Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

THE OMNIBUS. I

Outlines of Local Government

Successful Carnival at Cross…

[No title]

AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.

[No title]

[No title]

Rhys J. Huws.

Llongyfarch y Parch. Ffinant…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llongyfarch y Parch. Ffinant Morgan, B.A., B.D. Nos Saboth diweddaf, Tachwedd 24, ar ol y gwasanaeth arferol, cynhaliwyd cyfarfod yn y Tabemacl, Glanaman, i longyfarch gweinidog yr eglwys ar ei waith yn graddio gydag anrhydedd. Daeth tvrfa Iuosog ynghyd. Llywyddwvd yn y cyfarfod gan Mr. John Williams, Llwynyrhaf, un o flaenoriaid hynaf yr eglwys. Siaradwyd yn bwrpasol iawn gan y personau canlynol:- MIl. John Thomas, Thomas Thomas, Arthur Williams, Benjamin Morgan, John Parry, Moses Williams, ac R. Roberts. Yr oedd yn bresennol hefyd y Parchn. J. Thomas, Bethesda, a J. Oliver Bethania. Siaradwyd yn ddeheuig ac yn gymeradwyol gan y gweinidogion hyn. Cawsont y fraint o weled y traethawd (thesis) cyn iddo gael ei gyflwyno i'r awdurdodau; a buont yn help mawr i galonogi Mr. Morgan i fyned rhagddo gyda 'i gwrs addysgol. Ar ran yr eglwys, cyflwynodd y llywydd wallet yn cynnwys nifer o Treasury notes. Wrth dderbyn y thodd, diolchodd Mr. Morgan yn gyimes i't eglwys ac i'r sawl fu yn trafferthu ynglyn a'r anrheg. Fel arfer, fu y beirdd yn brysur iawn yn y cyfarfod hwn:— I'r B.D. boed hedd Y Ffinant holf hyd fedd Danwenau Duw; I Ei Iwydd a fo o hyd Yn fwy tra yn y byd, Nes mynd i arall fyd I'r Nef i fyw. A. BRITTEN. Gorslas Vicarage. Gwr ffel, byr ei gorffolacth-yw Ffinant, A ffynnon gwybodaeth; Yn y prawf, profi wnaeth Yn gampwr ysgoloriaeth. I Enaint ei anian newydd—o'i enau Disgynna'n buraidd beunydd; Lleuferydd yw yn llaw ffydd, A Gair Ion yn arweinydd. Gelli. M. WILLIAMS. O'th efrydu dyfal, dyfal, Daeth y lhvyddiant mawr i'th ran Yfed o ffynhonnau addysg Darddant is y bryniau ban. Deall deddfau dwfn athroniaeth, Gweid y cysylltiadau cain, Na wyr dynion yn gyffredin Fwy am danynt nag wyr brain. Gyda chaib dy feddylgarwch Cloddiaist i'r cynseiliau pell; Gwelaist egwyddorion disglair Gobaith adgyfodiad gwell. :il  et b yn i a d Da a drwg-eu cyferbyniad Welaist ti'n odidog faes, Lle y rhodia cewrl' r oesoedd Yn eu gwisgoedd gwynion llaes. I Liawn a manwl yw y traethawd Blethaist yn odidog we; Efelychaist y prif-copyn Weithia gylch fel modrwy'r ne'. Synnu agorai'r Sais ei lygaid 0 weld un o Gymru fach Yn agoryd ei feddyliau Gydag iaith mor Seisnig iach. Pa sawl llyfr a ddarllenaist? Pa saw l awr o fyfyr dwys I Dreuliaist gyda chorff blinedig Megis ych dynn galed gwys? Darfu hynny, mae y goron Bellach yn addurno'th ben; Gwisga hi, ac eraill ati, Blwyddi maith yng Ngwalia Wen. Diwylliedig ddysg i'r pulpud Rhoddwyd iti yn ystôr; Nerth it' eto i gyhoeddi Cynnwys yr Anfeidrol for. Mewn gwybodaeth, gras a chariad, Doed i'th ddilyn feibion lu, Gyda merched gadwcnt fyny Barch a bri hen Walia gu. (Parch.) J. OLIVER. Gyda'i amryw ragorolion Dringodd binacl ysgolion Trysor y lie yw y gwr lion, Aï ddawn yn wledd i ddynion. J. PARRY. Bydd yn bleser gan Mr. Morgan ddangos y diploma, sel y llywodraeth, y cwestiynnau, adroddiad o'r arholiad, &c., i'w gyfeillion.

BARDDONIAETH. - - - - I

DYDD Y WERIN. I

CAPEL HENDRE.I

"-!I I CAERBRVN... ,

GLANAMAN.

GARNANT.

CAERAU, TRA PP.

Ammanford Police Court.