Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
27 erthygl ar y dudalen hon
TY YR ARGLWYDDI.
TY YR ARGLWYDDI. Dydd Ian, Tachwedd 12fed.—Cylnifmerodd yr Arglwydd Ganghellydd ei. sedd am chwarter wedi pedwar.
Mesur y Plant.
Mesur y Plant. Cymmerwyd Mesur y Plant, fel yr oedd wedi ei ddiwygio mewn pwyllgor, o dan ys- tyrdaetih. Cynnygiodd yr Arglwydd Gamghellydd ad- ran newydd, yn caniatau i farnwr, pan geid merch yn euog o lofruddio ei phlentyn, os byddai o dan flwydd oed, i basao dedfryd arall heb law un o farwolaeth. Eglurwyd nad oedd dedfryd marwolaetih byth yn cael ei cbario allan yn y cyfryw achoston. Gwrthwynebodd yr Arglwydd Brif Farnwr yr adran, fel un angihyfaddas i'w gosod mewn mesur o'r fath yma; a dywedodd fod yr boll farnwyr oedd yn awr yn Llundain, gyda'r eithriad o Arglwydd Coleridge, yn cydolygu ag ef. Siaradodd Arglwydd Halsbury ac Argl- wydd Ashbourne, hefyd, yn erbyn yr ad- ran. Awgrymodd yr esgobion oedd yn bresen- nol, hefyd, o dan yr amgylchaadau, na fydd- ai iddynt hwy bleidleisdo y naill ffordd na'r llall. Gwrthodwyd yr adran trwy 42 o bleidleis- iau yn erbyn 36. Gwnaed rihai gwelliantau yn y mesur; a rhoddwyd gorchymyn iddo gael ei ddarllen y drydedd waibh.
TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. Dydd IMI, Tachwedd 12fed.—Cymjn:er«dd y Liefarydd y gadair am chwarteir i dri.
Yr Anghydwelediad yn y Fasnach…
Yr Anghydwelediad yn y Fasnach Cotwm^ Mr. Haworth a ofynodd i Lywydd Bwrdd Masiiach pa un, yn ligwyneb yr anghyd- welediad diweddar yn y fasnacih mewn cot- wm yn sir Lancaster, a fyddai ef yn barod i ystyried y jmodoldeb o gymmeryd cam, trwy ddeddfwriaeth, neu fel arall, i sicrhau graddfa hunan-symmudol, er rtheoleiddio cyflogau yn ol sefyllfa masimch; a thrwy hyny osgoi streiciau a chload allan. Mr. Ohurdhill a attebodd ei fod ef o'r farn na, fyddai i'r meistriaid na'r gweithwyr ddym- uno i raddfa o'r fath, wedi ei phasic yn gyfraith, reoleiddio y cyflogau. Byddai Bwrdd Masnach yn barod i eSltyn ei gyn- northwy, os dymuniid iddo wneyd hyny, yn niglyn a thrafodaethau o'r fath.
Y Mesur Addysg.
Y Mesur Addysg. Mr. As qui tb, mewn attebiad i Mr. Clough a Mr. Balfour, a ddywedodd y byddai i un- rhyw gyfnewidiad a fwriadai y Llywodraeth ei wneyd yn y Meaner Addysg ycmddangos ar ffurf o welliantau ar y papur rhybudd; ac y rhoddi digon o rybudd o hyny.
Pobl Allan o Waith.
Pobl Allan o Waith. Holwyd Mr. Burns gyda golwg ar yr arch- gyhoeddwyd gan Ewrdd y Llywodraetli Leol, yn cyfnewidt yr ammodiau o dan ba rai y gallai pwyllgor gymmeryd o dan ystyr- iaeth gads am gael gwaith. Cynnygiodd Mr. Henderson, wedi hyny, i'r Ty gael ei ohirio, er dadleu y pwynt pa un a oedd yr archeb mewn cydgordiad a'r addewid wnaed gan y Prifweinidoig yn ei araetihi ddiweddar. Bglurodd Mr. Asquitih fod yr archeb i'w pihriodoli i g,amargraph, ac y byddai iddi gael ei diddymu, ac y oynoeddid archeb newydd, mewn cydgordiad a'r mynegiad wnaed gan- ddo elf. Wedi hyny cafodd y cyniiygiad i ohirio y Ty ei alw yn ol,
Porthladd Llundain.
Porthladd Llundain. Oyimmerwyd Mesur Porthladd Llundain o dan ystyriaeth bellach mewn ipwyllgor. r
TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. Dydd Gwener, Tachwedd 13eg.-Oymmer- odd y Liefarydd y gadair ganol dydd.
Mesur y Trwyddedau.
