener, cyhuddwyd William Charles Curtis, Nelson, 0 gelcio cheque' am 6p. 16s. 4c., eiddo David Evan Jones, Silbrook House, Eglwys wen. Traddodwyd y diffynydd i sefyll ei brawf. Y mae Mr. John Jones, Horeb, Llandys- fful, wedi cymmeryd rhan flaenllaw fel aelod p eglwys Annibynol Llandyssul er y flwydd- yn 1838, a llanwodd y swydd o ddechreuwr canu am 50ain o flynyddoedd. Er ei fod yn 88ain mlwydd oed, gall weled i ddarllen ac ysgrifenxi heb wydr-ddrychau. Yn ystod y tymmor hirfaith y mae wedi bod yn aelod. til fethodd a rhoddi ei bresennoldeb yn y capel gymmaint ag unwaith trwy afiechyd, a dim ond dau Sabbath o gwbl. Yn nghyfarfod misol Undeb Gweinidogion Caerdydd, anrhegwyd y Parch. Thomas Da- vies, Bethel, a nifer o lyfrau, ar ei waith yn rhoddi i fyny y swydd o ysgrifenydd, yr hon oedd wedi ei llenwi yn ffyddlawn am wyth mlynedd. Cyflawnwyd y seremoni hono gan y Parch. John Morris. Rhoddwyd derbyniad brwdfrydig i Syr Samuel T. Evans, y Cyfreithiwr Cyffredinol, yn Maesteg, nos Lun, ar ei waith yn ym- weled a'r lie i dderbyn anerchiad gan y trig- olion. Yr oedd y neuadd lie y cymmerodd y cyflwyniad le yn orlawn. Cymmerwyd y gadair gan Mr. John Howells. Dyddiau Llun a Mawrth agorwyd capel newydd i'r Methodistiaid Calfinaidd yn Pontyates, Caerfyrddin, pan y gweinyddid gan y Parchn. Huw Edwards, Pont-y-her- em; D. Geler Owen, Cydweli; Isaac Thomas, Ferry Side; Thomas, Tumble; Wil- liams, Camway; Rees, Minke, ac eraill. Nos Sadwrn traddododd Mr. Llewelyn Williams, A.S., araeth i aelodau Cymdeithas Cymmrodorion Caerfyrddin. Annogai y bobl ieuaingc i gymmeryd mwy o ddyddordeb mewn llenyddiaeth Gymreig. Dywedai y dylai y gymdeithas ddylanwadu ar yr awd- urdodau lleol. er gwneyd dysgu Cymraeg yn orfodol yn yr ysgolion. Chwanegwyd yr enwau canlynol at restr yr ynadon dros iwrdeisdré Aberteifi :-Mri. J. W. Stephens, meddyg (R.) Ivor Evans, cyf- reithiwr (R.) Thomas Watkins, ffermwr (R.); a John Evans, arwerthwr (C.). Y mae yr oil wedi Ilenwi y swydd o faer, gyda'r eithriad o Dr. Stephens, yr hwn ydyw y swyddog meddygol iechyd. Daeth pysgotwr, yr wythnos ddiweddaf, ar draws bathodyn yn yr Afon Gwili, ger Caerfyrddin; a chaed allan, wedi hyny, mai bathodyn ennillwyd gan Mr. John Rees (Caradog Bach), yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, ydoedd. Collodd Mr. Rees hi bum' mlynedd yn ol; ac fel y mae'n rhyfedd meddwl, bu ef farw y boreu y daethpwyd o hyd i'r bathodyn.
-- --'---_._---,----_-------------__-------.-.-DINBYCH.
DINBYCH. Pregeth iortk y Uroes.-N os Fercher cyn- naliwyd y gyntaf o'r cyfres odfeuon wrth y Groes, dan nawdd Cynghor Eglwysi Rhydd- ion y dref. Pregethwyd igynnulleidfa a tud gan y Parch. Thomas Griffiths, gweinidog y Bedyddwyr. C,
---...--------LLYNHELYG, GER…
LLYNHELYG, GER TREFFYNNON. Gwyl flynyddol yr Annibynwyr gynnaliwyd y Sabbath a'r Llun diweddaf. Pregethwyd yn rhagorol i gynnulleidfaoedd Uiosog gan y Parchn. Morgan Davies, Abergele; D. Jones Hartsheath, a Dr. D. Oliver, Treffynnon. Boed llwyddiant mawr i ddilyn.
[No title]
_M_- Cafodd aelodau Cymdeithas Ryddfrydig Merched Llandudno bleserdaith, ddydd Mer- cher, mewn cerbydau, trwy Gonwy i Trefriw, a cherddasant oddi yno at Lyn Crafnant! Dyohwelasant yn yr hwyr trwy Llanrwst.
