Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
IIGlanyrafon./
II Glanyrafon. Priodas; -Dydd Sadwrn diweddaf yn Nghapel y M. C. Glanrafon, Corwen, unwyd mewn glan briodas Miss Elizabeth Edwards, merch hynaf Mr. a Mrs Edwards, Tynyfron, Glanrafon, a Mr, Robert Williams, Tybrith, Gellifor, Rhuthin. Gwasanaethwr ar y priod- fab gan ei frawd Mr Allen Williams, ac ar y briodasferch gan Misses Jennie a Nellie Edwards (chwiorydd), treulir y mis mel yn Brymbo
Advertising
True Wisdom Lies in Buying" when Prices are Lowest. So why not buy your DRAPERY now.' Lloyd's GENUINE SALE Llo d GENELIEll n ll Amok, "????"?B? ON. .JBL.?BB '?t?a??? JBBLJtBL '?<??a??.?B?"?Nt  Every Bargain a Real One. Many Lines at Half-Price. BUY NOW AND SAVE MONEY. AN EARLY VISIT IS SOLICITED. Waterloo House, Corwen.
BWRDD Y GWARCHEIDWAID, CORWEN.
BWRDD Y GWARCHEIDWAID, CORWEN. Cynaliwyd Cyfarfod pythefnosol y Bwrdd, ddydd Gwener diweddaf yn Ystafell y Bwrdd, pryd yr oedd yr aelodau a ganlyn yn bresenol—Mr. D. W. Roberts (Cadeirydd), Mri R. Meyrick Roberts, R. J. Jones, Thomas Thomas, R. 0. Roberts, William Roberts, Thomas Williams, John Wynne, George Evans R. E. Pugh, David Jones, (Rhospengwern) J. Williams, John Roberts, William Williams J. D. Davies, Col. Parr Lynes, Mrs Richards a Miss Walker. Dr. Walker, Mri. E. Derbyshire (clerc), Lemuel Williams (meistr), D. L. Jones a R. 0. Davies (Rheidweinyddion), COFNODION.- Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y Cyfarfod diweddaf. ARIANOL. Mewn llaw £ 536 0 7. GOHEBIAETH. Darllenwyd llythyr oddiwrth Dr. Walker, yn diolch i'r Bwrdd am y cydymdeimlad a ddangoswyd tuagato ef, a'i fam a'i chwaer yn eu profedigaeth lem. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Bwrdd Llyw- odraeth Lleol yn gofyn i'r Bwrdd Gwarcheid- waid gyd-weithredu gyda'r pwyllgorau lleol sydd yn rhoddi cynnorthwy i deuluoedd y rhai sydd wedi myned allan i'r rhyfel. Hefyd yn erfyn am i'r Gwarcheidwaid roddi rhestr o'r rhai sydd yn derbyn tal-allanol i'r pwyllgorau lleol. Pasiwyd i gydweithredu gyda'r pwyllgorau Ileol. Darllenwyd llythyr arall oddiwrth y Bwrdd Llywodraeth Leol yn gofyn i'r Clerc roddi hysbysrwydd gyda'r rhestr o'r gweithfaoedd sydd yn cael eu cau oherwydd prinder gwaith achosir gan y Rhyfel. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Registrar Cyffredinor yn gofyn i'r Gwarcheid waid symud y Swyddfa lie y gweinyddir Priodasau oddi- wrth y Sefydliad yn N gborwen, ac i adeiladu swyddfa arbenig ar wahan i'r sefydliad, i'r perwyl hyny Gadawyd y llythyr ar y Bwrdd. Darllenwyd adroddiad gyflawn o Gynhad- ledd y Gwarcheidwaid, a gynhaliwyd yn Llan- drindod mis diweddaf ynglyn a'r King Edward VII. Memorial gan Mr. Thomas Thomas. Ategwyd gan Mr. R. J. Jones. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Mr. Thomas am ei adroddiad. Pwyllgor Arianol. Darllenwyd adroddiad y Pwyllgor Arianol gan Col. S. Parr-Lynes. Adroddiad Pwyllgor y Sefydliad. Darllenwyd adroddiad y Pwyllgor uchod gan Mr. Thomas Thomas. Talwyd ymweliad a'r Cartref Newydd a chafwyd fodpobpethyn Jaa a ddestlus. Yr oedd y plant yn edrych yn hardd iawn, ac ymddengys fod yn medd- iant bob un o honynt money-box gydag arian ynddo. Hefyd yr oedd y plant yn cael mwynhad trwy gweithio yn yr ardd. Yr oedd yna saith o bersonau wedi do'd i'r Sefydliad yn ystod y pythefnos diweddaf. Nifer y grwydriaid cynorthwywyd yn ystod y pythefnos ydoedd 94, cynydd o 30 ar yr adeg cyferbyniol y llynedd. Nifer yn y Sefydliad 55, lleihad o 9 ar yr un, adeg y llynedd. Caniatawyd i'r Meistr brynu 4 o foch bach. Mabwysiadwyd yr adroddiadau gan y Bwrdd. 11 Y Rheidweinyddion. Pasiwyd i'r Rheidweinyddion gael yr arian isod er gynorthwyo y tlodion allanol :—Mr. D. L. Jones, Corwen, Y,22 Mr. R. 0. Davies, Llangollen, IC31. + \>