Mesur y Trwyddedau. Cymmerwyd Mesiur y Ti-wyddedau o dan ystynaeth pellach. Cynnygiodd y Cyfreithiwr CyfFredinol ad- ran. newydd, is-adran pa un. fe ddywedodd, oedd yn cael ei bwriadu d bersonau fyddai yn ciniawa mewn gwesttai neu restaur- ants ar y Sabbothau, i gael diodydd meddw- ol gyda'u hymboiith ar yr un oriau ag yn awr. Cymmerwyd yr ail is-adran yr hon a ddy- wedai y gallai diodydd heb fod yn feddwol gael eu (gwerthu yn ystod oriau oau, o dan ystyriaeth. Gwrthwynebwyd y rhan olaf o'r adran gan amryw Ryddfrydwyr, yn gystal a chan Mr. Greiton, Undebfwr. G-ofynodd y Cyfreithiwr Cyffredinol i',r Ty roddi ail ddarlleniad i'r adran, ac awgrym- odd nad oedd y Llywbdraeth yn gofalu beth ddigwyddaa i'r ail is-adran wedi hyny. Oariwyd ail ddarlleniad yr adriam trwy 199 o bleidleisiau yn erbyn 83-mwyafrif, 116; a chwanegwyd hi at y (mesur. Pasiwyd adran newydd, yn darparu ar gyfer cau tafarndai yn ystod oriaiu polio mewn etholiadau seneddol, trwy 209 Q bleid- leisiau yn erbyn 78; mwyafrif, 131. Diwygiwyd adran 1 fel ag i ddarparu ar tyfor caniatau trwyddedau nev.yddion o an amgylchiadau arbenig. Cafodd gwellianft ei basio yn adran 2, mewn perthynas i'r rhanbarthau gyda golwg ar ddtewisiad Ilool. Gohiriwyd y Ty aim banner awr wedi pmiijp.
TY YR ARGLWYDDI.
TY YR ARGLWYDDI. Dydd LIun, Tachwedd 16eg.-Cymmerodd dadl fer le yn y Ty heddyw ar sefyllfa isel addysg yn y fyddlin, a darparu dynion, er iddynt ddychwelyd i fywyd gwladol, trwy roddi addysg yn y gwahanol greiftau.
TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. Dydd LIun, Tachwedd 16eg.—Cymmerodd y LIefarydd y gadair am chwarter i dri.
Mesur y Trwyddedau.
Mesur y Trwyddedau. Ail agorvvyd y ddadl ar Fesur y Trwydded- au ar yr adiroddiad. Cynnygiodd Mr. P. White eu bod yn gwrthod adran 3, yr hon oedd yn gosod i lawr yr amser cyfyngedig. Wedi rhyw gymmaint o ddadleu, gwrthod- wyd y gwelliant trwy 261 o bleidleisiau yn erbyn 103. Yna daeth penderfyniad y cloadur i weith- rediad; a chymmerodd nifer o ymranivadau le ar amryw welliantau o eiddo y Llywodraeth ar adranau 3 a 4. Cafodd yr adranau, fel yr oeddynt wedi cael eu diwygio, eu cario. 1 Cymmerwyd amryw adranau eraill o dan ystyriaeth, a. chyn Pr Ty godi, cafodd adi-an- au 5, 6, 7, ac 8, eu pasio. Cododd y Ty am ugain munyd i un ar ddeg. •MM! I lQ ■
TY YR ARGLWYDDI.
TY YR ARGLWYDDI. Dydd Mawrth, Tachwedd 17eg.—Cymmer- wyd yr adroddiad ar Fesur yr Awdurdodau Lleol (Derbyn Gohebwyr y Wasg) o dan ys- tyriaeth ac wedi i rai gwelliantau gael eu pasio gorchymynwyd i'r mesur gael ei ddarllen y drydtedd wiaith.
TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. Dydd Mawrth, Tachwedd 17eg.—Cymmer- odd y Llefarydd y gadair am chwarter i dri.
I Tuberculosis' ar Wartheg…
I Tuberculosis' ar Wartheg o Cymru. Mr. Ellis Griffith a ofynodd i'r aelod an- rhydeddus diros ddeheu Somerset fel yn cyn- nrychioli Bwrdd Amaethyddiaeth, pa un a oedd sylw y Bwrdd wedi cael ei dynu tat gan- lyniad yr arbrawnadau diweddar oedd; wedi cael eu carlo yn mlaen ar y fferm gyssylltied- ig a Choleg Prifysgol Aberystwyth, pan y cafwyd, trwy gymndiwysiad o'r prawf ar gyfer tuberculia fod 24 y cant o'r gwartheg godro ar fferm y llaethdy yn dioddef oddi wrth tuberculosis,' ac iddynt wneyd! i ffwrdd a hwy am gryn golled; pa un a oedd gan y bwrdd reswm dros dybio fod tuberculosis yn bodoli i'r un graddau yn y wlad yn gy- ffredinol; a pha. un, gyda'r amcian o stamp- io' yr afiechyd allan, a fydd i'r Llywodraeth dalu i'r perchenogion werth y gwartheg ddin- ystriwyd, fel rhai oedd yn dioddef o dan y tuberculosis/ mewn unrhyw ffurf ? Syr E. Strachey.—' Y mae yr attebiad i'r rhan gyntaf o'r cwestiwn yn gadarnhaol. Ni fyddat y bwrdd, fel y mae yn cael ei gyf- arwyddo yn bresennol, yn barod; i ymgym- meryd a gweithrediadau yn erbyn tuber- culosis' mewn anifeiliaid ar y llinellau aw- grymwyd.
Mfin Dydldynod yn Maesyfed.
