Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
TRANSVAAL WAR FROM DAY to…
TRANSVAAL WAR FROM DAY to DAY. The War Office on Wednesday morning issued a dispatch from THURSDAY. General Buller, dated 8.5 a.m. the same day, announcing that Pieters Hill, a strong position on the road to Ladysmith held by the Boers, was earned on Tues- day, and that the enemy's main position was also magnificently carried by the South Lancashire Regiment, and sixty prisoners taken. The force was under the command of General Warren. Cronje, with his force, has been taken to Cape Town. In Cape Colony the British have re* occupied Rensburg. The relief of Ladysmith was announced in a telegram posted at FBIDAI. the War Office at ten o'clock yester- day morning. General Buller briefly stated that Lord Dundonald with Natal Carbineers and a composite regiment entered the town on Wednesday night. Later in the day Sir Redvers reported that he himself had visited Sir George White. He found that, with the exception of a small rearguard north of Surprise Hill, the whole of the enemy lately besieging the town had retired in hot haste. Another important item of news in yesterday's official telegram is that our troops have occupied Colesberg and Colesberg Junction. The news of the relief of Ladysmith was re- ceived throughout the country yesterday with the utmost gratification, and the scenes of enthusiasm in London, and indeed everywhere throughout the United Kingdom, are believed to have been almost without parallel. The Queen was early apprised of the good news, and flags were immediately hoisted at Windsor. Lady Audrey Buller and Lady White were the recipients of numberless telegrams of congratulation. Lady White, in reply, sent a message for publication in which she expressed in touching terms her pleasure at the news received and her gratitude for the sympathy of all in her period of anxiety. Lady Audrey Buller also expressed her; "profound thankfulness" at the receipt of the newsi The onJy despatch issued by the War Office yesterday was one from SATURDAY. General Buller, briefly announcing that seventy-three waggon loads of supplies were then entering Lady- smith. The first eleven, he said, contained hospital comforts. Great credit was due to Major Morgan and Lieutenant-Colonel Stanley, the supply and transport officers concerned. Lord Robert, has located the position of the Boer forces which have reported to be concentrating near him. They have taken up a position four miles from bis camp. They will probably be attacked at once. There is practically no news from the northern districts of Cape Colony. President Kruger is reported to have left Pretoria for the Free State MONDAY. in order to consult with President Steyn. Lord Roberts states that the situation, so far as his troops are con- cerned, is unehanged, except that rains have fallen and the grazing for the horses is better. A com- bined forward movement appears to be imminent in Cape Colony. General Clements reports that his advanced troops bold Achterstang, and that railway communication would be open to Joubert'g hiding yesterday. The Boers were still in force at Norval's Pont. General Gatacre states that the Boers at Stormberg are greatly reduced in number, and General Brabant has engaged the Boers at Labuschagne's Nek, some six miles beyond Dordrecht. The Boers were driven from their position, but a further advance was checked by the discovery that they were in force in the country beyond. A message received from Colonel Baden- Powell states that Mafeking was "all right" on February 15tb. There is practically no news from the front. On Friday last General TUESDAY French observed that the Boer force —which was reported to have taken up a position some six miles to the east of the British camp at Osfontein—was trekking to the north-west. He promptly sent a squadron of cavalry to watch their movements through the night, and in the morning the brigade followed. The Boer movement was temporarily stopped. General Clements is reported to have reached the banks of the Orange River, and General Brabant has succeeded in taking the Boer positions at Labuschagne's Nek.
WORLD IN A WEEK.
WORLD IN A WEEK. Lord Rosebery has resigned the honorary presi- dency of the Midlothian Liberal Association. The Emperor William has given a sitting for his portrait to Pro. Hubert Herkomer, the famous artist who painted the portrait of Principal T. C. Edwards, now at the Aberystwyth College. The situation at Uskub is serious. Four thousand Albanians have assembled in front of the mosque, and the Mussulman shops are closed. Bands of Albanians from the neighbouring villages are pre- Tented by troops from entering the town. The Novoe Vremya," referring to the increase of the British and German fleets, admits the im- possibility of Russia competing with these two nations in the construction of battleships, and therefore advocates the building of numbers of fast cruisers capable of keeping the sea for many months, which would compel the enemy to scatter their squadrons in order to protect their commerce. It seems now certain that a terrible death roll amongst Hull fishermen has resulted from the February gales. Up to Sunday evening there were Ive steam trawlers still reported missing, and as the time has so long passed since anything has been heard of these vessels they are now given up as lost. There were about 50 hands on these Tessels, twelve hands have also been lost from other Hull trawlers, so that the total loss from the gale is fully 60. WELSH TIN-PLATE TRADE. It is understood that the dispute between the girls employed at the Morriston and Midland Works and the management has caused all hands to be idle. The question is one concerning the hours of labour required from the girls in the tin house, and has no connection with matters recently settled by the arbitration board. So far an under- standing has not been arrived at, and between 400 and 500 hands are idle. RUINED BY STRONG DRINK. James Henry Fowles, a clerically dressed elderly man, and his wife were charged at Blackburn on Saturday with thefts from their lodgings. It was stated that the male prisoner was formerly a master at Marlborough college and afterwards proprietor of a private school at Leeds, and was also well- known to educational authorities in Liverpool. Drink, it appeared, had been his ruin. The prisoners pleaded abject poverty, but the bench sent them to prison for three months.
YR WYTHNOS..
YR WYTHNOS.. YSGOLDY NEWYDD SILOH, ABERYSTWYTH. Gwych demlau lawer sy'n ein tref, I feithrin moes a chrefydd; A'u tyrau uchel yn y nef, Gant sylw yr ymwelydd. Ond er eu bri, dewisaf i. Yn mhlith y saint neillduo, o swn y byd, i dawel glyd, Ysgoldy newydd SHoh. Er nas canfyddir ar ei fur, Arwyddion rhwysg allanol, Mae'n ddarlun o gymeriad pur, Mewn glan brydferthwch mewno Nid oes un twr, na chloch a'i stwr, I dynu sylw ato Adeilad gwiw Mor syml yw 1 Ysgoldy newydd Silob. Ymgodi megys llanw'r mor, Wnaeth yspryd ffydd a chariad, Gwirfoddol ebyrth gaed yn stor, At draul y teg adeilad. Ar fordaith oes, dan wyntocdd croes, Try pererinion iddo; I deulu'r ffydd, meithrinle fydd, Ysgoldy newydd Siloh. Y rhai a'i cododd lithrant draw, Fel ton i draeth yr eilfyd, Yn ngherbyd amser, ereill ddaw, I lanw'r deml hyfryd; Boed iddynt oil, heb un ar goll, Mewn gwjmfyd gwrdd, ac yno Bydd melus don, a difyr son, Am hen Ysgoldy Siloh. EDMYGYDD.
