Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
IIICORWEN.';.I
CORWEN. I Darlith.-Nos Wener diweddaf yn Nghapel M.C., Corwen, traddodwyd darlith addysg- iadol ac adeiliadol ar y testyn dyddorol 'Howel Harris' un o gewri y Pwlpud Cym- reig yn yr eilfed ganrif ar bymtheg, gan y Parch M. H. Jones, B.A., Ton Pentre. Caed cynulliad gweddol liosog. Ymdriniodd Mr Jones a'r gwrthddrych yn feistrolgar a dawnus, gan gadw ddyddordeb ei wrandawyr yn y testyn o'r dechreu i'r diwedd. Llyw. yddwyd gan Mr. T. Dudley Morgan, N. P. Bank, yr hwn yn ngwrs ei sylwadau a ddiolch- odd i'r cyfeillion am yr anrhydedd osodasant arno trwy ei benodi i lywyddu darlith oedd a'i thestyn yn apelio at bob Cymro Cenedl- garol. Yr Y sgol SuI-Nos Sabboth diweddaf yn Addoldy M.C. Corwen, rhoddodd y Parch M. H- Jones, sylw arbenig i'r Ysgol Sul, gan gyfeirio yn fwyaf neillduol at Gynhadledd Ysgolion Sul y Byd a gynaliwyd yn Zurich y llynedd, ei destyu ydoedd Lie ni byddo cynghor, y bobl a syrthiant ond y lie y byddo llawer o gynghorwyr y bydd diogelwch."
Family Notices
BU FARW. Chwefror 20fed, John Ellis Jones, Cysulog (mab y diweddar Mr a Mrs E E Jones, Bodlondeb, Dinmael), yn 17 oed.
Cau Tafarnau yn gynar.
Cau Tafarnau yn gynar. Yn Llys Ynadon Do.gellau dydd Mawrth,o flaen C E Mnnro Ed wards, Ysw,, ac eraill. apeliodd Miss Nancy Roberts am gael ad- newyddu trwydded y Buckley Arms Hotel, Dinas Mawddwy, ac hefyd gofynodd am i'r drwydded fod yn un i gau am 10 yn He 11.— Caniatawwyd y drwydded fel y gofynid am- dani. Er y cyfarfod diweddaf yr oedd y Prif- gwnstabl wedi bod yn y Dinas gyda'r tafarn- wyr eraill yn gofyn a oedd ganddynt hwy ryw wrthwynebiad i gau am 10, a dywedodd eu bod yn foddlon. Ni wnaed cyfuewidiad yn y trwyddedau hyny hyd nes y ceid allan pa un a oedd perchenogion y tai yn ogystal a'r tenantiaid yn foddlon i gyfnewid yr amser cau o 11 i 10.
I.:,Cynghor Sir Meirion.:.
I Cynghor Sir Meirion. Cynaliwyd cyfarfod o Gynghor Sir Meirion yn Nolgellau, dydd Iau diweddaf. Dewiswyd Mr R T Jones, Penrhyn, yn gadeirydd, a Mr. T. Martin Williams, Abermaw, yn is-gadeir- ydd. Gosodwyd 'contract' y ffyrdd am y tair blynedd nesaf, i Meistri Davies Brothers, Abermaw. 0.
GANWYD. I
GANWYD. I Mawrth 16, i Mr a Mrs Evan Price, Gwalia Cottages, Corwen, mab.
; OORWEN
OORWEN F Pwlpudau — Gan fod cais wedi d'od attom am i ni gyhoeddi enwau y rhai fydd yn llanw pwlpudau gwahanol addoldai y dref, pleser fydd genym wneuthur hyny os bydd i rywrai anfon yr enwau i'r swyddfa hon yn wythnosol erbyn bore Llun.
Advertising
MERIONETHSHIRE LIVE STOCK IMPROVEMENT SOCIETY. -AT- Amaethwyr Dosbarth Corwen ac Eraill CYNHELIR ( CYFARFOD CYHOEDDUS o Amaethwyr ac Eraill sydd yn cymeryd dyddordeb yn yr uchod, yn y Feathers' Temperance Hotel, CORWEN. DYDD MAWRTH YR 17ES CYFISOL, (Sef, Diwrnod Ffair Corwen), Am DRI o'r g-loch yn y prydnhawn, i ystyried Cylch-lythyr oddiwrth Ysgrifenydd Cymdeithas Sirol yr uchod, ac i basio pen- derfyniad arno. Gwahoddir pawb i fod yn bresenol. SPRING FASHIONS. o. 4. JISIJOYD Is now showing the latest and most desirable NOVELTIES, and invites early inspection. DRESS MATERIALS COSTUMES I JACKETS FURS BLOUSES UNDERCLOTHING HOSIERY CORSETS & GLOVES UMBRELLAS GENT'S OUTFITTING LINOLEUMS CARPETS HEARTHRUGS HOUSE LINENS ART SERGES A Unique Collection of Novelties in Millinery DRESSMAKING IS AN IMPORTANT FEATURE. ftg- Ladies may rely on both style and Fiti TAILORING- -Ladies' Tailor-made Costumes a Speciality. New Stock of WALL-PAPERS s Ask for Pattern Book.  Corw?en. w terloo Hoase, Corwen. I