Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

23 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

KERRY:"

BETTWS.

Advertising

A Welsh General's Alarm.

The Question of Health.

Advertising

[No title]

Advertising

Ii. O'R TWR. .-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ii. O'R TWR. DWY LAW. Mae genyf dwy law, Rhai tyner a gwyn, Llaw chwith a llaw dde Yw enwau 'r rhai hyn; Mae pump o fysedd Bach, main, ar bob un, I gydio mown afal I'w roi wrth fy min. Ar ol iddynt dyfu Yn gryf a digraith, Cant wneuthur, 'rwy'n siwr, Fil filoedd o watth; A byddant yn barod Bob pryd, a phob man, Yn ddwylo a chalon I helpu y gwan. Mi roddaf fy nwylaw, A'm calon yn nghyd, I'r lesu fy Ngheidwad, Yn llawen fy mryd; Waith iddo o'i gariad, 'N lle'r ddwy law fach hyn, Ro'i 'i ddwy law dan hoelion Ar Galfari fryn. Ysgrifena y Parch D, M. Rees, cenhadwr yn Madagascar, yn Y Geninen' am Hydref, yn galw sylw at y gwahaniaeth rhwng nifer y cenhadon sydd ar y maes o eglwysi Gogledd America a rhai o eglwysi Cymru. Dy wed fel hyn:—" Dechreuwn gydag eglwysi Gogiedd America. Y mae gan- ddynt hwy genhadwr ar y maes am bob 4,000 o aelodau. Y mae gan eglwysi Eglwysi Rhydd Ysgotland un cenhadwr ar gyfer pob 1,200 o aelodau. Cura y Morafiaid hynyna eto: y mae ganddynt hwy genhadwr ar y maes ar gyfer pob 61 o aelodau yn yr eglwysi gartref. Ond gadawn y blaenaf a'r olaf, a chymerwn Eglwysi Rbyddion Ysgotland, yn engraipbt arall. Pe gwnaethai Annibynwyr Cymru fel y gwnaethant hwy, dylasai fod ganddynt 144 o genhadon-ac nid 22; a dylasai fod gan y Methodistiaid 154-acnid 24." Y mae adeg gwneud y casgliad blynyddol at y genhadaeth wrth y drws. Hyderaf y cyfrana pawb a allant eleni eto. Y mae galwadau y gwaith yn uwch. Gelwir arnom i helaetbu terfynau y meusydd a chymeryd i mewn ddarnau mwy o'r anialdir i'w trin. Dyna yw baich cenadwri y Gynhadledd yn Edinburgh,—gwneud mwy. Erys rhan helaeth o'r byd eto yn Bagan- aidd, ac y mae miliwnau yn marw heb glywed son am Geidwad. O'r ochr arall llawn pryder ydyw swyddogion y cymdeithasau gartref na chant ddigon i ddwyn y gwaith ymlaen fel y mae. Safed yr eglwysi yn gryf o'r ol iddynt fel y gallont fyned ymlaen yn ddewr. Ysgrifenodd Mr Arthur Chamberlain, cadeirydd Cwmni Kynoch a ch wmnion eraill yn Birmingham, ac felly yn gwybod beth ydyw both yn y byd masnachol, i alw sylw at yr hysbysrwydd rydd Bwrdd Masnach am allforion y Deyrnas hon. Dywed fod y defnyddiau gwneuthuredig anfonir allan o'r wlad hon yn dod i werth ^66 14s 4c y pen o'r holl drigolion, tra nad yw yr un allforion o Ffrainc ond Y,3 Is 10c y pen, ac o'r Almaen -123 98 y pen, ac o'r Unol Talaetbau ond £ 1 14s 2c y pen. Fel pe gallem atal i'r gwledydd