Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
Church and Chapel Services.
Church and Chapel Services. (Will the PastoR or Secretaries of Churches please send in their corrections as early as possible each week.—ED.] AMMANFORD. All Saints' Church.-Holy Communion, 8 a.m.; Matins and Sermon, 11 a.m.; Even- song, 6 p.m., every Sunday except the second. Second Sunday in the month: Holy Communion, 8 a.m.; Children' s Service, 10 a.m.; Choral Eucharist, 11 a.m.; Evensong, 6 p.m. St. David's Church.- I I a.m.. Holy Com- munion first Sunday in each month (English) II a.m., last Sunday in each month (Welsh). 11a a.m., Matins; 6 p.m., Evensong. St. Michael's Church.—8 a.m.. Holy Com- munion (first Sunday in month) 10.30 a.m., Holy Communion (first Sunday in month) 10.30 a.m., Matins; 6 p.m., Evensong. Christian Temple (W.C.) .-Moming, 10.30. Evening, 6. Preacher, Rev. D. Tegfan Davies, pastor. Gwynfryn (W.C.) .-Moming, 10.30. Evening, 6. Preacher, Rev. Geo. Evans, Merthyr. Ebenezer (W.B.).-Moming, 10.30. Even- ing, 6. Preacher, Rev. J. Griffiths, B.A., B.D., pastor. Bethany (C.M.).-Momini, 10.30. Even- ing, 6. Preacher, Rev. Nantlais Williams, pastor. M om i ng, I]. Even- Talbot Road (E.C.) .-Morning, 11. Even- ing, 6. Preacher, Rev. D. E. Harris, pastor. TIRYDAIL. Welsh Wesleyan. Morning, 10.30 Evening, 6. Preacher, Rev. H. R. Owen, pastor. LLANDILO. Ebenezer (W.B.). Morning, 10.30. School. 2.15. Evening, 6. Preacher, Rev. G. E. Williams, pastor. Salem, New Road (C.M.) .-Moming, 10.30. Evening, 6. Preacher, Rev. Lloyd, Cwmystwyth. CROSS HANDS. Tabernacle (W.C .) .—Morning, 10.30. Evening, 6 Preacher. Rev. D. Harford Evans, pastor. Tabor (W.B.).-Mommg, 10.30. Even ins. 6 Preacher, Rev. B. O. James. pastor BRYNAMMAN. Hermon (W.C.) .—Morning, 10.30. Even- ing, 6. Preacher, Rev. Alfa Richards, Clydach.
Advertising
— EVERY WONA M lghould send 2 for our 32 page Mustmted Book I mta= Val e tion how aU Irregulantieis ? Mtd SnppteeNOM may be entirely avoided or removed B 2 bymmpieBMMM. Recommended byemimentPhyatciMM ? M the only Safe, Sure and Genuine Remedy. Never H N  ThoaaMda of Teetimomab. EBt?biMhed 1862 M ?P.MANCBARD,??"Da!stOB.iaBe, London t
AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.
AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL. Ysgri/aa, Barddoniaeth, Nodion, Hanesion, a Gohebiaethau i'w hanfon cyn GYNTED YN YR WYTHNOS ag y buddo modd i'r GOLYGYBD, CRONICL DYFFRYN AMAN," AMANFORD.
[No title]
[Er ein bod yn rhoddi pob cyfleustra i ohebwyr ddatgan eu bam ar gwestiynau lleol, nid ydyw hynny i olygu ein bod yn cydsynio S' u daliadau.GOL.]
O'R GADAIR WELLT.
