Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

—-———— YR WYTHNOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

—-———— YR WYTHNOS. 10 Mae gwyr cor canu Eglwys Gadeiriol Bangor ar streic. Mae son fod y Toriaid am roddi treth o ddimai y pwys ar siwgr, a rhoddi toll gofrestriadol o swllt ar yd. Ar ol carwriaeth o bymtheg mlynedd ar hngain bu raidi saer o'r enw David Mathew Davies, o Bettws y Coed dalu £50 i Jane Jones am dori a-ddewid i'w phriodi. .oI.ae masnach ddur Deheudir Cymru yn cael eu bygwth yn ddifrifol ar hyn o bryd gan wledydd tramor pa rai sydd yn gwerthu eu cynyrch am brisiau cydmarol isel. Mewn atebiad i Mr Lloyd George yn y Senedd dywedodd Mr Austen Chamberlain nad oe'ld dim I un rheol i atal neb i anfon telegram yn yr iaith Gymraeg rhagor na'r rhwystr ymarferol, na cheid pawb yn y llythyrdai yn gynefin a'r iaith. Dydd Gwener caed corph tafarnwr o'r enw Samuel Harrison, yn nghamlas Manceinion. Yr oedd wedi bod ar goll am rai dyddiau, ac yr oedd J cyffro parthed y gwenwyn yn y cwrw wedi «*ffeithio arno a'i iddycbrynu nes y rhoddodd ddiwedd ar ei einioes. Mae ystorm o wynt wedi dinystrio rhan fawr o <3ref yn Texas, America. Cafodd amryw bersonau ''add c'n anesmwythdra yn y gwlcdydd bychain It is ) "io a Twrci yn Ewrop, ac mae y sefyllfa Óg yn Macedonia eisoes. Ofnir y bydd 4 ^Il^ro allan; mae y Sultan wedi anfon tua V By tilwyr i'r gororau yn barod. 10 rio 10s ddiweddaf hyrddiodd hogyn hurt ddil. aria ar draws Ymerawdwr Germani tra yr oe^ myned trwy'r ddinas yn ei gerbyd, ac anafwyj ef yn ei gern. Pan holwyd yr hurtyn yn nghylch y weithred, dywedodd fod swn y bobl yn bloeddio tra yr oedd yr Ymerawdwr yn myned heibio i'r pistyll He y safai ef (yr hurtyn) wedi gwneud iddo gredu ei fod ar y mor ac eu bod yn gwaeddi arno i fwrw yr angor. Wedi ymholi caed fod y llangc wedi bod ar y mor, ac nad oedd yn gyfrifol am ei waith. Rhydd newyddiadur Ffrengig o Paris hanes am gi a gyflawnodd hunanladdiad o dan amgylchiadau tra hynod. Trayr oedd dyn, yr hwn oedd yn cael ei ganlyn gan ei gi, yn croesi rheilffordd daeth tren ar ei draws ac fe'i lladdodd yn y fan. Udai y ci yn ddolefus fel mewn galar nes y cludwyd corff ei feistr ymaith. Y dydd canlynol gwelodd gweithiwr y ci yn dyfod i'r un croesffordd ac ar yr un adeg ag y lladdwyd ei feistr. ac yn gorwedd ar y llinell. Cyn medrai y gweithiwr ei yru ymaith daeth y tren ar ei draws; ond ni laddwyd mo bono. oherwydd hyrddiwyd ef ymaith gan y peiriant. Gan odo yn ddolurus rhedodd y creadur at afon oedd gerllaw, taflodd ei hun iddi, a boddodd. Cofnodir marwolaeth y Parch Urijah Thomas, Bristol, un o weinidogion blaenaf yr Annibynwyr yn Lloegr. Cymro ydoedd o waedoliaeth, mab i r enwog Barcll David Thomas, Stockwell, golygydd yr Homilist." Ymadawodd y Parch W. Hopkyn Hees, y cenad- wr Cymreig yn China, am y wlad hono yr wythnos ddiweddaf. Cyflwynwyd iddo, ar ei ymadawiad, nifer o lyfran, a 200p i brynu llyfrau newyddion, yn lIe y rhai ddinystriwyd gan y Boxers, Nos Sadwrn a dydd Sul, disgynodd