Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Llith o Landyssil.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llith o Landyssil. Ma'r whipper in mor grac a Jac y rhaca am mod i wedi gweyd wrthoch chi shwt hen ddarllenwr gwael odd e wath ma peth ofan arno fe ceith e dynu got lawr," a thYIJa beth w meddwl 'ny yn Llandyssil yw cal i droi mas o swydd-ag nid tynu got lawr i weitho. Towli cot lawr i ni'n weyd pan bo rhwyn yn gweitho py'n bach yn galetach na'u gili a dos dim densber i'r whipper in orffod towli cot lawr byth aclios liyny, a whare teg iddo fe ma cote'n troilo wrth gal i towli lawr, a dw byny o gyflog ma Board cynil plwydd Llandyssil uchel i freintie yn dalu ddim yn ddigon i gal gwasgod a llewis i un wbipperin heb son am ddou. Pwy ryfedd fod plwyddi gwledig Cymru mor belled nol yn hela'i plant i'r ysgol. Son own i am bapur glas y sensis a'r ofan gas mam wrth i weld e, ond fegas gwr y Cnwc fwy o oi'an byth gan i fod e wedi codi'r bys bach yn go amal yn ffaer acshon god y Bwlch a dos dim byd fel cydwybod euog i hala of an ar ddyn—rca'r cuog yn ffoi heb ei erlid, Pan ddoith clerc cyfreithwr Llandyssil a'r papur i mistir Nansi. beth nath e w ond saco fe i boced i got rhag ofan gwelse'r wraig y summons, a mi ath lawr bob cam i Landyssil ar ol cino i weld y cyf- reithwr yn i got dy Sul wrth gwrs, ond erbyn iddo fe gyrddad y pcntre rodd yr offis wedi cau. Dodd dim i neyd ond mynd nol a becso mowr odd i ffwdan c pan welodd e'r papur glas ar y seld yn y gegin ore pan ath e no], a na le buodd trwr pry- nawn yn disgwl y lesn Gwmrag o wrth y wraig. Dodd dim llawer o flas ar y cawl twymo odd i swper y nosweth 'ny ond yr awr dywetba yw yr awr nesa i'r dydd, a mynte John bach wrth i dad, "Pryd llanw ni bapur y sensis, data." "Pwy papur," mynte i dad, a wedin diallodd ma nid summons odd no wedir cwbl. 'Na falch odd e fod offis y cyfreithwr wedi cau. Na le buodd mistir drw'r bore dy Sul yn darllen papur y sensis yn uchel mowr fel rhw ffeiracl co. Dodd da Nansi'm rhw lower o olwg ar y cwestiwne odd yn cal i gofyn ar y papur glas. Dodd hi ddim bolon o gwbwl iddi nhw weld faint odd i hoedran hi ag on pae fod ofan cal mynd i'r loc up arni, syna i ddim na fuse hi wedi rhoi tamed bach o gelwy miwn fanny, ond gwath na'r cwbl i bod nhw'n gofyn ai gweddw ai priod odd hi, a hithe'n gorffod gweyd gweddw lie gallse hi fod yn briod yn eitha da on pai prinder tato'r Hydre dwetha. Ma Nansi 'n meddwl bigilith i hi erbyn y sensis nesa. W i'n gwel'cl nhw n rhyfedd iawn na fusen nhw yn gofyn A os cariad i gal da chi a wedyn fe fuse'n yn gwbod y gwabanieth rhyngtu i a morwn y Banc. Merch Cwmifor nath dro pert a'r sensis. Deg ar hugen yw hi o hyd er yn y byd os deugen a dodd hi ddim yn gwbod shwt gneithe hi i beido gweyd y gwir gore'i gell, a mi goiiodd ma dydd Ffwl Ebrill odd hi dy Llun, a fe gofiodd nad os dim drwg twyllo dyn y diwarnod ny, a thyna beth roiodd hi lawr o dan Age last birthday odd 391, rodd ofan arni hi weyd mwy na haner blwyddyn o anwire. WION BACH.

Football.

Advertising

THE MARKETS. ♦-

Advertising

----YR WYTHNOS. --

Rwsia a China.

Y RHYFEL YN AFFRICA.