Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CORWEN.

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

BU FARW. Ionawr 6ed, mewn oedran teg, Mr John Roberts, Sun Terrace, Glyndyfrdwy. Bu yn 'churchwarden' am flynyddau. Ionawr 7fed, yn 69 mlwydd oed, Mr. William E Roberts, yr hwn fa yn ysgolfeistr yn Ysgol Genedlaethol, Glyndyfrdwy, am yr ysbaid o 29 mlynedd cyn hyny bu yn ysgolfeistr yn Cynwyd. Ymneillduodd o fod yn ysgolfeistr yn Ebrill 1909. Cym- erodd yr angladd le dydd Sadwrn yn Rhyl, lie y dodwyd ef i orwedd yn ymyl ei frawd Mwrog." Ionawr 7fed, yn 76ain oed, Mrs Elizabeth Roberts, anwyl briod Mr Richard Roberts (cyn gyriedydd y llythyr-gerbyd), Brook Street, Corwen. Cymerodd yr angladd le prydnawn Sadwm diweddaf yn myn- went Capel y M.C., Glanrafon, pryd y gwasanaethwyd gan ei gweinidog, y Parch. J. Williams, Corwen. Gadawodd briod, dau fab a dwy ferch mewn dwfn alar ar ei hoi. Ionawr 8fed, ar ol blin a phoenus gystudd yn 76 oed, Mrs. Catherine Jones, anwyl briod Mr. Thomas Jones, Tanyffordd, Bonwm. Claddwyd ddoe (Llun), yn mynwent Eglwys Corwen. Gadawodd briod, a thair o ferched i alaru ar ei hoi. Ionawr 9fed, yn Ty Isaf, Corwen, yn hynod sydyn, tra yn dilyn ei oruchwyliaeth, bu farw yr hen gyfaill diddan Mr. Ishmael Edwards (gynt o Benybont). Yr oedd yn hanu o deulu parchus iawn, ac yn gefn- der i'r Parch John Roberts, Rhyl. Ei oedran oedd 63. Cafodd angladd tywys- ogaidd prydnawn ddoe (Llun) yn Myn- went Eglwys Corwen. Ion. 12, yn 74ain oed, Mrs. Davies, priod Mr. John Davies, o Pen-y-bont Parciau, Corwen.

Family Notices