Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

DALIER SYLW.—O hyn allan ni chymmerir un sylw o gwestiynau a anfonir i'r golofn hon yn SaeSll g.-GOL. Mewn attebiad i I Gymracs,' yr hon a ysgrifena yn yr iaith Saesneg, gallwn ddy- weyd y gellir gwysio y cymmydog am golled os gellir profi colled. SYR, Byddaf yn ddiolchgar am attebiad i'r gofyniad canlynol:— A oes genyf hawl i ladd cwn ar fy fferru ar ol rhoddi rhybudd mewn papur lleol ? Ydwyf, &c., D. H. ATTEB. Nac oes, os na welsoch y ci yn lladd defaid, &c. SYR, Fel un o ddarllenwyr cJysson y FANER carwn gael attebiad trwy y golofn gyfreith- iol i'r gofyniad canlynol:- A oes hawl gan lythyr-gludydd i wrthod trosglwyddo llythyr i'w berchenog heb ei enw, ond yn unig foi yr hyn a ganlyn ar yr amlen :—' To the Superintendent Sunday School, I ac yn y blaen, gan ei fod yn ymwy- bodol o'r faith mai y person o dan sylw ydyw y cyfryw ? Os oes ganddo hawl i wrthod pa beth ydyw ei sail ? Ydwyf, &c., ASIEDYDD. ATTEB. Os gellir profi fod y llythyr-glndydd yn gwybod i bwy y mae y llythyr wedi cael ei gyfeirio nid oes ganddo hawl i wrthod ei drosglwyddo. SYR, Fel derbynydd cysson o'r F ANER dymunaf arnoch roddi eglurhAd ar y cwest- iynau canlynol trwy eich colofn gyfreith- iol 1. A oes genyf hawl gyfreithiol heb godi trwydded i gymmeryd fy ngherbyd i gario vmenyn. a chynnyrch arall. oddi ar y fferm i'r dref i'w werthu ar unrhyw ddydd, er na bydd y diwrnod hwnw yn ddiwrnod march- nad ? 2' A oes genyf hawl i gymmeryc1 un, neu fwy, o'm teulu gyda mi ? Ydw-vf. &c.. UN A GARAI WYBOD. ATTEB. 1. Oes. 2. Nac oes, ond i ddybenion marchnad. STR, Trwy anffawd gadawyd ni mewn fferm, dau frawd a chwaer, fel cyd-ysgutorion; ond ar ol dwy flynedd o gyd-weithio deallasom fod ein brawd hynaf wedi llwyddo rywfodd i gael y fferm ar ei enw ei hun, ac yna trwy daiflasdod o bob tu am na chawsem ein tain am ein gwaith, a chasineb ein brawd hynaf, Eenderfynasom fyned ymaith i wasanaeth heb dderbyn yr un geiniog, er ei fod lawer gwaith wedi addaw ein talu. A ydyw yn bossibl i ni trwy'r gyfraith godi tAl ar ein brawd a adawyd yn y fferm am yr amser y gwasanaethasom ef ? Ydwyf, &c., TOM, ATTEB. Gellwcb godi tAl am eich gwaith hyd chwe blynedd yn ol, os gellwch brofi fod yr arian yn ddyledus i chwi, trwy arferiad neu drwy addewid. SYR, Byddaf yn ddiolchgar am attebiad drwy y golofn gyfreithiol yn y FANER ar yr hyn a cranlvn :— 1. A- oes gan ddyn ieuangc, yr hwn sydd wedi bod yn ngwasanaeth cyfreithiwr am amryw flynyddau. ac y mae yn hynod o fedrus, hawl gyfreithiol i dynu allan gyt- tundebau (agreements) o bob natur (' under hand and under seal'), ynghyd Ag 'assign- ments,' 'bonds,' 'power of attorneys,' a phob peth arall, mor bell ag y mae ef yn abl i'w gwneyd yn y ffurf a ofynir gan y gyfraith ? Y mae'n debyg nad oes unrhyw rwymedigaeth ar ddyri i fyned at gyfreith- iwr i wneyd y pethau hyn os gall rhywun arall eu gwneyd yn briodol ? 2. Pa bryd y mae yn ofynol i wneyd agreements under seal,' a pha beth ydyw y gwahaniaeth rhwng y rhai hyny, a'r rhai 4 under hand yn unig ? 3. A yw rhoddi 'stamp' chwe cheiniog yn gwneyd pob rhyw gontract' yn safadwy ? Beth ydyw y rheol ynglyn h'r I stamp duty?' Pa gyttundebau a wneir yn ddiogel drwy i 'stamp' o chwe cheiniog, a beth a gauir alian o'r rheol hon ? Ydwyf, &o., X. Y. Z. ATTEB. 1 a 2, Nis gwyddom fod unrhyw rwystr ar ffordd hyn, ond ni all y dyn ieuangc hawlio tAl am y gwaith. Nis gall wneyd 'agreements under seal.' 3. Y mae gwerth y 'stamp yn dibynu ar swm arianol y cyttundeb. SYR, A fyddwch mor garedig a rhoddi ychydig o eglurhAd ar y gofyniad canlynol Dyma ddyn yn cymmeryd ty mewn tref, triop wedi bod, ac yn adeilad gweddol fawr, ac y mae y dyn wedi ei gymmeryd am flwyddyn. Cyttnndeb ar air yn iini,f. Yn awr y mae y perchenog yn ymofyn y ty yn rhydd, a'r hyn wyf am wybod ydyw— 1. A all y dyn hawlio chwe mis o rybudd ? 2. Dyn yn pwyso ar y plwyf o herwydd afiechyd, ac yn methu gweithio, ae y mae ychydig o ddyled arno, a'i ofynwyr wedi rhoddi gwarant iddo i fyned i'r cwrt. Yr hyn wyf am wybod ydyw, A ellir gorfodi y dyn yna i dalu i'r cwrt gyfran o'r goron yr wythnos y mae yn ei gael o'r plwyf ? Ydwyf, &0., CYFAILL. ATTEB. 1. Os cymmerwyd y tf am flwyddyn gall y tenant hawlio aros hyd ddiwedd y flwyddyn. Os tenantiaeth flynyddol a fedd- vlir, a'r rhent yn cael ei dalu bob chwarter blwyddyn, bydd tri mis o rybudd yn ddigon. 2. Os dyna yr unig arian a dderbynia y dyn nis gwna yr un barnwr ei orfodi i dalu, er mai ei ddyledswydd ydyw gwneyd hyny.

I - - - AR --BEN YR ADDEWID.…

I -TELYNEG:-AR OL Y GAEAF.…

I ENGLYNION I

1_--ODLAU HIRAETH._r

BETH SYDD ANODD? I

I -.RHYFEL. I

! ERFYNIAD AN YR YSBRYD GLAN.…

I CARMEL, GER TREFFYNNON.…

- -. - .,-_ .._._ LLANON A'R…

IU"-HWLFFORDD.

PORTHGAIN.

20 Y CANT YN CHWANEG I BOBL…

I..TY DDEWI.

[No title]