Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

BWRDD Y GWARCHEIDWAID, -CORWEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BWRDD Y GWARCHEIDWAID, CORWEN. Cynaliwyd yr uchod ddydd Gwener yn Ystafell y Bwrdd, o dan lywyddiaeth Mr. Mr. D. W. Roberts, Blaen Ial, Bryneglwys, y cadeirydd yr oedd hefyd yn bresenol Mr. E. P. Jones, Cileurych, yr is-gadeirydd Meistri R. James Jones, Primavera, Corwen T. Edwards, Glyndwr, Glyndyfrdwy W. Williams, Pandy, Corwen W. Roberts, Gwn- odl Bach, Cynwyd 0. A. Lloyd, T. Jones, R. M. Roberts, John Jones, John Hughes, E. H. Ellis, Thomas Davies, George aEvans, E. M. Edwards, Huw Roberts, Edward Evans Jones, Col. S. Parr-Lynes, Garthmeilio Miss Walker, Plas-yn-dre Dr. Horatio E. Walker; Edwin Derbyshire, (clerc), Lemuel Williams, (meistr) D. L. Jones a R. 0. Davies, rheidweinyddion. Cofnodion. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. Mewn Llaw £ 261 7s. 9c. Diolcbgarwch. Darllenwyd llythyrau oddiwrth Mr. George Evans, Tygwyn, Bryneglwys, a Mr. R. M. Roberts, Gwylfa, Corwen, yn diolch i'r Bwrdd am y cydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaetbau pa rai a achoswyd trwy marwolaeth perthynasau iddynt. Pwyllgor Cartref y Plant. Darllenwyd adroddiad y pwyllgor uchod gan Mr. R. Meyrick Roberts. Yr oedd Miss Walker wedi rhoddi bronze urn fel anrheg at gwasanaeth y cartref hefyd derbyniwyd fireguard oddiwrth Mrs. H. 0. Richard, Dolafon. Y mae y Bwrdd yn agored i dderbyn unrhyw anrheg. Pasiwyd pleidlais o ddiolch- garwch i Miss Walker a Mrs. Richard, am yr anrhegion. Talu lawn. Awgrymodd y Pwyllgor Adeiladu fod y Bwrdd yn talu y swm o £ 2 fel iawn am niwed a wnaed i gae berthynol i Mr. J. E. Thomas, Brynawen, Corwen. Pwyllgor Arianol. Darllenwyd adroddiad y pwyllgor uchod gan Col. Parr-Lynes. Ymddengys yr adrodd- iad fod y Bwrdd eisieu y swm oF,1800 i gyfar- fod a gofynion. Cynygiodd Col Parr-Lynes fod y Clerc yn ysgrifenu at y Treth-gasglwyr ac i bwyso arnynt am yr arian. Y Rheidweinyddion. Mr. D. L. Jones £ 22; Mr. R. 0. Davies £ 36. Adroddiad y Meistr. Nifer yn y Sefydliad yn ystod y pythefos diweddaf 59 nifer yno yr un adeg y llynead, 61. Nifer o grwydriaid cynorthwywyd yn ystod y pythefnos diweddaf 117, cynydd o 13 ar yr un adeg y llynedd Cwyn Rhoddwyd cwyn gerbron y Bwrdd gan y Meistr oherwydd prinder cyflenwad llaeth i'r Sefydliad. Yr oedd trigolion y Sefydliad wedi bod heb laeth i'w boreufwyd yn ystod r wyth- nos diweddaf oberwydd prinder y cyflenwad. Mr. Huw Roberts Beth sydd yn achosi y prinder yma Mr. Williams ? j Y Meistr Nid wyf yn gwybod Syr. Y Clerc Yn ystod y flwyddyn diweddaf cafwyd gan Mr. Maurice Hughes cyflenwad o 9,433 chwartiau o laeth Y mae y Meistr wedi roddi amcan-gyfrif o 10,200 chwartiau am y flwyddyn hon (o Mawrth 1914 byd Mawrth 1915). Pasiwyd fod y Clerc i anfon cwyn at Mr. Maurice Hughes, Glan Alwen. Holidays." Rhoddwyd caniatad i'r Meistr a'r Matron ynghyda'r Is-Fatron gael eu holidays." Gwnaeth Mri. D. L. Jones a R. 0. Davies, y rheidweinyddion, gais am holidays." Can- iatawyd y cais. Aelod Byddwch blant da (Chwerthin). Gor-wneud Dyledswyddau. Galwodd Dr. Walker sylw y Bwrdd at y ffaith fod aelod wedi roddi llythyr i ddyn i ddocl i'I ty. Nid oedd ganddo hawl i gwneud byn. Hefyd nid oedd gan y Meistr bawl i dderbyn y dyn i'r Sefydliad heb yr archeb priodol. Yr oedd bob amser yn ofynol i'r sawl oedd eisieu ddod i'r Sefydliad gael archeb oddiwrtb un o'r Rheidweinyddion. Yr oedd y cwbl wedi cael ei wneud mewn anwybodaetb, eto yr oedd yn gobeitbio na fydd i hyn gymeryd lie eto yn y dyfodol. Mr. R. J. Jones :—Yr wyf yn cynyg fod y Clerc yn ysgrifenu at yr aelod a ysgrifenodd y llytbyr hwn, ac yn ceryddu ef am orwneud ei ddyledswyddau. (Chwerthin).

Advertising