Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Broginin a Dafydd ab Gwilym.--

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Broginin a Dafydd ab Gwilym. Ceisiwyd eglure yn y Welsh Gazette yr wythnos o'r blaen ddull gweithio ac amcanion y Gangen Hynafiaethol newydd a sefydlwvd yn ddiweddar yn Ngholeg Aberystwyth; ac awgrymwyd fel un pwnc dyddorol, i'w chwilio gan bawb a deimla ryw awyn yn y gymydogaeth hon, ei henwogion a'i banes-gysylltiad Dafydd ab Gwilym (bardd mwyaf Cymru yn y 14eg ganrif), a Broginin, ffermdy tua dwy filldir o Bow Street. Jichydig o ffeitrnau ynglyn a hanes Dafydd ab Gwilym sydd ar gael, ac am bob gwr o fri sydd a'i fywyd felly yn golledig mewn tywyllwch ansicr- wydd ac hynafiaeth, daw traddodiad a dychymyg gwerinol i bletbu ystraeon eu hawliau am dano. Dywed un traddodiad mai ger Llandaff y ganwyd Dafydd ab Gwilym, ac mai yn Talyllychau y cladd- wyd ef. Myn eraill ei hawlio i Sir Fon, am fod ffermdy o'r enw Bro Gynyn yn digwydd bod yno, a bod amryw o'i ganeuon yn dangos adnabyddiaeth a chysylltiad a'r sir hono. Ond y traddodiad sydd o ddyddordeb i ni'n bresenol yw hwnw a ddywed mai yn Broginin y ganwyd y bardd. ac mai yn Mynachlog Ystrad Ffiur y claddwyd ef; ac amcan y nodiadau hyn ydyw chwilio sail a gwirionedd y traddodiad uchod, ac hyderir y gwna pawb a wyr ryw ffeithiau a deifl oleuni arno eu danfon i'r WeliK Gazette, fely profer mor derfynolag y gellir werth y traddodiad. A oes iddo fwy o sail na'r dywediad yn Rhagarweiniad Dr. Owen Pughe i'w weithiau i ryw fardd (pwy ?) ganu mewn englyn mai cyflawniad o broffwydoliaeth Taliesin oedd genedigaeth Dafydd ab Gwilyn yn Mroginin 1 Wele'r englyn :— Am Dafydd. gelfydd goelfin-praffawdwr Proffwydodd Taliesin: Y genid ym mro Gynin Brydydd a'i gywydd fal gwin. Digwyddais ddarganfod un ffaith arall, wrth chwilio enwau hen fap Ddeheudir Cymru y ces y fraint o'i weled ymvsg casgliad rhagorol C. M. Williams, Ysw., Maer y dref. Dyddiad y Dlap yw 1695. a'i awdwr Robert Morden a (lyma rai olr enwau sydd arno yn perthyll i ben uchaf Sir Aberteifi:— Aberistwith, Lhanbadern Vawr, Gogerdhan, Kil- vellen, Plym llymon, Rvdall, Massalak, a Salek. Enwau afonydd yw'r tri gair olaf a elwir genym heddyw yn Rheidol, Salem, a Silo. Y cwestiwn dyddorol felly yw- pa un ai Salak nen Salem vdvw'r enw cywiraf ar yr afon a red heibio Bro- ginin? Un o'r enwau lleoedd sy'n digwydd amlaf yn Marddoniaeth Dafydd ab Gwilym yw Maesaleg —yr un gair ag sydd ar y map am nant Salem. Wrth holi un o dripolion hynaf cymydogaeth Bro- ginin, ces mai Saleg y gelwid y nant pan oedd ef yn blentyn, a bod y gair y pryd hwnw yn gyplys- edig a thraddodiad am Dafydd ab Gwilym. ac hefyd mae yn ddiweddarach y galwyd y nentydd uchod yn Salem a Silo wrth enwau capeli cyfagos. Nis gallaf ddweyd faint o sail sydd i'r S3~niadau uchod, ond carwn ofyn trwy gyfrwng y HW.\7t Gazette am ryw oleuni pellach ar darddiad ac ystyr yr enwau a grybwyllwycl. Ond ar wahan i rhyw ffeithiau allanol fel y rhai uchod, hwyrach y gellir darganfod rhyw brofion mewnol o ddilysrwvdd y traddodiad am gysylltiad Dafydd ab Gwilym .1 Broginin. Nodweddir cywyddau Dafydd nid yn unig gan eiriau ag orgraff perthynol i Gvmraeg y Canol Oesoedd, ond tybir fod ynddynt hefyd neillduolion mewn seiniau a brawddegau nas gellir eu hegluro ond trwy dafod- iaeth rhyw ran o Gymru. Pe gwnelid taflen o'r cyfryw neillduolion felly, tybed a gaem eglurhad arnynt yn nhafodiaeth cymydogaeth Broginin ? Beth bvnag. dyma yw amcan y nodiadau hyn, sef gosod gerbron darllenwyr y Welxh Gazette restr o'r geiriau hyny a all fod yn gymorth i benderfynu bro genedigol y bardd, a