LLADRATA ARIAN EI FEISTR.
LLADRATA ARIAN EI FEISTR. John Humphreys, 39ain mlwydd oed, llaf- urwr amaethyddol, a blediodd ei euogrwydd o ladrata 7p., arian James Davies, Ffostrasol Inn, yr hwn le a saif banner y ffordd rhwng Ceinewydd a Llandyssul, ar yr 8fed o Ebrill diweddaf. Yr oedd y carcharor wedi cael ei gyflogi fel llafurwr ar yr adeg ddywededig gan Mr. Davies, ac anfonwyd ef i'r bangc i'w feistr; ond yn lie hyny defnyddiodd hwy i'w wasanaeth ei hun. Cydnabyddodd y carcharor iddo gael ei gospi ddwy waith yn flaenorol am ladrad yn Llanilar Uchaf ac Aberaeron. Wrth i'w :arglwyddiaeth basio dedfryd o wyth mis o lafur caled; dywedodd fod y diffynydd wedi cael triniaeth dyner am droseddau cyffelyb, ond nad oedd hyny wedi llwyddo i'w ddiwygio oddi wrth yr arf eriad o ladrata. Nid oedd yn bwriadu rhoddi ded- fryd mor drom ag oedd y carcharor yn ei deil- yngu, yn y gobaith y byddai iddo ddiwygio; a rhoddodd ar ddeall iddo mai dyna y siawns olaf, y mae'n debyg, a gawsai i wneyd hyny.
SIR DDINBYCH.
SIR DDINBYCH. Agorwyd brawdlys sir Ddinbych yn Rhu- thyn, dydd Mawrth, ger bron y Barnwr Channell.
Rhot y Foel Farnmau ar Din.
Rhot y Foel Farnmau ar Din. Plediai John Jones, 25ain mlwydd oed, llafurwr, a Robert Griffiths 26ain mlwydd oed, llafurwr, eu dieuogrwydd o osod y Foel Fammau ar dan, Ddydd Gwyl y Bangciau, Ebrill 20fed, a gwneyd colled i'r swm o lOOp. i eiddo oedd yn perthyn i Mr. Arthur Henry Potts. Ymddangosai Mr. Trevor Lloyd (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr. Vincent Johnson) i erlyn; ac amddiffynid Griffiths gan Mr. Owen Roberts (yn cael ei gyfarwyddo gan y Mri. W. R. Evans a Jones). Mr. Trevor Lloyd a ddywedodd fod dau geidwad helwriaeth ar y mynydd ar hwyr y diwrnod dywededig, pan y canfuasant fod tan wedi tori allan mewn pump o wahanol le- oedd. Daethpwyd o hyd i'r ddau garchar- or yn agos at un o'r tanau, a phan gyhudd- wyd hwy, cydnabyddasant, yn ymarferol, y trosedd, ond dywedodd un o honynt iddo fod yn goleuo ei bibell, ac i fatsen syrthio. Dangoswyd, modd bynag, i'r carcharorion fod yno nifer o danau, a phan ofynwyd iddo a oedd wedi goleuo ei bibell yn y gwahanol leoedd hyny, ni ddarfu iddo atteb. Mewn amddiffyniad i Griffiths, dadleuid ei fod o feddwl egwan; a dywedid fod y tir ar ba un yr oedd y tanau wedi tori allan yn cael ei ystyried gan lawer fel cyttir. Yn ngwyneb y dystiolaeth gyda golwg ar y carcharorion, nad oeddynt yn hollol gyfrif- ol am eu gweithredoedd, darfu i'r barnwr eu rhyddhau, ar eu meichiafaeth eu hunain, i ddyfod i fyny i dderbyn eu dyfarniacl os gelwid arnynt.
Carcharor ar Ffo.
Carcharor ar Ffo. Ni wnaeth Thomas Evans, 32ain mlwydd oed, teiliwr, Llanrhaiadr, ei ymddangosiad, mewn attebiad i gyhuddiad o ladrata coed, &c. at adeiladu, gwerth 10p., eiddo William Hopkins, contractor yn Ngwallgofdy Din- bych ac Adeiladau Sirol Rhuthyn. Yr Arolygydd Jones a ddywedodd fod yr heddgeidwaid wedi gwneyd pob ymchwiliad am y dyn, ond nis gallent ei olrhain. Yr oedd wedi myned i ffwrdd rhyw bythefnos yn ol; ac er fod; gan yr heddgeidwaid reswm dros gredu nad oedd yn mhell, nid oeddynt wedi gallu ei olrhain. Gwnaeth y barnwr archob i syrthio ar y meichiafon. Os cawsai y carcharor a gy,i,- meryd i fyny, byddai yn rhaid iddo aros yn ngharchar hyd y frawdlys nesaf, os ra chawsai yr achos ei brofi yn y frawdlys -hwarterol.