Advertising
The most nutritious. EPPS'S COCOA Grateful and comforting EPPS'S COCOA For breakfast and supper. EPPS'S COCOA
Y RHYFEL.
Y RHYFEL. Ymostyngiad Cronje. YN YMADAW AM Y PENRHYN. Daeth a ganlyn oddiwrth Arglwydd Roberts i'r Ysgrifenydd Rhyfel:- Paardeberg. Chwefror 28. Gadawodd Cronje gyda'i deulu yma, ddoe yn ngofal Major General Pretyman dan wyliadwriaeth o'r City Imperial Volunteers. Yn ddiweddarach yn y dydd gadawodd y gweddill o'r carcharorion dan ofal Earl Errol, yn cael eu dilyn gan y Gloucester Regiment a 100 o'r Imperial Volunteers. Anfonwyd yr holl wragedd a'r plaut i'w cartrefn. Yr wyf yn deall y teimlid anfoddlonrwydd sotr yn mhlith y Boeriaid o herwydd i Cronje wrthod fy nghynyg i ofalu am y gwragedd a'r plant a rhoddi cynorthwy meddygol i'r clwyfedigion, 170 o ba rai sydd yn awr yn fy ysbytty. Mae llawer iawn o honynt mewn cyflwr truenus o ddiffyg gofalu am danynt yn gynt. Ymwelais a'r gwersyll Boeraidd ddoe, a synwyd fi yn fawr wrtb ganfod gyda pha fath gywrein- rwydd ac egnifyr oedd y safle wedi ei gadarnhau. Dywedir yn awr fod y carcharorion yn rhifo 4,660. Y mae Cronje yn awr a fwrdd y Doris un o longau rhyfel Prydain sydd yn angori yn Simon's Bay. MANYLION O'R YMOSTYNGIAD. Dydd Llun yr oedd Arglwydd Roberts wedi gweithio ei ffordd yn mlaen drwy fwlch i ymyl safle y gelyn yn ngwely yr afon. Yr oeddis drwy gynorthwy yr awyren wedi can- fod amryw bedrolfenu a cheffylau yn ngwersyll y Boeriaid. Tanbelenwyd a dinystriwyd y rhai hyn, a cbwythwyd i fyny swm mawr o ddefnyddiau rhyfel, yD nghyda lladd a chlwyfo nifer o'r Boer- iaid. Nis wyddis ond ychydig yn y gwersyll Pryd- einig fod ymgais i gael ei wneud yn ystod y nos i wneud rhuthr ar amgloddiau y Boeriaid, ac ni sylweddolwyd y sefyllfa hyd nes y clywid saethu dychrynllyd a pharhaol yn y tywyllwch. Wedi i'r tanio ffyrnig dawelu tipyn, mawr oedd y pryder i wybod beth oedd y canlyniad, ond nis gallai neb ddweud. Yr oedd y Canadians wedi gwthio yn mlaen byd o fewn pedwar ugain llath i amgloddiau y Boer- iaid, a'r step nesaf fuasai rhuthro arnynt gyda bidogau. Ar doriad y wawr gwelodd Cronje fod ei sefyllfa yn hollol anobethiol, nid oedd ond dinyetr sydyn ac angenol i'w wynebu, neu ynte ymostwng. Chwalwyd pob amheuaeth yn y gwersyll Prydenig yn gyflym pan welwyd y faner wen yn cyhwfan yn y gwersyll Boeraidd, ac ymddangosiad cenad yn dyfod o wersyll y gelyn. Sylweddolwyd y sefyllfa ar unwaith, ac nid oedd derfyn ar y brwdfrydedd. Cymerwyd y llawen floeddio i fyny gan yr holl < gatrodau Prydeinig, a rhoddwydanrhydedd y dydd i'r Canadians. Yr oeddynt yn ei wir deilyngu, ymddygasant yn odidog. BULLER, Y Cadfridog gynlluniodd waredigaeth Ladysmith. Anfonwyd swyddog i gyfarfod Cronje, ac i'w arwain i'r gwersyll Prydeinig. Ymddangosai yn dawel ac ymddiriedol,' fel pe yn wvbodol ei fod wedi gwneud ei oreu heb lwyddo. Cyfarfyddwyd ef ar y maes agored gan Arglwydd Roberts. Dywedodd General Pretyman gan anerch Arglwydd Roberts, Commandant Cronje, sir." Cyffyrddodd General Cronje ei het, a dychwelwyd y cyfarchiad gan Ayglwydd Roberts. Camodd Arglwydd Roberts yn mlaen ac ysydwodd law gyda'r General Boeraidd, a dwedodd wrtho, Gwnaethoch amddiffyniad dewrwych, sir." Parhaodd yr ymdrafodaeth am ugain munud. Dymunodd Cronje i'w wraig a'i wyr gael ei dilyn i gaethiwed, yr hyn a ganiatwyd ar unwaith gan Arglwydd Roberts. Dywedodd y General Boeraidd mewn atebiad i gwestiwn fod ei ganlyn- wyr yn rhifo gddeutu tair mil, ond cafwyd wedi hyn eu bod yn ychwaneg o lawer. Arweinwyd ef i babell Arglwydd Roberts a rhoddwyd iddo foreu- bryd rhagorol. Heblaw 4,300 o garcharorion cafwyd dau o ynau Krupp, un Creuzot, ac un Vickers-Maxim, amryw bedrolfenu, a'r holl arfau perthynol i'r Boeriaid, ond ychydig iawn o ddefnyddiau rhyfel a gafwyd. Dywed y carcharorion fod dewrder ffyrnig y Canadians yn ddatguddiad iddynt hwy. Nid oeddynt yn disgwyl o gwbl am ymosodiad yn ystod y nos. Yr oedd gwrthsaffad allan o'r cwestiwn wedi i'r Canadians weithio eu hamgloddiau mor agos iddynt. Dywed y carcharorion hefyd eu bod wedi dioddef caledu mawr yn y gwersyll, gwywodd eu holl obeithion pan gurwyd eu hadgyfnerthion yn eu holau. Nid oedd y sylw lleiaf yn cael ei dalu i'w clwyfedigion, ac mewn canlyniad yr oeddynt ya dioddcf yn ddirfawr. YMWELIAD A GWERSYLL CRONJE. GOLYGFEYDD ARSWYDUS. Dywedai gohebydd o faes y rhyfel: Yr wyf newydd ddycbwelyd wedi bod yn gwneud ar- cbwiliad manwl o saffe y Boeriaid. Prif syndod un yn yr holl amgylchiadau