Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

25 erthygl ar y dudalen hon

---.---Y DIWEDDAR JOHN PAUL,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DIWEDDAR JOHN PAUL, LANHARAN. [GAN OENIN.] Son am y marw fwriadwn wneyd heddyw, ac er nas gall hyny fod yn destyn llawenydd i neb pwy feynag. eto bydd rhoddi tusw o flodau, gan nad pa mor syml a dirwysg bynag fyddo ar fedd un fu'n gyfaill cywir i lawer, a gelyn i neb, yn ryw fath o fwynhad pruddaidd i ni, ac feallai i ami un arall o'ch darllenwyr adwaenai'r diweddar John Paul, o Lanharan. Un o landmarks Llanharan oedd John Paul a'r neb ddywedai nad adwaenai ino hono ef, ddywedai hefyd ar yr un pryd nad adwaenid mo hono yntau yn Llanharan. Er na adwaenasom ni Paul yn bersonol ond am ychydig flynyddau, eto cof genym glvwpd ei enw yn fynvch er yn blentyn. ClywBom ein hanwyl dad, ac yn ddiweddarach mwya- ber fardd y pathos, DeWl Haran, ac yn ddiwedd- arach wedy'n ein cu fam-ynghyfraith, yn adrodd o bryd i bryd amryw ystoriau doniol, canol-bwynt ae arwr pa rai fyddii John Paul. Un direidua iawn fu Paul yn ei ddydd, ond yn wahanol i lawer cadwai ei ddireidi bob amser o fewn terfynau priodol, ac enillai ei ddireidi gyfeillion yn hytrach na chreu gelynion, ao yn hyny yn sicr bu ei fywyd o'r cryd i'r bodd yn object lesson teilwug o efelychiad i lawer e honom. Collwyd bardd can hyd y bedd, Dewin y gan aeth dan gudd MyJrwr hy, a medr i'w rodd, Gwr cyflawn o ddawn i'w ddydd. Pa fodd, ddynion, y rho'ir digop o hanesion ei bynawsedd ? ? Trwy ei fywyd bu'n wr gwynfryd, Da a diwyd hyd y diwedd. Mab ydoedd gwrthrych hyn o linellau i William a Margaret Paul o'r Waterton. Bil iddo ddwy ehwaer—Mrs Dewi Haran, a Mrs Davies, Llythyrdy, Llanharan, ond lhag-flaenodd y ddwy ef. Hanai o deulu enwog Hopcyn Hopcyn y dwarf, uchder yr hwn ydoedd 2 droedfedd ac 8 modfedd. Mewn corph yn unig yr oedd Hopcyn yn llai na'i gyfoedion o rin cyneddfau meddyliol rhagorai arnynt ages oil. Marw, wrth gwrs, fu diwedd y dwarf; claddwyd ef yn Nglynogwr, a chedwir ei goat yn ofalus fel cywreinbeth hyd heddyw gan ei nitb, set Mrs Morgan, Penypark, ger LIanbaran. Dywedir i Paul etifeddu cryn lawer o'r gallu meddyliol nodweddai'r dwarj, a chafodd gorph Uuni.iidd a nerthol yn y fargen. Cafodd yr ymadawedig oes hirfaith o 75 o flynyddoedd, a threuliodd hwyrlt oil namyn dwy yn Llanharan. Yn mhlith ei gyfoedion a'i gyfeillion flaenasant oawn fod Dewi Haran, a'i frawd Thomas, y Mri. Edward Gronow, Evan Howell, Llwynbarcud, Thomas Miles, Meiros, a Jenkin a Meyrig Morgan, Argoed Edwin. Yn mhlith y rhai sydd eto'n aros ar dir y byw y raue y Mri. Thos Richards, Hendreowen, Jacob Gibbon, Rhys Morgan, Llanharri, Thomas Hopcyn, Penllyn, a Wm Harry, mab y byd glodus Shon yr Heliwr gyflawnodd gynifer a cbymaint gwyrthiau yn ei ddydd ynglyn a chwn hen Yswain Llanharan. Ni eheid neb o'r ymadawedigion, ac ni cheir neb o'r rhai sy'n aros enwyd uchod, i roi anair i John Paul. Tystiolaeth pawb a'i adwaenai