Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
' ILLANDRILLO.
LLANDRILLO. Prawf Gy?igherdd.-Cyriiliwyd yr uchod yn Nghapel y Methodistiaid, Llandrillo, nos Fercher diweddaf, tan lywyddiaeth Mr Jones- Jarrett, Plasynfaerdref, yn absenoldeb Dr. Williams, y Bala. Daeth cynulliad lluosog ynghyd. Rhedwyd trgn arbenig o Gorwen, a manteisiodd cynifer a 150 ar y cyfleustra. Y beirniaid oeddynt :—adroddiadau, y Parch. H.iA. Jones; cerddoriaeth, Parch. Robert E. Edmunds, Llanbedrog. Wele'r buddugwyr deuawd cydradd—Mri D. R. Jones a H Jones, Wrecsam D. Jones, Llangwm, a H. Roberts, Bryn Nannau. Her-unawd, 1, Mr R A Ellis, Pentrefoelas; ?, Mr D. R. Jones, Wrexham. Prif Adroddiad, cydradd oreu, Mri Bob Lloyd, Pen bryn, a J Anthony Jones, Glyndvfrdwy 2, Miss Ellen Grace Owen, Bala Corau Meibion Ser y Bore (Proth-i-oe), 1, Corwen, dan arweiniad Mr W. Bradwen Jones; 2, Bala. Gwnaed elw sylweddol at Gronfa'r Organ. Ar ran y Pwyllgor, cyoygiodd Mr. Jones, ysgolfeibtr, ddiolchiadau i bawb, ac eiliwyd gan y Parch. D. Thomas. Llwyddiant. Dywenydd genym ddeall am lwyddiant y bardd a'r llenor ieuangc Mr John Oscar Phillips, y Llwyn (mab y Parch Talfor Phillips, Ffestinhg, yn enill y brif wobr am gyfansoddi drama ar y testyn 'Gwaith Addysg' Dymunwn iddo bob llwyddiant etto yn y dyfodol.
I LLANDDERFEL.
I LLANDDERFEL. Cyfarfod CyhoeddUB-Cynali wyd yr uchod o dan nawdd Cymdeithas y Merched yn ysgol y Cynghor, nos Fawrth, tan lywyddiaeth Mrs Charles Jones, Old Post Office. Cymerwyd y gadair gan y Parch J 0 Jones, Islwyn. Dech- reuwyd gan y Llywyddes trwy rhoi emyn allan i'w ganu, yna arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch J. 0. Jones; ton gan barti Mr R. E. Roberts, Trafalgar Street. Wedi gair byr ac i bwrpas gan y Llywyddes, deuwyd at prif waith y cyfarfod, sef anerchiad gan yr enwog Ap Glaslyn. Adroddodd hanes ei fywyd mewn modd hynod deimladwy, ac yr oedd grym ar- gyhoeddiad trwyadl yn ei eiriau, a'i apeliadau yn ddylanwadol iawn. Nis gellid cael dim gwell i berswadio pawb yn rhinwedd dirwest a phurdeb na'i anerchiad. Yr oedd y canu yn swynol dros ben ac yn ychwanegu at dydd- ordeb ac adeiladaeth yr anerchiadau. Caed gair gan y Parch. J. 0. Jones. Talwyd y diolchiadau arferol ar gynygiad Mr. H. Ellis, Pale Lodge, a chefnogiad Mr C. Jones, Old Post Office. Diweddwyd trwy gael ton gan barti Mr R. E. Roberts. Cyfeiliwyd gan Miss Ellis, Branas. Daeth cynulliad lluosog yn- ngbyd, ac nid oes ball ar y canmol i'r cwrdd drwyddo. Credwn mai doeth fyddai i Gymdeithas Ddirwestol Chwiorydd Corwen ddilyn esiampl y Chwiorydd uchod trwy wahodd Ap Glaslyn i Gorwen, sicr y caent ad-daliad da.
LLANU WCHLLYN.
LLANU WCHLLYN. Y Parch. D. Ro berts.-C.vDaliwyd cwrdd ffarwel i Hybarch Weinidog yr Hen Gapel Mr D. Roberts (tad Dr. Roberts, Corwen), yr wythnos o'r blaen ar derfyn ei ofal gweini- dogaethol. Treuliodd deng mlynedd ar hugain yn fawr ei barch yn mysg ei holl gymydogion o bob gradd ac en wad. Cadwodd urddas ei waith a'i swydd yn ddilychwin, a bu yn garedig yn gweini ac yn cysuro yn mha gyfle bynag y gwelai angen. Llywyddwyd y cwrdd ffarwel gan Mr R. Jones, Coedladur. Caed gair gan y Parchn. Owen Ellis, Talwyn Phillips, Ifan T. Davies, Bardd Glas, Dr. Peters, Dr. Roberts, Meistri Gwyndaf Davies, Marianog Williams, L. J. Davies, Richard Edwards, John Pugh, Edward Evans, J. J. Edwards ac E. Rol ei-ts. Tystiolaethent yn uchei i gymeriad a gwasaua th Mr Roberts yr oedd yn wir wr Duw yn eu mysg. Ar ran y frawdoliaeth, cyflwynwyd pwrs yn cynwys swm sylweddol o aur i Mr Roberts gan Mrs Ellen Roberts, Trawscoed, yr aelod hynaf yn yr egtwys Cydnabyddodd Mr. Roberts ei ddiolchgarwch personol a'r teulu am yr holl arwyddion hyn o deimlad da tuag ato. Caed cyfarfod dymunol dros ben. Da genym ddeall i'r brodyr Wesleyaid yng Nghorwen wneud elw clir o dros ugain punt oddiwrth eu Social diweddaf.
Advertising
SPM1MG- IPASHIONS. O. A. LLOFB t Is now showing the latest and most desirable NOVELTIES, and invites early insneetion. DRESS MATERIALS COSTUMES JACKETS FURS BLOUSES 8/ -1.- UNDERCLOTHING HOSIERY CORSETS & GLOVES UMBRELLAS GENT'S OUTFITTING LINOLEUMS CARPETS HEARTHRUGS HOUSE LINENS \.1 L) j -82.4 iJ ..L ¡ ART SERGES A Unique Collection of Novelties in Millinery DRESSMAKIIVG-IS AN IMPORTANT feature. itsr Ladies may rely on both style and Fit, TAIL ORING-Ladies' Tailor-made Costumes a Speciality. New Stock. of WALL-PAPERS -,j73,Qí'- Ask for Pattern Book.  terloo Ho se, C en..