ydyw sut yr ydoedd yn ddichonadwy i'r Boeriaid fyw yn nghanol y dryg- sawr dychrynllyd a fodolai. Bob chwecb neu aaith Hath gorweddai cyrff meirw ceffylau, mulod, a gvvartheg, gan lygru yr holl awyrgylch. Yr ydoedd sefyllfa y gwersyll a'r amgloddiau yn rhy arswydus i'w ddesgrifio. Wrth fyned tua'r gwersyll ar lan ogleddol yr afon, daethum yn gyntaf ar draws ein nawdd-ffosydd ni, y rhai oeddynt wedi eu gwneuthur yn rhagorol. Arferai ein dynion ni symud yn mlaen rhyw haner cant i gant o latbeni bob nos, ac yna cloddio ffos gyda'r cyflymder mwyaf, yr hyn a'u galluogai i gadw tan trwm ar y gelyn y dydd dilynol. Yn ystod y tair noson olaf yr oeddynt wedi dyfod bron o hyd ergyd llawddryll i amgloddiau y Boeriaid. Yr oedd y Canadians wedi cloddio ffosydd o fewn deg Hath ar hugain i'r Boeriaid agosaf, y rhai a arllwysent dan dychryn- llyd arnynt. Gorweddai y Canadians yn wastad ar y llawr, a dychwelent y tan, ar y gwastadedd y tu cefp. iddynt. Ymcstynai llinell o'r Gordons, y rbai a ergydient yn llawdrwm, yr hyn a fawr effeithiai ar nerth a chywirdeb tan y Boeriaid. Parbaodd hyn am oddeutu ugain munud. Cymerodd y brwydro le yn nghanol y tywyllwch, er fod y ser yn J tywynu yn ddisglaer. O'r diwedd gwnaeth y Canadians ruthr yn mlaen, ond nid cyn i'r Boeriaid glirio allan o'u ham- gloddiau blacnaf. Cyn i'r gwylwyr gyraedd i gymeryd gofal o'r carcharorion gorweddent neu eisteddent yn sypiau yma ac acw o gylch y gwer- syll. Yr oedd eu gwynebau yn hyll a gwasgedig. Yr oeddynt oil bron yn gwaeddi allan am ychydig wirod i'w yfed. Yr oedd yr holl wersyll bron wedi ei lwyr ddinystrio. Yn mhob cil- fach yr oedd gweddillion o dan, ar yr lmn yr oedd y Boeriaid wedi bod yn coginio eu boreufwyd. Yr oedd llawenyddyn argraffedigar eu gwyneb ac agweddiad oherwydd fod y gwarchead arswydus wedi dyfod i derfyniad. Chwarddai a ehellweiriai y dynion ar bob Haw, a gobeithicllt yn fuan gael llymaid o whisky." Yr oedd yr oil bron o'r Rhydd Daleithwyr yn siarad Saesneg. Nid oedd ganddynt fcddwl o gwbl pa beth fyddai can- lyniad dyfodol y rhyfel, ac nid ynganent air yn nghylch ymladd dros eu rhyddid. Yr oedd yr oil wedi ei anghofio yn y llawenydd oherwydd eu gwaredigaeth bresenol. Ysgydwai un dyn ei ddwrn yn nghyfeiriad Cronje, a dywedai, Chwi ddyn caled, haeddech gael eich saethu." Yr oedd amryw o wragedd a plant ymysg y gwarchaedig, a bapus yw dweyd na niweidiwyd dim un oddieithr un lodes fechan, yr hon a glwyfwyd ar flaen ei bys. Yr oedd gwahaniad y dynion a'r gwragedd yn galon- rwygol, wylai y naill a'r llall yn chwerw. Yr oedd amryw o'r Boeriaid yn hogiau ieuainc o vn-ar- bymtheg i ddeunaw mlwydd oed yr oedd y mwy- afrif o honynt yn Dransvaalwyr. Y mae llwyrni yr oruchafiaeth yn fwy rhyfeddol oherwydd cymer- iad penderfynol y gelyn. Tybid y buasant, o leiaf yn dinystrio eu cyflegrau, eu defnyddiau rhyfel, a'u rbych ddrylliau cyn ymostwng. Ond yr unig arfau niweidiedig ydoedd y maxims, y rhai a darawyd gan ein pelenau ni. Yr oedd tri swyddog a naw o filwyr Prydeinig yn t, y garcharorion yn y gwersyll yn ystod y gwarchae, a dywedent fod y tanbeleniad o'r fath mwyaf ar- swydus. Yr oeddis wedi darparu tyllau dyfnion i'r oil o honynt, lie y gallent lechu yn ddiogel, ac ym- ddygid yn dirion tuag atynt. Ymofynai rhai o'r carcharorion yn bryderus os ydoedd Bloemfontein yn ein meddiant. Beirniasant lywyddiaeth Cronje yn llawdrwm, dywedent ei fod yn amddiffynydd bryniau godidog, ond nad oedd yn gadfridog o gwbl ar dir gwastad. Pan orchymynwyd i'r carcharorion groesi yr afon il,a gwersyll ni, cymerodd golygfa ddoniol le cy- merai pob un yr oil allai gludo,—potiau. padelli, gwrthbanau, &c.a thaflai ei rychddryll i lawr i grug neu ddwy, y rhai yn raddol a gynyddent i faintioli anferth. Yr oedd y rhyd, mewn canlyniad i'r gwlawogydd trymnion, wedi ei chwyddo yn fawr ac yr oedd yn angenrheidiol i'r carcharorion ddiosg eu llodrau er mwyn croesi. Yr oedd yr holl olygia yn cyfranogi yn helaeth o'r digrif, yn hytrach na drama" ddifrifol mewn rhyfel. Chwarddai y dynion, a thaflent ddwfr y naill at y Hall tra yn oroesi. ac ymddangosent fel pe yn edrych ar yr holl ymostyngiad fel "joke" mawreddog. Ond ymysg y llu gwelid ychydig wynebau lied sobr, y rhai a edrychent gydag anfoddlonrwydd ar t, ddigrifwch diofal eu cymdeithion. Dywedir fod Dr Leyds yn awr yn cyfaddef fod daliad Cronje yn ergyd trwm, ac fod 2,000 o'r Boers wedi eu lladd cyn iddo ymostwng. Taflwyd llawer o'r cyrph i'r afon.
Ymostyngiad Cronje.
