Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Cynghor Plwyf Corwen.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cynghor Plwyf Corwen. Cynhaliwyd yr uchod nos Wener diweddaf, yn Ystafell y Llyfrgell, pryd yr oedd yn bresenol:—Meistri Hugh Morris (cadeirydd); L Lloyd John; David Davies T Lloyd Jones, U.H.; Hugh Hughes Hugh Jones (Cwm); Samuel Edwards; a J Davies- Hughes. Pasiwyd y cofnodion ar gynygiad Mr David Davies, a chefnogiad Mr Samuel Edwards. Llyfr Colledig. Pasiwyd fod y sawl oedd yn gyfrifol am yr uchod i dalu 3s 6d er pwrcasu llyfr arall yn ei le. Llwybr Pentre Trewyn. Hysbysodd Mr David Davies ei fod wedi bod gyda Mr William Owen Hughes ynglyn a'r uchod, ac fod Mr Hughes wedi dweyd wrtho y gwnai y gwaith angenrheidiol er gwneud y llwybr yn dramwyadwy rhag blaen. Y Nwy. Penodwyd Meistri David Davies a J Davies Hughes i wneud ymchwiliad i ba beth a ellir ei wneud er cael goleuni gwell i'r Llyfrgell, a'u bod i gyflwyno eu hadroddiad yn y Cvnghor nesaf. Symud Lamp. Gan fod y 'lamp' sydd gerllaw y Royal Oak ddim yn ateb y diben, penodwyd fod Meistri David Davies; Hugh Hughes J Davies Hughes a Samuel Edwards, i ym- weled a'r He ac i geisio ei gosod mewn lie mwy manteisiol. I Y Peiriant Tâfl. I Cyflwynodd y Cadben (Mr T Lloyd Jones) ei adroddiad o berthynas i'r uchod, a dywedai fod y Brigad wedi bod allan am ymarferiad. Canfuasant nad ydoedd y pibellau yn ddigon i gyraedd o'r Ddyfrdwy i brif-beol Corwen, gan nad oedd yr hen bibellau yn cyd-fyned a'r pibellau newydd. Pasiwyd i bwrcasu ychwaneg a bibellau. Hefyd, yn hytrach na croesi y bont newydd gyda'r peiriant, pasiwyd fod y Cadben i geisio cael caniatad gan Mr Jones, y Ffarm, i gael myned trwy ei gae ef at yr afon. Pasiwyd i bwrcasu standard newydd er cysylltu yr hydrants a'r peiriant. Hysbysodd y Cadben fod yn angenrheidiol cael dau-ar-hugain ó ddynion er galluogi pympio dwfr o'r Ddyfrdwy i'r dref gyda'r peiriant, a chan nad yw rhif y frigad ond deuddeg yn awr, erfyniai am gael ychwaneg o aelodau. Pasiwyd i hvsbysa yn yr Adsain am ddeuddeg o ddynion yn ychwanegol. Pont Uwchydon. Hysbysodd Mr J Davies Hughes ei fod wedi derbyn llythyr o berthynas i'r angenrheid- rwydd am godi pont yn y lie uchod, Dywedodd y Clerc fod Cynghor Plwyf, Corwen, yn barod i wneud eu rhan, ond nad oedd Cynghor Plwyf Llangwm am wneud eu than hwy, felly nis gellid symud gyda'r mater.

Advertising