Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

BU FARW. Chwefror 18fed, yn 75ain mlwydd oed, Mr. Morris Edwards, Ffriddygog, Corwen. Cymerodd yr angladd le ddydd Sadwrn, yn Mynwent Newydd, Corwen, am ddau o'r gloch. Gwasanaethwyd gan y Parch. John Williams. Chwefror 19eg, oddeutu 1-30 y bore, bu farw un arall o drigolion hynaf Corwen, sef ) yr hen gyfaill diddan Mr Richard Roberts, Brook Street, Corwen, yn 76 mlwydd oed. Adnabyddid ef oreu fel 'Rhisiart Roberts y Mail,' oherwydd bu yn gyriedydd y llythyr gerbyd am flynyddau lawer. Un o brif nodweddion yr hen wr y blynyddau diweddaf fyddai ei ffyddlondeb at y cleifion-os clywai fod brawd neu chwaer yn glaf byddai ef yn sicr o holi am danynt ddwywaith neu dair bob dydd. Rhagflaenwyd ef gan ei anwyl briod er y 7fed o Ionawr y flwyddyn hon, ac effeith- iodd hyny yn fawr ar ei iechyd. Cych- wynodd yr angladd am un o'r gloch o Brook Street, prydnawn ddoe am fynwent Glan'rafon, lie y dodwyd ef i orwedd yn yr un beddrod a'i briod. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan ei weinidog y Parch. John Williams. Gedy dau fab a dwy ferch i alaru ar ei ol.

Advertising