Ymostyngiad Cronje. (ADRODDIAD ARALL). Fel yr hysbyswyd yn ein rhifyn diweddaf, rhodd- odd Cronje a'i lu eu harfau i lawr yn ddiamodol ar ddygwyl Majuba, boren dydd Mawrth, y 27ain cyn- fisol. Yr oedd argraff ymblith ein milwyr yn y gwersyll na chaniateid i'r diwrnod fyned heibio heb ryw ddigwyddiad. Yn gynar iawn yn y boren penodwyd y Canadians i wneyd rbuthr ar linell flaenaf amddiffynfa y gelyn, ac yn gynorthwy iddynt yr oedd y Gordons a'r Shropshires. Aethant yn mlaen yn hyf at eu gorchwyl, a daeth y Canadians o fewn i gant o latbeni at rycbddrylliau y Boeriaid, er fod y bwledau yn disgyn fel cesair yn eu mysg. Yna daliasant ati hi fel gwroniaid i ymladd ag i amgloddio. Am oddeutu chwarterawr yr oedd tanbeleniad y gelyn yn arswydus, ond erbyn byny yr oedd ein dynion ni wedi llwyddo i wneyd gorchudd lied ddiogel, a thaniasant yn ddi- wyd at y Boeriaid. Ar doriad y wawr, fe welodd Cronje ei bod hi ar ben arno ef, a dyma y faner wen i fyny ganddo. Darfyddydd y tanio ar bob ocbr. Gwelwyd y faner wen gan gatrawd Brydeinig oedd ar gopa bryn bloeddiasant nes oedd yr holl le yn adseinio, a lledaenwyd y newydd yn gyflym drwy yr holl wersyll fod Cronje wedi rboi i fyny. Yn mben ychydig amser wedi hyny, daeth nodyn i Arglwydd Roberts i'r perwyl hwnw. Anfonodd Roberts un o'i gadfridogion ar unwaith i wahodd Cronje i'r gwersyll Prydeinig, ac oddeutu 7 o'r gloch yn y boreu yr oedd tyrfa fechan i'w gweled yn croesi y gwastadedd at ben-cadlys ein pobl ni. Yr oedd Arglwydd Roberts yn cerdded yn ol ac yn mlaen wrth y cerbyd ymha un y mae yn cysgu, a gorchymynodd i'r Highlanders i ffurfio mewn tair ochr o ysgwar. Yn y lie canolog y cymerodd yr ymgyfarfod le. Fel yr oedd y dyrfa fechan o farchogion yn nesau yn agosach, gwelid dyn oed- ranus yn marchogaeth o'r tu deheu i un o gadfrid- ogion Lloegr, Yr oedd yn gwisgo overcoat" fer, srw, gyda het ag ymyl lydan, llodrau "tweed" cyffredin, ac esgidiau llwyd. Ei wyneb oedd wedi llosgi bron yn ddu, ac yr oedd ei wallt cwrl wedi dechreu troi yn wyn. Hwn oedd y Cronje ofnadwy. Yr oedd ei wyneb yn berffaith dawel, ni ddangosai yr arwydd lleiaf o gynhyrfiad, ond edrychai yn gryf ac yn eofn, fel dyn ag oedd yn ymwybodol ei fod wedi gwneyd ei oreu glas, er yn aflwyddianus. Yn ei ddisgwyl yr oedd Arglwydd Roberts a'i ben-cadbeniaid—y Cadfridog Pretyman, yn cyfarch y Prif-arweinydd, a ddywedodd," Dyma yCadfridog Cronje, syr." Cyffyrddodd Cronje a'i het, a thalwyd y cyfarchiad yn ol gan Roberts. Yna disgynodd y dyrfa i gyd, camodd Arglwydd Roberts yn mlaen, a siglodd ddwylaw gyda Cronje. "Gwnaetboch am- ddiffyniad dewr, Syr," oedd y cyfarchiad cyntaf wnaeth ein Prif-arweinydd i'r Arweinydd gorch- fygedig, ac arweiniwyd ef yn foneddigaidd i letty- aeth Arglwydd Roberts, lie croeshawyd ef a bwyd a diod. Erfyniodd Cronje am i'w wraig a'i deulu, a'u wyr gael myned gydag ef i gaethiwed. Cydsyniwyd a'i gais gyda'r parodrwydd mwyaf, ac anfonwyd ef tua chanol dydd i Cape Town. Yn ddiweddarach yn y dydd ymadawodd y lleill o'r carcharorion. yn rhifo oddeutu 4.000, am yr un He, dan ofal larl! Errol a 100 o'r City Imperial Volunteers.
Gwaredigaeth Ladysmith. --
Gwaredigaeth Ladysmith. Y BRWYDRO DYDD LLUN A DYDD MAWRTH. GWAITH DEWRWYCH Y PRYDEINIAID. Am naw o'r gloch boreu dydd Llun gwnaed ymos- odiad cyffredinol gan y Cadfridog Buller ar ades aswy y gelyn. Yroedd trefniant y galluoedd fel y canlyn yr oedd Brigade y Cadfridog Barton ar eithaf y dde, gyda Brigade y Jlilwriad Kitchener ar ei asw" tra yr oedd Brigade y Milwriad Norcolt ar eithaf yr aswy. Ar ochr ddeheuol y Tugela yr oedd Brigade y Mihvriad Stuart yn eu hamddiflyn tra yn croesi yr afon. Brigade y Cadfridog Barton oedd y gyntaf symud yn mlaen, gan gyfeiri* tua'r deheu, lIe Fi ymdrefnwyd am yr ymosod;ad. Dibynai cryn lawer ar lwyddiant y symudiad hWll, a gwylid ef mewn distawrwydd pryderus gan Buller a'i swyddogion. Yr oedd y safle hwn gryn dipyn i'r dwyrain i linell y gledrffordd, ac yn cyfeirio tua mynydd Umbulana. Ni bu y canlyniadau yn hir mewn amheuaeth; attegid yr ysgarneswyr gan bob canghen o gyf- legrau—maes gyflegrau a jmagnelau trymion. Rhuthrid i leoedd cysgodol y naill ar ol y llall mewn arddull godidog, hyd nes yr ydoedd y rhengan wedi symud yn mlaen i agosrwydd digonol i wneuthur rhuthriad unedig—piyd allan dis- gleiriai y bidogau, a Saeson, Ysgotiaid, Gwyddelod a Chymry yn chwyrn neidio i'r amgloddiau, ac yn mysg y Boeriaid mewn ychydig eiliadau. Yn y cyfamser yr oedd Brigade Kitchener yn symud yn mlaen i fryn Pieter, a man fryniau cyf- agos, y rhai a gyrhaeddwyd mewn modd cyffelvb. Gellid gweled fflachiad y bidogau, yna rhuthr chwyrn-sydyn, a'r Boeriaid yn boltio allan o'u ham- gloddiau yn bendramwnwgl. Yn mhellach i'r aswy yr oedd Brigade y Milwriad Norcott yn symud yn mlaen ar hyd res o fryniau yn ngwyneb gwrthsafiad o'r fath fwyaf egniol. Wedi dysgu trwy brofiad, ymwthiodd y ddwy aden yn mlaen, a chyflawniad godidog fu y can- lyniad; diangai y Boeriaid o flaen y rbychddryll- wyr penderfynol, a chwareuai y dur oer eto ran amlwg er symud y Boeriaid o'u