Mfin Dydldynod yn Maesyfed. Cadben Clive a ofynodd i Syr E. Strachey, pa un, a oedd efe yn hysbys fod Cynghor Sirol sir Faesyfed. ar ol rhanu y tir sicrhawyd gan- ddynt hwy o dan Gyfraith y Man Dyddynod yn ddeuddeg o fan dyddynod, wedi gorfod gosod deg o'r man dyddynod i ffermwyr mawr, gan nas gellid cael man dyddynod'i'w cymmeryd am y rhenti ofynid; ac a, allai efe ddyweyd pa nifer o Gynghorau Sirol oedd wedi cael yr un brofiad. Syr. E. Strachey.—' Hysbysir y Bwrdd gan y Cynghor Sirol mai nid dyna fel yr oedd y ffejthiau. Yr oedd un o'r tyddynod wedi cael ei osod dros dymmor, hyd y 25ain o Fawrth nesaf, i un oedd eisoes yn dal 46 o erwau, ond nid oedd un o'r tenantiaid eraill yn dal mwy na hanner cant o erwau, gan gynnwys y t,ir ddelid o dan y cynghor.
Mesur y Trwyddedau"
Mesur y Trwyddedau" Ail gymmerwyd yr adroddiad ar Fesur y Trwyddedau o dan ystyriaeth. Mr. Cave a gynnygiodd adael adran 10 allan, yr hon sydd yn ymwneyd a 'r swm o ad- daliiad. Dywedai fod yr adran yn un ang- hyfiawn, a bod sylfaen prisiad, yn ol Attod- len A yn hollol annigonol. Y Cyfreithiwr Cyffredinol a attebodd ei bod yn berffaith deg, ac y, byddai y personau a ddalient drwyddedau yn llawer gwell allan nag o dan Gyfraith 1904. Mr. Harmood Banner a ddyfynodd ffigyrau, gyda'r amcan o ddangos nad oedd Attodlen A yn rhoddi dim yn agos lawn werth y trwyddedau oedd yn cael eu dileu. Mr. J.- M. Henderson a ddywedodd ei fod yn credu fod naw allan o ddeg o'r tai cwmniiau dros ba rai yr oedd ad-daliadau wedi cael eu gwneyd o dan ddyfarniad Kennedy, wedi bodl yn fethiant, ac i'r ad-dal- iad gael ei dalu am ddim. Os nad oedd At- todlen A' yn deg i'r darllawyr, eu bai hwy eu hunain ydoedd hyny. Cymmerwyd rhan yn y ddadl gan Mr. Bal- four, Mli. M'Kenna, Syr G. Parker, ac eraill. Mr. Clement Edwards a sylwodd fod Syr G. Parker wedi dyweyd, gyda gwawd, mai camgymmeriad ydoedd edrych at y mesur am gyfiawnder. Yr oedd efe yn tueddu at gyttuno a'r boneddwr anrhydeddus. Nid cyfiawnder ydoedd, ond haelfrydedd mawr a arddangosid tuag at y darllawyr (cym.). Me-wn perthynas i Adran A, holl sylwedd y cynnygiad ydoedd, fod y perchenogion yn dadgan eu gwerth. Yr oedd awgrymu mai y sylfaen ar ba un y dylai yr ad-daliad gael ei wneyd ydoedd yni y tenant, yn un hollol iawn. Yr oedd darpariaeth wedi cael ei gwneyd eisoes yn y mesur ar gyfer hyny. Er dangos y gwahaniaeth rhwng y driniaeth i denant yn y mesur, sac o dan Gyfraith 1904, nododd achos yn ei etholaeth ei hun, lie y derbyniai tenant 25p., o ad-daliad, gwerth rhent blynyddol y ty, ond o dan y mesur, y swm fyddai 280p. Y gwahaniaeth yctoedd, o dan Gyfraith 1904, telid ad-daliad ar y gwerth, tra o dan y mesur, yr oedd yn cael ei sylfaenu ar golled bersonol, gan gynnwys y golled a geid trwy gael eu troi allan o waithi. Wedi i Mr. Rutherford a Mr. A. Richard- son, siarad a chan ei bod erbyn hyn yn han- ner awr wedi idieg, rhoddwyd y cloadur ar waith-, a, chauwyd allan nifer iiosog o well- iantau ar yr adranau o 10 i 17. Ymranwyd ar welliant Mr. Cave i adael adran 10 allan; a chafodd ei wrthod trwy 287 o bleidleisiau yn erbyn 96. Gohiriwyd y ddadl; a chododd y Ty am chwarter wedi un ar ddeg.
