Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

ACKNOWLEDGMENT. I

BRYNEGLWYS.I

LLAWR-Y-BETTWS. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLAWR-Y-BETTWS. I Cynhaliwyd Te a'r Chyngherdd flynyddol yn y lie uchod, dydd Mercher, Mehefin 17eg. Cymerwyd rhan yn y Cyngherdd gan y Misses Williams, Diana Hughes, Ella Hughes, W. Jones, Cissie Jones, Messrs R. H. Davies, Dd. Jones, and E. E. Peake. Oafwyd detholiadau ar y delyn gan Mr. David Jones, Llangwm Cyfeilyddes Miss A. V. Jones, Tyddyn Ucha Cafwyd amryw gystadleuaetbau yn ystod y cyfarfod. Llywydd A Romer Wynn, Ysw, Rug, Gwasanaethwyd fel ysgrifenydd gan Mr. Middleton, Bryn Rug, Corwen. Priodas:—Yn nghapel y Pare ger Bala, gan y Parch. Wm. Jones, gweinidog, yn mhresenoldeb y cofrestrydd, Mr. J. P. Jones, priodwyd Mr. John Alfred Roberts, Llawr-y- Bettws, a Miss Ellen Jane Evans, merch hynaf Mr. a Mrs R. Evans, Argoed. Gwasanaethwyd fel gwas gan Mr. D. LI. Jones, Hengaer, cefnder y priodfab, ac fel morwyn gan Miss Evans, chwaer y briodferch. Ar ol y seremoni yn y Capel aed i'r Argoed, lie y mwynbawyd gwledd arddercbog gan y cwmni Iliosog. Cafwyd gair gan amryw wrth y bwrdd yn dy- muno yn dda i Mr. a Mrs Roberts, ac yn diolch i Mr. a Mrs Evans, am ddarparu mor helaeth a blasus ar eu cyfer. Ymadawodd y par ieuangc am eu mis mel i Ynys Manaw.

Advertising