O'R GADAIR WELLT. [Gan IOLO CAERFYRDDIN.] I OWEN DAFYDD. I (Parhad). I Dyn rhyfedd ydoedd o ran corff a medchvl, a digwyddodd liawer tro trwstan yn ei hanes. Dywedir fod ei ddwylo ar yr un llinyn, a phan fuasai un yn gwneuthur rhywbeth, buasai' r Hall yn gwatwar. Llawer sydd yn gwneuthur ystumiau gwrthun wrth eillio, a thebyg fod yr hen brydydd yn frenin arnynt ar y gorchwyl anodd. Nid oedd angen drych arno i weled ei gemau, canys ym rrin yr hwyr, ger y pentan, ¡'i lygaid yng nghau, ac un law yn defnyddio'r ellyn, a'r lIaIl yn gwatwar. Dyna'i ffordd ef i eillio'i farf, a phe buasai yn defnydldio dwy ellyn yr un pryd, efe fuasai'r eilliwr j rhyfeddaf a' r cyflymaf. Nis gallasai droi ei ben i edrych drach ei gefn, heb droi ei holl gorff, fel pe yn myned i ymosod ar rywun y tu of. Bu gyda r fyddin, ac amrywiol yw'r ystoriau am dano. Cafodd ei wneuthur yn training sergeant pan gyda Militia Sir Gaei- fyrddin, !le y bu am bedair neu bum mlynedd. Hanes arall ddywed i filitariaeth fethu gwneuthur milwr ohonc. oherwydd ei fod yn cau ei lygaid wrth saethu, ac iddynt ei ddan- fon adref o Dublin i Gwmgrenig, rhag iddo saethu rhai o'i gyd-filwyr. Am- ddifadwyd ef o'r gelfyddyd dlos i wincio ar rianedd; serch hynny, cafodd ei "choice" yn gymhar bywyd Iddo. Gwedi chwilio llyfrau Eglwysi y Dyffryn, a llyfrau Egiwysi y parthau cyichynno!, daethpwyd ar draws hanes ei bnodas ar lyfr Eglwys Llandybie, sydd fel y canlyn: Owen Watkin, of this Parish, Batchelor, and Joyce Williams, of this Parish, Spinster, were married in this Church by banns, the 21st day of November, 1783, by me, Joseph Williams, Vicar. Between us, Owen Watkin, the mark X of Joyce Williams, in the presence of Rees Rees, Owen Owen. Mae hanes y briodas uchod yn wers i briod- asau swyddogol a datodol y dyddiau hyn. Amgylchiad pwysig oedd y briodas gan ein tadau, a rhaid oedd clymu y cwlwm sanctaidd mewn Lian neu Gapel. Heddyw, ni wyr rhai rhieni am ysbaid fod un o'r teulu'n briod, er cywilydd iddynt y dywedaf hyn. Aelod gyda' r Annibynwyr oedd Owen Dafydd, yrt gredwr cryf yn John Calfin, ac yn bleidiwr mawr i'r hen athrawiaeth uniongred. Yr oedd yn elyn i'r Undodiaid, neu fel y gelwid hwynt ganddo, y Dwyfundodiaid. Ei bechod parod oedd yfed llymed ar y mwyaf weithiau. Chwarae teg iddo, peidiwn a'i feio'n galed; mae pethau gwaeth na llyncu yn digwydd heddyw. Gwell gennyf gael fy Ilyncu o fodol- aeth, na chael fy nghnoi beunydd gan fytheuaid sy' n- cyfarth gyda chrefydd yr addfwyn Oen Diau mai gwen- did mwyaf y tadau oedd y dablen, ond cofier nad oedd Merched y De, a Chymdeithasau Dirwestol eraill, mewn bcdolaeth yn eu hamser hwy. Dywed- odd Twm o'r Nant unwaith— Y Brandy Coch godymodd gant, Rhodd godwm teg i Twm o' r Nant." Nid pawb fedr gyffesu, er fod ambell godwm yn help a bendith pan byddo'r I traed yn pwyntio'r ser, yn hytrach na'r dwylo. Bu Owen-Dafydd gledd yng nghledd â. r Sosiniaid dros gydol ei oes, fel y dengys ei ganiadau, megis y bu Bardd y Nant efo'r Personiaid. Cawn hanes am yr hen Felinydd yn feddw mewn priodas yn Gwjidwngwyn (cartref fy hynafiaid), lie y cafodd