Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

YR WYTHNOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR WYTHNOS. Bu rw yn ddiweddar hen wr yn Vienna yr hwn yn ystt)J saith mlynedd ar hugain a yfoid 28,786 o laseiciiau o gwrw a thrwy ei oes a ysmociodd 528,7130 sigars Sonir fod Siefyllfa. iechyd Kruger. yr hvrn sydd etto yn y Cyfandir, yn beryglus < wael. Gweinyddir arno yn gysson gan dri o feddygon. Dy-vyd barfvrr o'r enw James Jones o flaen yr ynadun yn Aberystwyth dydd Sadwrn am iddo ddian-j o'i gartref a gadael ei wraig a'i blant i ofal y plwyf. Dedfrydwyd ef i garcbar am dri mis. Ar ol prawf maith a barodd am chwe diwrnod, cafwyd Benjamin Greene Lake, cyfreitbwr enwog yn Llundain, yn euog o gamddefnyddo arian a osodwyd i'w ofal gan gwsmeriaid. Bu y carcharor yn un o'r gwyr mwyaf blaenllaw a pharchus yn ei alwedigaetb, ac am dymhor bu yn Gadeirydd ar yr Incorporated Law Society," yr anrbydedd uchaf fedrat ei gyfeillion gosod arno. Credai pawb ei fod yn wr arianog ac ymddiriedai rhai o'i gwsmer- iaid yr holl o'u beiddo i'w ofal. Ymddengys mae ar y cyfoeth hwn y porthai Lake ei angbenion costfawr, ac am ei gamymddygiad o honynt ded- frydwyd ef i garcbar am ddeuddeg mlynedd. Bydd yn dda gan lawer i hen walch ddeall fod yr awdurdodau ar fedr cau y carchar yn Aberhon- ddu a Cbaerfyrddin. Y rheswm am hyn yw fod nifer y troseddwyr a ddedfrydir i'r lleoedd hyny mor fychan fel y mae y traul o'u cadw yno yn afresymol o uchel ac yn fwy mewn cvfartaledd nag odid mewn uurhyw le cyffelyb yn y deyrnas. Fel rbeol, 22 yw nifer yr ymwelwyr yn Nghaerfvrddiu ac ar gyfer y rbai hyn cyflogir 11 o swyddogion, fel y mae un swyddog ar gyfet pob dan o'r carcharion. Pan yityrir fod y carchar yn Nghaerfyrddin yn gwasanaethu i dair sir, sef Aberteifi, Penfro, a Chaerfyrddin, mae yn destyn llawenydd eu bod yn methn rhoddi digon o waith iddo. Buan iawn yr anghofir gwasanaeth ein milwyr yn erbyn y Boeriaid. Ymddangosodd gwirfoddolwr gerbron Bwrdd y Guardians yn Shrewsbury y dydd o'r blaen gan erfyn am gymhorth. Roedd wedi ei glwyfo yn dost ac felly yn methu canlyn ei orchwyl. Ar ol ymrafael hir, penderfynwyd rhoddi iddo goron yr wythnos er cynal ei hun, a'i wraig, a'i deulu! Mae yn ddiameu fod y llaw-feddygon ar y cyfan- dir yn gwneyd llawer mwy o gynydd yn ei galwedi- gaeth nag a wneir gan eu cyfodion yn y wlad hon. Y dydd o'r blaen, dygwyd dynes i ysbytty mewn tref yn yr Almapn yn dioddef o herwydd cancer yn y cyila, y clefyd mwyaf poenus ac anobeithiol efallai mewn bodolaeth. Symudwyd y cylla yn yfan"wbl o'r corph, a dywed y meddygon y bydd i'r claf wella yn hollol gan nad v\v y cylla yn rhan anhebgorol o'r corph. Dywed y meddygon na wna absenoldeb y cylla effeithioyn niweidiol ar dreuliad y bwyd, ond y bydd raid i'r ddynes fwytta ac yfad llai ar y tro ond yn fwy mynych.

Y RHYFEL YN AFFRICA.

Llith o Landyssil.

MACHYNLLETH.

Advertising

North and South Wales Bank.