Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

Er Serchus Gof am Jane Roberts, 3, Sun Terrace, Glyndyfrdwy. Chwith iawn genym ydyw meddwl, Fod Jane Roberts yn ei bedd Llawn o'r nefoedd oedd ei hysbryd, Huno mae mewn perffaith hedd Wedi gadael byd gweledig, A'i ofidiau o bob rhyw Wedi esgyn uwch bob pryder, I gartrefu gyda Duw. Nis gall geiriau lawn fynegu'r Teimlad dwys sydd dan ein bron Colli un oedd anwyl ini, Colli gwedd ei gwyneb lion Colli ei chymdeithas felus, Colli byth ei chynes air Hiraeth dwfn a leinw'm calon, Colli dagrau ini bair. Pan mae natur lan yn gwywo, Mor ryw brydferth gwelir hi; Gwelsom ninnau ,un yn gwywo, Lawn mor brydferth gyda ni; Nis gall bedd na dyfnder daear, Guddio ei rhinweddau road Perarogli ydynt heddyw, Gyda ni mewn anial wlad. Cadarn ydoedd mewn ysgrythyr, Aeddfed oedd ei Ffrwytho ydoedd yn ei henaint, Er gogoniant i'n Duw Dad Heddyw gwel hi werth ei hymdrech Pan fyfyriodd eiriau'r Nef, Sugno cysur wnaeth i'w hysbryd O'i ddalennau dwyfol Ef. Efelychu ei rhinweddau, Hyn a deimlwn ni sydd iawn, Mynu crefydd gwerth ei meddu Hyn rydd ini gysur llawn, Bod yn gadarn mewn ysgrythyr, Ceisio'i fyw tra yn y byd Hyn rydd urddas ar ein bywyd Gwenau Duw ini o hyd. 0 mor anhawdd peidio wylo Wrth ei rhoddi yn y bedd, Gorfod cefnu ar y fangre, Hyn rydd archoll fel y cledd Colli mam fu'n dyner wrthym, Colli eysgod boreu oes, 0 am help i ddal y ddyrnod, Ac am nerth i godi'r groes. Croesaw iti'r hyfryd foreu Pan gawn etto oil gyd-gwrdd, Pob rhyw alar wedi darfod, Neb yn son am fyn'd i ffwrdd Rhyw ysgaru welir yma, Colli dagrau ar bob Haw, Ni bydd dim o hyny yno, Pawb vn iach vr ochr draw. BRITHDIR. R. PuGH.

Er Serchus Gof am Jane Roberts,…