Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

OORWEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

OORWEN. Cyngherdd.-Nos lau, y 12fed o'r mis hwn, bu Meistri William Jones, Arthur Humphreys, A. P. Williams, a Price Atkinson, o Gorwen, yn cael eu cynorthwyo gan gantorion eraill, yn cynal cyngherdd yn y Capel Newydd sydd wedi ei godi gan y Methodistiaid Calfinaidd er cof am y diweddar seraph- bregethwr Henry Rees yn Llansannan. Llywyddwyd gan Mr David Thomas, Llan- rwst. A ganlyn oedd y rhaglen :-can Yr Ornest," Mr. P Atkinson Gwlad y Delyn," Mr Abel Jackson, Dinbych pedwarawd gan y brodyr o Gorwen adrodd Modryb Sian," Miss L Jones; can Yr hen simdde fawr," Mr Arthur Humphreys; can "Telynau Saint" Mr I M Da vies, Llansannan can Papur newydd," Mr Joseph Da vies, Nantymerddyn (encoriwyd); deuawd "Flow gentle Deva," Mri A P Williams a P Atkinson (encoriwyd); can Caradog," Mr Arthur Humphreys (en- coriwyd); adrodd Hen Feibl mawr fy mam" Miss L Jones can Hen Gerddor Mr Abel Jackson (encoriwyd); can The Inchape Bell," Mr Price Atkinson deuawd Plant y Cedyrn," Mri A Jackson a I M Davies canu penillion, Mr. Joseph Davies (encoriwyd); Lie treigla'r Caferi" Jackson a P Atkinson; pedwarawd We all have a very bad cold," gan y brodyr o Gorwen. Wedi talu y diolch- iadau ar gynygiad y Parch R H Thomas yn cael ei eilio gan Mr E P Davies, Bron Bagad, terfynwyd trwy gydganu "Hen Wlad fy Nhadau. 'Robinson Crusoe' at the Assembly Rooms- Thelinhabitants of Corwen were highly pleased with the splendid pantomime which that popular London Comedian, Mr Jimmy Wood, brought to the Assembly Rooms on Saturday night, the scenery and dresses were magnificent and the Artistes themselves were splendid from the Comedians the fun was fast and furious, and without a-doubt Jimmy Wood is the funniest Comedian that has ever visited our town. At the close of the per- formance in response to the cries of a crowded audience Mr. Wood gave a neat little speech in which he said that he intended to pay us another visit next year, so we shall look for- ward with great pleasure to his return visit. We understand this is Mr. Wood's first visit to North Wales, so we wish him the success that he deserves. Dariith.-Nos Wener diweddaf daeth cyn- ulliad lluosog i Ysgoldy Capel Seion i wrando y Parch D. D. Williams, Manchester, yn tra- ddodi el ddarlith ddyddorol ar y testyn Penillion Telyn y Cymry." Dangosodd Mr Williams yn eglur ei fod yn feistr ac yn safon ar y pwnc, a theimlad pawb oedd yn bresenol Inai da iawn oedd cael y fraint o'i wrando. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr T Lloyd Jones, U.H. Talwyd y diolchiadau arferol gan y Parch. J. Williams (y gweinidog), yn cael ei gefnogi gan Mr W Ellis Evans, Medical Hall. Yr oedd y ddarlith yn cael ei chynal o dan nawdd Cymdeithas Lenyddol Seion. Personol.-Deallwn mai Mr. J. Davies Hughes, L.T.S.C., Bristol House, Corwen, sydd wedi cael ei benodi yn Arweinydd Cerddorol Cymanfa yr Annibynwyr eleni. Llongyfarchwn ef yn galonog ar yr anrhyd- edd. Y Cor—Dymunir ar i aelodau y Cor Mawr wneud ymdrech arbenig i roddi eu presenol- deb yn y 'practices' o hyn allan gan fod dyddiad y Cyngherdd Blynyddol yn nesau.

Advertising