CYNGHOR DOSBARTH GWLEDIG LLANELWY…
CYNGHOR DOSBARTH GWLEDIG LLANELWY (DINBYCH). Cafodd cyfarfod misol y oynighor hwn ei gynnal dydd Gwener, o dan lywyddiaeth Mr. Bennett Jones. Ar gynnygdad y cadeirydd, a dhefnogiad Mr. Jc)ihn Iloberts, pasiwyd pleidlais o gyd- ymdeimlad a'r Siwyddog meddygol (D'r. Lloyd Roberts), ar farwolaeth ei briod. Mr. Ihomas Evans a lonigyfarehodd y oad- eirydd ar ei ddyrchafiad i'r faiingc ynadol sirol. Gwnaed sylwadaui i'r un cyfeiriad gan amryw o'r aelodau eraill. Cydnabyddodd y cadeirydd y gwahanol siaraidwyr am eu dyrmuniadalll da. Ysgrifenodd y Mil. Howard i hyabysu ei fwriad i ledu y ffordd yn agos i Wiigfa-iir; a gofynodd am i bwyllgor byohan gael ei nodi i'w gyfarfod ef ar y llanercih er dyfod i ddeailtwriaeth gyda golwg ar hyn. Pen- nodwydi y Mri. John Morns, Wm. Jones, a Thoma-s Hugihes, i ifurno pwyllgor. Ar ran y cynghor arwyddodd y cadeirydd weithred i drosglwyddo tir at godi ysbytty ■ rhwng y cynghor a Chynghor Dosbarth 1 Gwledig Llanehvy (Fflint). I Pennodwyd Mr. Thomas Salusbury yn llywrodraethwr Cbleg Bangor, am 1909. Derbyndwyd llytshyr oddi wrth, Fwrdd y Llywodraeth Leol, yn dymtino cael eu hiys- bysu gyda golwg ar y cam fwriedid ei gym- merydT gan y cynghor er cario allan argym- mhelliadau eu harolygwr (Dr. Fletcher). Un o'r argymmhelliadau hyn ydoedd, y dym- unoldelj Ó godi oyflog swyddog meddygol iechyd (Dr. Lloyd itoberts), i gyfatteb i'r "Y 11 dyledswyddau chwanegol y gelwir arno i'w cyflawni. Wedi ychydig ddadleu, penderfynwyd go- hirio y mater hyd dymmor swyddogaeth Dr. Lloyd Roberts, yn dyfod i ben yn Mawrth nesaf. Cafodd aohos o ad-daliad gan Mr. Henry I Williams, gweithiwr ar y ffordd fawr yn Henllan, mewn canlyniad i ddamwain i'w lygaid tra yn ngwasanaeth y cynghor, ei adael yn nwylaw y clerc. t:>, I Penderfynwyd ftalu bil o 4p. 4s. 6c. i Mr. Joseph Lloyd, cyfreithiwr, Rihyl, am gyf- arwyddo y cynghor yn y cynghaws a rwr- ieddd ei gymmeryd gan Gynghor Plwyf Aber- gele yn Llys y Man-ddyledion. Ynglyn a thalu biliau cwynodd Mr. Tho- mas Evans yn erbyn y swan o arian werid gan Gynghor Sirol sir Ddinbych a chwan- egodd ei fod yn ymddangos iddo ef yn holl- ol afresymol. Yn nghwrs y drafodaeth ar hyn sylwodd y cadeirydd, er pan yr oedd y drafcdaeth i mewn modur wedi declireu, fod y treiuliau ar y wrif-ffyrdd wedi codd l,000p. Dyna lie yr oedd yr arian yn tmyned. Pennodwyd pwyllgor i dalu yrnweliad a Rhydyfoel, mewn perthynas i'r cynnygiad o gael cyfleaiwad newydd o ddwfr, d gyfarfod Pennodwyd pwyllgor i dalu yrnweliad a Rhydyfoel, mewn perthynas i'r cynnygiad o gael cyfleaiwad newydd o ddwfr, d gyfarfod cynnrychdolwyr Cynghorau Plwyf Abergele (Gwledig), a'r Bettws. Hysbyswyd fod y gwaith o gyflenwi Llan- fair a dwfr wedi cael ei gario allan mewn modd rhagorol, a bod y contractor yn dis- gwyl cwblhau y gwaith mewn rhyw wythnos neu ddeng lliwrnod.
LLANSADWRN A'R CYLCH.
LLANSADWRN A'R CYLCH. Bh)ydd-daliadau i Bohl Oedranvs.—Deall- af fod dros ddeugain o'r rhanbalth hwn yn ymgeisio am y blwydd-daliadau. Qyrddau Blynyddol. Dydd Mercher di- weddaf cynnaliwyd y cyfarfodydd blynyddol yn nghapel yr Annibynwyr. Y pregethwyr dewisedig eleni oedd y Parcbn. GwyJfa Roberts a J. Jones, B A., y ddau o Llanelli Cafwyd cynnulleidfaoedd mawrion, a phregethau grymus. Y mae y Rhingyll Roblin, Llangadog, yr hwn fu yn gwasanaethu yn ein plith am y saith mlynedd diweddaf, wedi ymadael i Llanelli, a'r Heddgeidwad Thomas, Llangyn- deyrn, wedi dyfod yma yn ei Ie. Clywais fod mudiad ar droed i godi tysteb i'r Rhingyll Roblin. Gohebydd.