ei gyfarch gan rhyw Sosin a' r triban can- lynol Mae'r M'linydd lawn mor laned A neb o'r Calfinistiaid; Ond peidied ef a meddwi mwy Y mhlith y Dwyf undodiaid." Atebodd y Melinydd ef yn union fel hyn:- Ti ddwedaist imi feddwi, 'Rwy'n addef hynny 'nawr, Ond, rhyfedd gwnaethum sobri 'Nol cysgu pedair awr Achubwyd Lot er meddwi, Mae heddyw yn y nef, Heb neb yn beiddio dannod Ei fedd-dod iddo ef; Achubwyd ddim o Judas, Mae'r Beibl gen i.n dyst,- Achubir neb o' r rheiny Sy' n gwadu Duwdod Crist." Clywais ddyn ieuanc unwarth yn ei fedd-dod yn dyfynnu y jjennill uchod rel adnod, meddiai et, yn amddiftymad I i'w gyflwr. Mae hwnnw heddyw yn ddyn blaenllaw a defnyddiol lawn i gydag un o enwadau y Cwm. Os oedd Owen yn tueddu gormod at y cwpan, dylem gadw mewn cof ei ddiniweidrwydd a'i ysbryd crefyddol. Nid dyn ofer a meddw, allasai gyfan- soddi fel hyn i Amynedd Crist":— Mi ryfeddais fil o weithiau, A rhyfeddu 'rwyf o hyd, Fod amynedd Iesu' n para I fy niodde'i bechu cyd; Pechu wnes yn erbyn goleu, Pechu wnes yn erbyn gras. Ond peth rhyfedd fod amynedd Iesu, heb ei threulio ma's." Eto ar "Feithder T ragwyddoldeb Tai'r niwl sydd yn y moroedd A'r gwreichion sy' n y tan, Ynghyd a llwch y ddiaear, A'r holl ronynau man; A'u dyblu ar ol eu treblu 'N fi lynnau maith a mwy; 'Nol hyn fydd tragwyddoldeb, Na byrrach nac yn hwy." Peidied neb a chasglu anwireddau, a dywedyd mai meddwyn ydoedd. Na, dyn da a duwiol oedd hen brydydd y Cwm, yn treulio liawer o'i amser mewn myfyrdod sanctaidd. Tebyg i'w felin fod yn gysegr bychan iddo a'i gyfeillion lawer tro. Cyfaichodd gyfaill un- waith fel hyn:- Dere i dy'r Odyn i eistedd lawr, A gad i aWT fynd heibio, I son am dragwyddoldeb maith A pheth yw'r gwaith wneir yno." Tua r Hen Fethel, wrth odre r Mynydd Du, y mynchai foddion gras, ac yno y bu dan ddisgyblaeth eglwysig unwaith. Yr oedd ei gyhuddwyr am ei ddiarddel, tra y dadleuai ef fod ei gyhuddwyr yn euog o'r un trosedd, a chanodd iddynt:— Caiff un i fynd i'r nefoedd A'r llall i fynd i'r llyn, Am wneud yr un pechodau,- Peth rhyfedd iawn yw hyn." Ffaldiwyd ei gaseg fach, a chodwyd coron am hynny gan gymdogion iddo o'r enw Siams a Gwenni:- Siams a Gwenni haeddai'u cosbi, Yn eithaf dyfal, nes eu dofi, Am gadw'r gaseg druan, wan, Nes hanner ei newynu. I Bethel -af ar f eitha, Gofynnaf i'r gyn .lleidfa, Oes coron gyfiawn i tigael, Am dir mor wael ei borfa; Cymdogion penrhydd ydynt beunydd, Ac o nodwedd rhai anedwydd, Mi ddymunwn bod nhw'n mhell Gael dynion gwell eu defnydd." Galwai y Parch. D. Saunders, gweinidog enwog gyda'r Bedwyddwyr ym Merthyr, pan fuasai yn pregethu yn y gymdogaeth, yn ami yn y felin gyda'r melinydd. Hoff oeddyn-t- o'u gilydd, a dadleuent yn fynych, yn enwedig ar Fedydd, fel y dengys y triban:— Pe bawn i ddim ond gwybod Fod dwr yn golchi pechod, Mi awn i Aman pan bo'n IIi, Fe 'molchwn dri diwrnod." Druan ohono, fe g<\fodd fedydd trochiad pan y cwympodd i bwll y rhod, o'r lie y methodd ddyfod i fyny heb gymorth, a dywedodd:— Fod lie i'r damnedigion, Nis gwn i ddim ym mhle; Ond os mai mhyllau rhodau, Ofnadwy fydd y lie." (IP w barhau).
