Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Trengholiad ar gorff Baban…

CORWEN.I1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CORWEN. 1 Y Feibl Gymdeithas.—Cynaliwyd cyfarfod blynyddol yr uchod nos Iau diweddaf yn Ysgoldy Seion, M.C., tan lywyddiaeth y Parch J. W. Foulkes. Dechreuwyd trwy ganu yr emyn Dyma Feibl anwyl lesu," yna darllen- odd y Parch. Lewis Davies yr adnodau 34 hyd y 45 o'r ddegfed bennod o'r Actau, ac offrym- odd weddi. Caed yr adroddiad gan y trysor- ydd Mr.|Davies, Bank, cyfanswm y casgliad y llynedd oedd 14p 5s 4c, ac hyderai y deuai i 20p eleni, sef y swmarferai fod pan benod- wyd ef yn drysorydd ddeng mlynedd yn ol; yr oedd dau o resymau am y lleihad hwn, meddai, sef diffyg dyddordeb yn y cyfarfod blynyddol, a'r anhawster i gael casglyddion i fyned o gwmpas. Pasiwyd i dderbyn yr adroddiad ar gynyg- iad Mr T. Lloyd Jones. Yn ei sylwadau dywedodd y Llywydd y dylasai Sir Feirionydd wneyd ymdrech neill- duol o blaid y Feibl Gymdeithas oherwydd dau sydd yn gyssylltiedig a hi, set Charles o'r Bala a'r eneth fach Mari Jones yr hon a ger- ddodd ugain milltir atto i gyrchu Beibl, a thrwy hyny a agorodd fynwes y gwr mawr hwnw i fynegu y frawddeg anfarwol-" Beibl i bawb o bobl y byd." Gynrychiolydd y Feibl Gymdeithas eleni ydoedd y Parch. J. Prys, Llanover, gan yr hwn y caed anerchiad rhagorol yn desgrifio gwaith mawr y Gyiudeithas ynglyn a cyfiel th u, cyhoeddi, a gwasgaru Gair Duw led-led y byd. Hysbysodd fod yr Hen Destaraent wedi cael ei gyfieithu i 111 o wahanol ieithoedd, y Testament Newydd i 219, a rhanau o'r Beibl i 450 ond nid ydyw hyny han y nifer o ieithoedd sydd yn y byd. Y mae 450 miliwn o drigolion y ddaear heb ply wed y Gair. Daeth cynulliad da ynghyd, a chaed un o'r cyfarfodydd mwyaf dyddorol. Hyderir y chaiff y boneddigesau sydd yn d'od o gwmpas i gasglu dderbyniad siriol. Ar gynygiad y Parch 0 Hughes a chefnog- iad Mr Hugh 0 Richard, Dolafon, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Mr Prys am ei araeth, i'r swyddogion a'r casglyddion hefyd i Mrs. a Miss Jarrett am lettya y Cynrych- iolydd. Terfynwyd trwy weddi gan y Llywydd. Forthcoming Concert.— We understand a Concert is to be given in aid of the Pavilion Funds, on Wednesday, April 22nd, by Messrs Walter Roberts, Harold Davies, Ted Davies & Albert Davies, Wrexham, assisted by the Corwen Pierotts.

Y diweddar Mr. William B.…

Advertising