MEDDYG1N1AETH NEWYDD AR GYFER…
MEDDYG1N1AETH NEWYDD AR GYFER ANHWYLDERAU Y GWDDF A'R FREST. Heddyw, pan y mae peswch ac anwyd yn bethau mor gyffredin, y mae yn hollol angen rheidiol i flwch o'r tablets diail at anadlu, Peps, gael eu cadw yn hylaw, os ydyw y trafferthion difrifol nr y gwddf a'r frest, megys, y 'bronchitis,' eisglwyf, ennyniad y fflarneg, ac hyd yn oed y darfodedigaeth, i gael eu lioagoi. Nis gellwch ymwneyd fig anwyd yn rhv fuan, a dengys profiad mai ffordd Peps ydyw yr un berffaith naturiol, sicr, a dioge!, i wella anwyd, a gwthio i ffwrdd y pethau dyryssydd ynglyn ag ef. & < w Peidiwch myned allan ar dywydd drwg heb yehydig o siacedi-arianaidd Peps yn eich poced. Cedweh hwy bob amser yn hylaw pan y rhydd ymosodiad o disi-in arwydd o anwyd ffres. Cedwch Peps yn hylaw, hefyd, i'r plant, o blegid bydd i'r dosbarth ieuangc a gymmera Peps' ysgwyd ymaith yn rhwydd yr anwyd ar y pibellau gwynt gafwyd mewn partion, ac mewn ystafelloedd dosbarth lie yr oedd eroeswyntoedd. Nis gall rhieni sydd am i'w plant dyfu i fyny gydag ysgyfaint cryfion a brest iachus gael un cynnorthwy mwy gwerthfawr na Peps.' < < Cedwch Peps yn kylcno i'r hen bobl, a bydd i'r peswch blinderus hwnw sydd yn andwyo eich gorphwys gael ei wella yn fuan. Ced- Meh Peps yn hylaw, hefyd, with ochr y gwely, o blegid os ydych yn dioddef oddi wrth bronchitis,'diffyg anadI, peswch nos awl, neu y peswch dwfndreiddiol hwnw yn y boreu sydd yn awgrymu niwed hirfaith a difrifol i'r ysgyfaint, bydd i ychydig Peps estyn esmwythSd parod. Bydd i un neu ddwy o tablets yn y boreu, canol dydd, a'r nos, sierhau gwellliad diogel a buan. < w w Y mae gwerth rhagorol Peps i'w briodoli i ddwy nodwedd arbenig yn y feddyginiaeth hon. Yn gyntaf, y maent yn attebiad gwyddor i'r angen gyffredinol, a'r un a deiml wyd er's amser niaith am feddyginiaetb pes- wch i ymwneyd yn uniongyrchol a ffynnonell- au yr afiechyd, pa rai oedd yn y gwddf a'r ys- gyfaint. Fel y mae yn eithaf gwybyddus, nis gall dim hylifft/nrd i'r ysgifaint, ond rhaid iddo fyned ar unwaith ilawr y corn gwddf ac i'r cylla, ac nid oes dim mynedfa o gwbl rhwng y cylla a'r organau anadliadol yn y frest. Felly, nid ydyw cough mixtures hylifol a thoddiid lozenges rhad o ddim daioni, wrth geisio gwelthad ar gyfer trafferthion y gwddf a'r frest. Y mae 'Peps' yn hollol wahanol, ac yn rhoddi ymaith arogl feddyginiaethol sicr, y rhai a gerir dros bileni y gwddf, ac i gilfach- au pellaf yr ysgyfaint. Felly, y mae toster yn cael ei esmwytbo yn fuan, ennyniad ei liniaru, y phlegm' ei ryddhau, a'r achos o'r peswch, anwyd, neu drafferth y gwddf yn cael ei symmud o'r gwraidd. Ail fantais ydyw, nad vdynt yn cynnwys dim olion o opium, choral, morphia, laudanum, neu un- rhyw un o'r cyfferiau nerf ddarostyngol sydd i'w ganfod mewn meddyginiaethau cyffredin .at anwyd. Felly, y mie Peps yn feddygin- iaeth ddiogel, yn gystal ag yn wellhâd sicr, at wasanaeth yr oedranus a'r plant ieu- aingc.
[No title]
v Cydsyniodd y Paroh. E. Wynne Jones, gweinidog Salem (A.), Rhosllanerchru^og, a galwad unfrydol dderbyniodd 3 eglwyg Eben- ezer (A.), Caernarfon.
DADSEFYDLIAD YR EGLWYS YN…
DADSEFYDLIAD YR EGLWYS YN NGHYMRU. CYNNADLEDD YN LLUNDAIN. AGOR YMGYRCH NEWYDD. Cafodd cynnadledd arbenig o gvnnryeh- iolwyr oddi wrth yr enwadau Ymneillduol, aelodau Eglwys Lo&gr, a chynryohiolwyr y cymdeithasau Rhyddfrydig, ei ohynnal dydd Iau, yn y Westminster Palace Hotel, Llun- dain, er rhoddi cycbwyn i ymgyrch cenedl- aethol, er cefnogi, nid yn unig Ddadsefydl- iad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghym- ru, ond, hefyd, o'r Eglwys yn Lloegr ac Ys- gotland. Lilywyddid aynadledd y boreu gan Mr. Jdhn E. Ellis, A.S. Yn mysg y rhad oedd yn bresennol gellid enwi:—Mr.G. W. E. Russell, Syr George White, A.S., Mr. John Massie, A.S., Syr Robert Pnllar, Mr. H. J. Wilson, A.S., Syr Abel Thomas, A.S., y Tad Hudderley, a Mr. Halley, Stewart, A.S. Derby raw yd Uythyrau oddi with amryw fonedddgion yn ymesgusodi am nas gallent fod yn bresennol. Y Parch. Newton H. Marshall, wrth siar- ad ar Ddadsefydliad yn ei bertlniias ag undeb Cristionogol, a chynnydd cymdeitlh- asol, a ddywedodd ei fod yn credu na ennill- id Dadsefydliad byth nes iddynt argy- hoeddi y prif biartner—Eglwys Loegr—o'r a,iigenrlieicliivydd am hyny. Yr hyn a ddy- lent hwy ei wneyd ydoood, ei hargyhoeddi. Pi'ophwj-dad ef, wedi i'r EgIwys gael 8Ii dad- sefydlu, y byddai i rai o'i haelodau fyned drosodd i Rufain, tra yr elai eraill at y brod- yr Plyniouthaidd, ac y rhenid y gweddill yn Eglwyswyr XJcliel ac Eang. Yr oedd Ym- neilldnwyr, fel enwadau, yn sefyll i golli trwy Ddadsefydliad, ond gwiiai hyny at gen- edl fwy crefyddol. b
Cefnogaeth Eglwyswr.
