Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR DOSBARTH EDEYRNION

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGOR DOSBARTH EDEYRNION Cynhaliwyd yr uchod prydnawn ddydd Gwener diweddaf, yn Ystafell y Bwrdd, pryd yr oedd yn bresenol:—Mri. R. 0. Roberts, (cadeirydd); R. Meyrick Roberts, Gwylfa, (is-gadeirydd); Thomas Williams, Pencraig fawr; 0 A Lloyd, Waterloo House Thomas Jones Tre'rddol; D. E. Davies, Garthiaen; R. James Jones, Primavera; Thomas Wm, Edwards, Glyndyfrdwy Wm. Williams, Pandy; John Hughes, Llythyrdy, Llandrillo John Jones, Llan; E. Derbyshire (clerc) a R D Williams (arolygydd). Darllenwyd a chadarnhawyd y cofnodion. Mewn Haw, 639p 7s 4c. Cydymdeimlad. Derbyniwyd llythyr oddiwrth Mr. John Roberts, Glyndwr Hotel, i ddatgan ei ddiolch- garwch i'r Cynghor am eu cydymdeimlad ag ef yn ei waeledd, ac hyderai y byddai yn alluog i fynd a dod yn eu plith ymhen oddeu- tu bythefnos. Adroddiadau. Yn ei adroddiad dywedai y Meddyg fod un achos o'r darfodedigaeth wedi digwydd. Dwfr Cynwyd. Pasiwyd i ohirio y mater uchod hyd nes y ceir manylion oddiwrth Gyfreithiwr Ystad y Rug Dwfr Carrog. Yngwyneb y gwyn fod y dwfr uchod yn cael ei lygru, pasiwyd fod yr Arolygydd a Meistri R. 0. Roberts. E. P. Jones, a John Jones i wneud ymchwiliad i'r achos. Lletty Cyffredin. Pasiwyd fod y Clerc i rhoddi rhybudd di- oed i Mr John Parkes ymatal rhag cad w lletty cyffredin yn Brook Street. Ysbyttv. Trosglwyddwyd llythyr oddiwrth y Cyngor Sir ynglyn a darparu ysbytty, i ystyriaeth y pwyllgor. Dwfr Llandrillo. Tn ngwyneb y gwyn nad oedd digonedd o ddwfr yn cyrhaedd Penrhos, Llandrillo, pen- derfynwyd fod y dyn sydd yn edrych ar ol y dwfr i flushio y pibellau yn wythnosol o hyn allan. Gyda golwg a'r bil Mr Robert Owen am drwsio tapiau dwfr yn Llandrillo, pasiwyd i beidio ei dalu hyd nes y dyry gyfrif o'r gwaith a wnaeth arnynt. Ffynon Bettws. Gyda golwg ar gael cau o gwmpas y ffynon uchod derbyniwyd llythyr oddiwrth Gyfreith- iwr Rheithor y Bettws, yn hysbysu y bydd yn rhaid cael caniatad yr Awdurdodau Esgobawl cyn y gellid gwneud hyny. Mr Meyrick Roberts Y mae hyn yn peri i mi feddwl am y benod hono yn Efengyl loan lie y sonir am ffynon Samaria; os yw y Person yn gwarafnn dwfr naturiol-wel, beth am betbau eraill. (Chwerthin). Arianol. I Pasiwyd i dalu y gwahanol filiau am y mis diweddaf, ac hefyd costau y Cynghor ynglyn a cyngbaws Llwybr Llanarmon, yn Mrawdlys Dolgellau flwyddyn yn ol, sef 398p. 17s. 8c.

Family Notices

Advertising