Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR DOSBARTH EDEYRNIONI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGOR DOSBARTH EDEYRNION I Cynhaliwyd yr uchod prydnawn ddydd Gwener diweddaf, yn Ystafell y Bwrdd, tan lywyddiaeth Mr. R. 0. Roberts, (cadeirydd); yn cael ei gynortwyo gan Mr. R. M. Roberts, Gwylfa, (yr is-gadeirydd); yr oedd befyd yn bresenol:—Mri. Thomas Williams, Pencraig fawr; 0 A Lloyd, Waterloo House Thomas Jones, Tre'rddol; William Roberts, Gwnodl bach Ellis H. Ellis, Branas Robert James Jones, Primavera; Thomas Wm. Edwards, Glyndyfrdwy; William Williams, Pandy; Dr D. R. Edwards, E. Derbyshire (clerc) a R D Williams (arolygydd). Darllenwyd a chadarnhawyd y cofnodion. Mewn Haw, 195p lis 5c. Gohebiaeth. 0 Gynghor Sir Meirion yn gosod o flaen y gwahanol Gynghorau Dosbarth am y priodol- deb o ddarparu County Buildings i gynal y Cynghor Sir ac er sicrhau swyddfeydd, etc. i'r swyddogion. Ar gynygiad Mr R M Roberts a chefnogiad Mr R J Jones, pasiwyd fod y Clerc i anfon am fanylion y draul. Hefyd, caed llythyr o Bwyllgor Iechydol y Sir yn gofyn am i'r Cynghor benodi dau Gyn- rychiolydd i drafod y priodoldeb o gael Isolation Hospital gyda aelodau y pwyllgor uchod. Penodwyd Mri R M Roberts ac 0 A Lloyd, ond os bydd Mr Roberts yn analluog fod Mr R J Jones i gymeryd ei le. Adroddiad. Pasiwyd fod adroddiadau misol y Meddyg i gael eu trosglwyddo yn gwarterol i'r Cynghor Sir, ar gynygiad Mr R J Jones a chefnogiad Mr 0 A Lloyd. Trosglwyddodd y Meddyg ei adroddiad blynyddol. Cynygiodd Mr 0 A Lloyd fod yr adroddiad i gael ei gyhoeddi. Pasiwyd fod Cwmni Argraff u Corwen i'w argraffu o fewn mis. Yn ei adroddiad misol dywedodd y Meddyg fod un achos o'r darfodedigaeth wedi digwydd yn ystod y mis. Adroddiad yr Arolygydd. Hysbysodd fod y garthffos yn Chapel Street, Corwen, wedi ei hadgyweirio. Gyda golwg ar gael carthffos i ran o bentref Llandrillo, dewiswyd aelodau Liandrillo, Mr. T W Edwards a'r Meddyg yn bwyllgor. 0 berthynas i rai tai ag y mae eu perchen- ogion yn gwrthod symud ymlaen ynglyn a'r Town Planning Act, pasiwyd i'r Clerc anfon attynt i'w hysbysu 08 na wneir hwy mewn mis fod y Cynghor i wneud y gwaith. Gwaith Dwfr Cynwyd. Derbyniwyd llythyr oddiwrth Gyfreithwyr Ystad Rug o berthynas i'r uchod, ac yn cynyg a ganlyn :-30p am y tir i osod y tank- iau, 7p 10s o ardreth am le y pibellau, a bod tenantiaid y Rug i gael y dwfr ynlrhad ac am ddim. Caed trafodaeth ar y mater a dangoswyd allan fod pria y tir am 30p yn dyfod i 6s. y llathen ysgwfir. Gan fod y pris yma dipyn yn uchel, penod- wyd yr un pwyllgor ag a fu yri jystyried y mater o'r blaen i gyflwyno cwestiwn y prisiant i sylw awdurdodau Ystad y Rug. Cario Coed. Pasiwyd fod y Clerc i anfon rhybudd at y rhai sydd yn llwytho coed ar ffyrdd y Cyng- hor Dosbarth mai hwy ac nid y Cynghor fydd yn gyfrifol os digwydd damwain ar y ffordd. Melinywig. Pasiwyd i ganiatau i Mr John Williams, Melinywig, gael gosod 'railings' o flaen ei dal yn Melinywig ar amodau neillduol. Ymddiswyddo. Hysbysodd yr Arolygydd fod David Jones, un o weithwyr y Cyngor yn ymddiswyddo. Pasiwyd fod Mr Thomas Jones ymweled ag ef, ac i geisio ganddo ail-ystyried y mater. Square, Corwen. Rhoddodd Mr R M Roberts rybudd y bydd yn galw sylw at yr heol uchod yn y Cynghor nesaf, ar y dealltwriaeth i gael cynllun na fydd yn costio dros 25p. i'w gwella. Ffordd Glanalwen. Hysbysodd Mr Thomas Jones fod y ffordd uohod mewn eyflwr pur arw, a bod Mr Maurice Hughes ac un arall yn barod i dalu haner y draul o gael 'steam roller' i roddi y y cerrig i lawr. Pasiwyd i adael y mater. Ffynon Bettws. Pasiwyd i beidio gwneud sylw o lythyr a ddaeth i law o berthynas i'r uchod. Ysbytty. Darllenwyd llythyr oddiwrth Gynghor Trefol y Bala ac oddiwrth Cynghor Gwledig Penllyn yn hysbysu eu bod yn barod i gyfar- fod Cynghor Edeyrnion i drafod y cwestiwn uchod. Pasiwyd i ohirio y mater hyd nes y gwelir beth a wna y Cynghor Sir. Cais. Derbyniwyd cais oddiwrth Mrs Kerr yn gofyn am gael beidio ta!u rhan o ardreth y dwfr gan ei bod hi o Garrog am chwe' mis o bob blwyddyn. Pasiwyd i'r Clerc ei hysbysu nad yw y Cynghor yn gweled eu ffordd yn giir i gan- iatau hyny. Ych waneg o gyflog. Gan mai ychydig o'r aelodau oedd yn bres- enol, pasiwyd i ohirio cais yr Arolygydd am ychwaneg o gyflog am fis. Y Dreth. Cyflwynodd y Clerc amcangyfrif o'r dreth, a dangosodd y byddai treth o 4c y bunt yn cyfarfod a gofynion yr haner blwyddyn sydd ar ddyfod. Pasiwyd hyny. Hefyd treth jarbenig o Ie y bunt ar Llan- drillo oherwydd costau y Gwaith Dwfr. Hefyd, "Ie y bunt ar Gorwen a Ic y bunt ar Llangar oherwydd treuliau arbenig.

Corwen Petty Sessions. I

Advertising