Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

L THE OMNIBUS. ?i mE omus.…

Mrs. Lloyd George at Ammanford.

Mr. Towyn Jones at the Ivorites'…

AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.

I CYFRINACH Y CLOMEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I CYFRINACH Y CLOMEN. I At Olygydd Cronicl Dyffryn Aman. I Annwyl Syr,—Synfyfyrio'r oeddwn wrthyf fy hunan, a thra' n y cyflwi hanner-cwsg hwnnw, tybiais i mi weled colomen wen yn chwarae o gwmpas fy nghoryn, fel pe bai ganddi frys-neges i' w chyflwyno. A minnau' n gweled ei llygaid yn chwareus, a'i hagwedd yn osgeiddig ddifalais, mentrais ddweyd, ond 'r 1 ?il r f u, Traetha! A yn dyner rhag ei tharfu, T raetha!" A thraethodd: Pa beth yw'r cynnwrf sy'n y Cwm? Swn curo dxwm Etholiad, A holl dafodau llyfn y llu Yn dyrnu uwch pob dirnad, Ac opiniynau miloedd myrdd Yn ymladd dros eu mam-wlad. Mae holl fagnelau Iwrop fawr Yn awr yn dechreu oeri, I Fe ddarfu rhoch y storom hyll A'r dryll sy wedi tewi; Ond yn Rhydaman loywlan, iach Mae r pistols bach yn poethi. Mae ammunition dump Ty Gwyn Yn llawn o filwyr dewrion. Ar ol j'r Caisar lyfu'r llwch, A chilio o' r peryglon, Wei, dyna fo !-a.eth Pacifist Yn Beliffist yn union. A dyfo'n gloi a wywa'n gloi Medd hen ddihareb gwta, A chyflym dwf cydwybod f-esh A wywa'R rhwydd i wala. Mewn nos y bu, a darfu hon Fel hen gicaion Jona. Mae Doctor Williams ar y maes (Pob gras fo i'r Doctor hylon) 'R wy' n ofni' n aiwr fod swmp o ddwr Yn ei wleidyddol foddion. Rhaid cael stwff cry' i'n clwyfau ni, Sef eli'r Co-olition. Fe ddaeth pregethwr yn ei dro I spowto ar y llwyfan,— Pregethu'r gwr o Burry Port A'i stwffio i Sant Stephan, Ac annog glowyr call y fro I welthid'yn ei wlnllan. Ddydd Sadwrn, erys, medd efe, Mewn study dros ei Geidwad,— Pum dydd i chwyddo rhif y poll, Un dydd i'r Dwyfol olehiad. Beth am y Sul? O! dip go wan A gadd ei druan ddafad. Mae'r gwr o Gricieth ger y Hi Yn gwaeddi am gefnogaeth. Ein Towyn bach sydd eto' n bur I arwr Buddugoliaeth. Lloyd George a fyddo tra fo byw Yn Lyw yr Ymerodraeth. Ymladdodd dros yr hen a'r llwm A fu dan drwm wasgfeuon. I leddfu't groes ar ddiwedd oes Efe a roes y Pension: A nertha'r gwan o hyd, wrth gwrs, 0 bwrs y cyfoethogion. Fe fynnodd Education Act,- Mae hyn yn fact ddi-wrthdro— Hwylusodd ffordd y werin, do, Hyd risiau Dysg i ddringo. Am wneuthur hyn, mae Ramsey Mac Ac Asquith am ei gicio. I ferched Prydain rhoddodd fot, Gwnewch note o' i lan gymwynas: Efe ostyngodd bris y dorth, Bu'n borth rhag du alanas, A rhoes wyth awr ïr Railwaymen, Efe fo'n Brif y deyrnas. 'Roedd. awydd swyddi ar y quacks (Cyn concro y Germaniaid). Rhowch ini Lecsiwn," meddent hwy, Rhowch brawf ar farn y deiliaid." Fe ddaeth y Lecsiwn, pwy a wad? Ond 'nawr cyfarthant tros y wlad, Etholiad diangenrhaid." Gymry rhanbarth "T owyn," sefwch fel y dur, Unwch yn fyddin tros y Gwir. Tarian i'r Gyd-blaid a fo'ch pleidlais chwi, Rhag gwenwynig saethau'r Bol-shef-i. Towyn! Towyn!! yn y teg a'r gwlaw, Garia luman Rhyddid yn ei law. Towyn Towyn gana gyda' r cor— Heddwch a chyfiawnder ar dir a mor." A dinannodd y glomen mor ddistaw a di- rodres ag y daeth, ac nis gwelwyd 'mwy gan AB YR HEN ALCANWR. I

DYLEDSWYDD CYMRU TUAG AT MR.…

YR WYTHNOS WEDDI. I

CARMEL A'R CYL6H. I

CAN ETHOLIADOL MR. TOWYN JONES.

DEIGRYN COFFA

Y DDI-OFID.

LLANDEBIE.