Cefnogaeth Eglwyswr. Mr. G. W. E. Russell, yr hwn a dderbyn- iwyd gj'da cliymmeradwj^aeth uchel, a sylw- odd y gallai ef, oddi ar ei wybodaeth am Eglwyswyr, ddyweyd fod nifer o gleiigwyr yn bresennol yn y cyfarfod hwnw wedi fiug- io eu huniain. fel lleygwyr (chwertihii^ ac r Ellwch hwy'). Na, nid oedd efe am eu henwi. Adnabydiclid hwy wrth eu gwynebau (cluwertihin a cfiym.). Credai ef fod yr am- Ber yn barod ar gyfer symmudiad ymosod- ol, ac yr oeddynt oil yn un vn eu credo, y dylai fod rhyddid i bob credo, a dim ffafr (cym.). Yn y pum' mlynedd diweddaf yr oedd cynnydd mawr wedi cymmeryd lie yn Eglwys Loeg;r yn ffaf-r Dadsefydliad. Yr oedd Cyfraith gyda. Phrdodas ClAvaer Gwraig Drangcedig wedi gwneyd llawer i deimlo ei fod yn be-th camamserol i gael yr Eglwys yn rhwym wrth y Llywodraeth. Yr oedd efe yn meddwl mai cyttundeb gwladol ydoedd pri- odas, ond ni ddylai yr eglwys fod yn Khwym i'w da;thlu, pan yr oedd ammodau y sere- moni yn groes i'w chredo. Credai ef mewn dyscgu y Beibl yn syml Ond beth ydoedd? Gwuali gwahanu yr Eglwys oddi wrth y Llywodraeth adael yr Eglwys yai rhydd i ddysgu ei hathrawiaethau, ac i'w phobl eu dysgu yn eu cartrefi. Pe ceid gwahanu yr Eghvys oddi wrth y Llywodraeth, dygid oddi amgylch undeb Cristionogol gwirionedtlfol; ac yr oedd efe yn barod i aberthu cyfoeth a gwaddoliadau mewn trefii i fod yn rhydd, oddi wrth lyffetheiriau y Llywodraeth; ac yn ngeirdau y diweddar Mr. Gladstone, rhcdd- ai ef i fyny y dysglaid o gawl aim enedig- fraint Crist (cym.). Cynuygiodd Dr. Massie, A.S., bender- fyniad yn ffafr Dadsefydliad yn ninair gwlad Prydain Fawr. Ffaith arwyddocaol yn awr ydoedd, nad oedd un wlad hewydd yn mab- wysiadu crefydd sefydledig. Yr oedd Italy wedd dymehwelyd ei chrefydd wladwriaethol, ac felly yr oedd Ffraingc tra yr oedd Ys- paen yn darparu i fwrw yr iau ymaith (cym.). Cefnogwyd y penderfyniad gan Mr. J. M'Callum, A.S., a Mr. John Johnson, A.S. Gwnaed ymgais aflwyddiannus i gael gan y Parch. J. F. Bradley, BedmouHhj i gael dad- ganiad y byddai cyinnihwyso eaddo cenedl- aethol tuag at unriiyw ffurf o addoliad cy- hoeddus yn anghynawnder, ac yn niweidiol i grefydd. Cafodd y penderfyniad ei gario, heb ddim ond dau yn angliyttuno. Pasiwyd penderfyniad, hefyd, i wneyd ap- pel am drysorfa i gario ymgyrch genedlaetn- ol yn mlaen.
Araeth y Cyfreithiwr Cyffredinol.