hamgloddiau. Oafodd Brigade Hildyard afael ar y gelyn fel yr oeddynt yn dianc, a thaniwyd arnynt gydag effaith ddychrynllyd. Fel yr oeddid yn rhuthro y naill fryn ar ol y llall tywelltid lyddite a bwled-belenau arnynt gan ein magnelau. Yr oedd gynau mawrion y Boeriaid mewn lle- oedd manteisiol, ac yn cael eu gweithio yn rhag- oiol, ond gwthiai ein dewrion ni yn mlaeu yn hollol ddibris o'r cyfan. Bu Long Tom" ar Grobler's Kloof yn bur fyw log am amser, ond trodd un o'n gynau llyngesol ii sylw i hwnw, a distawodd ef am gryn ysbaid. T el yr oedd y tywyllwch yn amgau dilynodd ein gynau mawrion y Boeriaid enciliedig, y rhai a welid yn symud i gyfeiriad Ladysmith. Mae ein galluoedd ni mewn meddiant o'r bryniau sydd yn nghyraedd y gledrffordd, yr hyn sydd yn fan- teis-ol tuag at waredu y dref warchae-edig. Nid ydyw ein colled ni ond ysgafn, ac ystyiied y gwaith a gyflawnwyd. Cymerasom oddeutu 100 o garcharorion. YR YMLADD DYDD MAWRTH. 95 0 YNAU YN TANBELENU. RHUTHRIADAU DEWRWYCH. ENILL SAFLE AR OL SAFLE. LLWYR ORCHFYGIAD Y BOERIAID. d.rhaodd y frwydr drwy y dydd dydd Mawrtb, Yl. ystod pa un y gwnaed gwrhydri gan y milwyr Prydeinig. Ymddengys mawredd y fuddugoliaeth yn fwy eglur fel y deuir yn hysbys o safleoedd y Boeriaid a'r dull o ymladd a fabwysiedid ganddynt. Yr oedd eu safleoedd yn rhai o gadernid anghyffredin, ac nis gallasai dim ond lyddite effeithio ar y gelyn, yn guddiedig fel ag yr oeddynt mewn amgloddiau, ac yn cael eu cysgodi gan feini o faintioli anferth. Ymosododd ein catrodau ni o dri phwynt ar yr un adeg. Pan roddwyd y gorcbymyn i symud yn mlaenrhuthrodd y traed filwyr yn eu blaenau drwy fwg a than hyd nes yr ydoedd yr boll gadwen o fryniau yn eu meddiant. Dioddefwyd prif boethder y fr, gan gatrawd y Milwriad Kitchener, y rhai asant y prif safle canolog mewn arddull ardc. Arweinid yr ymosodiad gan y Royal Lane Giynai y gelyn yn ™ f" gyda'r penderfyniad mwyaf dl-iidio, ac ni riddent i fyny hyd nes yr ydoedd ein dynion ni yn hollol ar eu gwarthaf. Ysgubai ein pelenau lyddite Di yr boll fangre, a theimlai rhai o'n dyuion ni yr effeithiau fel yr oeddynt yn bwrw ami yn mlaen. Yr ydoedd yr ymosodiad mor anwrthwynebol nes yr ymddengys ei fod wedi parlysu y Boeriaid, o herwydd anghyson iawn ydoedd eu "tanio ar yr ymosodwyr. Y rhai hyny o'r gelyn a barhaent i danio, ac a omeddent roddi eu harfau i lawr a Sdogid yn eu hamgloddiau. Ysgubai y Royal Lancasters yn eu blaen, gan enill amglawdd ar ol amglawdd. Oddeutu pi.mp o'r gloch yn y prydnawn, rhedasant i fyny i gopa Pieter's Hill a chwifient eu helmau yn yr awyr ar flaenau eu bidogau. Bu hyn yn arwydd i lawen floeddio mawr i dori allan. Yna symudodd y West Surreys a'r Devons yn mlaen ar yr aswy, er mwyn rhagfiaenu y Boeriaid enciliedig, y rhai, pa fodd bynag, a symudasant ymaith i gyfeiriad Umbul- wana Mountain* Ar hyd yr boll liriell mae cyffelyb hanes o gyf- lawniad gwrhydri godidog gan ein milwyr i'w gof- nodi. Yr oedd ls-filwiiad o'r Lancaster Regiment a nifer o'i ddynion yn cario y clwyfedigion yn ol o'r llinell danio yn nghanol tan dychrynllyd. Caf- odd un milwr afael yn Lieutenant Vaughan yn glwyfedig o fewn haner can' llath i amgloddiau y Boeriaid, a chludodd ef i le o ddi^gelwch. Yn y cyfamser yr oedd y Cadfndog Barton ar y dde yn ysgubo y cyfan o'i flaen, a chyn machludiad haul yr oedd ein buddugoliaeth yn gyflawn. Collodd y Boeriaid yn ddirfawr; yr oedd ein pelenau Lyddite yn gwneyd hafog arswydus yn eu mysg. Yr oedd rhai o'u clwyfedigion yn hollol felyn oddiwrth ei effeithiau, ac yr ydoedd yr holl dir wedi ei dori i fyny a'i ddry llia gan y ffrwydrydd dychrynllyd. Edrychid ar ol y clwyfedigion Boeriaid gyda'r gofal mwyaf. Anfonwyd deuddeg a deugain o garcharorion ymaith gyda'r gerbydres; y mae dros gant wedi eu e-voaeryd. Mae nifer mawr o'r car- charorion yn Hollanders, ychydig mewn cymhar- iaeth sydd yn Boeriaid gwirioneddoli Cymerwyd swm go fawr o ddefnyddiau rhyfel, ynghyd ag amryw rychddrylliau. Daethpwyd o hyd i amryw glwyfedigion Boeriaid yn y pantle- oedd, ac yn eu plith yr oedd amrai fechgynach un- ar-bymtheg oed Nid oedd y carcharorion wedi clywed gair am ymostyngiad Cronje, ac ni chredent y newydd pan dywedwyd wrthynt. Mae y mwyafrif o honynt yn Uawen oherwydd eu bod wedi eu cymeryd yn garcharorion. Addefant fod y Boeriaid wedi colli yn ystod yr ychydig ddyddiau diweddaf. Arhosodd gwragedd Boeraidd gyda'r dvnion yn yr amgloddiau hyd o fewn tair awr i'n hymosodiad ni arnynt. Cafwyd o hyd i ddwy ddynes, un yn farw, a' Hall wedi ei chlwyfo, ond bu hithau farw yn v Nvedd. Dwedai na adawai ei gwr iddi fyned _I <}. r. t. _J .r. 