Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

TRAGIC DEATH OF GLAN RHYD…

Advertising

-op———. VALLEY 'BUS ON FIRE.I

[No title]

PONTABDAWE AND YSTALY FERA…

A LLANDILO COUPLE I

WELSH GUARDSMAN'S EXCITING…

-I NEW ANTI - AIRCRAFT INVENTION.I

Advertising

CYFARfOD HISOL DOSBARTH Y…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARfOD HISOL DOSBARTH Y GLO CAIEO. Cynyaliwyd yr uchod yn y Dockers' I Hall, Abertawe, dydd Sadwrn di- weddaf, pryd yr agorwyd y cyfarfod gan Mr William Walters, atalbwywr, International, a chadeirydd y Dos- barth am y flwyddyn diweddaf; a chan fod tymor swyddogaeth Mr Walters yn dod i ben, gwnaeth ddal ar y eyfle-ustra, i ddiolch i'w gyd- weithwyr yn nglofa yr International, am roddi iddo yr anrhydedd o'i ddewis yn ia-gadeirydd i'r Dosbarth er's- dwy flynedd yn ol. Trwy feddu y cyfryw fraint, yr oedd yn olynol i hyny yn cael ei ddyrchafu i brif gadair y Dos- barth, a theimlai fod hyny yn anrhyd- edd bwysig iddo. Hefyd, cyflwynodd ei ddiolchgarweh cynesaf i'r cynrych- iolwyr fu yn hresenol yn nghyfarfod- ydd y Dosbarth yn nhymor ei swyddog- aeth ac am y teimladau da ddangos- wyd tuag ato, yn nghyd a'u cefnog- aeth iddo er ei alluogi i gyflawnu ei wydd. Ar ol hyn, gwnaeth alw ar ei olynydd, Mr William Hughes, o lofa Cross Hands i gymeryd at lywydd- iaeth y Dosbarth am y flwyddyn nesaf, gan ddymuno iddo lwyddiant mawr yn nhymor ei swyddogaeth, ac apelio at bawb o'r cynrychiolwyr am roddi iddo bob cefnogaeth er cario yn mlaen _,)Lit)_ YDosbartli yn y modd mwyaf priodol a llesiol i'r Dosbarth yn gyffre- dinoJ. Dymunai hefyd ddatgan ei lawenydd ar apwyntiad Mr Thomas Davies, atalbwyswr, Dillwyn, i'r is- gadair am y flwyddyn nesaf. Gwyddai trwy brofiad personal o hono, y caiff y cadeirydd newydd, a'r Dosbarth, rawf o gymhwysder Mr Davies i'r swydd. Wedi hyn, gwnaeth Mr Morgan, y goruchwyliwr, gynyg fod: "Y bleid- lais fwyaf gynes y cyfarfod yn cael ei rhoddi i Mr Waiters ar ei ymddiswydd- iad, am ei sel a!i weithgarweh er lies y Dosbarth yn nhymor ei swyddog- aeth, ac am ei weithgarwch yn nglyn a'r Dosbarth ar hyd y blynyddau. Eil- iwyd y cynygiad gan Mr James, is- oruchwyliwr, a phasiwyd ef gyda brwdfrydedd. Dygwyd tystioiaeth. dda i Mr Walers fel un o ffyddloniaid y gweithwyr, ac am ei gymhwysderau arbenig fel cad- eirydd lwyddianus, un yn deall y natur ddynol yn dda, ac yn meddu tynarweh teimlad lie bynag v byddai angen am hyny, er yn medru bod yn gryf pan fyddai galw am hyny, aroll yn cael ei wneud gyda'r ysbryd a'r teimlad goreu, a thrwy hyny wedi gallu cario yn mlaen ei swyddogaeth yn y fath fodd ness enill pawb i'w edmygu. Yr oedd wedi enill llawer o gyfeillion i'w ed- mygu. Yr oedd wedi enill llawer o