Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

DINMAEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DINMAEL. Dydd Iau, rhoddodd Rheolwyr Ysgol y Cynghor, Dinmael, wledd i blant yr ysgol. Yn y prydnawn llywyddwyd cyfarfod hwyliog a dyddorol gan y'Parch J. Henlyn Owen. Cafwyd adroddiadau Cymraeg gan Mary E. Jones ac Ann E. Roberts, a rhai Saesneg gan Rebecca Jones a John Hughes. Creodd yr Infants ddyddordeb mawr trwy berfformio eu Action Songs a'u hadroddiadau pert, dan arweiniad Miss Edwards, a chanodd y rhai bynaf yn swynol o dan fatwn Miss Jones. Yna ymdeithiasant tua Festri y Capel, lie y parotoisid gwledd o de a bara brith. Mwyn- hawyd y wledd yn fawr. Yna rhoddwyd aur afal i bob un o'r plant gan Mrs Owen. Ar y terfvn cyflwynodd Mr Thomas Thomas cadeirydd y managers, oriawr arian—rhodd Cynghor Addysg y Sir, i Maggie Roberts, Dolpenna, am ei ffyddlondeb canmolad wy yn cadw ei hysgol yn ddi-ball am saith mlynedd. Wrth gyflwyno yr oriawr, rhoddodd Mr Thomas anerchiad bwrpasol gan dalu teyrn- ged uchel o glod i orchest yr eneth, ac anogai y plant eraill i wneud a allent i'w hefelychu,. Siaradwyd yn mhellach gan y Rheolwyr eraill, pob un yn rhoddi anogaeth gref i'r plant i ymddwyn yn y fath fodd, fel wedi iddynt dyfu i fyny y byddont yn ddinasydd- ion parchua, urddasol, teilwng o'u gwlad a'u cenedl. Diolchodd y plant i'r rhai fu'n gyfrifol am arlwyo gwledd mor flasus iddynt trwy guro dwylaw. (

Advertising