mawr hydcrir y cymer rhywrai y gwaith mewn Haw o chwilio yn helaethach iddynt. Y mae cynghanedd llinellau barddonol yr hen feirdd Cymreig yn help i benderfynu'r modd yr acenid ac y seinid rhai geiriau. Yn Dafydd ab Gwilym odiir gwamry/t it Ilwyn, gwyneh a. mwyn. camryll h thwyll. Ai dyma'r modd y seinir y geir- iau yn nhafodiaeth Gogledd Aberteifi ? Pa am- aethwr all egluro'r hen enwau canlynol ar offer a phethau eraill perthynol i fferm :-swch, cwlltwr, penffestr, ieuau, dolau, a tbidau fel darnau o'r aradr a'r trappings oedd yn ei cbyplysu a'r ychen a'i tynai gynt. Beth yw coed argor, fflacedau coed, talwn neu talwrn fferm, coetgae, copi, aerwy, mwnws, gwilff felen am geffylau, drestl, clopren gwern. trosol y drws. coed csglog ? A ddefnyddir y geiriau canlynol fel enwau ar goed neu blanliig- to" yn y gymydogaeth hon—ffuon, ogfaenen, cegid, berwr, egroesen, rhosyn y grog, oorfedw, gold, helm o wiail, gwydd cadeiriog. amyd bedweni, marian mor, a llysewyn ? Neu y rhai canlynol am anifeil- iaid &c.,—afanc, abod ceffyl, trwyn myswynog, cornawr, ychen banog, ci mws, croen mollt, Uam- hidvdd, llyg, gwlanod. chwileryn, adargop. gloyn duw, ysgydogyll, biogen (neu pioden) ? Cymerer eto yr arferion y cyfeirir atynt yn y cywyddau a oes olion y rhai hyn ar gael heddyw-cawna, dal pysgod a thryfer (ac a elwir pvsgctwra gwialen yn gylionwr?), bugail yn defnyddio rhugl groen (neu rattle), chwareu cnau, neu roi collen fel arwydd o ffafr neu ddigterrhwng cariadon a'u gilydd? A ddefnyddir y gair talaith am wisg pen ? G Clywais y byddai mamau Sir Aberteifi flynyddau'n ol yn gwisgo math o gap lliain ar ben babanod, er cy- northwyo esgyrn y benglog i asio yngbyd, ac mai talaith y gelwid hwnw. 0 fysg amryw peillduol- ion orgraff, gellir gofyn a berthyn y rhai canlynol i dafodiaeth Gogledd Aberteiif-bodlon, criawol, cywaethog (am cyfoethog), arnad, nefau (nefoedd), tefyrn (tafarnau), gwleddau (gwleddoedd), glawr (ynte gwlaw), heiniau (heintiau), i wared (waered) cowir (cywir), clowch (clywch), lloweth, i' (yn) megis i'th lwyn (yn dy lwyn) neu i'w phlwyf (yn ei phlwyf), ei gywain rhwng dwy gawod,'bronydd, pyrnhawn (prydnawn). ardwy (adwy), careg lefain (neu ateb), cwlm (ynte clwm), heb allel, tolio, yspardun felen, ffrithoedd (ynte ffriddoedd), tas- gwair (ynte wair), llusgws (llusgodd), tygaswn (tebygaswn), nythod. helcud. Neu a nodweddir y gystrawen gan ddulliau ymadrodd fel y rhai hyn- mae'n fadws i'm ynfydu.' andras iddi! pren plan, dod chwap, dynionau ieuainc, swrn o ddydd. oerfel i'r delff cysgu tremyn, I bloeddio fel pabl Iddew,' gwyddwn gynau ond nis gwn yn awr. Beth sydd vna'n cbwiltath ?' niwngial canu. cosi trwvn, dod yn frwysg o'r (lafarn,' enuthio ffenestr, rhoi gwar- ffon iddo, mor gymen a hi,' clwyd forlo (am niwl), earthen, crwybr, cilia'r dreng, difocsach, dwfr llinagr (vinegar), cymwys (am beth nnionsytb), ateb a gwrtheb, yrhom (rhyngom), hyd am y terfyn. Eto, a ddefnyddir geiriau fel y rhai hyn, a fabwys- iadwyd i'r Gymraeg o'r Saesneg neu'r Lladin?— trafaelu, lawnt, goldwir, cwrling, cambr, ysgrin, lliw samwin, ffulcwns. siecced, gwn. Yn olaf. rhoddaf rai o'r enwau lleoedd na wyddir yn gywii pa le y maent, feallai mai enwau ffermdai net gymydogoethau yn y sir yma ydynt-Rhiw Rheon Garllwyd, Gwern y Talwn, Castell Gwgawn, Panl Cwcwll, Cyfylfaen, Gelli Fleddyn, Gelli'r Meirch Dyffryn Craig, Cwm Cawlwyd, Eithinfynydd Caer Geri, Nant y Seri, Fvnachlog Faen, brc Eithindan, Coed Evtun, a MaesaJeEr. M. H. J.

LLANYCHAIARN.

Advertising

TRANSVAAL WAR FROM DAY to…

CHURCH NEWS.

WORLD IN A WEEK.

YR WYTHNOS.

Y RHYFEL.

Y Senedd a'r Rhyfel.

LLITH HEN GARDI.