Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR DOSBARTH EDEYRNIONI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGOR DOSBARTH EDEYRNION I Cynhaliwyd yr uchod prydnawn ddydd Gwener diweddaf, yn Ystafell y Bwrdd, yn absenoldeb Mr. R. 0. Roberts, (cadeirydd); lywyddwyd gan Mr. R. Meyrick Roberts, Gwylfa, (yr is-gadeirydd); yr oedd hefyd yn bresenol:—Mri. Thomas Williams, Pencraig fawr; 0 A Lloyd, Waterloo House William Roberts, Gwnodl; D. E. Davies, Garthiaen R. James Jones, Primavera; Thomas Wm, Edwards, Glyndyfrdwy Wm. Williams, Pandy; E P Jones, Cileurych; Dr D. R. Ed wards, Corwen; E. Derbyshire (clerc) a R D Williams (arolygydd). Darllenwyd a chadarnhawyd y cofnodion. Mewn Haw, 514p 2s 7c. Cydymdeimlad. Diolcbodd Mr E P Jones i'r Cynghor am eu cydymdeimlad ag ef yn ei brofedigaeth o golli ei fam. Adroddiad y Meddyg. Yn ystod y mis yr oedd dau achosion o'r diphtheria wedi torri allan yn y Dosbarth, a mae amryw achosion o'r whooping cough yn nhref Corwen. Gohebiaeth. Darllenwyd Ilythyr oddiwrth Mr. J. Parkes yn hysbysu na bydd iddo gadw lodgers etto yn y ty ag y sydd yn gondemniedig gan y Cynghor yn Brook Street, Corwen. Adroddiad yr Arolygydd. Gyda golwg ar y ddau aehos o diphtheria y maent wedi torri allan yn yr un rhes o dai ac y torrodd yr haint o'r blaen, er fod y drain wedi cael ei gwneud yn iawn. Carai yr Arol- ygydd gael gwybod pwy oedd i ddwyn y draul o disinfectio y ty. Ar gynygiad Mr E P Jones a chefnogiad Mr W Roberts pasiwyd i'r Cynghor wneud hyny. Chapel Street. t Galwodd yr Arolygydd sylw at 'drain' ped- air modfedd sydd ar yr heol uchod, y mae y rhan fwyaf o'r pibellau wedi torri gan fod llwythau trymion wedi bod yn cael en cludo ar hyd yr heol yn ddiweddar. Ar gynygiad Mr T. W. Edwards a chefnog- iad Mr R. J. Jones pasiwyd fod yr Arolygydd i wneud y gwaith rhag blaen. Dwfr Llandrillo. Hysbysodd yr Arolygydd iddo fod yn glan- hau pibelli yr uchod, a thrwy hyny bydd yn enill o ugeiniau o bunau i'r Cynghor. Dwfr Carrog. Hysbysodd yr Arolygydd ei fod wedi dar- ganfod colliant yn rhai o'r pibellau, a hyny yw'r achos am y diffyg. Ar gynygiad Mr D E Davies a ohefnogiad Mr W Roberts pasiwyd fod yr Arolygydd i wneud y gwelliantau, a hefyd wneud plan o'r gwaith dwfr. I, Llidiart y Pare. Galwodd yr Arolygydd sylw fod ysgarthion yn cael eu taflu i hen dwll meteling yn y lie uchod. Pasiwyd ar gynygiad Mr R James Jones a chefnogiad Mr T W Edwards i anfon at y Cynghor Sir. Plan. Derbyniwyd plan o dy fwriedir ei adeiladu gan Mrs Edwards, Post Office. Pasiwyd i'w ddychwelyd er mwyn iddo gael ei wneud yn gyflawn. Cais. Ynglyn a chais yr Arolygydd am osod 'drain pipe' ar dir perthynol i'r Annibynwyr, dywedodd yr Arolygydd nad oedd yn foddlon ar y telerau, am hyny yr oedd yn awgrymu cynllun arall i gludo y dwfr i'r nant. Pasiwyd i weithredu yn ol awgrymiad yr Arolygydd. Ymddiswyddo. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Robert Owen, Llandrillo, i hysbysu ei ymddiswydd- iad o fod yn ofalwr y dwfr yn Llandrillo. Pasiwyd ar gynygiad Mr R James Jones i dderbyn ei ymddiswyddiad, a bod aelodau Llandrillo i geisio cael dyn cymwys i wneud y gwaith a dod ac adroddiad i'r Cyngor, Yspytty. Derbyniwyd gohebiaeth o Langollen mewn perthynas i'r pwysigrwydd o gael yspytty (isolation) i ddosbarthiadau Llangollen (trefol a gwledig), Chirk (gwledig), ac Edeyrnion. Pasiwyd i gydnabod y llythyr, ac i anfon at Gynghor y Bala er cael gwybod beth fwriad- ant hwy wneud. Pasiwyd hyn ar gynygiad Mr D E Davies a chefnogiad Mr 0 A Lloyd. Lludw y Dref. Ar gynygiad Mr R James Jones penodwyd pwyllgor er ystyried rhyw gynllun neu gyfun_ drefn gwell nag y sydd yn bresenol er cludo a gwneud i ffwrdd a'r lludw. Square, Corwen. Hysbysodd y Clerc fod yr holl berchenogion yn foddlon i'r Cynghor roddi tar macadam ar yr oil o'r heol uchod. Trefnwyd fod Pwyllgor o Aelodau y dref i ystyried cynllun yr Arolygydd. Trwyddedau. Pasiwyd i ganiatau trwyddedau yn ol 5s yr un i'r rhai canlynol:— Mr H R Jones, 200 galwyn. Mr Eyton Jones,Vulcan house, 60 galwyn Mr Plack, Crown Hotel, 100 galwyn Mr J. Williams, Edeyrnion Shop, 60 eto American Oil Co., 2000 galwyn. Celfi. Pasiwyd fod rhestr o holl gelfi perthynol i'r Cynghor i gael ei chadw gan y Clerc.

Advertising