Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Llanelidan.

EISTEDDFOD MEIRION. I

1■■w— Yr Eisteddfod Genhedlaethol.

FFERMWYR DYFFRYN ,CLWYD IA'R…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FFERMWYR DYFFRYN CLWYD A'R CYNHAUAF. I SANATORIUM LLANGWYFAN. I Mewn canlyniad i doriad allan y Rhyfel, a'r ffaith fod nifer liosog o wyr ieuaingc a chanol oed wedi eu galw i ymuno a'r Fyddin Diriog- aethol, bydd prinder dynion i weithio yn y cynbauaf, ac y mae rhai amaethwyr eisoes mewn anhawsder dirfawr o herwydd hyn, yn enwedig felly yn Nyffryn Clwyd, cwmmwd eang sydd bron oil yn dir amaethyddo]. Gyda'r amcan o gynnorthwyo yn y mater, darfu i Mr. W. G. Rigby, Pentremawr, Llandyrnog, gyda chefnogieth Mr. D. S Davies, Plas Castell, Dinbych, awgrymu'r priodoldeb fod rhai o'r gweithwyr a gyii. gir ynglyn a'r Sanatorium newydd agodir ar ystad Plas Llangwyfan yn cael eu rhyddhau oddi wrth eu gorchwylion yiio, i'w galluogi i fyned am dair wythnosneu fid i'r cyiihauaf yn y rhanbaith cylchynol. Ysgrifenodd Mr. Davies at Mr. Taliesyn Rees, y Pensaer (architect) i'r perwyl hwuw. Bu Mr. Rees mewn ymgynghoriad a'r contractor, Mr. Merritt, Birkenhead, a chytunodd y-aiau yn .rhwydd a-r awgrymiad. Dyd(i Linn yr oedd Mr. Merritt yn Llangwyfan, a chydsyniodd ar unwaith i osod ugain o'i weitliwyr — o ddentu haner nifer y llafurwyr a gydu-ir ganddo yno at wasanaeth yr amaethwyr. Teimlir yn dra diolchgar i Mr. Merritt am ei hynawsedd, ac os ca'r llafurwyr gyflog cyi'artal, mae'n ddiau eu bod yn ewyllysgar i roddi eu gwasanaeth yn y cynbauaf. Dichon y bydd i eraill o gyflog- wyr llafur ddilyn esiampl ragor(,l Mr. Merritt.

Advertising