Araeth y Cyfreithiwr Cyffredinol. Cynmierodd Syr S. T. Evans,A .S., y Cyf- reitihiwr Cyffredinol, y gadair yn nghvnnadl- edd y prydnawn. Yr ysgrifenydd (Mr. Caird), a hysbysodd fod tanysgrixiadaui wedi cael eu derbyn y boreu hwnw, yn cyrhaedd y cyfanswm o l,137p., o ba un yr oedd Mr. G. Cadbury wedi tanysgnifio 200p., Arglwydd Faer Bris- tol, a Mr. J. Rowntree, 150p. bob un, a Syr W. P. Hartley, Mr. H. J. Wilson, a thri eraill, lOOp. bob un. Y Cyfreithiwr Cyffredinol a ddywedodd nad oedd ganddynt, mewn giwirionedd, eis- ieu dadleu y cwestiwn y prydnawn hwnw. Yr oedd Dadsefydliad yr Eglwys yn ^ghym- ru wedi cael ei ymresyniu er's amser maith (clywch, clywell). Bu adeg pan yr oedd 30 o aelodau dros Gymru, allan o 34 yn ffafrio Dadsefydliad. Yn awr, os gwyddent beth oedd nifer yr aelodau dros Gymru a sir Fyn- wy, gwyddent beth oedd nifer y cefnogwyr (cym.). Yr oeddynt hwy yn Lloegr yn foddlawn i adael i Gymru fod yn ffrynt y frwydr, ac nid oedd ganddynt un help am hyny (chwertihin a chym.). Nid oedd efe yn ffafriol i ddisgwyl am gydsyniad Eglwyswyr i Ddadsefydliad. Os arosent am hyny, byddai yn lihalid iddynt aros am amser maith. Mor bell ag y gallai ef weled, nid oedd dim arwydd fod yr Eglwyswyr yn gy- ffredinol yn dyfod yn ffafriol i Ddadsefydl- iad. Nid oedd golygiadau Mr. G. W. E. Russell ddim ond eiddo mwyafrif bychan. Yr oedd Mr. Gladstone, bymtheng mlynedd yn ol, wedi gwystlo ei Lywodraeth i Ddad- sefydliad yn Nghymru. Yr oedd Arglwydd Rosebery wedi ymrwymo i'r un aohos, ac yr oedd y Prifweinidog presemiol, hefyd, wedi ymrwymo, a dygodd fesui- yn mlaen yn y senedd ddiweddaf a gynnygiai roddi Dad- sefydliad. Yr oedd Cymru yn teilyngu hyn oddi ar law y blaid Ryddfrydig. Cydym- deimlai ef bob amser a'r mab oedd wecfi aros gartref, tra yr oedd y mab afradlawn wedi gwastraffu ei dda. Gobeithiai na fyddai Cymru yn hir yn y sefyllfa o allu dyweyd:— Wele cynnifer o flynj-ddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni tliroseddais un am- ser dy orchymyn; ac ni roddaist fynn erioed i mi i fod yn Harwell gyda'm cyfeillion (chwerthin a chym.).
Dadsefydliad yn Nghymru. !
Dadsefydliad yn Nghymru. Y Parch. Sylvester Home, yn aJbsenmoI- deb Dr. Clifford, a gynnygiodd:-— Fod y gynnadledd yn croesawu. gyda'r boddhad mwyaf sicrwydd y Prifweinidog, y bydd i Fesur o Ddadsefydliad a Dadwadd- oliad yr Eglwys yn Nghymru gael ei gyf- lwyno i Dy y Cyffredin yn ystod y senedd- dy-mmor nesaf; yn sicrhau y Llywodraeth o'u cefnogaeth unol yu yr ymdrech hwn i roddi i bOlbl Cymru fesur o gyfiawnder oedd wedi cael ei hir oedi; ac yn appelio at holl gyfeillion cydraddoldeb gwladol a c'hrefydd- ol, ,vn y rhanau eraill o r deynias, i uno a phobl Cymru yn yr hyn oeddynt yn gwneyd cais am dano, ac i wasgu y cwestiwn fel un o bwysigrwydd mawr ar eu cymirychiolwyr yn y senedd.' Cefnogodd Mr. T. Grosvenor, Birming- ham, y penderfyniad. Mr. Abel Thomas, A.S., yr hwn a gym- merodd y gadair, gan fod Syr S. T. Evans yn cael ei orfodi i adael y cyfarfod, a ddy- wedodd fod Cymru wedi disgwyl am ddigon o amser am Ddadsefydliad. Nid oedd un dyn yn Lloegr yn fwy awyddus aim gydradd- oldeb crefyddol na Mr. Asjiuit-h (eym.). Yr oeddynt hwy yn meddwl fod pobl Lloegr yn hir yn gwneyd en meddvliau i fyny; ond wedi iddynt wneyd en meddvliau, yr oeddynt yn Uwyddo boh amser. Yr oedd yn ddrwg ganddo fod unrhyw gwestiwn o arian yn y mater o blegid yr unig le yr oedd Eglwys Loeg'r wedi bod yn llwyddiannus yn Nghym- ru ydoedd, He nad oedd dim degwm (cym.). Y Parch. Evan Jones, Caernarfon, yr hwn a dderbyniwyd gyda chymmeradwyaeth uchel, a ddywedodd fed yr Iwerddon ac Ys- gotland yn ffafriol i'r diwygiad, ac nad oedd dim ond Lloegr yn ei erbyn (clywch, clywch). Y ffordd i argyhoeddi Lloegr yd- oedd cael areithwyr i'r pentrefydd, a thanio y bobl yno ac nid trwy gynnal cyfarfodvdd yn Llundain (cym.). Proffeswr Levi, AbervstwHh, a ddywed- odd y buasai yn dda ganddo gael gwell enw ar y mesur. Pan v si a radon t am Ddadsef- ydliad a Dadwaddoliad yn Nghynmi, ym- ddangosai fel pe byddent yn myned i ddin- ystrio yr Eglwys yn Nghymru, tra yr oedd- ynt hwy am roddi bywyd newydd ynddi (cym.). Pa ham nad elldd ei alw yn fesur o gydraddoldeb crefyddol i bobl Cymru. mesur 1 wneyd darpariaeth ar gyfer yr Eglwys yn Nghymru, neu gellid hyd yn oed defnydd- io enw gogoneddus Cymdeithas Rhyddhad Crefydd. ac i'r mesur gael ei alw yn Fesur er Rhyddhau Eglwys Loegr yn Nghymru (cym.). Syr Ivor Herbert, A.S., fel Pabydd, a at- tegodd y penderfyniad.