'I ym¿J fl, gan el Doa yn gaiiu saethu mor dda, yr oedu. oddeutu pedair ar bymtheg mlwydd oed. I ddangos y fath danbeleni a gedwid i fyny yn ystod y frwydr mae yn werth crybwyll nad oedd ddim llai na 95 o gyflegrau yn tanio yn barhaus, yr oedd un o'r magnelfeydd yn unig yn tanio ergyd bob deg eiliad, a gollyngodd 749 o ergydion yn ystod y frwydr. Gan fod Grobler's Kloof wedi ei waghau gan y gelyn, symudodd ein magnelau yn mlaen i'r safle- oedd pellaf oeddym wedi enill; yn gwynebu Mynydd Umbulwana. Nid yw ein colled ond oddeutu 200 rhwng lladd a chlwyfo. DUNDONALD A'I ALLU YN MYNED I MEWN I'R DREF. GOLYGFA FYTH-GOFIADWY. Truenus tuhwnt ydoedd cyflwr Ladvsmith yn ystod y gwarchae. Bu dros 540 farw, ac yr oedd 800 o bersonau yn gorwedd yn yr ystyttai pan ddaetb ymwared. Cvrhaeddodd Arglwydd Dundonald ac adran o'i feirch filwyr yn Ladysmith am haner awr wedi wyth nos Fercher. Yn ystod y dydd symudodd ein byddin ni yn mlaen mor belled a Nelthorp. Terfvnwyd yr hir warcbae ac enciliodd y Boeriaid tua Glencoe. Yn y boreu gwelid fod y gelynion yn ffoi ymaith fel tart.h, ac yn yr hwyr ymdeithiodd 300 o'r gwared- wyr i mewn i'r dref yn ddiwrthwynebiad. Mae yn annichonadwy disgrifio brwdfrydedd y dorf warchaedig, yr ydoedd eu llawen floeddio yn diaspedain y cvmoedd. Ymdyrai y swyddogion, milwyr a'r trigolion i'w llongyfarch wrth ryd Klip River. Yr oedd gwragedd gyda phlant yn eu breichiau, a draTau yn eu llvgaid yn gwasgu yn mlaen i ysgwyd dwylaw gyda'r fyddin fechan wroniaid a ddaethant i'w gwaredu. Yr oedd yn olygfa effeithiol anghyff- redin, yr oedd dynion cryfion yn gollwng dagrau. Cyfarfyddodd Sir George White a'i swyddogion hwynt yn nghanol y dref, a llongyfarchwyd ef gyda brwdfrydedd calonog. Cvrhaeddodd oddeutu deg a thri ugain o bedrol- fenn yno dydd Gwener, yn llwthog o ddefnyddiau ymborth a cliyfleri meddygol. CALEDI MAWR YN YSTOD Y GWARCHAE. Yn ystod yr ychydig ddyddiau cyn evrhaeddiad yr ymwared yr ydoedd y pryder i- Ladysmith yn fawr iawn, gan fod y diffynwyr yn analluog i wneud dim ond eistedd yn dawel i wrandaw ar dwrf mag- nelau Buller, a thra yr ydoedd eu tvn.:ed h\vv;];au yn y fantol. IIor belled ag yr ydoedd vmosodiadau v Eo'-riaid yn y cwestiwn, gallent ddal allan am wyth::usau yn hwy, ond yr oedd eu caledi yno yn fawr iawn. Pan ddechreuwyd y gwarchae yr oedd yno 12,000 o filwyr, 2,000 o drigolion, a 4,000 o frodorion. Y canlyniaaau naturiol vdoeddd fod clefydan Yn ymddangos. Kbwng cael eu clwyfo a salwch bu o,0L'0 or milwyr yn yr \sbytty. Eto, er arwaethat y gwarchae caled, nid oedd ond ychydig yn marw hyd haner mis Ionawr, ond cynyddodd o hyny allan. gan fod y cyfferi meddygol wedi darfod. ilae yn anmhosibl traethu gormod ar v caledi a ddioddefwyd gan y rhai afiach er haner Ionawr. Unwaith yr elai dyn yn glaf yr oedd vn ddarfod am dano braidd yn sicr. Yr ydoedd rhan ymborth y milwyr wedi ei leihau yn fawr, ac nid ydoedd ond bron ddigon i'w cadw yn fvw. Bob dydd lleddid deg ar'hugain ofhen geffvlau a mulod yn ddefnydd ymborth. a gwnelid y cyfryw yn soup a sausages." Er baner Ionawr bu 200 o ddynion feinv oddiwrth afieehyd yn unig. BULLER YN CYRHAEDD. Ni fu erioed olygfa fwy orfoleddus na mynediad y gwron Buller i mewn i Ladysmith. Yno gwelid 22,000 o filwyr o bob Iliw a Hun, yn llawn cleisiau a briwiau, a'u dillad carpiog yn orchuddiedig gan waed a llaid, a'u gwynebau wedi eu llosgi yn ddu- felyn gan wres angerddol yr haul—yno gwelid yr holl dorf yma am llawn tail' awr yn marcho heibio i'r Cadfridog White gan ganu, a gwaeddi, a thaflu en helmau a'u gynau i'r awyr gan orfoledd. Bloeddiai y trueniaid newynog oeddynt wedi hir ddioddef yn ol, a gwnaent eu goreu i'w llongyfarch; ond yr oedd y croesawiad roddwyd i Buller tubwnt i bob desgrifiad. Y mae yr holl bobl wedi llwvr adael Ladysmith am yspaid, oherwydd fod cyflwr y dref yn ffiaidd dros ben. Taflodd y newydd yr holl wlad i orfoledd di- gyffelyh, a dathlwyd yr amgylcbiad yn y modd mwyaf brwdfrydig ymbob dinas a cbwmwd trwy holl gyrau yr Yinherodraeth Frytanaidd. MANION DIWEDDARAF. Y mae Brabant wedi cael buddugoliaetb, ac y mae'r Boers ar ffo,-Y mae Gatacre wedi cymeryd Stormberg, beb dywallt gwaed.—Y mae Ilu o'n milwyr ni ar y ffordd i waredu Mafeking.—Collodd Buller o Chwefror 17eg hyd 27ain, ar ei ymdaith i ymwared Ladysmith, 1,105 o'i filwyr, sef 127 wedi eu lladd, 938 wedi eu clwyfo, a 40 ar goll. KRUGER A STEYN. Y mae Kruger wedi bod yn Blomfontein yn ymgynghori a Steyn, a sibrydri eu bod wedi yn trefnu telerau heddweh; ond ni wyddis eto betb fu rbynyddynt. HYD ANGAU. Gohebydd y Times o South Affrica a ddywed fod sibrwd fod Llywodraeth y Transvaal yn son am heddweh, ond ni ymddengys fod sail ir sibrwd Dywedir hefyd fod y Boers yn bwriadu gwneyd gwrthsafiad eto yn Glencoe a Laing's Nek. Ym- gynghorodd Kruger ac Arweinydd byddinoedd y Boers yn frysiog ar ol clywed fod Cronje wedi ei ddal. Y mae Kruger wedi pellebru apel daer a ffyddiog at holl swyddogion ei fyddinoedd gan geisio ganddynt annerch y milwyr ac erfyn arnynt i sefyll yn gadafn ac i wneyd ym- drech deg yn enw yr Hollalluog yn erbyn y gelyn; o herwydd oni fydd ganddynt fydd ynddo Ef byddant yn sicr o wangaloni a cholli y dydd. Yr oedd yn eglur oddiwrth fuddugoliaethau y gorphenol fod yr Arglwydd o'u plaid. Erfynia arnynt beidio dwyn dinystr ar eu cenedl a'u bol- afiaid. Dywedir ar awdurdod uchel y bydd i wyr y Free States, os gortbrechir hwvnt, encilio i'r Transvaal i gynorthwyo y Boers ae ymladd hyd yr olaf chwytb. BRWYDR ARALL. Nos Sadwrn, gwnaeth Brigad Brabantymosodiad ar y Boers ganol nos, yn Labuschagne's Nek. Gwrthsafodd y gelyn, ond o'r diwedd gyrwyd ef allan, a chymerwyd ei safle. Lladdwyd dau a chlwvfwyd wyth o'n dynion ni. Ni wyddis eto golled y gelyn. CALEDI YN LADYSMITH. Rbifai y gwrageud a'r plant tua 500. Yr oedd yr afieehyd yn fwy oherwydd eu bod yn gorfod bwyta cig ceffylau-truenus tuhwht ydoedd gweled plant bychain yn chwilio am laeth i'w mamau oeddynt yn gorwedd yn glaf. Yr oedd dewrder tawel y gwragedd—yn dioddef yn ddirwgnach-tuhwnt i bob canmoliaeth. Aeth Buller i mewn ganol dydd lau. Nid oedd wedi bod mewn gwelv er's tair wythnos; ac yr oedd ei wryneb mor felyn a'r copr. Yr oedd llawer o'r trigolion yn gorfod gwisgo sachau am nad oedd dillad i'w cael.