Advertising
Danfonir y Cronicl yn wythnosol trwy y Llythyrdy i unrhyw gyfeiriad am 3/3 yr haner blwyddyn. oeu 6/6 y flwyddyn, blaendal. • •
Nodion o'r Blaenau a Chaerbryn.…
Nodion o'r Blaenau a Chaerbryn. Mae Glofa Caerbryn wedi gweithio yn dda yn ystod y mis dinveddaf, ac hydbrwn y cawn ei weled yn parhau felly. Blin gennym clywed fod Mrs. Roberts, Bryneirin, Blaenau, wedi gorfod mynd i'r Ysbyty, Abertawe. Gobeithio y daw yn ol yn fuan, ac yn holl iach. Dydd Sadwm diweddaf, yn Llan- dilo, unwyd Mr. David E. Morgan, Caerbryn, a Miss Sarah Evans, Peny- groes, mewn glan briodas. Hir oes a dedwyddwch i' r ddau ieuanc yn eu byd newydd.
Nodion o Benygroes.
Nodion o Benygroes. Dydd Sadwrn, yn Llandilo, unwyd mewn glan briodas, Miss S. Rees, Penygroes, a Mr. D. Morgan, Caer- bryn Terrace. Mae'r ddeuddyn lion yn adnabyddus iawn yn y He. Unaf gyda'r atdalvvy-r i ddymuno hir oes a phriodas dda iddynt.. Oddeutu pump o'r gloch, bore Sadwrn, pan oedd P.S. Beynon ar ei dro drwy' r lie, sylwodd fod un o ddrysau siop fawr Mr. Lewis Thomas yn agored. Cymerodd fenthyg llusern dyn oedd yn digwydd pasio i'w waith. Chwiliodd1 yradeilad yn llwyr, ond ni ddaeth o hyd i neb yno, ac yr oedd y nwyddau yn eu lie yn drefnus. Tebyg fod yna lawer ar Benygroes yn flin na fuasent yn gwybod am y drws agored, a siwgr mor brin. Efallai fod eu hanwybodaeth wedi talu iddynt, oherwydd pe baent wedi cyfarfod P.S. Beynon a' u hysbail gyda hwy, cawsent brofi fod y siwgr yn fwy hallt na' r un halen welsant erioed. Prynhawn dydd Mawrth cyn y di- weddaf, ynghanol arwyddion cyffred- inol o alar, rhoddwyd i orffwys yr hyn oedd farwol o'r milwr ieuanc, Priv. Stewart Bowen, yng nghladdfa Bethel (M.C.), Rhosmaen, Llandilo. Yr oedd vr vmadawediier wedi bad all an -c yn ymladd brwydrau ei wlad am bym- theg mis yn Ffrainc a Salonica. Daeth trwy y tan heb niwed, ond fe gafodd dwymyn. Gwellhaodd oddiwrth honno ymhen ychydig ar ol dod i' r wlad hon; a phan yn ail barotoi i fynd allan, cymerwyd ef yn glaf drachefn, a bu farw mewn ysbyty yn Lerpwl. Cyn iddo ymuno a' r Fyddin, gweithiai yng Nglofa'r Emlyn. Yr oedd yn barchus iawn ym Mhenygroes, ac yn un o aelodau' r Seindorf. Y r oedd y Sein- dorf a nifer luosog o'r ardalwyr fyny yn yr angladd. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. D. P. Rhydderch, Llandilo; yn y capel gan y Parch. D. I Williams (M.C.), Llandilo, Parch. B. Ellis Jones, B.A., Bettws, a'r Parch. R. Thomas, Penygroes; ac ar Ian y bedd gan y Parch. Davies (B.), Llandilo. Chwaraeodd y Sein- dorf y don, Aberystwyth," ger y tý, cyn i' r angladd gj'chwyn, a' r Dead March ar y ffordd i'r gladdfa. Chwaraeodd hefyd y don, Tanymarian," cyn i' r dorf wasgaru o Ian y bedd. Y mae cydymdeimJad yr ardal yn Uifo allan at y perthynasau yn eu gal ar a' u tristwch. WIL HOPCYN. I
