Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

22 erthygl ar y dudalen hon

--A--FESTINIOG.

[No title]

QUERIES.

------------Antiquities of…

LLANILAR.

[No title]

WORLD IN A WEEK.

GUARDIANS AND OLD AGE.

CARIAD A CHYFEILLACH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CARIAD A CHYFEILLACH. Huff i'r llygad dorriad dydd, Hoff brydnawn ddistawrwydd prudd, Hoff cael rilo(lio,r weirglod wyrdd, Hoff aroglau flodau fyrdd, Unpeth hoffach etto sy', Cariad a'r cyfeillach cu. Hoff, rliwng coedydd yn y cudd, Wrando'r fwyn-ber cos brudd Hoff gwcl'd gwlaw'n dihidlo'n fwyn Hoff gwel'd chwarae gwisgi'r wyn Ond can' hoffach vw gen' i 'It cariad a'r gyfeillach gn. Darfu bore dydd ein hoes, Para i\v wres a'i des nid oes; Ond prydnawno'n hyfryd wna 'Nol diwrnod brwd o liaI: Nosed einiocs-dyddia fry 'R cariad a'r gyfeillach gü. —DAVIS, CASTELL HYWEL. Nos Iau diweddaf bu yr Aelodau Cymreig wrthi drwy y nos yn ymladd yn y Senedd yn erbyu mesur y Llywodraeth i ad-waddoli y clerigwyr. Ym- laddodd Mr. Lloyd George a ilr. S. T. Evans gyda dawn ac yni neillduol. Derbyniodd dyn yn Hereford -230 dydd Ian diweddaf fel ad-daliad am niwed dderbyniodd drwy syrthio o'r tren o herwydd bod y drws heb ei ddiogeli yn briodol. Nid oes braidd wytlinos yn pasio yn Llocgr na chlywir son am ymgais mewn rhyw fan i daflu'r gerbydres o'r rheilffordd. Afhvyddianus bu ym- gais yr wythnos ddiweddaf yn Chelmsford gan i'r ceryg a roddwyd gael eu malurio, a bollt haiarn ei luchio ymaith. Mae bachgen un-ar-bymtheg oed yn Leicester 1 9 dan gyhuddiad o ladd un arall pedwar-ar-ddeg oed. Buont yn ymladd am dair noswaith yn olynol, a'r trydydd tro cwynai yr olaf, a bu farw mewn byr arnser, o fethiant yng nghuriad y gal on. Tra yn tori er gosod sylfaen ty yn Mangor yr wythnos ddiweddaf, daethpwyd o hyd i feddau o eiddo dau fynach. Caed addurniadau gwych ar y ceryg: ar y naill yr oedd tarian o lun calon, tra pe gosoclid tri darn y llall wrth eu gilydd gwnelent groes yn rhedeg yr holl hyd. Y mae Moelwyn wedi cyhoeddi llyfryn bychan eto o'i ganiadau—y drydedd gyfres, ac y mae'r gyfres hon yn deilwng o'i chwiorydd a aeth o'r blaen. Y mae'r gyfrol hon, fel y llall, yn llawn o farddoniaeth o'r fath tlysaf. Nid oes linell dichwaeth yn yr oil. Y mae'r telynegion yn llawn o'r teleidion mwyaf swynol a phur. Dymunwn gylchrediad eang i'r llyfryn hwn, y mae ei gynwys yn ddymunol odiaeth. Y mae yn werth swllt yn gynysgaeth i'n pobl ieuainc yn neillduol. Nid oes ofod i ddvfvnu-ond wele benill neu ddau ar antur- Pa sawl can nas dechreuwyd 1 Pa sawl tant nas chwareuwyd Ym mlin gaethiwed y byd— Wrtli afonydd Babel y byd ? Rhyddid a Cbanaan, Dyna dyn allan Fiwsig y delyn i gyd. Un yw yr holl greadigaeth— Cysgod ei feddwl Ef; Y blodau yw ser y ddaear, A'r ser ydyw blodau y Nef. Yn niwedd y gyfrol y mae ychydig ddarnau o waith ei frawd ymadawedig—da yw eu cadw rhag myn'd ar gyfrgoll.

BU FYW AM FIS.

DAMWAIN AR FOEL FAMAU.

LLOFRUDDIAETH MEWN GWALLGOFRWYDD

Y TYWYSOG A'R FFARMWR.

--Y BARNWIl KENNEDY A'R GYMRAEG.

EISTEDDFOD CAERDYDD.

Y TRANSVAAL.

BLODE'R HAF.

TALGARREG.

Advertising

MARWOLAETH Y CZAREWITCH.

--Y DIWYD A'R DIOG.

MARWOLAETH Y CZAREWITCH.