ydoedd maicymeriad unplyg oedd Paul. Gwnai gymwyuas i unrhyw un, a gwell fuasai ganddo ddioddef llawer na chyflawnu tro gwael. Bywyd gweddw fu bywyd Paul hyd y talar, a by wyd felly o ddewisiad hefyd. Nis gwyddom ni, ddarllenydd, a wyt ti wedi sylwi ai nad wyt, ond yr ydym ni wedi sylwi, ac yn dyfod yn fwy argy- hoeddig beunydd, mai po fwyaf o elfenau dyngarweh a chyfeillgarwoh fyddo mown dyn ueu ddynes tebycaf oil ydynt i ymgadw allan o'r cylch priodasol. Wrth gwra ni olyga hyn fod pob gwir gyfaill a dyngarwr yn aros yn weddw, ond credwn yn ddiysgog fod mwyafrif mawr dynion a menywod gweddwon yn gyfeillion a dyngarwyr gwirioneddol. Ryw fodd carant baivb gymaint fel y methant ganolbwyntio eu serch yn neillduol ar unrhyw un. Hyn gredwn rydd gyfrif am fywyd gweddw ein hen gyfaill John Paul. Carai ei holl gymdogion gymaint fel na allodd erioed gyfyngu ci serch at ■nrhyw un neillduol. "Ei gymdogion sy'nhiraethlon, O mae'n gyfion am hen gyfaill; A'r beirdd tristion yn ddigalon, Gyda chwynion oerion ereill." Towr a phlasterer oedd Paul wrth ei alwedigaeth, a buaaai rhaid i ddyn gerdded cryn lawer o'r ddaear cyn dod o hyd i ragorach neu onestach crefftwr. Gweithiodd drwy ei oes ar ystad Llanharan ac ystad yr Ewinwy, ao erys ami ddarn o do wnaeth feithion flwyddi'n ol hyd heddyw fel campwaith edmygir gan bawb. Ryw dro gweithiau'n hen gyfaill a Mr Rhys Morgan, y saer, ynghyd, y blaenaf fel plasterer, a'r olaf fel saer pren. Dig- wyddodd i John ddifwyno ychydig ar waith Rhys yr hwn ddyweddodd, John, pe bai chwi'n gweithio gyda chrefftwr, ni oddefid i ohwi ddifwyno'i waith felly.' 'O'n wir/ ebai John, 'carwn i weitliio gyda chrefftwr am unwaith yn fy oes.' Crefftwr rhagorol yw Mr Morgan, a chwarddodd yn iachus amjokr ddiniwaid Paul. Carai'n hen gyfaill ddau beth a chariad angherddol, set ei Feibl a barddoniaeth ei wlad, a darllcnodd fwy na nemawr ar y naill a'r Hall. Cof genym fod yn ei gwmni ef a Mr Richards, Hendreowen, rai blynyddau yn ol. Llin^llau barddonol rhyw gyfaill oeddynt wedi ymddangos yn JSfghronicl yr wythnos flaenorol oedd gcnym dan sylw. Ceisiwn i eu pwyso a'u mesur, a dywedwn eu bod yn brin mewn gwreidaoldeb. Ar hyn wele'r hen Baul anwyl yn edrych yn syth yn myw fy llygad gan ddyweyd, Gan bwyll, Oenin, peidiweh bod yn rhy gritic; yr wyf fi wedi darllen cymaint ar farddoniaeth, hwyrach, ag un yma ac acw, ond rbyfedd mor ychydig o syniadau welais i eto na Welais yn flaenorol o fewn clorianau'r hen femrwn cysegredig.' Wrth gwrs, rhoddais i fewn i'r hen bersrin llygadgraff ar unwaith. Nid yn unig darllen barddoniaeth wnaeth yr ymadawedig, ond cyfansoddodd lawer hefyd o bryd i bryd. Gresyn iddo gyfyngu cymaint ar ei awen i ganu ar destynau ysgeifn, canys pe dewisasai gallasai ganu ar destynau pwysig. Ni roddai dim fwy o fwynhad i Paul na cblywed am lwyddiant ei gyfeillion a'i gydnabod ar feusydd lien ac awen" ae fel hyn y torodd allan ryw dro pan glywodd fod ein cyfaill galluog, Ap Rhydderch, wedi cipio