Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

LLUNDAIN,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLUNDAIN, Dydd Mercher. CYFARFOBYDD GWYL DEWI. Wythnos brysur anarferol fu hon yn mhlith Cymry Llundain. Ar nos Fawrth cynhaliwyd" gwasanaeth Cymreig yn Mhrif Eglwys St. Paul, pryd ypregethodd y Canon Williams, o Dy Ddewi, i gynulliedfa fawr iawn. Eleni ffurfiwyd cor o ddeuddeg o ferched, pob un a'i thelyn yn ei law, ac yr oedd rhyw swyn rhyfedd i'w deimlo wrth glywed swn y telynau mewn odfa grefyddol. Ar nos Fercher cynaliodd Ymneillduwyr y pedwar enwad eu cyfarfod blynyddol yn Nghapel Doctor Parker, y City Temple. Pregethwyd gan y Parchedigion Owen Prys, Trefecca, yn cynrychiolu y Method istiaid, a Charles Da vies, Ceardyd d y, Bedyddwyr. Yr oedd yr adeilad mawr wedi ei lenwi i'r ymylon erbyn dechreu'r cwrdd. Cafwyd pregethau 1 anarferol o dda—Mr Prys yn ei hwyliau goreu yn llawn difrifoldeb a thanbeidrwydd, a Mr. Davies yn bwyllog, aruchel, a gafaclgar. Arweinai Mr. Maengwyn Davies, y cor ar yr oedd y canu yn fendigedig. Hir gofir yr odfa. GWYL ST. DEWI. Ar nos wyl Dewi cynhaliwyd y ciniawau -arferol, y Cymru Fyddion yn Ngwestdy Sissyllt, a'r Hen Frutaniaid yn Ngwesdy Rhyd yr Hoi. Yn ol pob hanes bu'r ddau giniaw yn llwyddianus. Ymysg y gwahodd- edegion i'r Giniaw'r Cymru Fyddion, yr oedd Syr William Harcourt a'i wraig. Gwnaeth Syr William araeth yn llawn o arabedd, o rhoes ganmolaeth anghyffyedin i'r Cymry. Dywedai na chlywodd erioed yn Nhy y Cyfiredin well areithiau na'r i eiddo Meistri Lloyd George a Samuel Evans yr wythnos ddiweddaf, a phrophwydodd ddyfodol ,disglaer i'r ddau Gymro gwladgar a galluog. Mewn attebiad traddododd Mr. Lloyd George (nid oedd Mr. S. Evans yno), araeth hyawdl a barddonol. Dywedodd fod y Cymry wedi gwel'd y Rhufeiniaid yn dod i Brydain ac yn diflanu, y Saeson ar eu hoi hwy, y Daniaid wedyn, ac yn olaf y Nordd- maniaid, ond bod iaith y Cymro mor fyw ac erioed, a'i gariad at ryddid a chyfiawnder maor gryfed r byth. Siaradodd y Parch. Elfed Lewis a Mr. Woodward Owen hefyd yn dda neillduol, ac mewn gwirionedd ni chafwyd gwell cinio na gwell areithiau erioed o'r blaen yn y cynhulliadau blynyddol hyn. Yr unig fai oedd fod yr iaith Gymraeg yn cael ei hesgeuluso yn ormodol, ac ni cheir hwyl yn iawn ar ddim yn Llundain heb yr hen iaith. NEWYDDION YR WYTHJOS. Pan ddaeth y newydd fod y gwron Cronje o'r diwedd wedi rhoi i mewn i'r Cadfridog Roberts, daeth rhyw lawenydd rhyfedd dros y ddinas. Chwifiwyd banerau a chanwyd lJyrn, a gwnaed pob math o yspleddach. Ond ar nos lau, wedi i sicrwydd ddod fod Lady- smith yn rhydd, collodd y dinasyddion pob meddiant arnynt eu hunain. Yr oedd yr ystrydoedd yn llawnion o bob math o ddynion, tlodion a chyfoethogion, merched a meibion, yn gwaeddi ac yn bloeddio, yn canu a dawnsio. Ond nid dyna'r gwaetha. Yr oedd gwehilion y ddinas wedi eu gollwng yn rhydd am y tro o'u cynefin leoedd yn y parth dwyreiniol, ac yn rhowlio yn feddw a therfysglyd trwy'r ystrydoedd. Ymddangosai pethau yn lied ddireol a diroswm, a teimlwn hiraeth angerddol am Gymru dawel a dirodres wrth dramwy tuag adref. Y RHYFEL. Nid oes dadl fod cyfnewidiadau pwysig wedi cymeryd lie yn safle'r pleidau yn Neheudir Affrig yr wythnos ddiweddaf. Gwir nad oes fawr achos i chwifio banerau a gwallgofi uwchben brwydr Paardesburg, canys nid oedd y Boeriaid ond yn ol un i bymtheg o'u cymharu