Yr Achos o Saethu o Llansannan.
Yr Achos o Saethu o Llansannan. Robert Owen, 40ain mlwydd oed, Ilafur-.vr, yr hwn oedd wedi bod allan ar feichiafaeth, a gyhuddwyd o fyned ar dir yn Llansannan, noson Tachwedd 19eg, wedi ei arfogi a gwn a phastynau, i'r aiucan o gymmeryd nei rr iaeth, ac ar yr un pryd o ymo&od ar Wal'-e■: Payne, prif geidwad helwriaeth ar ystad Fairwood. Ymddangosai Mr. Ellis Griffith, A.S. (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr. A. O. Evans), i erlyn; a chynnrychiolid y diffynydd gan Mr. Artemus Jones (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr. 0. R. Moseley). Tystiodd y carcharor, ar ei lw, ei fod yn cysgu yn fferm y Forest trwy y nos pan gymmerodd y ffrwgwd le. Gwadai yn ben- dant iddo gymmeryd un rhan yn yr ymosod- iad. Galwyd tystion i gefnogi y dystiolaeth hon, a dywedai un o honynt ei fod ef yn cysgu yn yr un ystafell. Pan yr aeth ef i orphwys ganol nos, yr oedd y carcharor yn cysgu yn drwm. Cafodd y rheithwyr nad oedd y carcharor yn euog; a gollyngwyd ef yn rhydd.
Cynghaws am Athrod.
Cynghaws am Athrod. Yn y frawdlys hon; dydd Mercher, gwran- dawyd cynghaws Wilfrid C. Meason, Taly- cafn, yn erbyn William Jones, Glan Conwy, am iawn am athrod. Yr oedd yr achos dros yr erlynydd i'r per- wyl fod Meason, gyda'i ddyn, Richard Wil- liams, wedi myned i arwerthfa Talycafn, Tachwedd 4ydd, gan gymmeryd gyda, hwy fuwch a dau o loi. Yr oedd yr erlynydd o'r tu fewn i gylch yr arwerthfa. yn gwneyd bargen a chigydd, pan y llusgddd y diffyn- ydd ef o'r cylch hwnw i'r oorlanau, lie yr odd y lloi, a chyhuddodd ef o ladrata sachau t'w loi, a galwodd ef yn ysizowi-idrel a lleidr. Ail adroddwyd y cyhuddiad gan y diffynydd wrth ddyn yr erlynydd, mewn cer- byd iiordd haiarn. Rhoddodd y rheithwyr eu dyfarniad yn ffafr yr erlynydd am ffyrling o iawn, a phob plaid i dalu ei chostau ei hun.
AMLWCH.
AMLWCH. CYHOEDDI EISTEDDFOD MON AM 1909. Y mae Eisteddfod Gadeiriol Mon mewn mawrfri adnewyddol etto er's rhai blynydd- oedd, erbyn hyn. Cafwyd hwyl yn Llan- rhyddlad, a 'ralli' fawr, ys dywedai Y Go- hebydd,' yn Nghaergybi y liynedd. Eleni, yn Llangefni y bydd tynu'r dorch, a diau yw y ceir dawn a dysg yno ar eu goreu y Llungwyn sy'n dyfod. Dydd Sadwrn diweddaf. yr oedd gwyr Mon, lleyg a Hen, yn Amlwch, hen dref hyn- od ei defion, mewn Gorsedd yn cyhoeddi Eisteddfod Mon am 1909. Ymgynnullwyd am 3.15 y prydnawn yn yr Institute,' i arwisgo'r Derwyddon, y Beirdd, a'r Ofyddion, ac i ffurfio yr orym- daith, a flaenowvyd gan seindorf y dref, ac a'r hon yr ymunodd y Cynghor Dosbarth Din- esig, dan lywyddiaeth eu cadeirydd, Mr. E. J. Evans, ac aelodau cynghorau eraill, gyda gwahanol bwyllgorau yr eisteddfod-y Pwyllgor Cyffredinol a'u cadeirydd, y Parch. J. J. Richards; y Pwyllgor Llenyddol a'u cadeirydd, y Parch. T. Pritchard y Pwyll- gor'Cerddorol, cadeirydd, y Parch. R. o. I Williams; y Pwyllgor Celf a'u cadeirydd. Mr. W. Fanning; a'r Pwyllgor Gweinyddol ac Arianol, cadeirydd, Mr. W. Thomas, a chyda hwy torf o drigolion tref a gwlad. Cyrhaeddwyd Petryal y dref, ac