defnynau gwlaw o liw cocb mewn rhanau o'r Eidal, a gwelid yrnylau o liwgwaedyn grogedig uwchben Palermo a Rhufain. Nid yw hyn yn beth dieithr yn N ehen barth Ewrop, ac y mae i'w briodoli yn benaf i lwch chwythir yno o anialwch Sahara. Mae Eglwvs Uniongred Rwsia wedi esgymuno Tolstoi, yr awdwr enwog. Y rlieswm fyw ei fod yn credu yn nghrefydd Crist, ac nid yn nhraddod-. iadau a defodan yr Eglwys. Gwedir y stori ledaenwyd ddiwedd yr wythnos i'r perwyl fod Prydain a'r Unol Dalaethau wedi ymuno i wrthwynebu amcanion Rwsia yn Manc- huria. Dywedir na wna yr Unol Dalaethau gytun- deb a'r un o'r Galluoedd yn ngbylch yr helynt. Y raae Rwsia wedi cynyg rhoi ei gair i'r America nad yw ei gwaith hi yn meddianu Manchuria ond peth dros amser yn unig. Nos Wener, llywyddodd Mr Lloyd George, A.S. dros gyfarfod gynhelid yn Nghapel Cymreig Charing Cross-road, Llundain, i gefnogi mesur i atal gwerthiant diodydd meddwol i blant, a rhodd- odd anerchiad ragorol ar y niwed achosir gan y ddiod, Rboddwyd derbyniad gwresog i Mr Osmond Williams, A.S., yn y cyfarfod, ar ei ymddangosiad cyntaf yn mhlith Cymry Llundain. Anerchwyd y cyfarfod hefyd gan Mr Herbert Roberts, A.S., a'r Archddiacon Wilberforce. Yn Mrawdlys Brycheiniog, yr wythnos ddi I weddaf, gwrandawyd achos am dri (liwrnod yn y hwn y cyhuddai Miss Rhoda Elizabeth Losbey gweinyddes, y Parch D. Tyler Davies, gweinidog capel Methodistaidd y Bwlch, o dori ammod priodas. Dywedodd Miss Loseby i Mr Davie;; addaw ei phriodi yn Medi, 1899. Yna perswadiodd hi i newid ei chredo, gan y buasai y ffaith ei bod yn Babyddes yn rhwystr ar ffordd eu priodas yn ngolwg ei gynnulleidfa ef. Ymadawodd hithau a'i chrefydd yn flugiol, er cael distawrwydd," meddai hi, ac arwyddodd yr ymwrthodiad. Parhai Mr Davies i ymddwyn ati fel cynt, ond pan ganfu nad oedd ganddi lawer o arian, dcchreaodd ddangos di- faterwch. Dywedodd wrthi am gadw ei hym- rwymiad yn ddirgel, gan na fuasaryr eglwys yn ei hoffi. Hefyd ceisio(I d gael ei lythyrau oar v, riactliol yn ol, a'r fodrwy ymrwymiad hefyd, ond gwrt hod- odd hitbau eu rhoddi iddo. Yr oedd hi yn gofyn 500p o iaviD. Archwyd i'r diffynydd dalu lOOp. Y DDRAIG GOCII. The standard hints not of our little land—- It bears no token of our sacrifice For England's reputation. Who despise Our effort and reject our right demand For recognition soon may understand Their peril. Too late blind rulers may be wise And summon up unfeebled energies To tame a tumult that neglect has fanned. We claim what is our due. Our sons have died That might the Empire flourish and extend. Nought that was just our country has denied, And even when 'twas best to reprehend Forth came her praise. Then, ye with power, beware Lest gentle love be turned to strong despair. ;CYMRO. Manchester, March 6th, 1901.

-----------A. Y Senedd.

Y RHYFEL YN AFFRICA.I s

------_----LLITII HEN GAUD…

-----------------------Llith…

------------_-.._----Football.

New High Sheriffs.

LLANILAR.

THE MARKETS.

- OLD FALSE TEETH BOUGHT3

Advertising