ILLANDEBIE. I
LLANDEBIE. I PrynhaWn dydd Mawrth diweddaf, claiddwyd gweddillion marwol y brawd addfwyn, Owen P. Thomas, mab i Mr. a Mrs. Thomas, Tirydail, Aman- ford, mewn canlyniad i'r angeuol ddamwain a ddaeth mor sydyn i' w gyfarfod yng Nglofa'r Pencae, Llan- debie. Cymerwyd rhan yn y gwasan- aeth angladdol gan y gweinidogion canlynol. Y r oedd yr boll drefn o dan arweiniad y Parch. P. Evans (M.C.), Llandebie. Yn y ty darllen- wyd rhan o'r Gair Ysbrydoledig gan y Parch. D. C. Morgan, Penygroes, ac offrymwyd y weddi gan y Parch. P. Evans (M.C.), Canwyd pennill adnabyddus cyn cychwyn am y Capel M.C. Gwasanaethwyd yno mewn darllen a gweddio gan y Parch. Crwys Evans (A.), Llandebie, yn etfeithiol a thoddlaidd. Wedi hynny, siaradwyd gan y Parch. Wm. Jones Williams, Penygroes, i'r perwyl, yn alluog a medrus. Hysbysir i ni fod yn y gweinidog ieuanc hwn alluoedd cyhoeddus arbennig. Wedi hynny, gan y Parch. Nantlais Williams I (M.C.), Amanford, fel arfer, yn afaelgar a byw. Gwnaeth hefyd nodi ad am frawd yr ymadawedig, sef y Parch. Exley Thomas, cenhadwr. nes y teimlodd pawb. Canwyd amryw emynau drwy' r gwasanaeth yn y cysegr yn effeithiol. Wedi hynny, awd i'r hen fan annwyl a chysegrcd'g i gannoedd, Mynwent Llandebie, lie y goscdwyd ei weddillion annwyl i orffwys yng nghwydd cannoedd o dystion a dystient ei fod yn annwyl ganddynt. Gweddiwyd ar Ian y bedd gan y Parch. T. Davies (B.), Ltan- debie, yn erfyniol dros ei gydweith- wyr a' r ardal. Terfynwyd' drwy ganu emyn adnabyddus. Heddwch i'w lwch annwyl. I CYFAILL.
AMMAN VALLEY CHRONICLE.I
AMMAN VALLEY CHRONICLE. I Yr Aman Valley rwymaf-yn gryno, A'i groniclo fyfyriaf; Yr wythnosolyn gwynaf Ei ddawn a gwers i ddyn gaf. LLWYD Y BERTH. Y.M.C.A., AMANFORD. I I'r Y.M.C.A. yr af-lin nodded Y lenyddiaeth letaf; Hanes y byd i gyd gaf Gan nawsedd hin gynhesaf. LLWYD Y BERTH. I
IPENILLiON LLONGYF ARCHIADOL…
PENILLiON LLONGYF ARCHIADOL I I Mr. Willie Davies, Ty'nywern, Glanaman, a Miss Bessie Jones, Bryngrenig, Glanaman, ar eu huniad mewn glan briodas, dydd Sadwrn diweddaf, Chwefror 24, yn Eglwys y Garnant. Mae'r byd yn llawn o gyffro! Mae'r Gwanwyn yn y coed, A'r ednod man mor fyw eu can A chlywyd hwy erioed. Mae acen serch yn trydar, A'i chyfrin fel y gwm, I'r galon friw, sy'n chwennych byw Yng nghwmni'r bur a'r beirnaidd ryw, I r1.ATlin am pi fun • A chlust y wlad yn gwrandaw Mae ambell goeg mympwyol Heb wybod beth yw serch, Na phrofi gwin gwefusau mun- Yn gaeth i ragfarn erch. Nid felly Willie Davies, Mae heulwen dyner serch Yn dangos haf, a blodau braf Yn tyfu yn ei galon glaf Am rwymo bys y