yno, o dan lywyddiaeth y Parch. Canon E. T. Davies (Dyfrig), o'r Gaerwen, Derwydd llywyddol, yr agorwyd Yr Orsedd. Rhyddfab yn Gledd-glhidydd; a Mr. Lewis Hughes yn Drefnydd. Udganwyd y Corn Gwlad, a thrwy'r ddefod. yn ol arfer, gan ddadwaeniaw a gwainiaw'r cleddyf, ac ar uchaf floedd y Canon yn gofyn, a phensyfrdanol attebiad y dorf iddo —Heddwch! cychwynwyd y gweithrediad- au. Chwareuwyd ar y delyn gan Delynor yr Orsedd, a datganwyd gyda'r delyn, yn awr ac eilwaith, gan Miss E. Roberts a Mr. Owen, gyda'u medrusrwydd arferol, er gryn foddhad. Hefyd, canwyd yn feistrolgar gan Mr. R. H. Jones, ail athraw Ysgol y Cy- nghor, Amlwc'h, ar y don, Rhyfelgyrch Cadben Morgan,' eiriau pwrpasol o gyfan- soddiad Mr. Lewis Hughes, U.H., cym- mhwys i'r amgylchiad. Gafwyd gweddi yr Orsedd gan Dyfrig, ac arawdiau ganddo ef, Mr. Cadwaladr Davies, cadeirydd Pwyllgor Sirol yr Eisteddfod; y Parch. T. Pritchard, a Mr. Lewis Hughes. ac .anerchiadau barddonol gan y beirdd a'r prif-feirdd Mr. R. R. Thomas. Rhyddfab, Buddug, Cybi Felvn, E. O. J., Llew Llwyd- iarth, Twrog, a Dyfrydog. Darllenwyd cyhoeddiad yr eisteddfod gan loan o Ian Ystwyth, fel hyn:- c Y Gwir yn erbyn y Byd.' Mon mam Cymru, Gwlad gu gain, Parad- wys Ynys Prydain.' Yn Ngwyl Alban Eilir, 1908. Bydded Hysbys pan y bydd oed Crist yn 1909 a chyfnod Gorsedd Beirdd Ynys Mon yn Ngwyl Alban Eilir, ac yn nesau at mlaenred Gwyl Alban Hefin, ar ol y Gwys a Gwahawdd hyn, i Gym- ru oil, gan Gorn Gwlad, ar amlwg yn ngolwg, yn nglyw Gwlad a Theyrnedd, dan Osteg a Rhybudd undydd a Blwyddyn, cyn- nelir Eisteddfod a Gorsedd wrth Gerdd "yn nhref Amlwch yn Mon, ag hawl i bawb a geisiont barn wrth Gerdd Defawd a Bardd- oniaeth, i gyrchu i'r dref hono, lie ni bydd Noeth Arf yn eu herbyn, ac yno, yn erwyn- ebol y Tri Chyntefedigion Beirdd Ynys Prydain, nid amgen, Plenydd, Alawn, a Gwron, a chyda hwy Gwynedd, J. T. Job, John Morris Jones, Me-ilir Mon, Cybi Felyn, Buddug, Dyfrig, R. Mon Williams, loan Mon, E. O. Jones, Ap Huwco, Rhyddfab, a holl feirdd Ynys Mon, a hwynt- oil yn Feirdd a Thrwyddedigion wrth Fraint a Defawd Beirdd Ynys Prydain, i gynnal Barn Cadair a Gorsedd ar Gerdd a Barddoniaeth a Gwv- bodau, yn nawdd Cadair Mon, ac wrth Fraint a Defawd Beirdd Ynys Prydain. Yn wyneb Haul, Llygad Goleuni.' Llafar bid lafar.' 'Y Gwir yn erbyn y Byd.' Dygwyd y gweithrediadau i derfyniad, drwy i'r Parch. J. J. Richards gynnyg pleid- lais o ddiolchgarwch i Dyfrig, y Derwydd llywyddol, ac i'r dorf a lanwent' y Petryal o gongl i gongl, ganu Hen Wlad fy nhadau.' Uwch ben y meini, oddi ar ba rai y llyw- yddai Dyfrig mor fedrus, yr oedd yn grog- edig baner gymmhwys y Ddraig Goch. Tyst- iai amryw teilwng i famu, fel Trefnydd yr Orsedd, y datganwr gyda'r delyn, Buddug, Mechellydd Mon, Mr. W. Hughes Jones, ac erailj, na chafwyd yn eu cof hwv enoed- rhagorach gyhoeddiad eisteddfod, heb eithrio rhai yr Eisteddfod au Cenedlaethol ar eu gor- eu, ac nis gall lai na bod, yn gymmhorth nid bychan i'r cynnulliad yn Llangefni y Llun- gwyn hwn, ac yn ddiddadl eisteddfod 1909, yn Amlweh.