Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

24 erthygl ar y dudalen hon

"'RWYF YN DY GARU."

EPISTOL "WMFFRE'R PEDOLWR."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EPISTOL "WMFFRE'R PEDOLWR." ME. GOL.Erfyniaf eich hynawsedd am ofod i wneud ychydig nodiadau ar eiddo 4 Wmffre'r Pedolwr ar y Glorian a'r Bwrdd am yr wythnos o'r blaen. Amser a balla i mi fod yn fanwl iawn efo' i sylwadau plentynaidd ac annghyson i gyd; felly, ni wnaf ond cyffwrcld a'r pethau hyny yn unig sydd yn niweidiol i ddylanwad achos da y Coity. Ymddengys fod Wmffre yn un o'r giwaid dialgar hyny sydd wedi bod yn y dyddiau diweddaf hyn a'u holl alluoedd ynghyd a gallu y tywyllwoh yn ceisio darostwng a phardduo cymeriad eglwys a gweinidog y Coity. Dyma fel y dywed am y Coity yn ei epistol yr wythnos diweddaf. 4 Plwyf oedd y Coity yn nyddiau Thomas Howell, a heddwch yn ffynu ynddo fel yr afon, a chyfiawnder fel tonau'r mor.1 A chyda yr un anadl cyhoedda fod rhyfel rhwng Thomas a'i wraig. Yr oedd mabsant y Coity, a llawer o bechodau rhyfygus a gwarad- -wyddus eraill mewn bri mawr yn y dyddiau hyny. Pa ryfedd fod heddwch yn teyrnasu gan nad oedd neb a digon o wroldeb Cristionogol ynddynt i ymosod ar y pechodau hyn ? Credwyf mai gormod o lonydd tnae pethau o'u bath yn ac wedi eu cael yn ein gwlad, ond erbyn heddyw y maent lawer ohonynt wedi eu hymlid ymaith o'r Coity. Dywed Mr Wmffre hefyd, Bellach ymddengys fod crefydd yn y Coity yn gynwysedig mewn cnoi a thraflyngcu.' Nid wyf, Mr. Gol., am ddyweyd fod Eglwys y Coity yn berffaith ragor i ryw Eglwys filwriaethus arall ar y ddaear, ond hyderwyf ei bod yn ymestyn at ber- ffeithrwydd, ac y bydd ryw ddiwrnod yn eglwys heb ami na brycheuyn na chrychni na dim o'r cyfryw. Felly yr ydym yn ymhyfrydu yn y geiriau canlynol o eiddo y Gwaredwr 4 Gwyn eich byd pan y'ch gwaradwyddant, ac y'cherlidiant. Ac y dywedant "bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i a hwy yn gelwyddog. Byddwch lawen a hyfryd canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd; oblegid felly yr erlidiadasant hwyy prophwydi a fu o'ch blaen.' Er cymaint o ymosod sydd wedi bod ar Eglwys y Coity, a hyny gan ddynion y gallesid disgwyl gwell y mae fel y berth yn llosgi ac eto heb ei difa. Yn awr, Wmffre, cymer gynghor gan un annheilwng o'r Coity defnyddia dy dalent a'th ysgrifbin at rywbeth uwch a gwell na gwneuthur niwed, a gwna dda. 'Na orchfyger di gan ddrygioni eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni,' a Dos ac na phecha mwyach rhag digwydd peth a fo gwaith i ti.' Oblegid ni lwydda yr un offeryn a lunier i'n herbyn. -Y r eiddoch yn rhwymau crefydd, AELOD.

PENILLION

AWELON Y BOREU.

COEDWIGFAB AR DAITH.

"CARIAD, GWENO AR DY RUDD.'"

Y BYD EISTEDDFODOL.

IN MEMORY

TRUE LOVE IS BEAUTIFUL I

LOCAL VOLUNTEER INTELLIGENCE.

PORT TALBOT COMPANY DOCK &…

SOMETHING AN NO YIN TI.

TESTIMONIAL FROM THE GREAT…

"TOUCHES THE SPOT."

WRECK OF THE 'NEATH ABBEY.'

DEATH OF THE REV. E. W. LLOYD.

MR. TOM MANN AT NEATH

CRICKET.

Advertising

WELSH DISESTABLISHMENT MEETING…

THE GLAMORGAN COUNTY ASYLUM.

INTERESTING PARS. ) ———

[No title]

[No title]