Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

:-YR WYTHNOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR WYTHNOS. Yn Wolverbampton yr wytbnos ddiweddaf dirwy- wyd dau dafarnwr am werthu cwrw yn cynwys y gwenwyn arsenic." Dirwywyd cwmni o Ddar- llawyr hefyd yn Manceinion am yr unrhyw drosedd. Mewn trengholiad yn Nothiam yr wythnos ddiweddaf rhoddwyd rheswm hynod am hunan- laddiad gwas ffarm yr hwn a gafwyd wedi boddi inewn afon. Dywedodd y meddyg fod ytrancedig yn dioddef oddiwrth iselder yspryd trwy ei fod yn byw mewn ty bychan, ac fod swn ei blant yn ei flino i wallgofrwydd. Hyn fu achos ei ddiwedd. Dydd Sadwrn hwyliodd Etifedd y Goron a'i briod. sef y Due ar Ddyges o Gernyw, am fordaith faith- Bydd iddynt ymweled ag Awstralia, a threfedig- aetbau pellenig Prydain yr) mhob rhan o'r byd bron. Mae eu Hong, yr Ophir yn un eurwycb dros ben. Mae y cynhyfriadau sydd wedi tori allan yn Bwsia yn llawer gwaeth nac y tybid ar y cyntaf ac mae'r sefyllfa ar hyn o bryd yn dra difrifol yn y prif ddinasoedd. Mae Moscow mewn trybyni mawr, ac mae'r holl ddinas mewn cyflwr o warchae ober- wydd terfysg y myfyrwyr. Mae y myfyrwyr wedi tori allan trwy'r holl deyrnas; ac maent yn creu evffroadau mawr a pheryglus yn y prif ddinasoedd. Mae miloedd o weithwyr yn ymuno ar myfyrwyr, a .1- 1" 'I _1- l' 1-r:I_L:Ii.n. "yweair ioa. vr nen Datriarcn ar uenm uju-wmug Tolstoi wedi "taflu ei ran gyda'r cynhvrfwyr ar ol ei esgymuniad ac ei fod yn cael croesaw brwdfrydig pa le bynag yr elo. r., Rai wythnosau yn ol saethwyd prif Weinidog Addysg Rwssia gan fyfyriwr, fel y bu farw nos Wener diweddaf. Yn y Senedd y dydd o'r blaen gofynwyd am y svvm o L470,000 tuag at dreuliau y Brenin. Mae y Parch J. Ffoulkes wedi ysgrifenu llith oaaith i un o bapurau Caerdydd yn rhoddi ei brofiad « ddeng mis yn y Workouse. "Y ddiod sydd wedi'm dwyn i byn," meddcf Parker, yr hwn a grogwyd fore dydd Mawrth am lofruddiaeth, mewn llythyr i'w fam. Y Sul olaf yn y mis hwn sydd wedi ei benodi i fod yn ddydd y cyfrif mawr. Nid da gormod o addurn. Tra yr oedd bonedd- iges yn myned trwy un o brif heolydd Berlin y dydd o'r blaen, rhuthrodd ci mawr ar ei thraws; tarodd hi i'r llawr ac anafodd hi yn dost. Yr oedd achos yr ymosodiad yn eglur. Gwisgai y wraig boa o groen cadno, ac addurnid ei flaen a phen y creadur. Wrth weled pen y cadno yn symud yn dra bywiog, neidiodd y ei ato gyda'r canlyniad uchod. Er llwyddo mewn masnach yn y byd mae gwybodaeth o brif ieithoedd presenol Ewrop yn hanfodol angenrheidiol, meddai Iarll Salisbri, y dydd o'r blaen. Mae ein haddysg yn hyn yn dra diffygiol. Dylesid, meddai ef ddysgu Ffrancatg, Ellmynaeg, ac hyd yn oed Hispaenaeg, yn bytrach flag ieithoedd y rhai a fu, megys Groeg a LIadin. Mae Mahdi arall wedi codi ymhlith yr Mabom- etaniaid yn yr Anialwch. Ei enw ydyw Muludzi. lgwr hirfarfog canol oed ydyw, a brodor o Uganda yn Nghanolbarth Affrica. Treuliodd ddeng niwrnod yn ddiweddar mewn unigedd yn yr Anial- wch, lie yr ymwelwyd ag ef, medd efe, gan angel, yr hwn a roddodd awdurdod iddo i gyboeddi ei hun yn brophwyd. Selia ei ddysgeidiaeth ar egwydd- orion Mabometaniaid ond maeynddiunhynodrwydd lira newydd, sef, caniatad i'w holl ganlynwyr gael tairgwraig o'r fcewydd ac bawl i roi heibio y rhai hyny oedd ganddynt cyn y datguddiad newydd hwn. Mae y prophwyd wedi achosi cryn gyffroad. Tybed ei fod wedi clywed am gynghor Mr Chainber- lain parthed yr anghenrheidrwydd i anfon allan gynnifer ag a ejlir o fenywod i Ddeheudir Affrica? Gwyr y ddau a pha ledrith i hudo ac enill canlynwyr. Cymer etholiadau Gwarcheidwaid newydd .e dydd Sadwrn. Mae y mwyafrif mawr wedi eu "hethol eisoes yn ddiwrthwynebiad; ond lie byddo rhaid dewis trwy bleidlais dylesid gofalu sicrbau gwasanaeth y dynion goreu, a'r mwyaf profiadol. Y mae'r etholwyr bellach ni hyderwn yn ddigon gol- euedig a phrofiadol i roddi eu hymddiriedaeth lwy- Taf yn y tugel (ballot) ac y maent yn sicr yn ddigon hyddysg trwy arferiad weithian i wybod pa fodd i roddi eu pleidlais yn ddirgel heb unrhyw gyfar- wyddyd. Ond os bydd gair o fydd ac o fantais i neb gwell ei roddi yn brydlon. Cofied yr etbolwr gan byny mai y modd iddo ef i roddi pleidlais i'w ddewis-ddyn ydyw trwy roddi cr.jes gyferbyn a'i enw yn y gwagle pwrpasol geir bob amser ar ochr dde y papur. Os bydd i enwau yr ymgeiswyr beri unrhyw ddyryswch iddo, ceisied sicrhau rbif yr ymgeisydd a'i salle ar y papur. Nis gellir rhoddi rhagor nag un bleidlais i'r un ymgeisydd a lie na byddo ond un aelod i'w ethol nis gellir rhoddi rhagor nag un groes ar y papur; ond pan fyddo dau aelod,neu ragor yn eisiau, rhodder un groes" Qewiser feUy wrth gwrs". • J il!

ACHOS Y PARCH W. 0 JONES.

.---------------_-Rwsia a…

Llith o Landyssil. --

LLITH HEN GARDI.

Teachers' Class List.j

--------ABERAYRON.

t1 WCII.

---- -_-"_.. OLD h:, IX)UGHT'…

---BOW STItEEf.

PENRHYNCOCH.

TOWYN.

Advertising

--THE MARKETS. ... 7

Advertising

Y RHYFEL YN AFFRICA.