Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

/> OORWEN.

I GWYDDELWERN. t

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I GWYDDELWERN. t Calenig.- Y n ol yr arferiad blynyddol caf- odd plant yr ysgol galenig gan Mrs Williams, y Vicarage, prydnawn Gwener, wythnos i'r diweddaf. Oherwydd fod y tywydd mor oer methodd Mrs Williams fod yn bresenol, ac yn ei habsenoldeb rhoddodd Mr Williams y rboddion i'r plant. Cododd y plant ar eu traed, a dymunwyd blwyddyn newydd dda i r Ficer a'i briod. Diolchodd yr athraw (Mr. Phillips) iddynt am eu rhoddion. Rhoddodd Mr. Williams anerchiad bwrpas- ol i'r plant. Annogodd hwynt i feithrin arferion da, a chymeriad glan, ac hefyd i osod n6d teilwng o'u blaen i ymgeisio atto, fel pan y tyfent i fyny yn ddynion a merched y bydd iddynt gymeryd eu lie mewn cymdeithas i fed o wasanaeth yn y byd. Y mae Mr Williams bob amser yn barod i gymeryd ei ran gyda pob symudiad cyhoeddus fydd yn dal perthynas a'r plwyf, trwy roddi yn hael tuag atto, a bydd bob amser yn cofio yn ar benig am y plant. Yn mhob achos o atiechyd ac angen y mae y Ficer a'i briod ymhlith y rhai cyntaf i estyn cymmorth heb wneuthur gwahaniaeth rhwng Eglwyswr ac Ymneillduwr. Hir oes iddynt i wneuthur daioni.—A.

Advertising