Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

PARHAD Y RHYFEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PARHAD Y RHYFEL. Y cwestiwn sydd yn cael ei ofyn o ddechreu- ad'y Rhyfel ydyw "Pa hfd y parh-t" ac y mae y prophwydoliaethau sydd yn cael eu rhoddi mewn atteblad iddo yn ddirifedi. Dywed Mr. Winston Churchill, y bydd yn rhaid i'r rhyfel barhau hyd nes y bydd ysbryd milwriaethol Germani wedi ei ddryllio yn deilchion, ond dywed Ymerawdwr Germany y bydd iddo barhau hyd nes y bydd y dyn olaf yn ei ym' erodraeth wedi ei ladd neu ei glwyfo. Pe buasai attebiad i'r cwestiwn yn dibynu ar y naill neu y Hall o'r gosodiadau a nodwyd byddai yn arswydus i geisio dychmygu am derfyniad ir galanastra ofnadwy; end y mae elfenau pwysicach a mwy sicr na gosodiadau dynion, pa mor fawr bynag fyddo eu haw- durdod a'u safle, fydd yn penderfynu oes y frwydr. Kid ar nifer y lladdedigion yn unig y bydd parhad y rhyfel bresenol yn dibynu, ond yn flaenaf a phenaf ar adnoddau materol mewn cyfoeth, ymborth a masnach. Os cymherir manteision y ddwy ochr yn y pethau uchod i ystyriaeth mae pob amheu- aeth yn diflanu o berthynas i ba un yn y diwedd a gaiff oruchafiaeth. Cymerer er eagraifft fasnach Prydain nid yw ein hadnoddau yn y wlad hon wedi dirywio dim o'r bron yn y pethau sydd yn wir anghenrheidiol er cynhaliaeth, bywyd a hyr- wyddiant ein masnach. Mae yn wir fod ein masnach dramorol y mis diweddaf yn llai na'r mis cyferbyniol y flwyddyn gynt, ond yr oedd y flwyddyn ddiweddaf a'r ddwy flaenorol yn eithriadol yn hanes ein gwlad. Os cydmerir ein masnach dramorol am y mis diweddaf dyweder gyda'r mis cyferbyniol yn 1900, yr hon oedd yn flwyddyn tra lwyddianus, yr oedd ein masnach yn uwch y mis diweddaf ac y mae pob rhagolygon y bydd i'n masnach gynyddu yn fwy fwy. Y mae gweithfeudd yn ein gwlad ar y cyfan yn dda iawn, y mae ein llongau yn tramwyo y moroedd yn ddidor, y mae ein hymborth yn rhad gydmbarol a chvflawnder ohono, ac yr ydym yn adeiladu mwyolongau rhyfel a masnachol nac erioed. Os edrychwn i Germani cawn betbau i'r gwrthwyneb. Yr o-dd hi yn arfer derbyn o wledydd eraill cyn y rhyfel, gwerth tri chan miliwn o bunau yn y flwyddyn o nwyddau oedd yn anghenrheidiol i'w bodolaeth, ond yn awr mae attalfa ar bron yr oil o hono gan na feiddia nofio ei llongau, ac felly beth all fod cyflwr ei phoblogaeth sydd yn rhifo cydrhwng gwyr, gwragedd a phlant yn ages i 68,000,000 Mac Germaui o ddydd i ddydd yn myned yn dylotach. Y mae haner ei heniliwyr yn ymladd ac allan o waith. Gwelwn oddiwrth y ffigyrau hyn mae gyda Germani fod parhad y rhyfel yn gwestiwn o amser, ac fel y dywedodd Iarll Kitchener y mae nid yn unig ei hadnoddau yn lleihau ond ei milwyr yn lleihau o ddydd i ddydd tra y mae ein hadiioddau a'n milwyr ni ar faes y frwydr yn cynyddu a'n byddinoedd yn cael eu had- gyfnerthu o ddydd y ddydd. Os y ca Kitchener y nifer anghenrheidiol o filwyr, ac y mae yn ddiameu y myn eu cael trwy wirfodd neu orfodaeth, meiddiwn bro- ffwydo y bydd asgwrn cefn Germani wedi ei dori cyn pen chwe mis o amser.

BEGINNING OF THE END.'

CORWEN. I

CARROG.I

L LANDRILLO. I

Advertising