Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Cwrdd Plwyf Blynyddol. Corwen.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cwrdd Plwyf Blynyddol. Corwen. Cynaliwyd yr uchod yn Ystafell Bwrdd y Gwarcheidwaid. Presenol:—Mri H Morris (cadeirydd); Hugh Hughes, Meirion Stores J D Hughes, Bristol House; J Jones, Llygadog; S Edwards, Liverpool Terrace; R M Roberts. Gwylfa; L Lloyd John, Gwynfa D Davies, Bank R J Chapman, Uplands a D Davies, Brynteg. DarIIenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd bJaenorol. Yr Elusenau. Hysbysodd Mr Lloyd Johu fod elusen Hugh Jones, 2p 12s 6c, a 3p yr hen elusendai wedi eu rhanu cydrhwng ugain o bersonau, ac 8p 2s 6c o elusenau eraill cydrhwng 45 o ber- sonau. Galwodd Mr Lloyd John sylw at y ffaith fod punt yn dyfod i blwyf Corwen a phunt i blwyf Gwyddelwern o fferm Maerdy, bu ef mewn cryn drafferth er sicrhau hwn gan fod y fferm wedi ei gwerthu adeg rhan o ystad y Rug. Yn mhellach, dywedodd fod amryw o elusenau Corwen wedi myned ar gyfangoll yn yr amser basiodd, hon yw yr unig elusen ag sydd yn awr heb ei sicrhau gyda'r Charity Commissioners. Cynygiodd Mr Hugh Hughes pleidlais o ddiolchgarwch i Mr Lloyd John am ei dra- fferth. Pasiwyd hyny ar gefnogiad Mr R Meyrick R oberts. i )arllenwvd enwau y rhai a dderbyniasant elusenau, sef glo, etc. Y Dreth. Darlieuwyd enwau pump o bersonau sydd heb dalu v dreth. Llongvfarchwyd Miss Lilian Evans, yr 'assistant overseer' ar ei gwaith yn casglu y dreth mor foddhaol yngwyneb yr anfanteision a'i cyfarfu yn ddiweddar. j I Cwestiynau pwysig. j Galwodd Mr R M Roberts sylw at gyflwr y Square yn Nghorwen, a chwestiwn y Tai yn y dref a'r cylcb, a credai y byddai cael barn yr etholwyr ar faterion fel hyn yn fantais i'r rhai sydd yn eu cynrychioli ar fyrddau cyhoeddus. Credai Mr J D Hughes y dylent ddiolch i Mr Roberts am y dyddordeb a gymerai yng ngwaith y cyhoedd yr oedd ef wedi cael ei syfrdanu pan ddeallodd fod y Cynghor Dos- barth yn gwrthod gwneud y Square. Cynygiodd Mr Hugh Hughes eu bod yn rhoddi pob cefnogaeth i wneud y Square yn dramwyadwy. Dywedodd Mr John Jones eu bod yn y wlad yn dweud fod pobl Corwen yn ddiegwyddor gyda golwg a'r trethi, rhoddwch pob cefnog- aeth i'r wlad gan eu bod yn talu 2p o bob 3p. Hysbysodd Mr J D Hughes fod Mr Jones yn anghywir gyda golwg ar y swm. Ar y terfyn, pasiodd y mwyafrif i roddi pob cefnogaeth i'r Cynghor Dosbarth wneud yr hyn a welont oreu a'r Square.

Advertising