gyfeillion yn rhagor yri- nhymor ei swyddogaeth, ac wedi cadw i ffwrdd unrhyw deimlad o surni, a pheidio clwyfo teimladau y cynrychiolwyr, ond gyda gwen onest ar ei wyneb gwrid- goch, yn lefeinio pawb a c haredig- rwydd. Dygwyd tysiolaeth uchel i Mr Walters fel aelod Llafur ar Fyrddau Ystradgynlais, a'r gwaith sydd wedi ei gyflawnu gan y Cyngor hwnw, o dan lywyddiaeth ddeheuig Mr Walters, yr hwn a anrhydeddwyd ganddynt i'r safle o fod yn gadeirydd iddynt, ac yn olynol i hyny yn cael yr anrhydedd o fod yn Ynad Heddwch am dymor ei swyddogaeth. Dymunai y cyfarfod am barhad o weithgarweh Mr1 Mr Walters i'r Dos- barth, ac am i'r un llwyddiant i'w ddilyn yn y dyfodol, ag a fu yn y gorphenol. Cysylltiwyd a'r bleidlais flaenorol longyfarchiad i Mr Wm. Hughes. Cross Hands, i'r uwch-gadair, a Mr Thomas Davies, atalbwyswr Dillwyn, i'r is- gadair, a phasiwyd yr oil yn y teimlad- au goreu. Derbyniwyd adroddiad Mr Morgan, y goruchwyliwr, ar ein sefyllfa yn bresenol yn nglyn a'r Pump y Cant colledig, a'r oediad sydd wedi cymeryd lIe trwy gystudd Sir Lawrence Gomme. Hefyd sylwadaeth ar fasnach y Glo Careg yn bresenol, yn nghyd a'r "starred men" yn y glofeydd, a di- olchwyd i Mr Morgan am ei adroddiad cysurlawn. Wedi hyny, cafyd adrodd- iad gan Mr James, yr is-oruchwyliwr, ar y Gynhadledd Neillduol gynaliwyd yn Lhindain ar y Mesur Gorfodol sydd gerbron y Senedd, yn nghyd a. rhoddi eglurhad ar amryw faterion oedd yn dywyll i'r cynrychiolwyr o berthynas i rai Cynadleddau. Hefyd, rhoddodd adroddiad ar weithrediadau y Gyn- adledd yn ei hymdriniad a'r Old Age Pensions Act. PANTYFFYNON.— Penderfyynwyd fod y cyfarfod hwn yn protestio yn erbyn ymddygiad y Llywodraeth yn trethi cyflogau y gweithwyr, hvd nes y cyfnewidir y safon ar ha un v pen- derfynir y cyfryw, ac y dygir i fewn hefyd feddianau i'w trethi yr un modd. Bod y penderfyniad hwn i'w ddanfon yn mlaen i'r Cyngor Gweinyddol or enill eu cefnogaeth, a chael yr Undeb yn gyffredinol i ymgymeryd at y mater. GREAT MOUNTAIN.—Ein bod fel cyfarfod yn anog y Llywodraeth i wneud pob darpariaeth angenrheidiol i gyfarfod. a phob dioddefaint, a diffyg- ion sydd yn cael eU hachosi i'n milwyr, a'n morwyr trwy y rhyfell presenol. HENDRELADIS.-Bod anghvdfod y lofa hon i'w ymddiried i'r goruchwyliwr. PARK.—Bod anghydfodau y lofa hon i'w hymddiried i bwyllgor y lofa a'r goruchwyliwr. DOSBARTH.—Derbyniwyd adrodd- iad Mr Wm. Davies, goruchwyliwr y peirianwyr a'r tanwyr, etc., ar sefyllfa y cyfryw yn bresenol o dan y gwahanol gytundebau. RA VEN.-Penderfynwyd bod un goruchwylwyr i wneud ymchwiliad i sefyllfa bresenol gweithwyr y lofa hon yn ystod y mis, ac i roddi adroddiad j ar V mater yn y cyfarfod misol næaf. DAVID MORGAN, Ysg.

Advertising