Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
CYMANFA ANNIBYNWYR MEIRION.
CYMANFA ANNIBYNWYR MEIRION. Cynbaliwyd yr uchod yn Trawsfynydd, Mehefin lOfed, a'r 11 eg, 1914. Pwyllgorau am 10-30, ac 1 o'r gloch, a'r Gynhadledd am 2 o'r gloch, dydd Mercher. Mr. W. 0. Williams, Y.H, Corwen, yn y .gadair, dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. W. Foulkes, Corwen. Y Gymanfa y flwyddyn nesaf i'w chynal yn Esgairgeiliog.. Y Parch. Ivan T. Davies, Llandrillo i fod yn gadeirydd, ac ail etholwyd y trysorydd a'r ysgrifenydd, a hysbysodd yr ysgrifenydd y bydd yn ymddiswyddo yn y Gymanfa. Dewiswyd y Parchn. W. Pari Huws, B.D., J. Rhydwen Parry, Bethania, a W T Rowlands Y.Ef., Tanycoed, ar Gyngor yr Undeb Cymreig, a Mr. L. J. Davies, Llanuwchyllyn, ar Bwyll- gor y Caniedydd, a'r Parch. J. Hughes, Jerusalem, ar Bwyllgor y Gronfa. Hysbysodd Mr. Davies, fod Pwyllgor y Caniedydd yn myned yn mlaen g} d a' r gwaith o ddwyn allan argraffiad newydd o'r Caniedydd ac y bydd yn barod mor fuan ac y gellir. Ysbyttai. Galwyd sylw at adroddiad camarweinio] a ymddangosodd yn d diweli dar yn uo o bapurau Ffestiniog nad yw Anibynwyr Gogledd Cymro. yn cyfranu at Ysbyttai Lerpwl, tm y mae yr enwad yn Meirion yn danfon iddynt tua t50 yn flynyddol er's blyriyddau. t r t Adroddiad y Drysorfa Ganolog. Eu bod yn cymeradwyo yr amcan ogynal Cymanfa Gerddorol yn Mhafiliwn Corwen yn 1915, a'u bod yn cyflwyno y mater i ystyriaeth pwyllgorau cerddorol gwahanol Undebau Ysgolion Meirion. Diolchwyd i'r Cadeirydd am ei wasanaeth gwerthfawr yn y gadair yn ystod y flwyddyn. Hefyd cyflwvnwyd y diolcbgarwch mwyaf gwresog i'r cyfeillion yn Trawsfynydd am eu darpariadau helaeth ar gyfer y Gymanfa mewn gwahanol ffyrdd. Cafwyd croesaw gan bawl) yn ddiwahaniaeth. Moddion Cyhoeddus. Pregethwyd nos Fercher a dydd Iau gan y Parchn. H. Elvet Lewis, M.A., Llundain, J. J. Williams, Pentre, Ben Davies, Panteg, ac R. Gwylfa Roberts, Llanelli. Cafwyd hin ddy- munol a chynulliadau lluosog, a tbrefniadau rhagorol ar gyfer y Gymanfa. Nid oedd ball ar ffyddlondeb ac ymdrechion yr eglwys i wneyd y Gymanfa yu Ilwyddiant, a theimlwyd nerth ac awdurdod yr efengyl yn yr holl wyl. Mae Mr. Richards a phobl ei ofal yn ym- ddangos mewn cydgordiad hapus Hir y par- hao yr aoaddiifyn ar yr holl ogoniant.
Advertising
TO LET. November 1st, Bridge End SHOP & HOUSE, Cynwyd. Apply- Mrs. PARRY JONES, B d T I '1 be. Bryndwr, Church St., Llangollen.
EISTEDDFOD GADEIRIOL PENTRECELYN.
EISTEDDFOD GADEIRIOL PENTRECELYN. Cynhaliwyd yr uchod dydd Iau diweddaf yn Llysfasi Manor Pafiliwn, a throdd allan yn un o'r Eisteddfodau mwyaf llwyddianus a a gafwyd erioed. Llywyddwyd y gwahanol gyfarfodydd gan y boneddigion canlynol :-Boreu R. W. Brown, Ysw, The Garth, Oxton, Birkenhead; Prydnawn, W. Godfrey Lecomber, Ysw, Lynn, Sir Gaer. A ganlyn yw rhestr o enwau y prif fuddugwyr ar y gwabanol destynau:— Corau Plant 1, Coedpoeth, 2, Dinbych. Unawd i blant; 1, Ceinwen Jones, a Emlyn Hughes. Gwynfrvn. Adroddiad i rai dan 18 1. Corwena Jones, Glanrafon, Corwen. Un- awd Contralto, Miss M. R. Jones, Penmacbno. Ail gystadleuaath Corau MeibionS 1, Coedpoeth Canu gyda'r tanau 1, Mr. Idris Williams, Glandomwy, Gwyddelwern. Bara Ceirch, Mrs Vaughan, Bettws. Prif Draethawd, 1, Parch. Prys Owen, Rhewl. Unawd Tenor, R. Griffiths Clocaenog Unawd Baritone, John Foulkes, Rhes-y-cae, Wyddgrug, Prif Adroddiad, "Titanic" 1, 0. R. Jones, Penmachno. Corau Cymysg, 1, Wyddgrug. Her Unawd, Miss Sallie Roberts, Ruabon Deuawd, ], Tom Morris, Brymbo a John Foulkes, Rhesycae. Prif Gystad. Corau Meibion, 5 yn cystadlu, Llanfor, Stafford, Maelur, Ffynongroew, Brighton Excelsior. Wedi cystad. rhagorol dyfarnwyd Ffynongroew yn gyntaf, a Llanfor yn ail agos.
[No title]
Don't blame the Razor—it might be the Soap that is wrong, if the skin is inflamed after shaving. Try Rexall Shaving Soap, in stick, powder, or cream. Each are alike, absolutely pure, lather splendidly and soothe the skin. each at ELLIS EVANS, Chemist, Cor wen.
Advertising
SUMMER FASHIONS. ■ O. JL LLOYD Is now showing the latest and most desirable NOVELTIES, and invites early inspection. DRESS MATERIALS UNDERCLOTHING LINOLEUMS COSTUMES HOSIERY CARPETS JACKETS CORSETS & GLOVES IIEARTHRUGS FURS UMBRELLAS HOUSE LINENS BLOUSES GENT'S OUTFITTING ART SERGES A Unique Collection of ovelties in Millinery ■yvTVTTTTyyyfyyvTvTvvvfVfTfyvTTvyvvTfyffvvfyffffvy FEATURE. DR AKI G I..2!!ORTNT FEA2 Ladies may rely on both style and Pit; TAIL ORING-Ladies' Tailor-made Costumes a Speciality. New Stock of WALL-PAPERS .;s Ask for Pattern Book. Waterloo House, Corwen.