hyny anfon nwyddau i'r wlad hon, ac iddynt hwy dalu y pwyth yn 01 a ni, byddai ein gwneuthurwyr, yn feistriaid ac yn weithwyr yn fawr ar eu colled. Mantaia fawr i weithwyr y wlad hon yw fod dorau ei masnach yn rhydd agored i'r holl fyd. Cawn felly y cynyg cyntaf ar bob uwyddan, ac yn y pen draw gyda nwyddau y telir am danynt. Nid yw arian ond cyfrwng masnach, o'r tu ol i arian y mae nwyddau. Rhoddir gwaith felly i ddarparu nwyddau i'r gyfnewidfa. Ond dywedir wrthym, welwch chwi gymaint o betbau sydd yn dod i mewn. Dywedwn ninau welwch chwithau gymaint mwy sydd yn myned allan. Gwnewch a alloch dros yr lesu fel y delo ei deyrnas Ef. Nid yw yn agos o gymaint pwys fod unryw en wad crefyddol yn cael y blaen. Gwnewch eich goreu chwi i godi y deyrnas trwy yr enwad y perthynwch iddo. Y mae dylelswydd flaenaf dyn yn ei gartref, ac wrth ddyrchafu hwnw y mae yn gwneud rhy wbeth at godi y byd. Hyny ydyw os yw yn gallu codi hwnw heb wneud pant o'i gwmpas. Amcan rhai yw codi eu darn hwy er, ac weithiau trwy, greu pant o'i ddeutu. Gwelwch felly yr erys y cyfartaledd yr un,—y mae y byd yn yr unfan. Gofaler am beidio pantio wrth geisio codi. Gwna ewyllysiwr da yr lesu ei oreu ar i bob rhan gydgodi ac felly i'r cyfan ddod yn uwch. Gwelais am rywun wrth adael miloedd ar ei ol yn mynegi yn ei ewyllys ei fod wedi bwriadu gadael arian at acbosion dyngarol, ond ei fod yn peidio oblegid fod y doll i'r l'ywodraeth mor fawr. Meddyliais am y gair hwnw, Gwell yw un aderyn mewn llaw na dau yn y berth. Daw yr arian i'r llywodraeth yn wasanaeth i'r cyhoedd oni bae am danynt hwy deuai y baich ar y treth- dalwyr yn drymach. Gwell yn ddios yw gwneud yn sicr o ryw gymaint oddiar fath y testamentwr hwn nac ymddiried y ceid rhywbeth trwy ei ewyllys. Gallasai yntau osgoi talu y doll ar ol iddo farw pe rhoddasai yn ei fywyd. Os oes rhywun yn digio wrth y death duties rbodded yn ei fywyd; a gwneled ei oreu i fyw am fiwyddyn wedi rhoddi. Y llyfrau sydd yn orau i ni yw y rhai sydd yn peri i ni feddwl mwyaf. Y ffordd anhawddaf i ddysgu yw trwy ddarllen hawdd. Cyffelyb yw llyfr mawr o law meddyliwr mawr i long,—llong llawn o feddyliau, llwythog o wirionedd,—y mae yn dlws hefyd. Hwylia ar y cefnfor, yn cael ei gyru gan awelon y nef, tyr for undonog bywyd, gan adael olion dysglaer prydferth, yn ymledu ar ei hoi.