amryw wobrwyon mewn eisteddfod bwysig:— Dyna hero yw Dan Haran—curwr Y cewri yn mhobman Arwr y dydd, hwre dan Am eu heillio oil allan. Fel hyn y canodd dro arall i'r Wadd Un weddol lan yw'r wadd lwyd,—naturiol Y tyria am abwyd Yn min baW y myn ei bwyd, Er oesi yn ei harswyd. Yr ydym wedi awgrymu'n barod fod Paul yn ddyngarwr i'r earn, ac os mai yn ol dyngarwch gwr yr ydym i fesur ei rinwedd—ac 1Ù8 gwyddom am well safon, canys onid 8wm y cwbl a glybuwyd gan Fab y Saer oedd ar garu o honom ein gilydd—ie, meddwn os mai dyngarweh yw safon rhinwedd i fod, yna dywedwn yn ddibetrus fod Paul yn un o feibion rhi ici Efe, 08 eofiwn yn gywir, oedd aelod hyt a w^»rinfa Iforaidd Llanharri, ac fel hyn y canodd i gist yr Iforiaid :— Rhag lledrith a rhwyg lladron,—y clo da, Clyw di, sydd yn ffyddlon, Er rhwystro'r an was estron, A'i gastiau hy' i'r gist hoa. Gwj-r pawb adwaenai John Paul nad oedd y fath betk a chybydd-dod yn perthyn i'w natur hynaws, etc, er hyn, ac er mai un o deulu'r ffydd farddol ydoedd, yr hwn deulu ystyrir fel rheol yn un didoraeth,' llwyddodd ein hen gyfaill i gynilo digon, a chryn dipyn fwy na digon, i'w gyaal yn y dyddiau blin. Diweddodd ei ddyddiau ar y ddaear ar yr 16eg o Ragfyr diweddaf o dan gronglwyd gysurus Mr John Davioe, Turberville. Yr oedd Mr Davies ac yntau yn kindred spirits i radda. helaeth iawn: carai'r ddau fyw llawer yn myd awen a chan, a chydrhwng hyny a'r ymgeledd tyner gafodd yn ddidor oddiar law hynaws Ml's Dalies, yr hon oedd berthynas iddo, gellir dyweyd i John Paul ddidwyll a diniwaid gael yr hyn haeddai—tynu ei anadliad olaf yn ngbanol pob cysur dichonadwy. Cafodd angladd barchus a lluosog. Claddwyd ef yn mycwent Bethlehem (A), Llanharran, a gwelwyd J Y wlad yn tro ar adwedd j Yn dra blin o fin ei fedd." j Yn iach bellach i'n hen gyfaill cu a pharchus. Pan gwympodd ef, torodd un o danau pereiddiaf Llan- haran, a gwag iawn i ni, ac ami nn arall, yw'r j pentref prydferth heb y tant a dorodd. Syrthied deuparth o'i ysbryd mwyn ac hawdd^ar ar lawer uu sy'n aroa. "Byw mewn heddweh a brawdgarweh, Dyna elwch doniau haelion Mawr yw tegwch cyfeillgarwch, A'i ddiddanwch i daa ddynion. Os a rhinwedd i'r nef geinwedd, Yn hyfrydwedd Naf i rodio, loan fwynwedd a gaiff fawredd, A dwys annedd Da Was yno. Gwr oedd ef am dangnefedd ¡! Geirwr wr, yn garwr bedd. Brawdol brydydd, Un doeth i'n dydd Cyfaill cvfion, Di frad ei fron Gwron gwiredd. O'r byd i'r bedd."

BETHEL, NANTYMOEL.¡

DERBYN IESU.

I ENGLYNION¡

---I THE LARK.

ANERCHIAD PRIODASOL

.tI*r BEDDARGRAFF

: LLINELLAU

LINES

SETTLEMENT OF THE NEATH STRIKE.-

PUBLICATIONS.

SUCCESSFUL NEATH DOG FANCIERS.

LODGERS IN LOCAL PARLIAMENTARY…

Advertising

THE COMING-OF-AGE OFI LORD…

I MEDAL FOR VOLUNTEERS.

.............,.. DEATH OF…

BRIDGEND HIGHWAY BOARD.!

Advertising

- RCHURCH DEFENCE AT BRIDGEND.

KILN FIG- HILL.

:SMALL-POX AND VAC-I CINATSON.…

DEATH OF A NEATH MINISTER.

DEATH OF THE REV P. NEVILLE…

BRIDGEND LOCAL BOARD DISTRICT.