LLITH HEN GARDI.
LLITH HEN GARDI. Tu hwnt i'r mor mewn ardal bell Yn gorwedd mae'n ei gvfyng gell, Lie na chaf byth fwynbau y wledd 0 hidlo dagrau uwch ei fedd Z, Dyma eirie galar llawer y dyddie hyn-galar llawer mam am ei mab. a llawer merch am ei chariad—am eu rhai anwyl sydd wedi syrthio yn y rhyfel. Wei, bobol anwl! welsoch chi ariod shwt beth a'r wthnos ddiwedda'-yr o'dd yr holl wlad fel'se hi wedi meddwi yn lan pan ddows y newydd fod Cronje wedi ddal a Ladysmith wedi 'i gwaredu. Mowr y swn a'r gweiddi o'di ymhob man. Wel, ag i fi i weyd y gwir i chi 'r o'dd yn dda gan 'y nghalon i glywed fod y rhai o'dd vn diodde yn Ladysmith wedi d'wad o'r diwedd yn iacb o'r cystudd mawr. Ond pan own i yn clywed y bobol n gweiddi, y bands yn canu, y cenins yn seithu, a gweld y flags yn hofran. a phob math o swn a rhialtwch ag o'dd nos Iou allswn i ddim llai na gofyn: Beth am y bechgyn, am y milodd o'r bechgyn gwridgoch glan sydd wedi tewiyn yr ange, ac yn gorphwys dan y gro yn Sowth Affrica. Dyma ni yn gweiddi a gwledda tra mai gw'ad nhw druen yn lliwio llawer bro a bryn yn y Cvfandir Du. I ba beth y bu'r golled hon? *Yman ofnadx i feddwl fod milo'dd ar filo'dd yn cal eu hyrddio i farwolaetb a tbrueni. a hyny am fod rhyw ddoi neu dri yn ffeili diall eu gilydd. Wel, y ma'r cledde yn shwr o fod yn gorwedd yn drwm ar eneidie y rhai !'<v'n euog o achosi y rhyfel 'ma. Pwy i'n nbw. gwedweh ? Y ma hi yn sobor tuhWDt yn Sowth Affrica, fel ma' pawb yn gwbod, ond y ma' hi yn yn llawer gwa'th nag i chi yn feddwl ar filo'dd yn y wlad yma. Wa'th i chi gasglu tomeni o arian na pheido, ni all y sofren felena brynu 'run balm i'r galon glwyfedig na'r un eli i'r meddwl trallodus. 'Rodd hanes yn y papyre dydd Sadwrn am incwest ar ferch o'dd wedi gwneid diwedd o'i hunan. Fe fecsodd i farwolaeth ar ol 'i chariad o'dd yn y rhyfel. Y newydd chwerw, trwm a sur, A'i trywanodd hi fel cleddan dur; A berem gwyllt a ferwai 'i gwaed, Yn eithaf trist o'i phen i'w thraed. Yn iach, yn iach it,' obaith, mwy,— Ti fucst eli'n hir i'w chlwy'; Yn awr hi wel, yn drist ei stad, I Nad o's 'ddi byth, byth, bytb iachad. » Be' s'yn dwad o'r holl ddynion 'na sy' wedi cal i lladd yn y rhyfel ? Odi chi'n meddwl i bod nhw yn 'nabod 'u gilydd yn y byd arall; ac os odi nhw, beth ma' nhw yn neid yno ? Choila i ddim i bod hi yn bosibl iddi nhw wmladd a'u gilydd yr ocbor draw. Synwn i na leice llawer o honyn nhw groesi y gagendor i roi stop ar y rhyfel 'ma. Mi fues i yn meddwl fod llawer Boer a Britwn yn gofyn am genad i ddwad yn ol i'r hen ddaiar 'ma i rybuddio'n ffryndie i beido bod mor wirion a mynd i ryfela, ac fod yr angel yn dweyd wrthi nhw mai ofer o'dd meddwl am y fath beth 'herwydd o's na wrandawi y daiarolion ar y 'scrythyr lan syn gweid mai Ariangarwch yw gwreiddyn pob drwg." ni chredsen nhw ddim chwaith pe codsai rhai oddi- wrtb y meirw i geiso 'u darbwyllo nhw. Wel, wel. IDa'r Toris 'ma wedi 'i golchi hi o'r diwedd. Own ni'n meddwl ma'r hen Kruger 'na geise dalu holl goste y rhyfel 'rna. Meddyliwch am y tacle diras yn rhoi treth ar y te, y baco, a'r cwrw i dalu am y powdwr i saethu y Boers. Ma. hi wedi dwad o'r diwedd i chi. O'dd Mali Tyclai yn gweid o hyd y buse hi yn shwr o ddwad i hyn. Ma' Mali, druan, heibo pedwar ugen, ag ma' hi yn cofio llawer rhyfel fowr cyn bon, az 'r O'dd bi yn gweid y dydil o'r blan nad o'dd hi ddim yn cofio am neb yn ca'l en difyru am ddim mewn na rhyfel na ffair—diwedd y gan yw y geinog gyda dynion y War Offis fel dynion y shew. Welwch chi neb yn ca'l sport yn y ffair wrth weled dynion y shew yn wmladd a'u gilydd tu ol y standing na fuse un o nhw yn dwad a i hat yn rownd ar y diwedd; a welwcb chi 'r un Lh-wodraeth. boed bi Liberal neu Dori, yn difyru y wlad a rhyfel fowr fel hon. nes po pawb yn dawnsio fel r o'n nhw yrwthnos ddiwetha na fydde'u can nhwnte yn diweddu gyda'r geinog. 'Rodd y dyn o'dd yn byta tan yn farchnad Abar- ystwvth dydd Llun yn moin 'i dalu am i waith dwl ar v diwedd. a shwt i chi yn disgwl i'r mil'odd na i fwyta tan yn South Affrica heb ga'l rhwbeth am eu gwaith ? Pay, pay, pay o'dd byrdwn can ladi v plas "ma sy' ar bwys 'n pent re ni. IVel ma' hi wedi dwad yn pay, pay o'r diwedd; ac os w' i yn nabod mei ladi yn iawn ni fydd neb yn tuchan mwy na hi pan ddaw dyn y dreth yn rownd nesa i moi'n vr incom tax a gweyd—" pay, pay, pay shillin' in the pound madam."
