Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

. CAERWEDROS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAERWEDROS. Y GYMDEITHAS DDIRWESTOL.—Nos Wener, y, 31ain o Ionawr, cynhaliodd y gymdeithas hon ei 4ydd cyfarfod cyhoeddus yn ystod tymhor y gauaf presenol, pryd yr aed drwy y rhaglen ganlynol. Anerchiad gan y Cadeirydd-y Parch Wm Jones, Bethel, Ceinewydd; adroddiad, Mr T W Evans, Caerwedros Shop; unawd. Miss A Dilys Griffiths Derw Cottage; deuawd, Misses Ellen Thomas, Glanant, a Maggie Thomas, Felin-newydd ad- roddiad, Miss Margaret Thomas, Glanant; unawd, Mr Jones, Ysgol Ramadegol Ceinewydd anerch- iad, Mr R Lewis, tea merchant, Llanrhystyd ton, Cor y lie anerchiad, Mr W J Rees, Tyben; unawd. Mr J Parry, Neuadd anerchiad, Mr J Davies, Tii. gwyn; unawd, Mr Jones, Ceinewydd; anerchiad, Mr Elias Davies, Penralltwen; ton, cor y lie. Caf- wyd anerchiadau grymus a datganiadau arider- chog. Yr oedd y cyfarfod yn llawn bywyd a gwres drwyddo. Yr oedd v sel a'r brwdfrydedd dirwesto i'w ganfod yn eglur yn nywed-*adau y siaradwyr yno. Gosodwyd pwys arbenig gan y siaradwyr ar y fan- iais sydd gan gymdeithasau mewn rhanau gwledig fel Caerwedros i wreiddio y plant a'r bobl ieuainc yn egwyddorion dirwest, gan fod plant y wlad yn yr oes hon yn dylifo i'r gweithfeydd, y trefl, a'n dinasoedd, pan v deuant i fyny i oed-an gweithio, ac yno yn agored i demtasiynau cryfion i yfed a I meddwi hefyd. Hefyd codwyd i sylw yno y dyled- j swydd arbenig a orphwys ar ddirwestwyr, os am i wlad ddirwestol, lan-rhydd oddiwrth feddwdod, i ofalu fod tai dirwestol cyhoeddus, megys coffee taverns a temperance houses yn mhob tref, ac ys- tablau ynglyn a hwy mewn trefi He mae marchnad- oedd i'n amaethwyr a'n marchnadwyr osod eu ceffylau ynddynt, fel y gallont ofgoi myned a hwynt i ystablau y tafarndai. Dyma waith sylweddol i ddirwestwyr—cam yn yr iawn gyfeiriad, llawer gwell na siarad llawer, a dim ond hyny, a cbeisio tynu i lawr y tafarndai, a byny cyn adeiladu tai cyhoeddus ereill yn eu lie. Cadeiriwyd yn ddoeth a hwylus gan Mr Jones, Bethel, Ceinewydd.

[No title]

--THE MARKETS. »-

YR WYTHNOS.

Y RHYFEL YN AFFRICA.

» Cross Inn, ger Ceinewydd.

PONTRHYDYGROES.

I NEBO. !

♦ ! LLANDDEWI BREFI.I

--- --SNOW AS BALLOON BALLAST.

Advertising

-------.--------DOLGELLEY.I…

FIREPLACES MADE Otf SNOW.

---A TERRIBLE WOTtM.

Advertising

Family Notices

Advertising