—Theodore Parker. Yr oedd Humphrey Owens, Berthen-Gron, yn pregethu ar yr heol yn Nghonwy, pryd y daeth y cwnstabl ato i ddweyd fod yn rhaid iddo ddod ar unwaith gydag ef at yr ynad. Aeth yntau a gofynodd yr ynad yr hwn oedd hefyd yn berson y plwyf, Beth yw yr achos fod eich bath chwi yn dyfod ar draws gwlad i afionyddu ar y bobl ? "Yn siwr, syr, yr oedd perffaith lonyddwch yn ein plith ni hyd neR y daeth y cwnstabl atom oddiwrthych chwi; hyny, syr, yn unig a barodd yr aflonyddwch." A fedrweh chwi Roeg ?" Yn wir, syr, mae yn bynod dda gen i fod lesu Grist yn deall Gymraeg yn dda; ac yn yr iaith hono yr oeddwn i yn llefaru." Gan fwriadu codi arswyd ar y pregethwr dywedodd yr ynad wrth yr heddgeidwad, Gwna dy hun yn barod i fyned a'r dyn yma i Gaernarfon i'w roi yn llaw y press-gang." Gadawsant Humphrey Owens wrtho ei hun, gan ddisgwyl y gwnai ymostwng, ac addaw peidio troseddu mwy. Wedi hir-ddisgwyl yn ofer anfonodd yr ynad y ceisbwl i ddyweud wrtho, "Mae fy meistr yn dyweud y gellwch fyned i ffordd." Ond gan ddilyn esiampl Paul yn Philippi, atebodd y pregethwr gwrol o Sir Ffiint, "Ewch chwithau at eich meistr a dywedwch wrtho nad af fi ddim i ffordd oddieithr iddo ef ei hun ddyfod a fy ngollwng i yn rhydd." Ac fel y bu yn Philippi felly y gorfu iddi fod yn Nghonwy y dwthwn hwnw. Gall ceredigion dirwest gymeryd cysur a rhoddi diolch wrth weled gymaint sydd wedi ei enill erbyn heddyw. Rhaid hefyd ymegnio a gweithio fel y byddo yforu yn llawer gwell. Nid anghen y dydd yn awr ychwaith yw beirniaid ac achwynwyr. Gafaeled pob un yn y darn gwaith agosaf ato a gwnaed ef. Hyrwydda hyny y mudiad ymlaen yn rhyfeddol. Gwaith distaw, parhaus, dirwg- nach sydd yn gwneud ei olyny diwedd. Gwerth- fawr iawn ydyw fod dirwest yn meddu ei lie yn addysg yr ysgol ddyddiol, a hyny ar orchymyn y prif awdurdod. Yr ydym hefyd yn croesawu y tai dirwestol, llyfrgelloedd, darllenfeydd, &c., rhai yn rhoddion Mr Davies ac eraill yn gynyrch ymegniad Ueol. Daw y rhai hyn yn fwy cyffredinol o fiwyddyn i fiwyddyn. Yr hyn sydd eisieu yw dysgu ieuenctyd ein gwlad i wneud y defnydd goreu ohonynt. Symudodd John Roberts, awrleisydd (dyna air Ap Vychan am y clock maker), o Rbiwabon i Wrecsam. Pan oedd yno, ceisiodd gwrthwynebydd rhwysgfawr a gwyntog iddo ei ddychrynu a'i ddigaloni, drwy argraffu ar ei arwyddfwrdd ei fod yn "awrleisydd o Lundain." l'r diben o ollwng ychydig o'r gwynt allan o hono, rhoddodd John Roberts ar ei arwyddfwrdd yntau, ei fod yn "awrleisydd o Rhiwabon;" ac atebodd hyny yr amcan yn dda. Mab iddo oedd y Parch Peter Roberts fu'n dal bywioliaeth Llanarmon, ac ar ol hyny yn Halcin. Yr oedd yn ysgolhaig trwyadl, yn hynafiaethydd manylgraff, yn dduwinydd galluog ao yn seryddwr campus. Pan ofynoda rhyw wr i Horsley, Esgob Llanelwy, a oedd efe yn adnabod un Peter Roberts, atebodd, "Diau fy mod, nid oes ond un Peter Roberts yn y byd."— Ap Vyohan (6639). GWTLIWB.

r- REFUSED FOR LIFE INSURANCE

:LLANLLWCHAIARN.

LLANFAIR-CAEREINION.

TREFEGLWYS.

CARNO.

DOLFOR.

TREGYNON.

LLANWNOG.

SARN.

MOCHDRE.

CAERSWS.

LLANBISTER.

WELSHPOOL.