ferch, A bod yn gymar iddo. Dwy galon sydd yn curo, Ac eilio bob yn ail, Mewn iaith ddiball y naill i' r llall- Mai cariad yw eu sail. Ond os daw ambell gwmwl I hongian braidd yn hir Uwchben eich cell, daw amser gwell I daflu cysgod hwn ym mhell, A haf i doi y tir, A bendith lond ei chol. Cynydded rhagoraeth au, Ym mywyd naill i'r llall, A'r ceinder mwyn fu' n denu swyn Eich gilydd mor ddiball; Ac os daw engyl Eden I gyfoethogi'ch byd, Melysach dant eich bywyd gant- Ac emyn moliant ar eich mant, Wrth ganu can y cryd; A'ch bywyd chwithau'n glasu. Wei, bendith ar eich uniad, Dan wenau tirion ffawd, I wisgo' ch oes a blodau moes Wrth gerdded ar eich rhawd. Ym mhell fo drain gofidiau Sy 'n peri loesau prudd, Boed Duw yn nerth air riwiau serth- I wneud eich bywyd chwi o werth, A' ch gwyneb at y dydd, A'ch gwyneb at y dydd. T anytwyn G JOHN REES. J Tanyfwyn, amanf.. I
Advertising
OS YDYCH YN DIODDEF oddiwrth Annwyd yn eich Pen, neu Gatar yn eich Ffroenau, neu oddiwrth yr Anwydwst, neu Dwymyn y Gwair, y peth goreu posibl i chwi yw NOSTROLINE." Y mae'n lladd yr achos o honynt yn IIwyr, ac yn clirio'r pen a'r ffroenau a'r gwddf yn well na'r holl gyffyriau eraill a gynhygir i chwi. Dylai NOSTROLINE fod wrth law ymhob cartref. Meddyginiaeth ryfeddol ydyw i atal annwyd neu ei wella. Feoi ceir oddi- wrth Fferyllwyr am 1/3 a 3/ neu drwy'r post am 1/5 a 3/37 oddiwrth y perchenogion, Harold E. Matthews a'i Gwmtai,. Fferyllwyr, Clifton, Bryste.
LLONGYFARCHIAD I
LLONGYFARCHIAD I I Gymrodorion T ycroes ar nos Gwyl Dewi Sant. Wen angyles gynnes, gu, Yn oerni du y gaeaf, Ydwyt ti, Gymdieithas Ion 0 Gvmrodorion ceinaf. Atgyfodi Dewi Sant I'w bl ant, yw'th ddawn ragoraf. Ar dy glin mae Cymru Fu Yn mynnu anfarwoldeb; Heriant y ca iaith eu gwlad Bairhad am dragwyddoldeb, Gan gofleidio Cymru Sydd Mewn dedwydd newydd undeb. Telvnogion gwerin gwlad Hen Gymru fad ddaw heibio; Sisial wnant alawon mwyn Yn llawn o swyn wrth seinio. Cedwir hwy mewn rhwysg a bri Tra Gwili yn eu gwylio. Ceiriog ganodd ger dy fron Ei gerddi lion, diddarfod; Alun Mabon" fyth ga fyw, Nid ydyw yn ei feddrod; Ond bugeilia yn barhaus, Tra "Nantlais" mewn cyweirnod. Ar dy fynwes lydan, won, Ben Bowen a freuddwydia; Gwelodd Walia Dewi Sant Y n mhlant gwerinos Gwalia. Cludwyd grawnwin melys, rhad, Ei wlad gan "Roberts, Pisgah." Hen feddrodau' r cewri gynt Awd atynt gydag Eurof Dros dy ysgwydd tremio nol Yn siriol bum trwy atgof. Hen broffwydi calin ein sir Gyfodir o dir anghof. Ar dy fron mewn bythol fri Boed gwyrddni y geninen;" Rho ddelfrydau pur dy Sant Ar dant dy delyn addien, I gyniwair drwy y fro, Gan suo cerddi Eden. Wen angyles gynnes, gu, Wyt ti. A dyna' n byrdwn- Gweina eto flwyddi maith I loywi'r iaith a garwn. Yn Nhycroes, ar Wyl dy Sant, Dy foliant a fynegwn. h- Ty"oeo. D. B. LEWIS. i
