Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

WYTHNOS.

Curo'r Curad.

Macedonia.

—..--— Brwydr Waedlyd yn Somaliland.

-----Helynt Rwsia a Japan.…

4. MAR KETS. —Saturday

Cadgyrch Thibet.

IRhwygo y Blaid Undebol.

Advertising

LLOFFTONT

Advertising

ITaith yn Sir Aberteifi yn…

Family Notices

Advertising

-----Helynt Rwsia a Japan.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nos Wener hysbyswyd Gohebydd Reuter gan Viscount Hayashi fod Japan yn awr yn ystyried atebiad Rwsia, ac yr oedd yn anmhosibl dweyd a fydd i Lywodraeth Japan anfon atebiad ai peidio. Mewn atebiad i ofyniad, dywedodd y Viscount, Gormod vdyw dweyd fod pob gobaitb wedi ei roddi i fynu. Tuhwnt i hyn nis gallaf ddatgan barn hyd ne6 y gwn beth yw penderfyniad fy Llywodraeth. Dywedodd y Viscount wrth ohebydd arall ei fod wedi ei bysbysu yn swyddogol ddarfod i Rwsia an- fon atebiad i Lywodraeth Japan. Nid oedd am ainlygu ei natur. Gofynwyd iddo a oedd efe yn tybio fod rbyfel yn anocheladwy, ac ebai y Viscount, Y mae'n ddi-1 amheu fod y sefyllfa yn ddifrifel; nid wyf yn dweyd ei bod yn hollol ddiobaith." Ond yr oeddych o hyd yn hyderus y ceid hedd- wch," sylwai y gohebydd. Oeddwn, ac hyd yn nod yn awr nid wyf heb obaith. Y mae rhyfel are y goreu yn beth dych- rynllyd ond cyhyd ag yr erys y natur ddynol fel y mae, ofnaf nas gellir gobeitbio yr osgoir rhyfel- oedd. ASGWRN Y GYNEN. Achos y cweryl presenol yw fod Llywodraeth Japan yn hawlio rhyddid i roddi ei throed i.,lawr yn Manchuria, y rhan hono o Ymherodroeth China lie mae Rwsia, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diweddaf, wedi gwneuthur ei hun yn gartrefol; a gofyna yn mhellach, i Rwsia beidio ymyryd a safle a hawliau Japan yn Corea. Y gair diweddaf ar y pen hwn ydyw, fod Rwsia yn gwrthod ymrwymo i gadw draw o Corea Ogleddol, tra yr anwybydda bawl Japan i gael myned i mewn o gwbl i Man- churia. Hysbysir fod y ddwy wlad yn ymbaratoi ar gyfer y gwaethaf, a bod milwyr yn cael eu han- fon gancldynt i feddianu y rbanbartbau mewn dadl. Trwy garedigrwydd perchenogion y Yorkshire Post yr ydym yn alluog i roddi dau fap mewn rhan arall o'r rhifyn hwn i egluro asgwrn y gynen.