Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

SALE OF FREEHOLD PROPERTY.I

GWYDDELWERN. 1

I CORWEN.

CYNWYD....

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNWYD. Gwlad yr Aifft.-Ar gais Pwyllgor Arbenig bu yr Athro T. Gwynn Jones, Aberystwyth, yn ymweled a Chynwyd i ddarlithio ar 'Wlad yr Aifft.' Dyma ymweliad cyntaf y prif- fardd a'r lienor amryddawn, a Chynwyd. Gwnaed pob ymdrech i ddal ar y cyfle i'w wrando. Traddodid y Ddarlith yn Nghapel Bethel, am 7 o'r gloch, nos Lun, Mawrth yr 16eg. Estynid gwahoddiad i bawb, gan mai amcan y Pwyllgor ydoedd Ludd y pentref a'r ardal, yr oedd y mynediad i mewn yn rliad ac am ddim. Cymerid y gadair gan y Parch. H. Cernyw Williams. Cafwyd darlith gwir odidog.

Advertising