DYDD GWYL DEWI. I
DYDD GWYL DEWI. I Diolch gwnawn am Ddydd Gwyl Dewi, Cadwn hwn er mwyn ein plant; Dysgwn hwy i garu Cymru F eI gwnaeth ein delfrydol Sant. Codwn y banerau fyny Yn y dyffryn, ar y bryn; Ac ymroddwn gydagegni Godi'n plant i'w lwybrau gwyn. Canwn hen alawon Cymru Ar y tannau, ac ar fant; Cadwn galon lan j'w canu, Fel y purwyn Dewi Sant. Fe fu Cymru o dan orchudd 0 dy wyl lwch du a brad, Ac yn marw yn ei chystudd, Wedi colli gwyneb tad. Dewi wylai mewn anhunedd, Lleithioii oedd ei ruddiau tlos Wrth weld Cymru yn ei llygredd Bron a marw yn y nos. Cododd Dewi, deff-rodd Cymru, Galwodd hi i lwybrau glan; Dysgodd hi i felys ganu, Nes daeth Cymru'n wlad y gan. Darostyngodd Iu o fryniau, Cododd lawer pantle maWT, A gwasgarodd y cysgodau Rhyngddli oedd a tKoriad gwawr. Dysgodd hi i ddringo' r bryniau I gyfeiriad nefol wlad; Hauodd hadau diwygiadau Ddygodd iddi ei rhyddhad. Os yw Dcwi heno'u huno, Os cuddiedig yw ei fedd, Mae ei blant yn brysur effro Gyda u II aw ar garn y cledd, Nid y cleddyf gwaedlyd hwnnw Sydd yn difa blodau'n oes, Ond cledd dysg yr Hwn fu farw Dros bechadur ar y groes. Cofiwn barchu rhai fel Dewi, Sydd yn deilwng o goffhad; Rhai fu yn y nos yn gwaedu Dros eu hannwyl Walia fad. Er fod Dewi wedi'i gladdu, Gwyrdd o hyd yw llwybrau'r Sant; Dros y cyfryw, dringo i fyny Yn arwrol mae ei blant. J. W. JONEs. ,Tu)yn, Garnant. PENILLION Ar farwolaeth y milwr ieuanc, Priv. Stewart Bowen, gynt o Faesyderi, Penygroes. Bu farw Chwefror 15, 1917. Claddwyd ei ran farwol ym Mynwent Rhosmaen, Llandilo. Gyfaill annwyl! pwy feddyliai Am weld hyn erioed? Pwy freuddwydiai am dy golli'n Bump ar hugain oed? Pan y rhoddaist i mi'r ffarwel, Gydia'th wenau* I-IGN, Nid oedd honno'i fod yn ffarwel Ola 'r ddaear hon. Buost di tu draw i'r moroedd, Ar hyd meysydd braw; Gwaed cyfeillion yn aberoedd Welaist ar bob Haw. Oeraidd gri cenhadon angeu Dorrodid ar dy glyw; Ond o'r drin a'i ddychryruadau Daethost adre'n fyw. Cefaist ddod yn ol i Gyrnru- Dy hen famwlad gu; Cefaist siglo Haw, a gwenu Ar anwyliaid lu. Cefaist groeso ardal gyfan Yma ar dy hynt, A difyrrwch wrth ymddiddan Am y dyddiau gynt. Mae un annwyl ;i ti'n huno Draw mewn estron wlad; Bedd y milwr gafodd yno— Cwympodd yn y gad. Cefaist di ddod yma i Gymru Cyn rhoi'r olaf lam; Cefaist Ie ym medd y teulu Gyda'th annwyl fam. Ffarwel mwy, fy nghyfaill, ffarwel— Gorffwys yn dy fedd; Mwyach ni all berw rhyfel Dorri ar dy hedd. Gyda'r hen eymdogion tawel, Cwsg. 0 cwsg ymlaen, Hyd nes deffry lief yr angel Fynwent fach Rhosmaen. DAVID MAINWARING. Caledfryn, Penygroes.
ATGOFION AM FY MHRIOD.