'ECZEMA' LLOSGAWL AR OL BRECH.…
'ECZEMA' LLOSGAWL AR OL BRECH. ARTEITHIAU BLTNION ODDI WRTH FRfWIAU. Cafodd Miss E. B. Haddock, 30, Hampden Street, Weslae, South Shields, fwy o artaith mewn dwy flynedd nag oedd miloedd o bobl wedi ei gael ar hyd eu hoes. Nid oedd dim yn alluog i'w rhyddhau oddi wrth yr Fczema,' dychrynllyd nes y rhoddwyd prawf ar Zam-Buk. Wrth ohebydd lleol, yr hwn a wnaeth ym- chwiliad i'r gwellhM hynod, dywedodd Miss Haddock:—'Tua dwy flynedd yn ol, sylwa,is ar nifer o ysmotiau cochion bvcnain-fel brech-yn ymddangos dros fy holl gorph, gwyneb, pen, breichiau, a choesau. Gelwais y meddyg i mewn, yr hwn a ddywedodd wrthyf fod yr 'eczema' arnaf. Can fod plant yn y tf lie yr oeddwn yn gwasanaethu, bu raid i rni roddi iy lie i fyny. 'Nid oedd cyfferiau v meddyg yn gwneyd dim daioni i mi, o blegid deohreuodd yr ys- motiau ymledu yn fuan o'r naill i'r 1 all. Decbreuodd dau o'r lleoedd gramenu, ac ymarllwys. Yr oedd fy nghorph yn fiiwedig iawn, a'r croen yn dra ennynedig. Yr oedd yr ysfa a r boen yn raron yn annioddtfol. Nis gallwn gysgu, ond arferwn gerdded o gwm- pas trwy y nos. Parhaodd yr eczema' i ymledu, ac an- ?trdriotid fly?t of,;aiwy. Cyn ir afiechyd ym- osod arnaf, yr oedd genyf wallt trwchus, yr oedd yn dyfod i lawr yn agos at fy ngiianol. Achosodd yr eczema i'r gwallt ddyfod i ffwrdd yn ddyrneidiau, fel nad oedd ond ryw ychydig wedi ei adael. Dywedodd y meddyg wrthyf nad oedd un gwellh^d i mi. Ha,wer tro y wylais yn chwerw, o blegid nid oeddwn byth yn cael moment o orphwys- dra oddi wrth y pcenaa Uotgawl (t; a uithvol. Am ddwy flynedd yr oedd fy nghorph, yn yniarferol, wedi cael ei orchuddio a'r 'eczema* dychrynllyd, ac nid oedd un rhagolwg am gael ymwared ag ef byth. Tra yr oedd yr afiechyd yn mron yn ei fan gwaithaf, ey. nghorwyd fi gan amryw gyfeillion i roddi prr wf ar Zam Bilk. 1 Darfu i mi iro y hrdm dros y rhanau afiach vii dyner. Ar ol defnyddio y Z in Buk y waith gyntaf, yr oeddwn ynteimlo yn llawer mwy rer a lliniarol. Wyth ddefn^diHo Z m- Buk drachefn. Yr oedd yr artaith ysHiol yn dyfnd yn I hi, ac yr ootid \vn vn gallu cael cyt-gu, lei yr o ii yn sefyll mewn mawr angen am hvny. Decliretiodd y cramenod bilio' i frwrdd, "f, ihy'xrJ'l <rnen wwyl'l iachus lie Lu y l.mv u-u. -an barhau i ddefnyddio Zam Ruk, nes yr oedd fy mhen, gwyneb, gwcl-ll, c r|-h. b»-fiV!ii.iu,:i choesuu, w edi cael euelirioy:, L H-i or eczema' dychrynllyd. Y mae fy nghroen yn awr yn hynod o bryd- fej th, ac yn edrych yn iachus, ft In gwallt yn tyfu drachefn Profa. actios Miss Haddock yn derfynol ragoriaeth diiii Zam Huk.
[No title]
Cynixaliodd yr Annibynwyr nodachfa yn Llanrhaiadr-yM-Mochnnnt, am dri diwrnod yr wythnos ddiweddaf, gyda'r amcan o chwpanegu at drysorfa y oapel newydd fwr- iedar godi yno. Disgwylid y ceid 250p. tnvv y nodachfa.