a'r Saeson, etto y mae carchariad tair neu bedair mil o "r Boeriaid yn lleihad mawr ar eu byddin, gan nad allant gael ychwaneg o wyr i gymeryd eu lie. Enill mawr i'r Seison oedd rhyddhad Lady- smith os nad oedd yn gymaint o golled i'r Boeriaid, gan iddynt ddwyn eu gynau a'u byddin yn ddidramgwydd o faes y rhyfel. Credir y bydd y Boeriaid yn ddigalon iawn ar ol y ddau ddigwyddiad olaf hyn, ac yn barod i rhoddi i fewn yn fuan. Ond ofnir ei bod yn bosibl yr ymleddir o hyn allan gyda ffyrnigrwydd na fu yr hyn a basiodd ond chwareu plant i'w gymharu ag ef. Pan a pobl i ymladd dros eu gwlad ar dir eu gwlad, yna y maent yn colli pob meddiant ar eu hunain, yn barod i wneuthur unrhyw aberthau ac i gael eu difodi yn llwyr o'r tir cliwaetbach na'u gorchfygu. Ond amser a ddengys. Y SENEDD. Ar nos Wener bu Mr. Lloyd George wrthi eilwaith yn trin Joseph Chamberlain. Fe gofir fod Syr Alfred Milner, y gwr sydd yn cynrychioli Prydain yn Nelieudir Affrig, a Mr. Steyn, Prif Weinidog y Free State, wedi bod mewn gohebiaeth a'u gilydd cyn cychwyniad y rhyfel ynghylch y camddeallt- wriaeth rhwng Kruger a Chamberlain. Ysgrifenodd Mr. Steyn ddau lythyr maith at Syr Alfred Milner, yn mha^rai rhoddodd hanes llawn o'r gwir achosion oedd wrth wraidd ystyfnigrwydd Kruger. Profai y llythyrau hyn i fesnr pell mai cam- ddealltwriaeth a dim byd gwaeth oedd rhwng y pleidiau. Pe cyhoeddasid y llyth- yrau ar y pryd fe allai yr osgoid y rhyfel presenol. Ond beth wnaeth Syr Alfred Milner ? Yn lie eu danfon yn eu crynswth i Loegr torfynyglodd hwynt a danfonodd rhyw fraslun camarweiniol cwta o honynt i'r wlad hon. Cynygiodd Lloyd George gwymp- ad o zClOO yn ei gyflog, a gwnaeth araeth finiog, a galluog dros ei ddadl. Cynhyrfodd hyn Chamberlain, a torrai i fewn ar gauol araeth Lloyd George sawl gwaith, ond safai y Cymro gwydn ar ei dir, ac yn y diwedd trechodd ef hefyd. Ond beth dal. Y mae mwyafrif enfawr tu ol i'r Ceidwadwyr, a collodd ei gynyg. Mae ofn ac arswyd Chamberlain a'r aelodau'r Ty yn gyffredin, gyda'r eithriad o'r Gwyddelod a'r ddau aelod Cymreig, Lloyd George a Sam Evans. Gall Cymru ymfalchio yn y ddau hyn. CINIO SIR GAERFYRDDIN. O'r diwedd mae pobl Sir Gaerfyrddin, neu y rhai sydd yn byw yn Llundain, ddylaswn ddweyd, wedi ymwroli i gychwyn ciniaw blynyddol. Mae Siroedd Aberteifi a Phenfro wedi gwneyd hyn ers blynyddau, ac wedi cael cyfarfodydd neillduol o lwyddianus. Sut bynag, nos Sadwrn diweddaf cynhaliwyd ,ciniaw'r Whelps," gyda Mr. Llewelyn Williams yn y gadair. Daeth tua deg a thriugain yno, llawer o honynt yn feddygoc, .a chafwyd amser difyr ansrhyffredin. Gwel- som rhai o wyr Ceredigion a Meirion yn bresenol, ond rhyw olwg lied anghyfforddus oedd arnynt wrth glywed y Cadeirydd yn uchel ganmol ei Sir enedigol. Cyn y diwedd daeth Mr. Lloyd George i fewn, a siaradodd am enyd fer. Yn ystod y noswaith cafwyd llawer o ganeuon ac adroddiadau gan wyr cyfarwydd, a mawr fwynhawyd y cyfarfod. TOLLI'R TE A'R CWRW. Nos Llun yn y Senedd dywedodd Cang- hellydd y Trysorlys ei fod am godi y swm o X12,317,000 trwy gynyddu y trethi yn ystod y flwyddyn. Codwyd yr incwm tax o wyth ceiniog i swllt; swllt y faril ar gwrw, grot y pwys ar dybacco, a dwy geiniog yn lhagor ar y te.

TREGARON.

LAMPETER.

ABERAYRON.

TALYBONT.

GOGINAN.

MACHYNLLETH.

CORRIS.

ABERDOVEY

TOWYN.

IBARMOUTH.

DOLGELLEY.

St. David's Day Festivities.

— LATEST WAR NEWS.

BORTH.