ATGOFION AM FY MHRIOD. Fy mhriod, fy mhriod, pa le'r ydwyt heddyw ? Ychydig yn ol roet gyda myfi; 'Rwy'n methu dy weled, Irwyt wedi fy ngadael, Mae r amser yn myned; ond cofiaf dydi. Cychwynaf i'r maes, 'rwy'n methu dy ganfod, Dychwelaf i'r ty, 'rwy'n methu dy gwrdd; Gofynnaf yn bruddaidd, Pa le y mae Marged?" Daw'r ateb gan dd'wedyd, Mae wedi mynd ffwrdd." Wrth fyned o gwmpas a chofio'r ymn ddiddan Fu rhyngom pan oeddem yn rhodio ynghyd, Dychmygaf yr awrhon fy mod yn dy glywed Y n siamd fel oeddet cyn gadael y byd. Siomedig wyf heddyw, briwiedig yw'm teimlad, Fy meddwl sydd Iwfr, a'm calon yn ddwy; Nid siarad wyt heddyw, ond gwyddost trwy brofiad, Er dyfned yr afon, 'rwyt wedi mynd trwy. Atgofiaf dy wenau a'th eiriau serchog- lawn, Rwy'n gweld dy weithredoedd, canfyddaf dy ôl; Nis gallaf, er popeth, ond wylo mewn galar, Am nad oes un gobaith it' mwy ddod yn ol. Ond Ha fy anwylyd, cyn hir byddaf finnau Tan ddwylo oer angau yn barod i'r bedd; Cydorrfwys ger Siloh a wnawn hyd y boreu, Cydgodwn i fyny, cydganwn mewn hedd. Ll JOHN F. JAMES. wyncelyn, Llandilo.. JAMES.
Advertising
Yon Can Rely Olmca' arke'' B'' "'o S afe and Su re Remedy, In either Sez. for all Acquired or Constitutional Discharges from Urinary Organs. Gravel, Pains in the Back end kindred complaints. Over 50 Years' Success. Of ft?ftr?'C aUChemists. 4/6 perbox, or ?J I. OL 1. 1? C 0 sent direct, post free. for Sixty Penny Stamps by the V) M Dfllo Proprietors — The Li.co)nB41 P?lls and Midland Counties Drug Co.. Ltd.. Lincola. (Fret from Mercury*
Advertising
MATRIMONY! Wanted by a young man of good position and character a SITUATION AS SON-IN-LAW. THE YOUNG LADY will be expected to select the Furniture from the same Firm from whom the young man's parents obtained their excellent goods many years ago. BEVAN & Co., Limited, Wales' Largest Furnishers. FURNITUREV., IMMENSE SELECTION! EVERYTHING FOR FURNISHING! LOWEST POSSIBLE PRICES! FREE DELIVERY! 280, Oxford Street, & The Arcade, Swansea. Cwmbach Buildings, Llanelly; Cardiff, Newport, &o.
Forthcoming Events.!
Forthcoming Events. [All forthcoming events which are adver- tised in the Chronicle, or for which printing it done at, our works in Quay Street, Amman- ford, will be included in the following list.] Mar. I.-Y.M.C.A. Institute, Ammanford: Grand Welsh Fair in aid of Welsh Flag Day Fund. Mar. 3.-Bethlehem, Porthyrhyd: Lecture by Rev. Taliesin Williams. Mar. I.-Bryn Seion, Glanamman: Mawrygir clodydd Dewi Sant. Mar. 8.-Palace Theatre, Ammanford: Annual Concert of the Ammanford Ladies' Choir. Mar. 8.-Carmel, Gwaun-cae-gurwen: Grand Organ Recital. Mar. 10.—Cwmamman Recreation Ground: Mystic Football Match. Mar. I O.-Cwml lyn fell: Graad Charity Foot- bail Match. Mar. IO.-Bryn Seion, Glanamman: Grand Chair Eisteddfod. Mar. 11 & 12.-Gwynfryn Chapel, Amman- ford: Half-yearly Preaching Services. Mar. 14.-Public Hall, Gwaun-cae-gurwen: Grand Benefit Concert. Mar. -17.-Council School, Cwmgwili: Lec- ture by Rev. D. J. Lewis, B.A., Tumble. Mar. 17.-Caersalem, Drefach: Grand Com- petitive Meeting. Mar. 21.-Public Hall, Gwaun-cae-gurwen: Performance of the Welsh drama, "Cyfoeth ynte Cymeriad," by the Bryn Seion Dramatc Society, Glanamman. Mar. 24.-Parish Hall, Gorslas: Grand Eis- teddfod. Mar. 22 & 25.-St. Margaret's Church, Cwmllynfell: Grand Organ Recitals. Mar. 31.-Bethesda, Tycroes: Lecture by the Rev. J. Griffiths, B.A., B.D., Amman- ford. Mar. 31.-Bethania, Glanamman: Grand Eisteddfod. Mar. 31.-Public Hall, Tumble: Grand Competitive Concert.