Advertising
Business Notices. IIL BBANDS STUDY YOUR WIVES EASE AND COMFOBT BY PURCHASING ONE OF SELLERS' WASHERS. :>-i 10.4 7.: 0 if1 := H :5;:¿ r£l r. ?- H if. Z == < -< 0 > k \I-! (£ t" r=, -< Z > 0> ¡; =: z 8 = i-1 Ii: p..¡ z Z $ > C Œ C- oc r=, 0 S -< 00. > t;Ej h -< H lwtson's rn '7' t:' ::s= Z aP. t%1 P:¡ íL i t: Z t-3 w. 'J1 r£l o >-3 œ NO WELSH HOME COMPLETE WITHOUT ONE. SOLE AGENTS MARY DAYIES & SOK, Ili LA-NON JJOUSE, A BERAYRON. Also Agents for the leading Makers of all kinds of Implements. Mr. HUGHES DAVIES attends Monthly Markets at Tregaron. R. SAYCELL, FISH, GAIE, AND POULTRY DEALER, GREAT DARKGATE STREET, ABERYSTWYTH. HORNER'S CLOTTED CREAM AND CREAM CHEESE, FRESH DAILY. SOLE AGENT FOR Palethorpe's celebrated Cambridge Sausages in the district TELEGRAPHIC ADDRES.SAYCELIA, ABERYSTWYTH." TELEPHONE No. 6. CAMBRIAN FACTORY, LAMPETER. DAYIES BR OS.' BOOTS AND SHOES ARE POPULAR IN ALL TOWNS, A BOON TO LAMPETER AND DISTRICT. IMPORTANT" NOTICE. OPENING OF a NEW STEAM BAKERY Wholesome Bread, Cake, and Pastry. CHARLES EVANS, MARK LANE STORES, Bridge Street, LAMPETER, Begs to call the attention of his customers and the public generally to the Opening of a NEW STEAM BAKERY, and the facilities he can now offer. WEDDING, BIRTHDAY, AND SCHOOL CAKE TO ORDER. PASTRY OF EVERY DESCRIPTION. All Orders receive prompt and careful attention. VANS WILL DELIVER IN AND AROUND THE DISTRICT DAILY. The Public are cordially invited to inspect the New Bakery, which is a marvel of ingenuity and perfection. IF YOU WANT GOOD, RELIABLE FURNITURE AT A LOW PRICE GO TO DAVID ELLIS AND SONS, FURNISHERS, 6, CHALYBEATE STREET, ABERYSTWYTH FOR THE LEADING I pAINTING, JpLUMBING, L DECORATIVE B USINESS FOR ABERYSTWYTH AND MID-WALES I DISTRICT, |, GO TO R. PEAKE, B ATH STREET. ABERYSTWYTH. J. B. EDWARDS, FAMILY GROCER, FLOUR AND PROVISION MERCHANT, 40, B JUDGE STREET ABERYSTWYTH. Jams, Marmalade, Jellies, Pickles, Cheese, Lard, and all kinds of Potted Fruits Best Quality in Home-cured Bacon, and Fresh Butter and Eggs Daily. TRY OUR SPLENDID TEAS NOTED FOR STRENGTH PURITY AND FLAVOUR. All orders promptly attended to, and sent out to any part of the Country. WM. THOMAS, ¡ COAL AND LIME I MERCHANT, ABERYSTWYTH. BRICKS, SLATES & PIPES of every description always in Stock. DAVID MORGAN, DRAPERY AND MILLINERY ESTABLISHMENT, 18, pIER STREET, A BERYSTWI-RE HOPKINS & SON, BUILDERS AND CONTRACTORS, ABERYSTWYTH. CASTLE HOUSE, ) ABERAYRON. I John Hugh Jones, I The oldest established Draper in Aberayi on. H LARGE STOCK OF I DRAPERY I OF EVERY DESCRIPTION. I FOR I WELSH MATERIALS I Of all description unsurpassed in the Town H MODERN SHOWROOMS. I Ladies and Gentlemen are respectfully requested H to visit the above Establishment. They will H be surprised at the variety of the Stock. H THOMAS ELLIS, I 33 AND 35, TERRACE ROAD I (OPPOSITE TIE POST OFFICE). FANCY DRAPERY. H MILLLN ERY IX ALL ITS BRANCHES, SPECIALlTES-LACES, RIBBONS & MUSLINS. T. E. has just returned from London I with New Styles in all Branches of Millinery and Drapery. H BOYS', YOUTIISI. -YE.N"S CLOTHING I OF EVERY DESCRIPTION" MADE TO MEASURE H -AT LOWEST CASH PRICES- I BY H DANIEL THOMAS. I GENERAL DRAPER, OUTFITTER, TAILOR, H 22, 24, I LITTLE DARKGATE STREET A BERYSTWYTH. I R. DOUGHTON, I JRONMONGER, CHIXA JQEALER AND t 1 CYCLE Å GENT, )t) I (OPPOSITE THE TOWN CLOCK). I CYCLES FOR SALE AND HIRE. I | USE THE CRYSTAL PERISCOPIC I J SPECTACLES I TO BE HAT) AT ABOVE ADDRESS.